Os na allwch fforddio'r ffioedd sy'n gysylltiedig ag ysgaru neu wahanu o’ch partner, efallai y gallwch gael help i dalu am rai neu'r cyfan o'r costau.
A ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol?
Cymorth cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr
Yng Nghymru a Lloegr, nid yw cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer costau cyfreithiol ysgariad neu ddiddymiad - oni bai ei fod yn cynnwys cam-drin domestig (gan gynnwys cam-drin ariannol), cipio plant, neu os ydych mewn perygl o fod yn ddigartref.
Gwiriwch beth sy'n cyfrif fel camdriniaeth, y dystiolaeth y byddwch ei angen a sut i wneud cais am gymorth cyfreithiol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys i gael help â'r costau cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'ch ysgariad, efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu - gwelwch ein hadran isod ar Gymorth cyfreithiol i gyfryngu
Cymorth cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon
Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae dau fath o gymorth cyfreithiol ar gael mewn achosion ysgariad:
- Cyngor a chymorth - help â chostau cyngor cyfreithiol gan gyfreithiwr, gan gynnwys cwblhau gwaith papur cyfreithiol.
- Cymorth cyfreithiol sifil - os ydych yn mynd i'r llys, help â chostau defnyddio cyfreithiwr i baratoi achos a siarad ar eich rhan yn y llys.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gwneud cais am gyngor a chymorth yn gyntaf, wedi ei ddilyn gan gymorth cyfreithiol sifil os oes angen.
Fel arfer bydd angen i chi ddangos na allwch fforddio talu'ch costau cyfreithiol eich hun.
Yn yr Alban
I weld a allech gael cymorth cyfreithiol, defnyddiwch amcangyfrifwr ar-lein cyngor a chymorth Scottish Legal Aid Board neu amcangyfrifwr cymorth cyfreithiol sifil
Darganfyddwch sut i wneud cais am gymorth cyfreithiol yn mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Yng Ngogledd Iwerddon
Bydd eich cyfreithiwr yn rhoi gwybod i chi a ydych yn debygol o fod yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol, ac yn gwneud cais ar eich rhan.
Darganfyddwch gyfreithiwr ar wefan Law Society of Northern Ireland
Cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu
Gall cyfryngwr eich helpu chi a'ch cyn-bartner i ddod i'ch cytundeb eich hun ynghylch plant a materion ariannol. Mae fel arfer yn gyflymach ac yn rhatach na gofyn i lys benderfynu ar eich rhan.
Cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu yng Nghymru a Lloegr
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu os ydych ar incwm isel neu ddim yn gweithio.
Gall cymorth cyfreithiol dalu cost:
- y cyfarfod rhagarweiniol i ddarganfod a yw cyfryngu yn mynd i fod yn iawn i chi
- sesiynau pellach nes i chi ddod i gytundeb
- y ddogfen yn cofnodi popeth rydych wedi cytuno arno
- cost gofyn i gyfreithiwr droi’r ddogfen yn gytundeb sy’n gyfreithiol rhwymol.
Bydd hefyd yn talu cost y cyfarfod rhagarweiniol a'r sesiwn gyntaf i'ch cyn-bartner, hyd yn oed os nad ydynt yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol yn eu rhinwedd eu hunain.
Bydd y cyfryngwr yn gwneud cais am gymorth cyfreithiol ar eich rhan. Os ydych yn gymwys, bydd y llywodraeth yn eu talu hwy yn uniongyrchol.
Darganfyddwch gyfryngwr sy'n lleol i chi ar wefan y Cyngor Cyfryngu Teulu
Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu yn yr Alban
A ydych eisoes yn derbyn cymorth cyfreithiol ar gyfer eich ysgariad a hoffech ddefnyddio cyfryngwr? Yna bydd angen i'ch cyfreithiwr ofyn am ganiatâd Scottish Legal Aid Board i dalu'ch cyfran o gostau cyfryngu.
Fodd bynnag, os ydych wedi'ch cyfeirio at gyfryngu teulu gan y llys, bydd eich cyfran o'r costau cyfryngu yn cael ei thalu'n awtomatig gan gymorth cyfreithiol.
Darganfyddwch gyfryngwr achrededig ar wefan Relationships Scotland neu wefan CALM Scotland (Opens in a new window)
Cymorth cyfreithiol ar gyfer cyfryngu yng Ngogledd Iwerddon
Yng Ngogledd Iwerddon, mae gwasanaeth cyfryngu teulu cyn-llys am ddim i rieni sy'n gwahanu.
Darganfyddwch fwy am wasanaethau cyfryngu cyn-llys am ddim ar wefan Family Mediation Northern Ireland
Os ydych eisoes yn derbyn cymorth cyfreithiol ar gyfer eich ysgariad, dylai hyn hefyd dalu costau cyfryngu. Bydd angen i'ch cyfreithiwr ofyn caniatâd y Legal Services Agency i'r costau gael eu talu. Os ydych wedi cael eich cyfeirio at gyfryngu gan y llys, nid oes angen i chi ofyn am ganiatâd.
Ble i gael cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim neu gost isel
Os nad ydych yn gymwys i gael cymorth cyfreithiol ond na allwch fforddio talu ffioedd cyfreithiol, mae llefydd y gallwch fynd am gyngor rhad neu am ddim.
Cael help gan eich Canolfan Gyfraith leol
Mae Canolfannau'r Gyfraith yn cynnig cyngor cyfreithiol i bobl sy'n byw yn lleol iddynt ac mae rhai hefyd yn rhedeg llinellau cyngor ffôn. Gall rhai, ond nid pob un, gynghori ar gyfraith teulu.
