Mae cerdyn credyd yn ffordd ddiogel, hyblyg o dalu. Hefyd nid oes unrhyw gost os byddwch yn ad-dalu popeth rydych wedi'i wario bob mis. Ond gall fod yn ddrud ac arwain at ddyled os na allwch wneud hynny. Dyma'r cyfan sydd angen i chi ei wybod.
Sut mae cerdyn credyd yn gweithio
Mae cerdyn credyd yn gadael i chi wario hyd at swm y cytunwyd arno, sef eich terfyn credyd. Bydd yr union swm yn dibynnu ar bethau fel eich hanes credyd a'ch incwm.
Bob mis byddwch yn cael datganiad gyda’r:
- cyfanswm sy'n ddyledus gennych, a elwir yn falans
- isafswm y mae'n rhaid i chi ei dalu, a
- dyddiad y mae angen i chi ei dalu erbyn.
Sut mae llog cerdyn credyd yn gweithio (a sut i'w osgoi)
Os byddwch yn dewis ad-dalu’r swm llawn, ni fyddwch yn talu llog ar unrhyw beth rydych wedi’i wario. Ond byddwch yn dal i dalu llog ar godi arian parod.
Os byddwch yn talu llai na’r swm llawn, byddwch yn talu llog ar bopeth sy’n ddyledus gennych. Bydd hwn yn cael ei ychwanegu at eich datganiad nesaf. Mae cyfraddau llog fel arfer rhwng 25% a 60%, felly gall hyn fod yn ddrud.
Mae taliadau hwyr yn niweidio eich statws credyd
Os ydych chi'n talu'n hwyr neu lai na'r isafswm, caiff marc negyddol ei ychwanegu at eich ffeil credyd.
Gall hyn olygu eich bod yn llai tebygol o gael eich derbyn os byddwch yn gwneud cais am gynhyrchion eraill, oherwydd gall cwmnïau eraill weld eich bod wedi methu taliad. Neu efallai na fyddwch yn gymwys ar gyfer y bargeinion rhataf.
Fel arfer bydd angen i chi hefyd dalu ffi hwyr a gallech golli unrhyw fargeinion arbennig, fel cyfradd llog isel.
Er mwyn osgoi hyn, gallwch ofyn i ddarparwr eich cerdyn credyd sefydlu Debyd Uniongyrchol. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd y taliad o'ch cyfrif banc yn awtomatig ar ddyddiad y cytunwyd arno bob mis. Fel arfer gall hyn fod am yr isafswm, y swm llawn neu swm o'ch dewis.
Manteision ac anfanteision cerdyn credyd
Manteision
-
Dim cost os na fyddwch yn codi arian parod ac yn ad-dalu'n llawn bob mis.
-
Yn gallu ad-dalu'n gynnar.
-
Fel arfer rydych yn cael amddiffyniad Adran 75 am ddim os yw rhywbeth yn costio rhwng £100 a £30,000. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ddarparwr eich cerdyn credyd helpu os oes problem gyda’ch pryniant.
-
- Gall helpu i wella eich statws credyd os na fyddwch byth yn gwario mwy na'ch terfyn credyd ac yn ad-dalu'n brydlon bob amser.
Anfanteision
-
Byddwch fel arfer yn talu llog drud ar bopeth os byddwch yn ad-dalu llai na'r swm llawn.
-
Mae codi arian yn gostus, fel arfer gyda llog drud a ffi bob tro.
-
Rhaid i chi dalu'r isafswm ad-daliad misol er mwyn osgoi ffioedd, cosbau a difrod i'ch statws credyd.
-
Gall talu'r lleiafswm yn unig olygu ei bod yn cymryd blynyddoedd i glirio'ch dyled.
-
Ni allwch wario mwy na'r terfyn credyd y cytunwyd arno
Os ydych yn cael trafferth rheoli eich arian neu'n meddwl y gallech orwario, ceisiwch osgoi cael cerdyn credyd. Gallai arwain yn gyflym at droell o gostau na ellir eu rheoli.
Gweler Rheoli credyd yn dda a Help os ydych yn cael trafferth gyda dyled am fwy o help.
Esbonio gwahanol fathau o gardiau credyd
Mae mathau arbennig o gardiau credyd y gallwch eu cael, pob un wedi'i gynllunio at wahanol ddibenion.
Dyma drosolwg syml.
Cardiau credyd ar gyfer benthyg hirdymor rhad
Er y gallwch osgoi'r rhan fwyaf o log drwy ad-dalu cerdyn credyd safonol yn llawn bob mis, mae cardiau arbennig nad ydynt yn codi llog am gyfnodau hirach.
