Mae'r canllaw hwn yma i'ch helpu i gymryd rheolaeth o'ch cyllid a gwneud yn siŵr bod eich dymuniadau'n cael eu cyflawni. Gall cymryd y camau hyn ar eich cyflymder eich hun roi tawelwch meddwl i chi a'r bobl pwysig yn eich bywyd.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cam 1: Cael darlun clir o’ch cyllid
- Cam 2: Ysgrifennu ewyllys a llythyr dymuniadau
- Cam 3: Gwneud trefniadau ar gyfer dibynyddion
- Cam 4: Deall y rheolau ar gyfer Treth Etifeddiant
- Cam 5: Cynllunio ar gyfer costau angladd
- Cam 6: Edrych ar yswiriant bywyd, yswiriant salwch critigol a diogelu incwm
- Cam 7: Gwnewch yn siŵr bod eich cynilionpensiwn yn mynd i’r bobl rydych chi eu heisiau
- Cam 8: Sefydlu atwrneiaeth parhaol
- Cam 9: Cynllunio ar gyfer costau gofal, gan gynnwys gofal hosbis
- Cam 10: Rhowch wybod i’ch banc a'chdarparwyr ariannol am eich cynlluniau
- Cam 11: Rheoli eich ôl troed digidol
- Cam 12: Dywedwch wrth y bobl sydd angen gwybod
- Cam 13: Cael cyngor proffesiynol
Cam 1: Cael darlun clir o’ch cyllid
Cyn cynllunio ymlaen llaw, mae'n helpu i ddeall ble rydych chi'n sefyll ar hyn o bryd.
- Dechreuwch trwy adolygu eich cyllideb fel eich bod chi'n gwybod beth sy'n dod i mewn ac yn mynd allan bob mis.
- Defnyddiwch ein cyfrifiannell Budd-daliadau i wirio eich bod yn derbyn popeth sydd gennych hawl iddo. Os oes gennych salwch terfynol, mae rheolau arbennig yn golygu y gellir cyflymu eich cais fel eich bod chi'n cael help yn gyflymach.
- Os oes gennych ddyledion, mae'n bwysig gwybod nad ydyn nhw'n diflannu pan fyddwch chi'n marw gan eu bod yn dod yn rhan o'ch ystâd. Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor cyfrinachol am ddim yn eich ardal chi. Darganfyddwch sut i flaenoriaethu pa ddyledion i'w talu yn gyntaf,
- Os ydych chi'n cael trafferth gydag arian ar hyn o bryd, darganfyddwch am gymorth ariannol brys sydd ar gael i chi.
- Os gallwch, ceisiwch adeiladu rhai gynilion brys. Gall hyd yn oed swm bach a neilltuwyd wneud gwahaniaeth mawr.
Cam 2: Ysgrifennu ewyllys a llythyr dymuniadau
Mae ewyllys yn ddogfen gyfreithiol sy'n dweud pwy ddylai gael eich arian, eich eiddo a'ch meddiannau ar ôl i chi farw, a elwir yn eich ystâd.
Pam mae cael ewyllys yn bwysig
Gall cael ewyllys:
- adael i'r bobl sy’n bwysig i chi sortio pethau'n gyflymach ac yn haws, gyda llai o straen pan fyddwch chi wedi mynd
- gadael i chi benderfynu pwy ddylai ofalu am unrhyw ddibynyddion, gan gynnwys plant o dan 18 oed, a threfniad ar gyfer anifeiliaid anwes
- helpu i osgoi anghytundebau teuluol
- ei gwneud hi'n haws cynllunio ar gyfer Treth Etifeddiant.
Os ydych chi'n berchen ar gartref gyda rhywun ac nad ydych chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil, efallai na fyddant yn etifeddu eich cyfran yn awtomatig os nad oes gennych ewyllys.