Darganfyddwch eich Canolfan Gyfraith leol yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon ar wefan Rhwydwaith Canolfannau'r Gyfraith
Ceir manylion y chwe Chanolfan Gyfraith yn yr Alban a ffynonellau cymorth eraill yn mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Cysylltu â LawWorks
Mae LawWorks yn cynnig clinigau cyngor cyfreithiol am ddim ledled y wlad, ac mae rhai yn ymwneud ag ysgariad a chyfraith teulu.
Cymorth gan eich undeb llafur
Mae rhai undebau llafur yn cynnig gwasanaethau cyfreithiol ar gyfer materion nad ydynt yn ymwneud â gwaith. Mae hyn yn amrywio o undeb i undeb, ond gallai gwmpasu ymgynghoriad am ddim â chyfreithiwr teulu neu fynediad at linell gymorth gyfreithiol am ddim.
Gofynnwch i'ch undeb weld pa help y gallant ei gynnig.
Cymorth gan y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol
Mae Cyngor RCJ (rhan o'r Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol) yn cynnig cyngor cyfreithiol am ddim os na allwch fforddio cyfreithiwr ac rydych angen help ag achos llys yng Nghymru neu Loegr.
Darganfyddwch os gall RCJ Advice eich helpuYn agor mewn ffenestr newydd ar Cyngor ar Bopeth
Cael ymgynghoriad hanner awr am ddim gan gyfreithiwr
Mae llawer o gyfreithwyr yn cynnig ymgynghoriad cychwynnol 30 munud am ddim. Gall hyn eich helpu i ddarganfod eich hawliau, eich opsiynau a'r camau nesaf a argymhellir.
I gael y gorau o'ch apwyntiad, dylech ystyried beth rydych yn mynd i'w ofyn ymlaen llaw.
Os nad ydych yn siŵr, siaradwch â chynghorydd yn eich Cyngor ar Bopeth agosaf i'ch helpu i benderfynu pa gwestiynau i'w gofyn i'r cyfreithiwr. Darganfyddwch eich cangen agosaf:
- yng Nghymru a Lloegr ar wefan Cyngor Ar Bopeth
- yng Ngogledd Iwerddon ar wefan Advice NI
- yn yr Alban ar wefan Cyngor Ar Bopeth yr Alban
Chwiliwch am gyfreithiwr:
- yng Nghymru neu Loegr, ar wefan Resolution. Mae cyfreithwyr sy'n aelodau o Resolution wedi ymrwymo i leihau gwrthdaro yn ystod ysgariad neu ddiddymiad. Os yw'n well gennych gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Gyfraith.
- yn yr Alban, ar wefan Family Law Association (FLA) Mae aelodau FLA wedi ymrwymo i leihau gwrthdaro yn ystod ysgariad neu ddiddymiad. Os yw'n well gennych, gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr teulu ar wefan Law Society of Scotland
- yng Ngogledd Iwerddon, ar wefan Law Society of Northern Ireland
Yna gofynnwch iddynt a ydynt yn cynnig ymgynghoriad am ddim.
Neu, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth i ofyn a allant argymell cyfreithiwr lleol sy'n cynnig ymgynghoriad am ddim.
Cyngor cyfreithiol am ddim gan ysgolion y gyfraith prifysgolion
Efallai y gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr neu fargyfreithiwr sy'n barod i dderbyn eich achos fel rhan o'u gwaith pro bono. Mae gwaith pro bono yn gymorth cyfreithiol am ddim a gynigir gan rai cyfreithwyr yn wirfoddol.
Yng Nghymru a Lloegr
Darganfyddwch fwy am gyfreithwyr pro bono a ffynonellau eraill o gyngor cyfreithiol am ddim yn Cymdeithas y GyfraithYn agor mewn ffenestr newydd
Yn yr Alban
Chwiliwch am gyfreithiwr ar wefan Family Law Association neu wefan Law Society in Scotland
Yna edrychwch ar eu gwefan neu gofynnwch iddynt a ydynt yn gwneud gwaith pro bono.
Yng Ngogledd Iwerddon
Chwiliwch am gyfreithiwr ar wefan Law Society of Northern Ireland
Yna edrychwch ar eu gwefan neu gofynnwch iddynt a ydynt yn gwneud gwaith pro bono.
Opsiynau eraill pan na allwch fforddio costau cyfreithiol
Ysgariad DIY
Mae'n bosibl mynd trwy'r broses ysgaru neu ddiddymu heb fawr o help gan gyfreithiwr, os o gwbl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ysgariad neu ddiddymiad DIY (gwnewch-eich-hun)
Cynrychioli eich hun yn y llys
Gallwch ddewis cynrychioli eich hun yn y llys. Cyn i chi fynd ar hyd y llwybr hwn, cysylltwch â Chyngor ar Bopeth a fydd yn eich helpu i bwyso a mesur eich holl opsiynau.
Yng Nghymru a Lloegr
Os penderfynwch fynd ymlaen, dylech gael cyngor ar gynrychioli eich hun yn y llys o yn AdvicenowYn agor mewn ffenestr newydd
Yn yr Alban
Yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych yn bwriadu cynrychioli'ch hun, gallwch gael help ar wefan Advice NI neu Matrimonial Office of the Courts and Tribunals Service
Help â ffioedd llys
Efallai y gallwch gael help i dalu ffioedd llys os ydych ar rai budd-daliadau, neu os oes gennych gynilion ac incwm islaw swm penodol.