Cerdyn credyd gwario 0% |
Dim llog ar bethau rydych yn eu prynu (nid codi arian parod), fel arfer am nifer penodol o fisoedd neu flynyddoedd. |
Yn gadael i chi drosglwyddo'r rhan fwyaf o'ch terfyn cerdyn credyd sydd ar gael i'ch cyfrif banc, fel y gallwch ei gyrchu fel arian parod. Ni fydd yn rhaid i chi dalu llog ar hyn am amser penodol, ond byddwch yn talu ffi trosglwyddo – yn aml hyd at 4% o’r swm rydych yn ei drosglwyddo. |
Cardiau credyd i wneud benthyca presennol yn rhatach
Fel arfer mae’n well osgoi cymryd benthyciadau newydd os ydych mewn dyled. Ond mae yna fathau o gardiau credyd a all helpu i leihau eich costau.
Os ydych chi’n cael trafferth ad-dalu’ch dyledion, siaradwch ag ymgynghorydd dyledion am ddim bob amser i ddysgu am eich holl opsiynau – efallai y bydd rhywbeth mwy addas na’r cardiau isod.
Yn gadael i chi symud dyled o gardiau siop neu gredyd presennol fel na fyddwch yn talu llog (neu’n talu llog isel) am rai misoedd. Byddwch fel arfer yn talu ffi trosglwyddo hyd at 4%, ond bydd eich ad-daliadau yn clirio’r balans yn hytrach na llog ychwanegol. |
|
Yn rhoi arian parod i mewn i'ch cyfrif banc y gellid ei ddefnyddio i ad-dalu gorddrafft drud neu ddyled arall. Fel arfer byddwch yn talu ffi trosglwyddo hyd at 4% ond dim llog am nifer o fisoedd. |
Bydd angen i chi ad-dalu’r isafswm ad-daliad misol o leiaf neu gallech golli’r fargen. Pan ddaw’r cyfnodau 0% ar y cardiau hyn i ben, byddwch yn talu llog drud ar unrhyw beth sy’n ddyledus gennych o hyd.
Gweler Help os ydych yn cael trafferth gyda dyled am ffyrdd eraill o fynd i’r afael â’ch dyledion, gan gynnwys cyngor ar ddyledion am ddim.
Cardiau credyd os oes gennych hanes credyd gwael (neu ddim hanes o gwbl).
Fel arfer mae angen i chi gael hanes credyd da i gael cerdyn credyd safonol. Ond mae yna gardiau arbennig sy'n aml yn eich derbyn os ydych chi'n newydd i gredyd neu os oedd gennych broblemau yn y gorffennol.
Cerdyn credyd adeiladwr credyd |
Mae cyfraddau llog fel arfer yn uwch na cherdyn credyd safonol hyd at 60%. Ond ni fyddwch yn talu hwn os byddwch yn ad-dalu’n llawn bob mis ac nad ydych yn codi arian parod. |
Cardiau credyd sy'n rhoi nwyddau am ddim, fel pwyntiau gwobrwyo ac arian yn ôl
Mae yna gardiau credyd arbennig sy'n rhoi nwyddau am ddim i chi i'w gwario arnynt. Ond fel arfer mae hyn ond yn werth chweil os byddwch chi bob amser yn ad-dalu popeth sy’n ddyledus gennych bob mis. Efallai y bydd yn rhaid i chi hefyd dalu ffi flynyddol i gadw'r cerdyn.
Cerdyn credyd arian yn ôl |
Yn rhoi cyfran yn ôl o bopeth rydych yn ei wario. Er enghraifft, 1%. |
Cerdyn credyd Gwobrwyo neu Awyren |
Yn gadael i chi ennill pwyntiau neu filltiroedd awyr, yn aml yn seiliedig ar faint rydych yn ei wario. Yna gallwch chi gyfnewid y rhain am rai gwobrau neu deithiau hedfan. |
Cardiau credyd gyda chyfraddau cyfnewid da i'w gwario dramor
Mae cardiau credyd safonol fel arfer yn ddrud i'w defnyddio dramor, gyda ffioedd a chyfraddau cyfnewid gwael. Ond mae yna gardiau sydd wedi'u cynllunio i'w defnyddio mewn arian cyfred gwahanol.
Cerdyn credyd teithio |
Fel arfer mae ganddo gyfraddau cyfnewid da a dim costau i'w gwario dramor neu mewn arian tramor. Ond efallai y bydd ffioedd o hyd i godi arian parod. |
Sut i wneud cais am gerdyn credyd
Dyma sut i gymharu a dod o hyd i gerdyn credyd, a'r ffordd orau o wneud cais.
1. Cymharwch eich holl opsiynau benthyg yn gyntaf
Dim ond un ffordd o fenthyg arian yw cerdyn credyd. Defnyddiwch ein teclyn Eich opsiynau ar gyfer benthyg arian i weld a allai math gwahanol o gredyd weddu i’ch anghenion yn well.
