Os ydych yn mynd trwy ysgariad neu ddiddymiad, gallwch gytuno ar daliadau tymor byr (neu dros dro) gan eich priod neu’ch partner sifil. Gall y rhain fod yn ddefnyddiol tra byddwch yn penderfynu sut i rannu eich arian a’ch eiddo yn barhaol. Darganfyddwch sut y gallwch drefnu cynhaliaeth dros dro a’r hyn y gallech ei gael neu ei dalu.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Taliadau cynhaliaeth priodasol dros dro
Y rheswm mwyaf cyffredin dros hawlio cynhaliaeth yw angen gwirioneddol.
Dyma pryd nad oes gan y sawl sy’n gofyn am gynhaliaeth dros dro ddim neu ychydig o incwm, ac mae gan eu cyn-bartner incwm y gallant ei rannu.
Mae’n syniad da cytuno ar rywfaint o drefniant ariannol dros dro gyda’ch cyn-bartner tra bod eich ysgariad neu ddiddymiad yn cael ei drefnu.
Yna, bydd y ddau ohonoch yn gwybod beth a ddisgwylir gennych. Er enghraifft, pwy fydd yn talu pa filiau. Bydd hyn yn cynnig rhywfaint o sefydlogrwydd ariannol.
Gall cynhaliaeth dros dro fod yn rhan o’r trefniadau ysgaru neu ddiddymu. Bydd hyn yn atal eich cyn-bartner (gŵr, gwraig neu bartner sifil) rhag hawlio bod yr un arall wedi peidio rhoi’r arian y maent eu hangen iddynt, ac fel arall.
Os na allwch gytuno faint o gynhaliaeth dros dro y dylid ei dalu, neu a ddylid talu o gwbl, gallwch chi a’ch cyn-bartner defnyddio rhywun diduedd i’ch helpu i gytuno trwy gyfryngu (trydydd parti diduedd).
Fel dewis olaf, gallwch chi neu eich cyn-bartner wneud cais i’r llysoedd os bydd un ohonoch yn credu bod angen cefnogaeth ariannol yn y tymor byr.
Ar Gyngor ar Bopeth darganfyddwch fwy am gyfrynguYn agor mewn ffenestr newydd
Gwneud cais i’r llys am gynhaliaeth dros dro
Gallwch wneud cais i’r llysoedd am orchymyn i’ch cyn-bartner dalu cynhaliaeth dros dro os bydd camau ysgaru neu ddiddymu ar y gweill.
Ond gall y broses hon fod yn ddrud, ac mae'n rhaid i chi argyhoeddi'r llysoedd bod angen y taliadau arnoch chi.
Gofynnwch am gyngor gan eich cyfreithiwr, os ydych yn defnyddio un, a fyddai’n werth i chi wneud y math hwn o gais.
Os nad ydych yn siŵr am sefyllfa ariannol eich cyn-bartner ac nad oes ganddo ef neu hi yr arian i dalu i chi, fe allech chi wario arian ar ffioedd llys a chyfreithiol am ddim rheswm.
Os ydych chi eisiau cyngor cyfreithiol ond na allwch ei fforddio, gweler ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu.
Darganfydddwch fwy yn ein canllaw Sut i dalu ffioedd cyfreithiol ar gyfer ysgariad neu ddiddymiad
Beth ydych angen i wneud cais i’r llysoedd
Os byddwch yn penderfynu parhau i wneud cais i’r llysoedd, bydd angen i chi roi datganiad ysgrifenedig byr yn nodi eich sefyllfa ariannol. Rhaid i hyn gynnwys:
- eich cyfalaf (megis eiddo, cynilion neu fuddsoddiadau)
- unrhyw ddyledion sydd gennych
- manylion am yr hyn sydd ei angen arnoch o ddydd i ddydd yn y tymor byr
- eich incwm ar hyn o bryd gan gynnwys unrhyw enillion, arian a gewch gan eich cyn-bartner, ac unrhyw fudd-daliadau y wladwriaeth.
Bydd ble yr ydych yn cael ysgariad neu’n diddymu eich partneriaeth sifil yn pennu sut y byddwch yn gwneud cais am gynhaliaeth dros dro.
Cymru neu Loegr
Mae cynhaliaeth priodasol dros dro yn cael ei drin fel rhan o'r broses llys ar gyfer datrys materion cyllid ar ôl ysgariad neu ddiddymiad.
I wneud cais, bydd angen i chi ddechrau, neu eisoes wedi dechrau, 'cais am ddatrysiad ariannol' gyda'r llys.
