Gall fod yn anodd penderfynu pwy sy’n cael beth pan ddaw perthynas i ben, ond mae ffyrdd o’i wneud yn haws. Wrth rannu eich eiddo, ceisiwch gytuno cymaint â phosibl â’ch cyn partner - a byddwch yn barod i gyfaddawdu.
Rhannu eiddo personol
Gall helpu os ydych yn ysgrifennu beth sy’n bwysicaf i chi ar y dechrau.
Gall un ohonoch neu’r ddau ohonoch fod â chysylltiad emosiynol sylweddol â rhai o’ch eiddo, megis eich:
- dodrefn
- car teulu a rennir, neu
- gasgliadau, fel llyfrau, cerddoriaeth neu unrhyw beth sydd â gwerth emosiynol.
Gall fod yn anodd os na allwch gadw pethau y credwch y mae gennych hawl iddynt, ond ceisiwch ddod i gytundeb, os yn bosibl. Defnyddiwch gyfryngwr os bydd angen.
Wrth ystyried dodrefn a cheir, dechreuwch trwy feddwl ble bydd y ddau ohonoch yn byw wedi i chi wahanu.
A fydd y ddau ohonoch angen dodrefnu eiddo newydd? Os felly, gall rhannu’r dodrefn a nwyddau mawr fel bod y ddau ohonoch yn cadw rhai neu brynu rhai newydd fod yn deg.
Ewch drwy’r tŷ, sied yr ardd a’r garej a’r atig - a pharatoi rhestr o beth sydd ble.
Yna ceisiwch gytuno ar bwy sy’n cael pa eitemau.
Efallai y bydd rhai pethau na allwch gytuno arnynt. Fel mesur olaf, gallech ddewis fesul ail o restr o beth sydd ar ôl.
Os oes angen help arnoch i benderfynu, ewch i Gyngor ar Bopeth i gael gwybodaeth am Ddefnyddio cyfryngu i’ch helpu i wahanuYn agor mewn ffenestr newydd
Rhannu eiddo os ydych wedi bod yn byw gyda’ch gilydd
Os nad oeddech wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil ac rydych yn rhannu eitemau gwnaethoch eu prynu tra’ch bod gyda’ch gilydd ac nad allwch gytuno ar bwy ddylai gael beth, mae’n ddefnyddiol gwybod beth mae’r gyfraith yn ddweud.
Fel arfer, mae eitem yn perthyn i’r person sy’n gallu dangos eu bod wedi talu amdani. Gall hynny fod yn dderbynneb, datganiad banc, cytundeb ariannu neu ddogfen yswiriant yn eich enw. Ond gall ddibynnu ar a oedd rhywbeth wedi’i fwriadu fel anrheg neu wedi’i brynu gan ddefnyddio arian ar y cyd.
Os gwnaethoch brynu rhywbeth gyda’ch gilydd, mae gan y ddau ohonoch gyfran ynddo.
Os na allwch gytuno, casglwch unrhyw dystiolaeth o berchnogaeth sydd gennych – mae derbynnebau a datganiadau banc yn fan cychwyn da – a cheisiwch gyngor cyfreithiol.
Cytuno ar bwy sy’n cadw’r car
Gallai un ohonoch gadw’r car teuluol, efallai oherwydd ymrwymiadau gwaith, yn gyfnewid am ildio eiddo eraill y cartref.
Ond cofiwch, os yw eich car ar gytundeb hurbwrcas (HP) neu brynu ar gontract personol (PCP), y person a enwir ar y cytundeb ariannu sy’n gyfreithiol gyfrifol am yr ad-daliadau.
Hefyd, ni allwch werthu’r car heb ganiatâd y benthyciwr – nhw sy’n berchen arno nes bod eich cytundeb wedi’i dalu’n llawn. Os byddwch yn methu cadw i fyny â’r ad-daliadau, gall y benthyciwr gymryd y car yn ôl. Os oes gennych ganiatâd i werthu’r car, ond bod y pris gwerthu yn is na’r swm sydd dal yn ddyledus gennych, bydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth i’r benthyciwr.
