Gall cynllunio eich angladd ymlaen llaw roi tawelwch meddwl i chi a lleddfu rhywfaint o'r baich ar y bobl sy'n bwysig i chi. Fodd bynnag, nid yw cynlluniau angladd a delir ymlaen llaw yn aml yn cwmpasu popeth, felly mae'n bwysig edrych yn ofalus ar y manylion cyn penderfynu a yw un yn iawn i chi. Mae'r canllaw hwn yn esbonio eich opsiynau a beth i'w ystyried.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw cynllun angladd a sut mae'n gweithio?
- Faint mae cynllun angladd a delir ymlaen llaw yn ei gostio?
- Beth sydd wedi'i gynnwys mewn cynllun angladd?
- Beth i'w ddisgwyl o gynllun angladd safonol
- A yw cynllun angladd yn iawn i mi? Manteision ac anfanteision angladd a delir ymlaen llaw
- A yw fy arian yn ddiogel gyda darparwr cynllun angladd?
- Cwestiynau i'w gofyn cyn prynu cynllun angladd
- Sut ydw i'n prynu cynllun angladd?
- Ffyrdd eraill o gynllunio'n ariannol ar gyfer eich angladd
Beth yw cynllun angladd a sut mae'n gweithio?
Mae cynllun angladd yn caniatáu i chi dalu am rai neu bob un o'ch costau angladd ymlaen llaw, naill ai fel cyfandaliad neu mewn rhandaliadau misol.
Mae eich arian yn cael ei gadw mewn ymddiriedolaeth neu bolisi yswiriant bywyd cyfan (ar wahân i'r darparwr), felly mae'n cael ei ddiogelu ac yn tyfu i dalu costau yn y dyfodol.
Rhaid i bob darparwr cynllun angladd gael ei awdurdodi gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA)Yn agor mewn ffenestr newydd
Gwiriwch Gofrestr yr FCA bob amserYn agor mewn ffenestr newydd i gadarnhau bod darparwr eich cynllun angladd wedi'i awdurdodi cyn i chi ymrwymo.
Faint mae cynllun angladd a delir ymlaen llaw yn ei gostio?
Gall cost cynllun angladd amrywio yn dibynnu ar:
- y math o angladd a seremoni rydych chi ei eisiau
- y math o arch
- pa ddarparwr rydych chi'n ei ddewis
- ble rydych chi'n byw yn y DU.
Yn gyffredinol mae prisiau cynlluniau angladd yn amrywio o £1,500 am amlosgiad uniongyrchol i £5,000 am gynllun claddu cynhwysfawr.
Cyfandaliad neu randaliadau misol: pa un sy'n rhatach?
Mae talu ymlaen llaw yn rhatach fel arfer.
Gall talu mewn rhandaliadau ychwanegu rhwng 15 a 26% at gyfanswm y gost oherwydd llog a ffioedd gweinyddol.
Os byddwch chi'n marw o fewn dwy flynedd o ddechrau cynllun rhandaliadau, bydd rhai darparwyr yn ad-dalu'r hyn rydych chi wedi'i dalu. Bydd eraill yn dal i dalu cost lawn yr angladd. Gwiriwch y telerau ac amodau bob amser cyn cofrestru.
Beth sydd wedi'i gynnwys mewn cynllun angladd?
Mae pob cynllun angladd yn cynnwys trefnydd angladdau i drefnu a rheoli'r angladd. Mae’r hyn arall sydd wedi'i gynnwys yn dibynnu ar y cynllun rydych chi'n ei ddewis.
Fel arfer, mae darparwyr yn cynnig tri math gwahanol o gynlluniau angladd:
- Sylfaenol - fel arfer yn cwmpasu cost amlosgiad neu gladdu uniongyrchol yn unig neu gall gynnig cyfraniad tuag at y costau hyn.
- Safonol - gall gynnwys limwsîn ar gyfer yr orymdaith angladdol, arch sylfaenol, ynghyd â’r hyn sydd wedi’i gynnwys mewn cynllun sylfaenol.
- Cynhwysfawr – gall gynnwys arch ddrud, limwsîn ar gyfer yr orymdaith angladdol ac i gludo gwesteion i'r angladd, mwy o hyblygrwydd o ran gweld y corff mewn capel gorffwys, ac ychwanegiadau.
Mae'r tabl isod yn dangos yr hyn sy'n cael ei gynnig fel arfer mewn cynllun angladd safonol ar gyfer claddu neu amlosgi. Byddwch yn ymwybodol, bydd yr hyn sy'n cael ei gynnwys yn amrywio o un darparwr i’r llall.
