Darganfyddwch ble i gael cymorth a chefnogaeth frys am ddim os ydych wedi rhedeg allan o arian, yn cael trafferth neu angen talu am gost annisgwyl.
Darganfyddwch ble i gael cymorth a chefnogaeth frys am ddim os ydych wedi rhedeg allan o arian, yn cael trafferth neu angen talu am gost annisgwyl.
Os nad oes gennych arian i dalu am fwyd a hanfodion, gall eich banc bwyd lleol rhoi cyflenwad ychydig ddiwrnodau o fwyd, talebau ar gyfer nwy a thrydan os ydych ar fesurydd rhagdaledig, nwyddau ymolchi ac eitemau babi.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Fel arfer bydd angen i chi gael eich atgyfeirio i fanc bwyd cyn y gallwch ei ddefnyddio. Gallwch gael atgyfeiriad gan:
Gallwch gael atgyfeiriad am eich hunain ac unrhyw aelodau teulu rydych yn byw gyda nhw, gan gynnwys eich partner. Pan mae sefydliad yn eich atgyfeirio i fanc bwyd, byddent yn rhoi taleb i chi a’n dweud wrthych ble mae’r banc bwyd.
Dod o hyd i'ch sefydliad atgyfeirio agosaf:
Gallwch gymryd y daleb i’r banc bwyd i’w gyfnewid am fwyd a hanfodion.
Os oes gennych daleb ond na allwch deithio, efallai gall eich banc bwyd agosaf anfon y nwyddau atoch. Cysylltwch â nhw i ddarganfod a yw hyn yn bosibl.
Mae gan rhai banciau bwyd derfyn ar y nifer o weithiau y gallwch ei ddefnyddio. Os ydych yn gweld eich hun yn dibynnu arnynt yn rhy aml, gallant eich helpu i ddod o hyd i gymorth arall.
Chwiliwch ar-lein i ddod o hyd i’ch banc bwyd agosaf:
Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon:
Cymru a Lloegr yn unig:
Os ydych chi'n byw yn Lloegr ac na allwch fforddio bwyd neu hanfodion neu rydych wedi dioddef o drychineb fel tân neu lifogydd, gall eich cyngor lleol eich helpu. Nid oes angen i chi gael budd-daliadau, ond mae’n rhaid eich bod ar incwm isel.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Os ydych chi'n cael trafferth gyda biliau a threuliau bob dydd, neu'n wynebu argyfwng fel peiriant golchi sydd wedi torri, efallai y bydd help ar gael yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Bydd unrhyw benderfyniad ynghylch a ddylid darparu help a faint o help i’w ddarparu yn seiliedig ar eich sefyllfa unigol. Gall help gwmpasu pethau fel:
Dewch o hyd i'r cynllun cywir ar gyfer lle rydych chi'n byw:
Cymru: gwnewch gais am gymorth gyda hanfodion drwy'r “Cronfa Cymorth Dewisol”Yn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Cymru.
Lloegr: cysylltwch â'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i wneud cais am y Crisis and Resilience Fund neu i weld a oes ganddynt gynllun cymorth lles lleolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan End Furniture Poverty.
Yr Alban: darganfyddwch fwy am Scottish Welfare FundYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth yr Alban.
Gogledd Iwerddon: darganfyddwch fwy am y Social FundYn agor mewn ffenestr newydd a Chymorth Disgresiynol ar nidirect.
Hyd yn oed os ydych yn barod yn cael budd-daliadau mae’n werth gwirio ddwywaith eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Efallai byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau nad oeddech yn gwybod amdanynt.
Os ydych chi'n derbyn Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch chi'n gallu cael taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw. Os ydych chi'n derbyn rhai budd-daliadau eraill, efallai y byddwch yn gallu cael Benthyciad Trefnu . Gall Benthyciad Trefnu neu daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw helpu i dalu pethau fel:
Os ydych yn poeni am sut i dalu am fformiwla, bwyd neu hyd yn oed cewynnau, mae yna help ar gael.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Os ydych yn feichiog neu’n gofalu am o leiaf un plentyn o dan bedair oed, efallai y gallwch ymuno â’r cynllun Cychwyn IachYn agor mewn ffenestr newydd Cerdyn sydd wedi’i lwytho gyda chredyd yw hwn a gallwch ei ddefnyddio mewn archfarchnadoedd tuag at:
Mae’r cerdyn yn cael ychwanegiad bob pedwar wythnos os ydych yn gymwys.