Beth i’w wneud cyn i chi ysgrifennu ewyllys
- Penderfynwch beth rydych chi am ei adael: Gwneud ewyllys a chynllunio beth i'w adael.
- Penderfynwch pwy fydd yn setlo'ch ystâd ac yn cyflawni eich dymuniadau, a elwir yn eich ysgutorion. Rhan fawr o fod yn ysgutor yw trefnu'r dyletswyddau cyfreithiol ac ariannol. Mae'n bwysig dewis eich ysgutorion yn ofalus: Pwy all fod yn ysgutor ewyllys?
Cael help gydag ysgrifennu eich ewyllys
Mae yna lawer o ffyrdd i ysgrifennu ewyllys, a bydd yr opsiwn cywir i chi yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch cyllideb. Cymerwch olwg ar ein canllawiau i ddarganfod mwy:
Ystyriwch ysgrifennu llythyr o ddymuniadau ochr yn ochr â'ch ewyllys
Gall llythyr o ddymuniadau helpu i esbonio eich penderfyniadau yn eich geiriau eich hun. Nid yw'n gyfreithiol rwymol, ond mae'n helpu'r bobl sy’n bywsig i chi i ddeall y meddwl y tu ôl i'ch dewisiadau.
Gall LifeBook Age UK eich helpu i gofnodi holl fanylion ymarferol eich bywydYn agor mewn ffenestr newydd, o bolisïau yswiriant i ddogfennau pwysig, gan ei gwneud hi'n haws i'r bobl sy’n bywsig i chi reoli pethau ar eich rhan
Cam 3: Gwneud trefniadau ar gyfer dibynyddion
Os oes gennych blant neu oedolion dibynnol, cynhwyswch drefniadau clir ar gyfer eu gofal yn eich ewyllys. Gall trefniadau anffurfiol gael eu camddeall neu eu herio'n gyfreithiol, felly mae'n bwysig cael hyn yn ysgrifenedig.
Os bydd angen gofal gydol oes ar eich dibynwyr, efallai y bydd angen i chi sefydlu cronfa ymddiriedolaeth. Mae hyn fel arfer yn gofyn am gyngor ariannol a chyfreithiol proffesiynol.
Anifeiliaid anwes
Dylech gynnwys trefniadau ar gyfer anifeiliaid anwes yn eich ewyllys.
Cyn enwi rhywun i ofalu am eich anifeiliaid anwes, siaradwch â nhw yn gyntaf i wneud yn siŵr eu bod yn gallu ymgymryd â'r cyfrifoldeb yma.
Cam 4: Deall y rheolau ar gyfer Treth Etifeddiant
Yn dibynnu ar werth eich ystâd (eich arian, eich eiddo a'ch meddiannau), efallai y bydd angen i'ch anwyliaid dalu Treth Etifeddiant ar ôl i chi farw. Gall deall y rheolau ac unrhyw eithriadau sy'n berthnasol helpu i leihau'r baich arnynt.
Defnyddio yswiriant bywyd i dalu bil Treth Etifeddiant
Os yw'ch ystâd yn debygol o fod yn atebol am Dreth Etifeddiant, er enghraifft, os ydych chi'n berchen ar eiddo rydych chi am ei adael i rywun, mae'n werth gwybod y gallwch gymryd polisi yswiriant bywyd yn benodol i dalu'r bil hwnnw. Mae hyn yn golygu na fydd y bobl rydych chi'n eu gadael ar ôl yn wynebu taliad treth mawr, annisgwyl cyn y gallant gael mynediad at yr hyn rydych chi wedi'i adael iddynt ac ni fyddant yn cael eu gorfodi i werthu asedau fel eich cartref i'w dalu.
