Canllaw i Dreth Etifeddiant

Dim ond canran fechan o ystadau sy’n ddigon mawr i orfod talu Treth Etifeddiant (IHT). Ond mae’n bwysig peidio ag anghofio rhoi ystyriaeth i’r dreth hon yn eich cynlluniau wrth i chi lunio eich ewyllys. Darganfyddwch beth yw IHT, sut i gyfrifo beth sydd angen i chi ei dalu a pha bryd, a rhai ffyrdd i chi leihau’r dreth hon.

Beth yw Treth Etifeddiant?

Mae Treth Etifeddiant (IHT) yn dreth ar ystâd rhywun sydd wedi marw, gan gynnwys yr holl eiddo, meddiannau ac arian. Y gyfradd Treth Etifeddiant Safonol yw 40%. Mae tâl ond yn cael ei godi ar y rhan o’ch ystâd sydd dros y trothwy di-dreth sydd ar hyn o bryd yn £325,000.

Beth yw Treth Etifeddiant?

Faint yw Treth Etifeddiant?

Fel arfer nid oes angen talu treth os:

  • yw gwerth eich ystad yn llai na’r trothwy o £325,000 a elwir yn band dim cyfradd
  • rydych yn gadael bopeth dros y trothwy i’ch priod neu bartner sifil, neu
  • rydych yn gadael bopeth dros y trothwy i fuddiolwr eithriedig fel elusen neu glwb chwaraeon amatur cymunedol.

Os yw gwerth eich ystad yn uwch na’r trothwy o £325,000, yna gallai’r rhan o’ch ystad sydd uwchben y trothwy hwn fod yn drethadwy ar y gyfradd o 40%.

Felly, os yw gwerth eich ystad yn £525,000 a’ch trothwy IHT yn £325,000, yna codir treth ar £200,000 (£525,000 - £325,000). Byddai’r dreth yn £80,000 (40% o £200,000).

Trosglwyddo cartref

Gallwch drosglwyddo cartref i'ch priod neu'ch partner sifil pan fyddwch farw, ac nid oes Treth Etifeddiant i'w thalu.

Os byddwch yn gadael y cartref i berson arall yn eich ewyllys, mae'n cyfrif tuag at werth yr ystad.

Fodd bynnag, gall y Band cyfradd dim preswyl (RNRB) gynyddu eich trothwy di-dreth os byddwch yn gadael cartref i'ch plant neu wyrion. Mae hyn yn cynnwys llysblant, plant mabwysiedig a phlant maeth, ond nid nithoedd, nai neu frodyr a chwiorydd.

Mae'r lwfans cartref yn cael ei dynnu'n ôl yn raddol os yw gwerth eich ystad yn fwy na £2 filiwn.

Mae'r tabl hwn yn dangos cynnydd yr RNRB a'r lwfans cyfun posibl:

Blwyddyn Dreth Band dim cyfradd (£) Band cyfradd dim preswyl (£) Cyfanswm i unigolion (£) Cyfanswm i gyplau (£)

2023/24

325,000

175,000

500,000

1,000,000

Cyhoeddwyd ym Mil Cyllid 2021, bydd cyfradd dim Treth Etifeddiant yn aros ar y lefelau presennol tan Ebrill 2026.

Gall parau priod a phartneriaid sifil drosglwyddo trothwy nas defnyddiwyd

Mae'r Band Cyfradd Dim (NRB) yn sefydlog ar £325,000 tan 2026, ond gallai eich NRB gael ei gynyddu os ydych yn weddw neu'n bartner sifil sy'n goroesi. Gall cyplau drosglwyddo unrhyw NRB nas defnyddiwyd pan fu farw'r person cyntaf i'r goroeswr.

Gall hyn ddyblu faint o NRB sydd ar gael hyd at £650.000. Gelwir yr elfen drosglwyddadwy ychwanegol hon yn fand cyfradd dim trosglwyddadwy (TNRB).

Efallai y gallwch hefyd ddefnyddio unrhyw RNRB sydd heb ei ddefnyddio o ystad eich priod neu bartner sifil os ydych yn weddw neu’n bartner sifil sy'n goroesi. Gall hyn ddyblu faint o RNRB sydd ar gael.

Sut i roi gwerth ar yr ystad

I roi gwerth ar ystad bydd angen i chi:

  • restru’r holl asedau a chyfrifo eu gwerth ar ddyddiad y farwolaeth, a
  • didynnu unrhyw ddyledion a rhwymedigaethau.

