Dylai rhannu buddsoddiadau a chynilion pan fyddwch yn gwahanu fod yn gymharol syml os nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Efallai y byddwch yn gallu hawlio eich cyfraniadau iddynt yn ôl. Efallai hefyd y bydd angen i chi eu brisio a thalu treth neu daliadau os byddwch yn eu gwerthu neu’n eu cyfnewid am arian.
Sut y delir â buddsoddiadau a chynilion
Yn gyffredinol, mae unrhyw fuddsoddiadau neu gynilion yn eich enw chi yn unig yn perthyn i chi yn unig. Ac mae unrhyw beth yn enw’ch cyn-bartner yn unig yn perthyn iddynt hwy yn unig.
Er enghraifft, os ydych wedi gwneud cyfraniad tuag at yr asedau sy’n perthyn iddyn nhw yn unig, efallai y gallech hawlio cyfran (a hwynt-hwy yn eich erbyn chi).
Os ydych am wneud hyn, mae rhaid i chi weithredu’n gyflym a chael cyngor proffesiynol gan gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn cyfraith deuluol.
Yng Nghymru a Loegr, byddai angen i chi ddangos bod gennych ‘ddiddordeb buddiannol’ ym muddsoddiadau neu gynilion eich cyn bartner.
Yn yr Alban, bydd angen i chi ddangos:
- eich bod wedi dioddef yr hyn a elwir yn ‘anfantais economaidd’ - eich bod yn waeth eich byd yn ariannol, neu
- bod eich cyn-bartner wedi profi ‘anfantais economaidd’ o ganlyniad i’r berthynas.
Byddai gennych un flwyddyn i wneud hawliad o ddyddiad eich gwahaniad.
Gallai hawlio fod yn ddrud, felly dylech gymryd cyngor cyfreithiol cyn i chi ddechrau gweithredu trwy’r llys.
Efallai y bydd hefyd angen i chi drefnu brisio unrhyw fuddsoddiadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw:
Rhentu: diogelu eich hawliau i'ch cartref wrth wahanu os oeddech yn cyd-fyw
Rhannu cyfrifon cynilion
Os ydych wedi cytuno ar sut fyddwch yn rhannu’r arian a gynilwyd yn eich enw eich hun neu yn eich enwau chi'ch dau, mae’n bwysig deall eich opsiynau i wneud hyn pan fyddwch yn gwahanu.
Gall y broses fod yn wahanol – yn ddibynnol ar y math o gyfrif sydd gennych ac yn enw pwy y mae.
Efallai fod gennych y canlynol:
ISAs Arian Parod neu ISAs Gydol Oes
Dim ond yn enw un person y gellir cadw’r rhain - ac nid ar y cyd.
Os ydych eisiau rhoi arian i’ch partner o’ch ISA Arian Parod, byddai rhaid i chi dynnu’r arian allan o’r ISA. Ni fyddech yn gallu ei drosglwyddo o’ch cyfrif chi i gyfrif eich partner.
Gydag ISA Gydol Oes (LISA), gallech dynnu allan yr arian rydych ei angen ond bydd yn rhaid i chi dalu tâl ymadael. Fel gydag ISA Arian, ni allech drosglwyddo arian yn eich LISA i rywun arall.
Cyfrifon cynilo a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
Mae cyfrifon cynilo yn syml oherwydd gallwch drosglwyddo rhywfaint o arian o’ch cyfrif i gyfrif eich cyn bartner yn ddidrafferth.
Yr unig anhawster posibl fyddai pe byddai’r arian mewn cyfrif lle mae'n rhaid rhoi rhybudd. Os felly, siaradwch â’ch banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn deall eich opsiynau i dynnu’ch arian allan. Os na fyddwch, gallech golli rhywfaint o’r llog.
Os yw’r arian mewn cyfrif cynilo cyfradd sefydlog, efallai na fyddwch yn gallu codi’r arian nes bydd y tymor wedi dod i ben. Hyd yn oed os ydych, gallech golli swm sylweddol o log.
Mae rhai Cyfrifon cynilo a Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)Yn agor mewn ffenestr newydd yn caniatáu mynediad i'ch arian parod yn syth, er gallai fod tâl os oeddech chi eisiau codi bond tymor penodol yn gynnar.
ISA Iau
Os ydych wedi agor cyfrif ISA Iau i’ch plentyn, bydd yr arian hwn yn enw’ch plentyn, ac yn perthyn i’ch plentyn.
Ond, efallai gall y cynilion sydd yn enw’ch plentyn gael eu cynnwys yn eich asedau ariannol ar y cyd. Er enghraifft, os yw un rhiant yn symud arian o gyfrif eu hun i gyfrif eich plentyn er mwyn ceisio eithrio’r arian o unrhyw setliad ariannol.
Sut i rannu eiddo buddsoddi
Mae eiddo buddsoddi – megis eiddo prynu i’w osod neu gartref gwyliau – sydd yn eich enw chi neu enw’ch partner yn unig yn eiddo i’r unigolyn hwnnw. Oni bai y gall y llall ddangos y gwnaeth gyfraniad tuag ato.
Ceisiwch drafod rhyngoch – o bosibl trwy gyfryngu – sut i ad-dalu’r cyfraniadau hyn. Fel arall, dylech sicrhau cyngor cyfreithiol er mwyn asesu eich hawliad.