Mae hwn yn gam nad yw'n hanfodol i'r rhan fwyaf o bobl, ond os ydych chi'n meddwl y gallai Treth Etifeddiant fod yn berthnasol i'ch ystâd, mae'n werth siarad ag ymgynghorydd ariannol ynghylch a yw'r dull hwn yn gwneud synnwyr i chi.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cam 5: Cynllunio ar gyfer costau angladd
Gall angladdau fod yn ddrud, ond gall cynllunio ymlaen llaw leddfu'r pwysau ar y bobl rydych chi'n poeni amdanynt. Gallwch wneud hyn drwy:
- adael cyfarwyddiadau clir am eich dymuniadau, er enghraifft, claddu neu amlosgi
- neilltuo cynilion mewn cyfrif hawdd ei gyrraedd, gan y bydd y rhan fwyaf o fanciau mawr yn caniatáu i'ch teulu/ysgutorion setlo anfoneb y Trefnydd Angladdau o'ch cyfrifon ar ôl eich marwolaeth
- cymryd cynllun angladd rhagdaledig ond gwiriwch y telerau yn ofalus, gan nad ydynt bob amser yn werth da
- defnyddio polisi yswiriant bywyd i dalu costau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cam 6: Edrych ar yswiriant bywyd, yswiriant salwch critigol a diogelu incwm
Gall yswiriant bywyd helpu i ddarparu ar gyfer y bobl sy'n dibynnu arnoch chi'n ariannol ar ôl i chi farw. Gall hefyd helpu i dalu costau fel treuliau angladd neu ddyledion sy'n ddyledus.
Mae gwahanol fathau o yswiriant bywyd i weddu i anghenion a chyllidebau gwahanol:
- Mae yswiriant bywyd tymor yn talu cyfandaliad os byddwch yn marw o fewn cyfnod penodol.
- Mae yswiriant bywyd cyfan yn talu pryd bynnag y byddwch yn marw ond yn tueddu i gostio mwy.
- Mae yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed ar gael os ydych chi'n hŷn ac efallai na fydd angen archwiliad meddygol arnoch - ond gwiriwch y telerau'n ofalus, gan nad yw'r polisïau hyn bob amser yn cynnig gwerth da.
Os ydych chi'n gyflogedig, mae'n werth gwirio a yw'ch cyflogwr yn cynnig yswiriant bywyd fel rhan o'ch pecyn buddion. Gelwir hyn weithiau yn fudd "marwolaeth mewn gwasanaeth".
Mae yswiriant salwch critigol hefyd yn werth ei ystyried. Mae'n talu cyfandaliad os ydych chi'n cael diagnosis o salwch difrifol – fel canser, trawiad ar y galon neu strôc. Gall hyn fod yn arbennig o werthfawr os yw salwch yn eich gorfodi i ymddeol yn gynnar neu roi'r gorau i weithio, gan roi cymorth ariannol i chi ar adeg pan fyddwch ei angen fwyaf.
Gall yswiriant diogelu incwm helpu os yw salwch yn golygu nad ydych yn gallu gweithio, gan ddisodli rhywfaint o'ch enillion a gollwyd yn y cyfamser.
Os oes gennych unrhyw un o'r polisïau hyn eisoes, gwnewch yn siŵr eu bod yn gyfredol a bod eich buddiolwyr a enwir (y bobl a fydd yn derbyn y taliad) yn dal i adlewyrchu eich dymuniadau presennol.
Ystyriwch roi eich polisi yswiriant bywyd mewn ymddiriedolaeth
Un peth nad yw llawer o bobl yn sylweddoli yw y gallwch chi roi eich polisi yswiriant bywyd mewn ymddiriedolaeth. Mae hyn yn golygu, pan fyddwch chi'n marw, mae'r taliad yn mynd yn uniongyrchol i'r bobl rydych chi wedi'u dewis, heb orfod mynd trwy'r broses brofiant yn gyntaf. Gall profiant gymryd misoedd, felly gall rhoi eich polisi mewn ymddiriedolaeth olygu bod eich anwyliaid yn derbyn yr arian yn llawer cyflymach a gyda llai o straen.