Yn Yr Alban, mae cynllun tebyg o’r enw Best Start FoodsYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer plant sydd o dan 3 oed.
Os ydych yn cael trafferth i gael yr hanfodion ar gyfer eich babi, gall banc babi helpu. Gallant gynnig:
Mae gan bob banc rheolau eu hunain ond fel arfer bydd angen cael atgyfeiriad i gael mynediad gan:
Mae gan bob banc babi ei reolau ei hun. Nid oes angen atgyfeiriad ar lawer o fanciau babi - mae rhai yn wasanaethau hybrid ac mae rhai yn caniatáu hunanatgyfeirio, sy'n golygu y gall teuluoedd gysylltu â nhw'n uniongyrchol. Pan fo angen atgyfeiriad, gallwch fel arfer cael un gan:
Mae yna sawl sefydliad a all eich helpu, gan gynnwys eich cyngor lleol. Cysylltwch â nhw os gallwch fod mewn perygl o ddigartrefedd.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Os ydych yn cael eich bygythio gyda gorchymyn troi allan ac angen help argyfwng, cysylltwch â:
Bydd gan bob cyngor lleol eu meini prawf eu hunain, ond fel arfer bydd angen i chi wneud cais ac ymuno â rhestr aros.
Mae cartrefi sydd ar gael fel arfer yn cael eu rhoi i'r rhai sydd â'r flaenoriaeth uchaf, felly nid oes unrhyw warant y byddwch chi'n cael un. Gallwch weld sut i wneud cais lle rydych chi'n byw:
Gallwch hefyd gael cyngor diduedd ac am ddim o’ch Advicelocal agosaf i helpu gyda phroblemau gyda’ch:
Os nad ydych mewn perygl sydyn, mae yna lawer o sefydliadau a all rhoi help a chyngor i chi
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Cael mwy o arian gan elusennau lleol neu’ch undeb credyd lleol. Gallwch gael help gyda threuliau sy’n ymwneud â swydd a dod o hyd i gymorth ar gyfer eich iechyd meddwl.
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Os ydych ar incwm isel, efallai y gallwch gael arian ychwanegol gan elusennau a sefydliadau lleol, na fydd angen i chi ei dalu’n ôl.
Os oes angen i chi fenthyg arian yn gyflym, gallwch wneud cais i’ch undeb credyd lleol i ddarganfod pa fathau o fenthyciadau a chyfraddau llog sydd ar gael. Gall ein canllaw Benthyg gan undeb credyd eich helpu i ddarganfod sut mae’n gweithio a sut i ddod o hyd i un.
Os ydych chi'n poeni am arian ac yn cael trafferth fforddio hanfodion:
Os ydych yn chwilio am swydd a’n cael Credyd Cynhwysol, gofynnwch eich anogwr gwaith sut y gallant eich cefnogi. Gall y Gronfa Cymorth Ddewisol eich helpu i dalu am:
Darganfyddwch fwy am y Gronfa Gymorth DdewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar Turn2Us.
Gall problemau arian ddod yn llethol yn gyflym gan effeithio ar eich iechyd meddwl. Gall ein canllaw Problemau ariannol a lles meddyliolYn agor mewn ffenestr newydd eich helpu:
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch gael cyngor cyfreithiol am ddim neu gymorth yn y llys
Dilynwch y camau hyn i ddarganfod beth sydd angen i chi ei wneud:
Os oes angen cyngor cyfreithiol neu ariannol arnochYn agor mewn ffenestr newydd, gall Advice Local eich helpu. Mae'n eich cysylltu â sefydliadau ymgynghori annibynnol ledled y DU a all roi cymorth i chi ar ystod o faterion, gan gynnwys budd-daliadau, gwaith, arian a thai.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu Loegr, mae gan Age UK ganllaw manwl ar ble i gael cyngor cyfreithiol ac ariannolYn agor mewn ffenestr newydd ar faterion fel budd-daliadau lles, tai, cyflogaeth, Treth Gyngor, lloches a mewnfudo.
Mae gan y Law Centres Network gyfeiriadur o ganolfannau cyfraithYn agor mewn ffenestr newydd lleol yn Lloegr ar gyfer pobl na all fforddio cyfreithiwr. Mae yna hefyd gyfeiriadur o wasanaethau cyngor cyfreithiol eraill os nad oes ganolfan cyfraith yn eich ardal.