Unwaith y daw yn amlwg eich bod am wahanu oddi wrth eich partner, mae camau pwysig y dylech eu cymryd i ddiogelu eich sefyllfa ariannol. Os nad ydych wedi priodi neu nad ydych mewn partneriaeth sifil, ac mae eich gwahaniad yn un chwerw, efallai bydd rhaid i chi weithredu ar unwaith. Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wneud.
Diogelu’r hawliau i’ch cartref os ydych yn berchen arno
Bydd eich hawliau i’r eiddo rydych yn byw ynddo yn dibynnu ar:
- pwy sydd berchen ar yr eiddo
- a ydych wedi bod yn cyfrannu tuag y morgais neu gostau eraill, ac
- a ydych wedi llunio cytundeb y byddai gennych hawl i gael rhan o’r eiddo.
Os yw’r eiddo yn eich enwau chi’ch dau, dylech wirio statws y berchnogaeth.
Os yw’r eiddo yn eich enw chi’ch dau fel ‘tenantiaid ar y cyd’ (neu fel ‘joint owners with a survivorship destination’ yn yr Alban) efallai y bydd angen i chi newid y math o berchnogaeth.
Mae hyn fel na fydd eich cyn-bartner yn etifeddu eich cyfran yn awtomatig (ac i'r gwrthwyneb) pe byddech farw
Darganfyddwch fwy am y gwahanol fathau o berchentyaeth yn ein canllaw Diogelu eich hawliau ar berchen cartref yn ystod ysgariad neu ddiddymiad
Darganfyddwch fwy am gysylltu â chyfreithiwr yn ein canllaw Eich dewisiadau o ran cyngor cyfreithiol neu ariannol wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw
Os oes angen arnoch siarad â chyfreithiwr ond na allwch ei fforddio gwelwch ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Cysylltu â’ch darparwr morgais
Mae’n bwysig siarad â’r benthyciwr os yw’r morgais yn eich enw chi’ch dau neu os yw yn eich enw chi yn unig a'ch bod yn meddwl y gallech ei chael yn anodd cwrdd â'r ad-daliadau.
Esboniwch yr hyn sydd wedi digwydd a thrafodwch sut y byddwch yn rheoli’r ad-daliadau morgais.
Os oes gennych forgais ar y cyd, rydych chi’ch dau yn gyfrifol yn gyfartal am y benthyciad cyfan.
Os na fyddwch yn cadw at ad-dalu’ch morgais, gallai amharu ar eich statws credyd, a allai ei gwneud yn anos i fenthyg yn y dyfodol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Diogelu eich hawliau ar berchen cartref yn ystod ysgariad neu ddiddymiad
Cysylltu â’ch landlord os ydych yn rhentu
Os yw eich enw chi’ch dau ar y cytundeb tenantiaeth, efallai y byddwch chi neu’ch partner yn gallu trefnu i barhau â’r denantiaeth dan un enw yn unig.
Os mai dim ond enw un ohonoch sydd ar y cytundeb, bydd eich hawliau i wneud hyn yn dibynnu ar y math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhentu: diogelu eich hawliau i’ch cartref wrth wahanu os oeddech chi’n cyd-fyw
Cysylltu â’ch banc, darparwyr cerdyn credyd a benthyciadau
Os oes gennych gyfrifon neu fenthyciadau ar y cyd â’ch cyn-bartner, cysylltwch â’ch banc neu ddarparwr benthyciadau i egluro’r sefyllfa.
Mae hyn yn neilltuol o bwysig os yw’ch gwahaniad yn un chwerw.
Gydag unrhyw fenthyciad neu orddrafft ar y cyd, rydych chi’ch dau yn gyfrifol am y ddyled gyfan.
Gofynnwch i’ch banc newid y modd y sefydlwyd unrhyw gyfrif ar y cyd er mwyn sicrhau y bydd yn ofynnol i chi’ch dau gytuno cyn medru tynnu arian allan ohono, neu ei rewi.
Byddwch ymwybodol, os byddwch yn rhewi’r cyfrif bydd angen eich cytundeb chi’ch dau cyn medru ei ‘ddadrewi’.
Gall hyn fod yn broblem os nad yw’ch cyn-bartner yn fodlon cydweithredu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi terfyn ar unrhyw daliadau cyflog sy’n mynd i’ch cyfrif ar y cyd os ydych yn pryderu na fydd eich cyn-bartner yn cytuno i chi dynnu’r arian hwnnw allan.