Cofiwch gadw cofnodion o sut gwnaethoch gyfrifo'r symiau, fel prisiad gan werthwr eiddo.

Gall CTHEM ofyn i gael gweld cofnodion am hyd at 20 mlynedd ar ôl talu Treth Etifeddiant (IHT).

Mae asedau’n cynnwys pethau fel arian mewn banc, eiddo a thir, gemwaith, ceir, cyfranddaliadau, taliad gan bolisi yswiriant ac asedau sydd mewn cyd-berchnogaeth.

Mae rhaid cynnwys rhoddion hefyd, fel arian parod neu asedau eraill, os cawsant eu rhoi yn ystod y saith mlynedd cyn i’r unigolyn farw.

Mae rhaid i chi hefyd gynnwys unrhyw roddion a roddwyd cyn y cyfnod hwn os parhaodd yr unigolyn a fu farw i elwa o’r rhodd.

Gelwir y rhain hefyd yn ‘rhoddion â budd wedi’i gadw’. Er enghraifft, rhoddodd ei dŷ ond parhaodd i fyw ynddo.

Mae dyledion a rhwymedigaethau yn lleihau gwerth ystad taladwy’r ymadawedig. Ystyriwch bethau fel biliau’r cartref, morgeisi, dyledion cardiau credyd, ac, yn gyffredinol, costau angladd.

Fodd bynnag, ni ellir didynnu unrhyw gostau a wynebwyd ar ôl y farwolaeth, fel ffioedd cyfreithwyr a phrofiant, o werth yr ystad at ddibenion IHT.

Gall fod yn gymhleth, felly mae'n werth cael cyngor i'ch helpu i wneud y penderfyniadau cywir.

Pwy sy’n talu Treth Etifeddiant?

Os oes yna ewyllys, fel arfer ysgutor yr ewyllys sy’n trefnu talu’r Dreth Etifeddiant. Os nad oes ewyllys, gweinyddwr yr ystad sy’n cwblhau’r gwaith hwn.

Gellir talu’r IHT o gronfeydd yn yr ystad, neu o arian a godwyd o werthu asedau.

Fodd bynnag, yn ymarferol, telir IHT gan amlaf drwy’r Cynllun Taliad Uniongyrchol (DPS). Mae hyn yn golygu, os oedd gan yr ymadawedig arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, gall y sawl sy’n delio â’r ystad ofyn i’r cyfan neu ran o’r IHT sy’n ddyledus gael ei dalu’n uniongyrchol o’r cyfrif drwy’r DPS.

Weithiau, bydd yr ymadawedig wedi gadael arian yn eu ystad i dalu’r IHT. Fel arfer, trefnir hyn drwy bolisi oes gyfan, sy’n parhau mewn grym hyd nes i’r deilydd polisi farw, cyn bellled ag y telir y premiymau.

Gallai taliadau o bolisi yswiriant bywyd fod yn destun IHT. Fodd bynnag, drwy ysgrifennu’r polisi mewn Ymddiriedolaeth, dylid llwyddo i osgoi’r dreth honno. Drwy wneud hynny, byddwch hefyd yn osgoi mynd drwy’r broses brofiant, sydd yn aml yn llethol.

Unwaith y bydd y dreth a’r dyledion wedi eu talu, gall yr ysgutor neu’r gweinyddwr ddosbarthu’r hyn sy’n weddill o’r ystad.

Pryd fydd rhaid i chi dalu Treth Etifeddiant?

Mae rhaid talu Treth Etifeddiant (IHT) cyn diwedd y chweched mis wedi marwolaeth yr unigolyn. Os na thelir y dreth o fewn y cyfnod hwn, bydd CTHEM yn dechrau codi llog.

Gall yr ysgutorion ddewis talu’r dreth ar rai asedau penodol, fel eiddo, drwy randaliadau dros ddeng mlynedd, ond bydd llog yn parhau’n daladwy ar y cyfanswm o dreth sy’n weddill.

Os gwerthir yr ased cyn talu’r IHT, mae rhaid i’r ysgutorion sicrhau bod yr holl randaliadau (a’r llog) wedi eu talu ar y pwynt hwnnw.

Os yw’ch ystad yn debygol o orfod talu IHT, mae’n syniad da cael eich ysgutor i dalu rhywfaint o’r dreth o fewn y chwe mis cyntaf o’r farwolaeth, hyd yn oed cyn gorffen prisio’r ystad. Gelwir hyn yn daliad ymlaen llaw.