Gall hefyd fod yn ffordd ddefnyddiol o reoli sut mae'r taliad yn cael ei drin at ddibenion Treth Etifeddiant. Gall eich yswiriwr neu ymgynghorydd ariannol neu gyfreithiwr esbonio sut mae hyn yn gweithio ar gyfer eich sefyllfa.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cam 7: Gwnewch yn siŵr bod eich cynilionpensiwn yn mynd i’r bobl rydych chi eu heisiau
Bydd llawer o ddarparwyr pensiwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen Mynegi Dymuniad neu Enwebu i enwi eich buddiolwyr dewisol (y bobl rydych chi am iddynt dderbyn eich pensiwn ar ôl i chi farw).
Gallwch wneud hyn drwy:
- lenwi ffurflen ar gyfer pob pensiwn sydd gennych, fel bod pob darparwr yn gwybod eich dymuniadau
- cadw eich enwebiadau yn gyfredol, yn enwedig os yw'ch amgylchiadau yn newid (er enghraifft, ar ôl priodas, ysgariad neu enedigaeth plentyn).
Cadw cofnod o’ch holl bensiynau
Cadwch gofnod o'ch holl gynlluniau pensiwn, gan gynnwys rhai o swyddi blaenorol. Os ydych chi wedi colli golwg ar hen bensiwn, efallai y bydd yn arian ynddo o hyd y gellir ei drosglwyddo ymlaen.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw nodyn o'ch holl gynlluniau pensiwn, hyd yn oed hen rai, fel bod eich anwyliaid yn gwybod ble i ddod o hyd iddynt.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cam 8: Sefydlu atwrneiaeth parhaol
Mae atwrneiaeth yn ddogfen gyfreithiol sy'n caniatáu i chi benodi rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo i wneud penderfyniadau ar eich rhan os nad ydych bellach yn gallu gwneud hynny eich hun.
Mae'n bwysig sefydlu atwrneiaeth tra bod gennych allu meddyliol i wneud hynny. Unwaith y byddwch wedi colli capasiti, mae'n rhy hwyr. Gall hyn gymryd sawl wythnos, felly mae'n werth ei wneud cyn gynted â phosibl.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Cam 9: Cynllunio ar gyfer costau gofal, gan gynnwys gofal hosbis
Os oes gennych salwch difrifol neu derfynol, efallai y bydd angen i chi feddwl am gost gofal, naill ai gartref, mewn cartref gofal, neu mewn hosbis.
Mae gofal hosbis yn darparu cymorth arbenigol i bobl â salwch sy'n cyfyngu ar fywyd, gan ganolbwyntio ar gysur ac ansawdd bywyd yn hytrach na thriniaeth. Gellir ei ddarparu gartref, mewn adeilad hosbis, neu weithiau mewn ysbyty.
Mae gofal hosbis a ariennir gan y GIG ar gael mewn llawer o achosion, ond mae'r ddarpariaeth yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Mae'n werth siarad â'ch meddyg teulu neu arbenigwr am yr hyn sydd ar gael i chi ac a allwch fod yn gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG a gofal nyrsio a ariennir gan y GIG, sy'n cwmpasu cost lawn gofal i bobl ag anghenion cymhleth.
Os ydych chi'n bwriadu talu am rywfaint neu'r cyfan o'ch gofal yn breifat, mae'n bwysig ffactorio'r costau hyn yn eich cynllunio ariannol yn gynnar. Gall ymgynghorydd ariannol eich helpu i ddeall eich opsiynau.
Cam 10: Rhowch wybod i’ch banc a'chdarparwyr ariannol am eich cynlluniau
Mae'n werth cymryd rhai camau ymarferol nawr i wneud yn siŵr bod eich anwyliaid yn gallu cael mynediad at arian yn gyflym a heb anhawster ar ôl i chi farw.