Eisiau sicrhau eich bod yn dewis y ffordd orau i brynu car? Darllenwch ein canllaw Sut i brynu car
Trefnu gemwaith, peintiadau ac eitemau casgladwy
Mae'n bwysig cytuno sut i rannu eitemau fel gemwaith, lluniau a chasgliadau, waeth beth yw eu gwerth. Ar gyfer eitemau gwerth uchel neu sefyllfaoedd cymhleth, fodd bynnag, mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiol.
Efallai y byddai'n werth cael prisiad arbenigol os oes gennych gasgliad ar y cyd o eitemau gwerthfawr. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu am y gwasanaeth hwn.
Cytuno ar bwy sy’n cadw’ch anifeiliaid anwes
Byddai’n well pe gallwch chi a’ch cyn partner gytuno ar bwy ddylai gadw unrhyw anifeiliaid anwes. Ceisiwch ystyried lles eich anifail anwes yn gyntaf.
Efallai’ch bod yn teimlo y dylai eich anifail anwes fod gyda chi, ond mae’n bosibl nad hynny fyddai'r dewis gorau.
- Lle bo modd, ceisiwch beidio â gwahanu plant ac anifeiliaid anwes os yw’n bwysig iddynt allu gweld ei gilydd.
- Ystyriwch a fyddwch yn gallu fforddio cadw’r anifail anwes wedi i chi wahanu. Gall anifeiliaid anwes fod yn ddrud. Nid cost y bwyd yn unig y mae’n rhaid i chi ei hystyried. Gall bil milfeddyg fod yn ddrud os nad oes gennych yswiriant anifail anwes.
- Mae anifeiliaid anwes yn cymryd amser i ofalu amdanynt. Sicrhewch y bydd gan bwy bynnag sy’n bwriadu cadw'r anifail yr amser i ofalu amdano. Ac, os ydych yn symud, gwnewch yn sicr bydd eich cartref newydd yn addas.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yswiriant anifeiliaid anwes – a ydych ei angen?
Beth fyddai’r llysoedd yn ei wneud am eich anifeiliaid anwes
Os na allwch chi a’ch cyn-bartner gytuno ar beth sy’n digwydd i’ch anifeiliaid anwes pan fyddwch yn gwahanu, gallwch ofyn i lys wneud y penderfyniad.
Bydd sut mae hyn yn gweithio yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
- Os oeddech yn briod neu mewn partneriaeth sifil – fel arfer gellir trefnu perchnogaeth anifail anwes fel rhan o’ch trafodaethau ariannol.
- Os nad oeddech yn briod – mae anghydfodau am anifeiliaid anwes fel arfer yn cael eu trin o dan gyfraith eiddo, a’r llys sy’n penderfynu pwy sy’n berchen ar yr anifail.
Cofiwch fod y llysoedd yn disgwyl i bobl ddod i gytundeb eu hunain ar hyn, yn hytrach na’i adael i benderfyniad y llys.
Yn wahanol i blant, mae anifeiliaid anwes yn cael eu trin fel eiddo. Mae hyn yn golygu y bydd y llys yn penderfynu pwy sy’n berchen ar yr anifail – ni fydd yn gwneud trefniadau parhaus ar gyfer sut rydych chi’n rhannu amser gyda’ch anifail.
Wrth benderfynu ar berchnogaeth, bydd y llys yn edrych ar:
- bwy brynodd yr anifail
- ym mha enw mae’r papurau swyddogol, fel y micro-sglodyn neu gofnodion milfeddyg
- pwy sy’n talu’r costau
- pwy sydd wedi gofalu am yr anifail o ddydd i ddydd
Nid oes rhaid i’r llys ystyried lles yr anifail yn yr un modd ag y byddai ar gyfer plentyn, er y gall ffactorau ymarferol fod yn ystyriaeth o hyd.