Beth i'w ddisgwyl o gynllun angladd safonol
| Beth sy'n cael ei gynnwys fel arfer? | Pa gostau sydd heb eu cynnwys? |
|---|---|
|
Trefnydd angladdau a threfniadau’r angladd |
Llain gladdu |
|
Cyngor ar ardystio a chofrestru'r farwolaeth a dogfennau cysylltiedig |
Carreg fedd neu gofeb |
|
Arch syml er enghraifft, effaith pren, cardbord neu wiail |
Arch ddrud, er enghraifft pren solet neu fetel |
|
Casglu a chludo'r corff i safle’r trefnydd angladdau o fewn y cyfyngiad milltiroedd |
Blodau |
|
Gofalu am y corff cyn ei amlosgi |
Y te angladd/arlwyo |
|
Cyfle i weld y corff mewn capel gorffwys neu ystafelloedd gwasanaeth |
Limwsîn i gludo gwesteion i'r angladd |
|
Gwasanaeth angladd mewn mynwent neu amlosgfa leol |
Eneinio corff |
|
Gorymdaith angladdol i leoliad yr angladd |
Trefn y gwasanaeth |
|
Mynd a’r arch i fynwent neu amlosgfa leol |
Ffioedd Gweinidog neu Swyddog |
|
Cludwyr yr arch |
Ffioedd claddu neu amlosgi |
|
Cludo i safle’r trefnydd angladdau os bydd marwolaeth yn digwydd wrth fod ar wyliau ar dir mawr y DU |
Tystysgrifau meddygol (ar gyfer amlosgi yn unig) |
|
Lwfans tuag at gostau trydydd parti |
Hysbysiadau papur newydd/ar-lein Tystysgrifau meddygol (ar gyfer amlosgi yn unig) |
A yw cynllun angladd yn iawn i mi? Manteision ac anfanteision angladd a delir ymlaen llaw
Cyn penderfynu a yw cynllun angladd yn iawn i chi, mae'n bwysig ystyried manteision ac anfanteision cael un.
Manteision cynllun angladd a delir ymlaen llaw
-
Sicrhau prisiau heddiw, gan ddiogelu rhag chwyddiant
-
Mae rheoleiddio gan yr FCA yn golygu bod eich arian a'ch cynllun yn cael eu diogelu
-
Nid yw’n cael ei gyfrif fel ased at ddibenion Treth Etifeddiant
-
Fel arfer, caiff ei eithrio o asesiadau budd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd
Anfanteision cynllun angladd a delir ymlaen llaw
-
Nid yw'r rhan fwyaf o gynlluniau’n talu holl gostau’r angladd - efallai y bydd angen i'ch ystâd dalu'r gweddill
-
Mae cynlluniau rhatach yn cynnig llai o hyblygrwydd o ran y trefnydd angladdau, yr amser a’r dyddiad
-
Gall unrhyw newidiadau y gofynnir amdanynt gan eich teulu gostio’n ychwanegol
A yw fy arian yn ddiogel gyda darparwr cynllun angladd?
Ydy, os yw'ch darparwr wedi'i awdurdodi gan yr FCA. Rhaid cadw'ch arian mewn ymddiriedolaeth neu fel polisi oes. Rydych hefyd yn cael eich diogelu gan:
- Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)Yn agor mewn ffenestr newydd — gwasanaeth datrys cwynion am ddim ac yn ddiduedd
- Y Cynllun Iawndal Gwasanaethau Ariannol (FSCS)Yn agor mewn ffenestr newydd - sy'n darparu iawndal neu'n trefnu cynllun amgen os bydd eich darparwr yn methu.
Byddwch yn ofalus o alwyr digroeso sy'n honni eu bod yn cynrychioli cwmnïau awdurdodedig. Gwiriwch bob amser gan ddefnyddio'r rhif a restrir ar Gofrestr yr FCA, nid un a ddarperir gan y galwr.
Os bydd eich darparwr yn methu, byddwch yn cael eich symud i ddarparwr newydd, o bosibl ar delerau gwahanol. Gallwch wrthod y cynnig newydd a hawlio ad-daliad rhannol, er y gallai fod yn llai nag y gwnaethoch ei dalu'n wreiddiol.
Cwestiynau i'w gofyn cyn prynu cynllun angladd
Os ydych chi'n ystyried prynu cynllun angladd, efallai yr hoffech ofyn y cwestiynau canlynol i'r darparwr:
- A oes unrhyw ffioedd canslo?
- Beth yn union sydd wedi'i gynnwys yn y cynllun a pha gostau posibl sydd heb eu cynnwys?
- A yw'n bosibl canslo'r cynllun os bydd amgylchiadau'n newid, er enghraifft, os ydych chi wedi trefnu angladd eich priod ond rydych chi'n gwahanu'n ddiweddarach?
- A yw'r cynllun yn caniatáu i chi ddewis y trefnydd angladdau?
- Beth os yw eich trefnydd angladdau dewisol yn mynd allan o fusnes?
- Beth sy'n digwydd os yw'r person sydd angen yr angladd yn marw dramor neu oddi cartref?
- A all y trefnydd angladdau drefnu angladd o safon wahanol i'r un rydych chi wedi'i ddewis?
- Os ydych chi'n talu mewn rhandaliadau, pa mor hir ydych chi'n gwneud hyn ac a oes rhaid i chi dalu llog?
- Beth sy'n digwydd os oes rhandaliadau heb eu talu pan fyddwch chi'n marw?
- Pa ryddid sydd gennych i newid manylion eich cynllun angladd?