Pethau i'w hystyried:
Cyfrifon ar y cyd: Os ydych chi'n rhannu cyllid gyda phartner, mae cyfrif banc ar y cyd yn golygu y gallant barhau i gael mynediad at arian yn syth ar ôl i chi farw, heb aros i brofiant gael ei roi. Fodd bynnag, ar eich marwolaeth, bydd unrhyw gyd-ddeiliad yn etifeddu balans y cyfrif yn awtomatig yn hytrach na'r arian sy'n pasio o dan delerau eich ewyllys.
Rhowch wybod i’ch banc: Mae rhai banciau'n cynnig gwasanaeth 'person enwebedig', sy'n caniatáu i berson dibynadwy roi gwybod iddynt pan fyddwch wedi marw a dechrau'r broses o gau neu drosglwyddo cyfrifon.
Cadwch gofnod: Gwnewch yn siŵr bod gan eich ysgutor restr lawn o'ch cyfrifon banc, cynilion, buddsoddiadau, polisïau yswiriant ac unrhyw gynhyrchion ariannol eraill, ynghyd â'r rhifau cyfrif perthnasol a manylion cyswllt ar gyfer pob darparwr.
Mae hefyd yn syniad da cadw dogfennau pwysig, fel eich ewyllys, atwrneiaeth a pholisïau yswiriant, mewn un lle y gall eich ysgutor neu anwyliaid ddod o hyd iddynt yn hawdd.
Cam 11: Rheoli eich ôl troed digidol
Mae eich ôl troed digidol yn cynnwys popeth o fancio ar-lein ac e-bost i gyfryngau cymdeithasol, storio lluniau a gwasanaethau tanysgrifio. Heb gyfarwyddiadau clir, efallai y bydd eich anwyliaid yn cael trafferth cyrchu neu reoli'r cyfrifon hyn ar ôl i chi farw.
Crëwch ddogfen sy'n cynnwys:
- enw pob gwasanaeth neu blatfform
- eich enw defnyddiwr neu'ch cyfeiriad e-bost a ddefnyddir ar gyfer y cyfrif
- lle rydych chi wedi storio'r cyfrinair
- beth rydych chi am ddigwydd i bob cyfrif.
Storio’r wybodaeth hon yn ddiogel
Gallwch storio gwybodaeth eich ôl troed digidol:
- mewn trefnydd cyfrinair y gall person dibynadwy ei gyrchu
- mewn lleoliad diogel gartref (fel cabinet ffeilio diogel neu wedi'i gloi)
- gyda'ch cyfreithiwr gyda eich ewyllys
- defnyddio gwasanaeth etifeddiaeth ddigidol a gynlluniwyd at y diben hwn.
Gwnewch yn siŵr bod eich ysgutor neu berson dibynadwy yn gwybod ble i ddod o hyd i'r wybodaeth hon a beth hoffech iddyn nhw ei wneud.
Dylech adolygu a diweddaru'r rhestr pryd bynnag y byddwch chi'n agor cyfrifon newydd, newid cyfrineiriau neu newid eich dymuniadau.
Cam 12: Dywedwch wrth y bobl sydd angen gwybod
Gwnewch yn siŵr y bydd y bobl a enwir yn eich ewyllys yn gwybod ble i ddod o hyd i:
- eich ewyllys a dogfennau pwysig eraill
- manylion eich cyfrifon banc, buddsoddiadau a pholisïau yswiriant
- eich Gwybodaeth Pensiwn
- eich rhestr cyfrifon digidol
- eich dymuniadau am ofal hirdymor.
Cam 13: Cael cyngor proffesiynol
Os yw pethau'n teimlo'n llethol, gall ymgynghorydd ariannol eich helpu i lywio penderfyniadau cymhleth, deall eich opsiynau a gwneud yn siŵr bod popeth yn gyfreithiol gadarn ac mor effeithlon o ran treth â phosibl.
Efallai y bydd cost ymlaen llaw, ond gall cyngor da nawr eich helpu i osgoi camgymeriadau costus yn nes ymlaen.