Bydd hyn yn helpu’r ystad i leihau’r llog a godir efallai os yw’n cymryd mwy o amser i werthuso’r asedau i dalu’r dyledion a threthi.

Os yw’r ysgutor neu’r gweinyddwr yn talu’r dreth o’i gyfrif ei hun, gall ei hawlio yn ôl gan yr ystad.

Bydd CTHEM yn ad-dalu’r ystad os yw wedi gordalu IHT ar ôl i’r profiant gael ei gwblhau. Ystyr profiant yw cael yr hawl i ddelio ag eiddo, arian a meddiannau’r ymadawedig. Gelwir hyn yn gadarnhad yn yr Alban.

Os cawsoch eich penodi fel ysgutor neu weinyddwr yr ystad bydd angen i chi gwblhau ac anfon cyfrif o’r ystad cyn pen blwyddyn ers y farwolaeth, i osgoi cosb ariannol.

Rhoddion a phethau sy’n rhydd o’r Dreth Etifeddiant

Mae rhai anrhegion ac eiddo wedi eu heithrio rhag Treth Etifeddiant, fel rhai anrhegion priodas a rhoddion elusennol. Gallech gael eithriadau hefyd â mathau penodol o eiddo hefyd, fel ffermydd neu asedau busnes.

Os yw’r ymadawedig wedi rhoi rhodd yn y saith mlynedd cyn marw, mae’r rhodd honno’n cael ei chyfrif fel rhan o’r ystad, ac yn debygol o fod yn destun IHT.

Mae faint o dreth sy’n daladwy yn ddibynnol ar werth y rhodd, pryd y’i rhoddwyd ac i bwy.

Sut gallaf leihau faint o dreth a delir?

Defnyddio yswiriant bywyd i dalu Treth Etifeddiant

Gall prynu polisi yswiriant bywyd i dalu am ran o fil Treth Etifeddiant neu’r cyfan ohono wneud pethau’n haws i’ch teulu pan ddaw’n amser i roi trefn ar eich ystad ar ôl i chi farw.

Gall helpu i ddiogelu’ch cartref ac atal asedau eraill rhag cael eu gwerthu i dalu bil IHT, mae rhaid ei dalu fel arfer cyn y cymeradwyir profiant. Yn gryno, gall roi tawelwch meddwl i chi nad ydych yn gadael bil treth sylweddol i’ch teulu a’ch ffrindiau pan fyddwch farw.

Fel arfer, mae angen talu IHT cyn medru cyhoeddi unrhyw brofiant. Fodd bynnag, ag eiddo, gallai CThEM dderbyn taliadau dros gyfnod hyd nes y gwerthir yr eiddo. Fel arall, gallai banc ryddhau arian os caiff ei dalu’n uniongyrchol i CThEM i dalu bil IHT.

Gall oedi cyn talu arwain i CThEM godi cosbau ariannol ynghyd â llog ar swm y Dreth Etifeddiant a ddylai fod wedi cael ei dalu.

Bydd y rhan fwyaf o bolisïau yswiriant yn cyfrif fel rhan o’r ystad oni bai bod eich polisi wedi ei ddal ‘mewn ymddiriedolaeth’ ac mae modd gwneud hynny heb gost ychwanegol fel arfer wrth drefnu’ch polisi.

Mae hyn yn golygu y telir unrhyw arian allan i’ch buddiolwyr yn hytrach na’ch ystad gyfreithiol. Felly ni fydd unrhyw daliad yn cyfrif yn erbyn eich trothwy ac ni fydd yn destun IHT. Byddai hyn yn osgoi cyfnod hir o brofiant sy’n golygu y bydd eich buddiolwyr yn cael eu harian yn llawer iawn cynt.

Yn aml defnyddir polisi yswiriant oes gyfan ar gyfer y pwrpas hwn, sy’n parhau mewn grym hyd nes i’r deilydd polisi farw, cyn bellled ag y parhewch i dalu’r premiymau.

Sut mae’n gweithio

  • Rydych yn sefydlu polisi yswiriant.
  • Rydych yn nodi y dylid cadw’r polisi mewn ymddiriedolaeth. Os nad ydych yn gwneud hynny, mae’r arian o’r taliad yswiriant yn cael ei gyfrif fel rhan o’ch ystad ac yn destun IHT.
  • Pan fyddwch farw, bydd y polisi’n talu allan i’r ymddiriedolaeth, a gellir ei ddefnyddio i dalu eich bil Treth Etifeddiant neu ran ohono. Efallai y bydd angen i chi nodi eich dymuniadau mewn llythyr atodol i roi canllaw i ymddiriedolwyr eich ymddiriedolaeth polisi ddefnyddio’r cronfeydd ar gyfer hyn.

