Os ydych yn ysgaru neu'n diddymu'ch partneriaeth sifil efallai y bydd yn rhaid i chi weithredu'n gyflym i ddiogelu eich arian - yn enwedig os yw'r chwalu'n anodd ac mae pethau’n wael rhyngoch. Mae'n bwysig gwybod eich hawliau a'ch cyfrifoldebau.
Diogelu’r hawliau i’ch cartref os mai chi sy’n berchen arno
Os yw perchnogaeth gartref y teulu yn enw’ch cyn bartner yn unig, gallwch gofrestru’ch diddordeb er mwyn sicrhau na ellir ei werthu neu ei ail-forgeisio heb i chi gael gwybod.
Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol os yw eich chwalu yn un anodd ac nad ydych yn cyd-dynnu â'ch cyn bartner mwyach.
Bydd yr enw cyfreithiol ar gyfer cofrestru eich diddordeb a sut i wneud hynny’n dibynnu ymhle yn y DU yr ydych yn byw.
Os yw’r eiddo yn enw’r ddau ohonoch fel ‘tenantiaid ar y cyd’ – efallai y dymunwch newid statws y berchnogaeth.(Neu fel ‘perchnogion ar y cyd gyda chyrchfan goroesedd’ yn yr Alban).
Gallwch fod yn berchen arno rhyngoch o hyd, ond y rheswm pam yr hoffech wneud hyn efallai fyddai i rwystro’ch cyn bartner rhag etifeddu’ch cyfran o’r eiddo fel mater o drefn, pe byddech yn marw cyn cael trefn ar yr ysgariad neu ddiddymiad (ac fel arall o safbwynt eich cyn bartner).
Darganfyddwch fwy am eich opsiynau yn ein canllaw Diogelu eich hawliau ar berchen cartref yn ystod ysgariad neu ddiddymiad
Cysylltu â’ch darparwr morgais
Yn dibynnu ar enw pwy sydd ar y morgais, efallai y bydd angen i chi siarad â’ch benthyciwr i egluro beth sydd wedi digwydd a thrafod sut y byddwch yn rheoli’r ad-daliadau morgais.
Os oes gennych forgais ar y cyd, mae’r ddau ohonoch yr un mor gyfrifol am y benthyciad cyfan (ac nid hanner yr un).
Os na fyddwch yn parhau i ad-dalu’ch morgais yn rheolaidd, gallai hynny amharu ar eich statws credyd, a allai wneud hi’n anoddach i chi fenthyca arian yn y dyfodol.
Cysylltu â’ch landlord os ydych yn rhentu
A yw enwau'r ddau ohonoch ar y cytundeb tenantiaeth? Efallai y byddwch yn gallu trefnu i barhau â’r denantiaeth yn eich enw chi yn unig, neu efallai y byddwch yn gallu trosglwyddo’r denantiaeth i’ch cyn partner.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Eich hawliau i’ch cartref rhentu yn ystod ysgariad neu ddiddymiad
Cysylltu â’ch banc, darparwyr cerdyn credyd a benthyciadau
Os oes gennych gyfrifon neu fenthyciadau ar y cyd gyda’ch cyn bartner, dylech gysylltu â’ch banc neu ddarparwr benthyciadau i egluro beth sydd wedi digwydd. Mae hyn yn neilltuol o bwysig os yw’ch gwahaniad yn un chwerw.
Gydag unrhyw fenthyciad ar y cyd, rydych yn gyfrifol am y ddyled gyfan
Dylech ofyn i’ch banc newid y modd y sefydlwyd eich cyfrif er mwyn sicrhau y bydd yn ofynnol i’r ddau ohonoch gytuno cyn medru tynnu arian allan ohono, neu ei rewi.
Nodwch, os byddwch yn rhewi’r cyfrif yna bydd angen cytundeb y ddau ohonoch cyn medru ei ‘ddadrewi’. Gall hyn fod yn broblem os nad yw’ch cyn bartner yn fodlon cydweithredu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi terfyn ar unrhyw daliadau cyflog sy’n mynd i mewn i’ch cyfrif ar y cyd os ydych yn pryderu na fydd eich cyn bartner yn cytuno i chi dynnu’r arian hwnnw allan.
Ail gardiau credyd ar eich cyfrif
Os oes gennych gyfrif cerdyn credyd a bod ail gerdyn ar gyfer eich cyn bprtner, chi fydd yn gyfrifol am dalu am wariant ef neu hi yn ogystal â’ch gwariant chi.
Gallwch naill ai:
- gofyn i’ch cyn bartner roi’r cerdyn yn ôl i chi, neu
- cysylltu â chwmni’r cerdyn a chanfod yr hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn atal y cerdyn neu dynnu enw’ch cyn bartner o’ch cyfrif.
Diogelu asedau ariannol eraill
Efallai y byddwch yn medru gwneud cais i’r llys i atal eich cyn bartner rhag
- gwerthu
- trosglwyddo, neu
- cael gwared ar unrhyw asedau - neu eu symud dramor - pe bai hyn yn atal setliad ariannol teg.
Mae'n faes cymhleth o'r gyfraith felly mae'n bwysig eich bod yn siarad â chyfreithiwr cyn gynted ag y gallwch.