Os ydych chi neu’ch cyn-bartner yn berchen ar eiddo buddsoddi ar y cyd, bydd rhaid i chi ei brisio. Bydd hyn yn helpu’r ddau ohonoch i benderfynu a ydych am ei werthu neu barhau i’w berchen neu ei roi ar rent.
Cysylltwch â’ch darparwr benthyciadau os byddwch am dynnu eich enw chi neu enw eich cyn-bartner oddi ar y morgais. Ac ystyriwch siarad â brocer/cynghorydd morgeisi os byddwch yn meddwl y bydd arnoch angen ailforgeisio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae ailforgeisio yn gweithio?
Ond ystyriwch reolau newydd y mae rhaid i ddarparwyr benthyciadau ystyried wrth asesu a allwch chi neu’ch cyn-bartner fforddio morgais newydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Faint allwch fforddio ei fenthyca ar gyfer morgais?
Prisio eich buddsoddiadau
Os oes gennych fuddsoddiadau, dylech dderbyn datganiad pob blwyddyn yn rhoi gwybod i chi beth yw eu gwerth.
Ond efallai na fydd hyn yr un faint ag y byddech yn ei gael os ydych yn gwerthu neu drosglwyddo eich buddsoddiadau.
Yn hytrach, yn ddibynnol ar y math o fuddsoddiad, efallai y bydd y gwerth yn:
- werth trosglwyddo, neu
- gwerth ildio (arian i mewn).
Dylai eich cam cyntaf fod i ofyn i’r cwmni buddsoddi am brisiad cyfredol, neu werth trosglwyddo neu ildio.
Efallai y bydd gennych:
- bondiau
- bondiau buddsoddi
- stociau a chyfranddaliadau
- polisïau ag elw, megis gwaddol
- ymddiriedolaethau uned, ymddiriedolaethau buddsoddi neu OEICS (cwmnïau buddsoddi penagored).
Deall costau gwerthu buddsoddiadau
Efallai na fydd gwerthu eich buddsoddiadau’r dewis gorau - gan y bydd rhaid i chi dalu treth a thaliadau atodol.
- Efallai y bydd rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf (CGT) os byddwch yn cyfnewid neu werthu buddsoddiad ac yn gwneud elw. Mae gennych lwfans CGT blynyddol, sy’n golygu y gallwch wneud swm penodol o elw – wedi didynnu costau gwerthu a ffioedd – cyn i chi orfod talu treth. Does dim rhaid i chi dalu ‘r dreth hon os ydych yn gwerthu eich prif gartref neu ar ISAs stociau a chyfranddaliadau. Mae hwn yn faes cymhleth felly mae’n debygol y byddai’n werth cael cyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol neu gyfrifydd. Bydd rhaid i chi dalu am y cyngor hwn.
- Yn ddibynnol ar y buddsoddiad sydd gennych, efallai y bydd rhaid i chi dalu rhywfaint o gostau os byddwch yn gwerthu neu gyfnewid yn gynnar. Hyd yn oed os nad oes rhaid i chi dalu tâl, efallai y byddwch ar eich colled os byddwch yn gwerthu buddsoddiadau yn seiliedig ar gyfranddaliadau pan fydd y farchnad stoc ar lefel isel.
Trosglwyddo neu werthu cyfranddaliadau sy’n eiddo i chi
Os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau gallwch naill ai eu trosglwyddo i’ch cyn-bartner neu gallwch eu gwerthu er mwyn i chi allu rhoi arian i’ch cyn-bartner yn lle hyn.
Mae’n werth cael cyngor gan gynghorydd ariannol annibynnol neu gyfrifydd ynglŷn â beth yw’r dewis gorau.
- Gallwch drosglwyddo cyfranddaliadau i’ch cyn-bartner trwy lenwi a llofnodi ‘ffurflen trosglwyddo cyfranddaliadau’ – a elwir hefyd yn ffurflen ‘J30’. Efallai y gallech lawrlwytho hon yn uniongyrchol o wefan y cwmni mae gennych gyfranddaliadau ynddo. Efallai y bydd rhaid i’ch cyn-bartner dalu Treth Stamp.
- Os oes gennych frocer stoc - neu os ydych yn defnyddio cwmni brocer a stoc - gall drefnu i werthu’r cyfranddaliadau ar eich rhan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod faint fydd hyn yn costio. Efallai hefyd y byddwch yn gallu gwerthu trwy wasanaeth delio â chyfranddaliadau a gynigir gan y cwmni y mae gennych gyfranddaliadau ynddynt. Nid yw pob cwmni yn cynnig y gwasanaeth hwn.
Rhoi asedau i’ch cyn-bartner
Os ydych yn ildio ased – er enghraifft, buddsoddiad yr ydych wedi gwneud elw arno – efallai y bydd rhaid i chi dalu CGT.
Gall cyplau priod a’r rhai sydd mewn partneriaeth sifil sy’n gwahanu ildio asedau i gyn-bartner heb orfod talu CGT.
Ond ni all cyplau sy’n cydfyw heb briodi neu fynd i bartneriaeth sifil ac yna’n gwahanu gwneud hyn.