Gall cynllunio ystad a threthi fod yn gymhleth, felly mae’n werth cael cyngor i’ch helpu i wneud y penderfyniadau cywir ar gyfer eich sefyllfa.

Os ydych yn ystyried defnyddio yswiriant bywyd i dalu IHT, mae dau fath o bolisi y gallwch eu cymryd:

Polisi oes gyfan

  • Mae’r math hwn o bolisi yn parhau am oes, ac yn talu dim ond pan fyddwch farw, cyn belled â’ch bod yn talu’r premiymau’n brydlon.
  • Os dymunwch gael y math hwn o yswiriant, cofiwch y gallech fod yn talu premiymau ymhell i mewn i’ch 80au a’ch 90au. Mae premiymau yn ddrytach wrth i chi fynd yn hŷn. Fodd bynnag, mae rhai cynlluniau oes gyfan yn codi premiymau sefydlog am swm penodol o yswiriant ac o ganlyniad rydych yn gwybod o’r cychwyn cyntaf yn union beth yw pris y polisi a’r swm a warentir.
  • Efallai y byddwch hefyd yn cael anhawster cael yswiriant pan fyddwch yn hŷn, neu os cawsoch broblemau iechyd.

Polisi yswiriant cyfnod

Os byddwch yn rhoi asedau i anwyliaid yn hytrach na’ch priod, mae perygl y gallent wynebu bil treth sylweddol petaech farw cyn pen 7 mlynedd. Yn aml bydd y bil hwn yn cael ei ysgwyddo gan y sawl sy’n derbyn y rhodd yn hytrach na’r ystad.

  • Ar ôl marwolaeth, gall polisi Inter Vivos, sy’n fath o bolisi yswiriant cyfnod gostyngol, gynnig cyfandaliad sy’n cyfateb i unrhyw atebolrwydd IHT ar drosglwyddiad eithriedig posibl dros y band cyfradd nil ar gyfer Treth Etifeddiant.
  • Mae’r math hwn o bolisi yn parhau am gyfnod penodol o amser, ac yn talu os byddwch farw o fewn y cyfnod hwnnw yn unig. Ar ôl y cyfnod hwn daw’r polisi i ben.
  • Mae pris y premiymau yn aros yn sefydlog o ddechrau’r polisi fel arfer.

Mae rhaid i chi barhau i dalu’r premiymau ar gyfer hyd y naill fath o bolisi, er mwyn sicrhau y bydd yn talu pan fyddwch farw.

Pa drethi eraill mae rhaid i fy etifeddion eu talu ar eu hetifeddiant?

Dim ond ar ôl talu unrhyw ddyledion (os o gwbl) a Threth Etifeddiant y bydd eich ystad yn cael ei ddosbarthu.

Yn dibynnu ar yr hyn y maent yn ei etifeddu, efallai y bydd eich etifeddion hefyd yn wynebu:

  • Treth Incwm – os yw’r hyn y maent yn ei etifeddu yn cynhyrchu incwm rheolaidd (e.e. difidendau cyfranddaliadau neu rent o eiddo)
  • Treth Enillion Cyfalaf – os ydynt yn gwerthu eu hetifeddiaeth (fel eiddo) am fwy o arian na’i werth pan fuoch farw. Mae faint fydd rhaid iddynt ei dalu yn dibynnu a ydynt yn talu Treth Incwm ar y gyfradd sylfaenol neu uwch.
  • Nid yw’n dreth, ond gall rhywun sydd ar fudd-daliadau prawf modd sy’n etifeddu unrhyw beth sy’n codi cyfanswm eu cyfalaf dros £6,000 gweld gostyngiad yn eu budd-daliadau. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar sut mae cynilion a chyfandaliadau yn effeithio ar fudd-daliadau

Os ydych wedi rhoi eich asedau mewn ymddiriedolaeth neu’n ystyried gwneud hyn, gall faint o dreth a pha fath o dreth y mae rhaid iddynt ei thalu fod yn gymhleth iawn.

Mae'n werth siarad â chynghorydd treth neu gyfreithiwr i gael help i gyfrifo hyn.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.