2. Gwiriwch fod eich adroddiadau credyd yn gyfredol a heb wallau
Pan fyddwch yn gwneud cais am gerdyn credyd, mae benthycwyr yn gwirio'ch hanes credyd. Er enghraifft, i weld pa mor dda yr ydych wedi talu unrhyw fenthyciadau eraill yn ôl.
Mae’r wybodaeth hon fel arfer yn cael ei defnyddio fel rhan o’r penderfyniad i’ch derbyn, felly mae’n bwysig ei bod yn gywir a heb teipos a chamgymeriadau.
Mae gennych dri adroddiad credyd i'w gwirio, un gyda phob un o'r tair asiantaeth gwirio credyd. Os oes unrhyw beth o'i le, rhowch wybod i'r asiantaeth gwirio credyd ar unwaith.
Asiantaeth gwirio credyd |
Sut i wirio eich adroddiad am ddim |
TransUnion |
Cofrestrwch am gyfrif MoneySavingExpert Credit ClubOpens in a new window |
Equifax |
Cofrestrwch am gyfrif ClearScoreOpens in a new window |
Experian |
Gwnewch gais am Adroddiad Credyd Statudol ExperianOpens in a new window |
Gweler Sut i wella eich sgôr credyd am fwy o wybodaeth.
3. Defnyddiwch gyfrifianellau cymhwysedd i ddod o hyd i gardiau credyd rydych yn gymwys amdanynt
Mae angen i chi fod o leiaf 18 oed i wneud cais am gerdyn credyd, ond bydd gan bob darparwr feini prawf eraill hefyd. Er enghraifft, ennill cyflog penodol a chael hanes credyd da.
I helpu, bydd cyfrifianellau cymhwysedd yn dangos i chi pa gardiau credyd rydych chi'n gymwys amdanynt. Byddwch hefyd yn gweld pa mor debygol ydych chi o gael eich derbyn ar gyfer pob un, heb farcio eich ffeil credyd.
Gallwch ddod o hyd i gyfrifianellau cymhwysedd ar wefannau llawer o fenthycwyr a gwefannau cymharu, megis:
- MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
- Credit KarmaYn agor mewn ffenestr newydd
- ClearScoreYn agor mewn ffenestr newydd
Nid oes unrhyw wefan yn sganio pob benthyciwr ac efallai y bydd gan rai bargeinion unigryw, felly mae'n well cyfuno rhai.
4. Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i gerdyn credyd, gwnewch gais
Os ydych wedi dod o hyd i gerdyn credyd yr hoffech wneud cais amdano, sicrhewch eich bod yn deall yr holl nodweddion. Os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i’r darparwr cyn gwneud cais.
Fel arfer gallwch wneud cais ar-lein, mewn cangen neu drwy'r post. Byddwch yn ofalus wrth lenwi eich manylion oherwydd gallai camgymeriadau olygu bydd eich cais yn cael ei wrthod.
Os cewch eich derbyn, dylech ddisgwyl derbyn y cerdyn ymhen tua wythnos.
5. Cyllidebwch i ad-dalu'r cerdyn bob mis
Cyn gwario ar y cerdyn, sicrhewch eich bod yn cynllunio sut y byddwch yn ei ad-dalu. Mae’n llawer rhatach os gallwch ad-dalu popeth bob mis.
Gall ein Cynlluniwr Cyllideb am ddim a hawdd ei ddefnyddio eich helpu i gofnodi eich holl wariant.
Fel arfer gallwch gadw cofnod ar falans eich cerdyn credyd gan ddefnyddio bancio ar-lein neu symudol. Gall hyn helpu i sicrhau nad ydych yn gwario mwy na’ch terfyn credyd.
Mae hefyd yn werth sefydlu Debyd Uniongyrchol fel na fyddwch yn methu taliad yn ddamweiniol. Gwnewch nodyn o ddyddiad eich cyfriflen a gwiriwch ddwywaith bod gennych ddigon o arian yn eich cyfrif banc.
Beth i'w wneud os gwrthodir eich cais am gerdyn credyd
Os caiff eich cais ei wrthod, peidiwch â rhuthro i wneud cais eto. Gall gwneud ormod o geisiadau mewn cyfnod byr niweidio eich sgôr credyd.
Yn lle, gofynnwch pam y cawsoch eich gwrthod. Efallai y byddwch yn gallu datrys y broblem neu apelio yn erbyn y penderfyniad.
I gael cynllun gweithredu gyda mwy o gamau y gallwch eu cymryd, defnyddiwch ein teclyn Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd. Mae'n cymryd dwy funud i'w gwblhau.
Teclynnau defnyddiol
With both cards, make sure you repay at least the monthly minimum repayment. If you don’t, you could damage your credit file and the 0% deal could end.
You’ll also pay expensive interest if you use them to take out cash or if you still owe anything when the 0% periods end.