Sut ydw i'n prynu cynllun angladd?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis cynllun o'r rhestr o ddarparwyr cynlluniau angladd awdurdodedigYn agor mewn ffenestr newydd Mae ganddynt hefyd restr o ddarparwyr nad ydynt wedi'u cymeradwyo i werthu cynlluniau angladd.
Dylech siopa o gwmpas drwy gymharu darparwyr a chynlluniau. Mae Which?Yn agor mewn ffenestr newydd a Fairer FinanceYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig teclynnau cymharu.
Byddwch yn wyliadwrus o ffioedd ychwanegol
Gall rhai darparwyr gynnwys ffioedd comisiwn a ffioedd gweinyddu yn y gost derfynol.
Darllenwch y telerau ac amodau yn ofalus. Mae'n bwysig sicrhau bod y manylion yn iawn neu efallai na fyddwch chi'n cael eich diogelu.
Cadwch eich gwaith papur yn ddiogel
Gwnewch yn siŵr bod y bobl rydych chi'n gofalu amdanynt yn gwybod bod eich cynllun angladd yn bodoli a ble mae'r dogfennau yn cael eu cadw. Mae cynllun angladd nad oes neb yn gwybod amdano yn wastraff arian.
Os oes gennych ewyllys, bydd eich ysgutorion yn gyfrifol am drefnu eich angladd, felly mae'n ddefnyddiol cadw copi o'r cynllun gyda'ch ewyllys.
Trefniadau angladd yn yr Alban
Yn yr Alban, gallwch enwi rhywun i wneud penderfyniadau am eich angladd ar ôl i chi farw. Os nad ydych chi'n enwi unrhyw un, mae'r gyfraith yn nodi pwy all gymryd cyfrifoldeb, gan ddechrau gyda'ch priod neu bartner sifil, yna eich partner, plant a pherthnasau eraill.
Os oes gennych gynllun angladd, gwnewch yn siŵr bod y person sy'n debygol o drefnu eich angladd yn gwybod amdano a ble mae'r dogfennau'n cael eu cadw. Gall hyn helpu i sicrhau bod eich dymuniadau'n cael eu dilyn ac osgoi oedi neu ddryswch.
Os oes gan fwy nag un person yr un hawl i wneud penderfyniadau, er enghraifft sawl plentyn, dylent wneud y penderfyniadau hynny gyda'i gilydd.
Beth sy'n digwydd os ydych chi'n methu taliadau neu eisiau canslo?
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cadw i fyny â thaliadau, mae'n werth cysylltu â'ch darparwr cyn gynted ag y gallwch. Mae ganddynt opsiynau ar gael i helpu, fel oedi eich taliadau am gyfnod neu roi eich rhandaliadau presennol tuag at gost eich angladd. Os byddwch chi'n rhoi'r gorau i dalu heb gysylltu â nhw, gallai eich cynllun gael ei ganslo, ac efallai y byddwch chi'n colli rhywfaint neu'r cyfan o'r arian rydych chi wedi'i dalu.
Os byddwch chi'n canslo, mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr yn codi ffi canslo o ychydig gannoedd o bunnoedd, yna ad-dalu'r balans sy'n weddill. Gallwch hefyd adael y balans fel cyfraniad tuag at eich angladd, er efallai na fydd yn cadw i fyny â chwyddiant.
Ffyrdd eraill o gynllunio'n ariannol ar gyfer eich angladd
Nid cynllun angladd yw'r unig opsiwn. Dyma rai dewisiadau amgen i feddwl amdanynt cyn i chi benderfynu.
- Rhowch arian mewn cyfrif cynilo - Mae rhoi ychydig o arian o'r neilltu bob mis yn un ffordd syml o gynilo ar gyfer angladd, ond gall costau angladd godi'n gyflymach na chyfraddau llog cynilo. Darganfyddwch pam ei bod yn syniad da cynilo'n rheolaidd a'r opsiynau cynilo sydd ar gael i chi yn ein canllaw Dod i'r arfer cynilo.
- Cymharwch yswiriant bywyd rheolaidd - mae rhai polisïau yn cynnig yswiriant mwy hael na chynllun angladd. Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth yw yswiriant bywyd?
- Ystyriwch yswiriant bywyd i bobl dros 50 oed – mae’n talu cyfandaliad ar ôl marwolaeth, ond nid yw taliadau bob amser yn cadw i fyny â chwyddiant, a gallech dalu mwy nag y byddwch chi'n ei gael allan. Darganfyddwch sut maen nhw'n gweithio a’r hyn i gadw llygad amdano.
- Gwiriwch fuddion cyflogaeth marw yn y swydd - mae rhai cyflogwyr yn talu tair i bedair gwaith eich cyflog i aelod o'r teulu rydych wedi’i enwebu.
- Defnyddio arian rydych chi'n ei adael ar ôl yn eich ystâd - gellir defnyddio asedau fel eiddo neu fuddsoddiadau, er bod gwerthu yn cymryd amser. Gallwch adael cyfarwyddiadau ar gyfer eich angladd mewn llythyr dymuniadau, sef dogfen ar wahân sy’n cyd-fynd â'ch ewyllys. Darganfyddwch fwy am ysgrifennu ewyllys yn ein canllaw Gwneud ewyllys a chynllunio beth i'w adael.