Cyn gwneud cais i’r llys, fel arfer bydd angen i chi fynychu Cyfarfod Gwybodaeth ac Asesu Cyfryngu (MIAM) yn gyntaf. Mae eithriadau i hyn, er enghraifft os ydych chi wedi profi cam-drin domestig.
Unwaith y bydd eich achos ar y gweill, gallwch ofyn i'r llys am gynhaliaeth dros dro.
Bydd angen i chi gyflwyno ffurflen gais ynghyd â datganiad i'r Llys Teulu. Gofynnir i'ch cyn-bartner hefyd ddarparu gwybodaeth ariannol sylfaenol.
Bydd y llys yn penderfynu a dylai cynhaliaeth dros dro gael ei dyfarnu – ac os felly faint – drwy ystyried beth sy’n rhesymol. Mae cynhaliaeth dros dro wedi’i gynllunio i ddelio â phroblemau ariannol tymor byr, felly gall y cyfrifiad fod yn un bras.
Bydd angen i chi ddarparu cyllideb fyr, realistig i'r llys sy'n cwmpasu eich gwariant hanfodol, fel rhent neu forgais, treth gyngor, biliau a bwyd – ni fydd y llys yn ystyried cynlluniau tymor hir na threuliau mawr untro ar hyn o bryd. Gall ein Cynlluniwr cyllideb eich helpu i restru ac olrhain eich costau misol.
Yn y rhan fwyaf o achosion cyfraith teulu, mae pob person yn talu costau cyfreithiol eu hunain. Fodd bynnag, gall ceisiadau cynhaliaeth dros dro fod yn wahanol.
Os yw'ch cais yn aflwyddiannus, neu os yw'r llys o'r farn eich bod wedi ymddwyn yn afresymol, efallai y byddwch yn cael eich gorchymyn i dalu rhywfaint neu'r cyfan o gostau cyfreithiol eich cyn-bartner, yn ogystal ag unrhyw gynhaliaeth y mae’r llys yn ei gwneud yn ofynnol i chi ei dalu.
Yn yr un modd ag unrhyw orchymyn cynhaliaeth, gall y llys gytuno i gynyddu neu ostwng y swm o gynhaliaeth y byddwch yn ei dalu neu’n ei dderbyn, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.
Mae cynhaliaeth dros dro yn dod i ben pan fydd eich ysgariad neu ddiddymiad yn derfynol.
Gogledd Iwerddon
Mae dau lys y gallwch wneud cais iddyn nhw am gynhaliaeth dros dro.
Y cyntaf yw'r Domestic Proceedings Court. Os ydych chi'n gwneud cais, dylech baratoi datganiad sy'n dangos yr arian sydd gennych yn dod i mewn (eich incwm) a'r arian rydych chi'n ei wario (eich treuliau) ar gyfer y llys. Bydd angen i chi hefyd ddarparu tystiolaeth o hyn, gan gynnwys cyfriflenni banc a biliau.
Yr ail opsiwn yw gwneud cais am gynhaliaeth dros dro yn y llys sirol neu’r Uchel Lys, ar yr amod eich bod eisoes wedi dechrau’r broses ysgariad neu ddiddymiad.
Os na allwch chi a’ch cyn-bartner gytuno ar faint y dylid ei dalu, bydd angen i chi gyflwyno datganiad ar lw sy’n nodi eich incwm a’ch gwariant ac yn esbonio pam rydych angen gorchymyn cynhaliaeth dros dro.
Cynhaliaeth plant
Gallwch drefnu cynhaliaeth plant cyn gynted ag y byddwch chi'n gwahanu – does dim angen aros i'r ysgariad neu'r diddymiad gael ei gwblhau i ddechrau trafodaethau gyda'ch cyn-bartner.
Mae’n cael ei dalu i’r rhiant y mae’r plentyn yn byw gydag ef neu hi am y rhan fwyaf neu’r amser cyfan gan y rhiant arall.
Mae sawl ffordd wahanol y gallwch chi a'ch cyn-bartner gytuno – mae llawer o rieni yn trefnu cynhaliaeth plant yn anffurfiol rhyngddynt eu hunain, ond gallwch hefyd ddefnyddio'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant (CMS).
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein canllaw Sut rwyf yn trefnu cynhaliaeth plant?
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i drefnu cynhaliaeth plant
Eich cam nesaf
Mae hefyd werth darllen ein canllaw Sut i ymdrin â dyledion sy’n achosi problem ar ôl gwahanu.