Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall gofal iechyd parhaus y GIG a gofal nyrsio a ariennir gan y GIG neu ofal iechyd parhaus Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HSC) a gofal nyrsio a ariennir gan HSC. Byddwch yn dysgu beth yw'r gwasanaethau hyn a sut mae'r GIG, neu'r HSC, yn penderfynu a ydych yn gymwys ar eu cyfer.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw gofal iechyd parhaus y GIG?
- Ydw i’n gymwys ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG?
- Beth os nad wyf yn gymwys ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG?
- Beth yw gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
- A allaf gael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
- Sut ydw i’n gwneud cais am ofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
- Faint yw gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
- A fydd gofal nyrsio a ariennir gan y GIG yn effeithio ar fy mudd-dal
- A allaf dderbyn gofal nyrsio a ariennir gan y GIG os mai dim ond dros dro y byddaf yn aros?
Beth yw gofal iechyd parhaus y GIG?
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, os oes gennych anabledd neu broblem feddygol gymhleth, efallai y byddwch yn gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG neu ofal iechyd parhaus HSC am ddim.
Mae hyn yn talu costau ychwanegol, megis:
- cymorth i ymolchi neu wisgo
- talu am therapi arbenigol
- llety os darperir eich gofal mewn cartref gofal
- cymorth i ofalwyr os ydych yn derbyn gofal gartref.
Os asesir bod gennych ‘angen iechyd sylfaenol’, y GIG, neu’r HSC, sy’n gyfrifol am ddarparu ac ariannu eich holl anghenion, hyd yn oed os nad ydych yn yr ysbyty. Er enghraifft, gallech fod mewn:
- hosbis
- cartref gofal, neu
- eich cartref eich hun.
Yn yr Alban, disodlwyd gofal iechyd parhaus y GIG yn 2015 gan Hospital Based Complex Clinical Care. Bydd y rhai a oedd yn derbyn gofal iechyd parhaus y GIG cyn Mehefin 2015, yn parhau i wneud hynny.
Darganfyddwch fwy am Hospital Based Complex Clinical Care a sut i gael gwasanaethau gofal eraill yn yr Alban ar Care Information ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
Ydw i’n gymwys ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG?
Gofynnwch i'ch meddyg teulu, neu weithiwr cymdeithasol, i drefnu asesiad i weld a ydych yn gymwys ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG neu ofal iechyd parhaus HSC.
Mae eich cymhwyster ar gyfer cyllid yn seiliedig ar eich anghenion a aseswyd, nid ar ddiagnosis neu gyflwr iechyd penodol. Os bydd eich anghenion yn newid, efallai y bydd eich cymhwyster yn newid hefyd.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG, neu ofal iechyd parhaus HSC, os oes gennych:
- anghenion iechyd sylweddol neu barhaus oherwydd anabledd, damwain neu salwch
- gofynion gofal cymhleth sy'n mynd y tu hwnt i'r hyn y gall eich cyngor lleol, gwasanaethau cymdeithasol, neu HSC, ei ddarparu
- rhyddhad ar ôl ysbyty ac angen lefel uchel o ofal
- adolygiad gofal presennol sy’n nodi bod eich anghenion wedi cynyddu
Os ydych yn byw yn: | Darganfyddwch fwy o wybodaeth ar |
---|---|
Lloegr |
|
Cymru |
|
Gogledd Iwerddon |
Os ydych yn gymwys ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG neu ofal iechyd parhaus HSC, bydd eich awdurdod GIG lleol (Grŵp Comisiynu Clinigol neu Fwrdd Iechyd Lleol), neu HSC, yn trefnu pecyn gofal a chymorth sy'n cwrdd â’ch anghenion asesedig. Efallai y byddant yn gweithio gyda'ch cyngor lleol i'w drefnu.
Yn dibynnu ar eich anghenion, gallai gwahanol opsiynau weithio i chi. Gallai hyn olygu cael cymorth gartref a chael cyllideb iechyd bersonol.
Beth os nad wyf yn gymwys ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG?
Os ydych wedi cael eich gwrthod am gyllid, sicrhewch bod eich sefyllfa’n cael ei hadolygu’n rheolaidd, yn enwedig os yw’ch iechyd yn gwaethygu. Gall eich meddyg teulu neu weithiwr cymdeithasol eich helpu.
Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG, neu ofal iechyd parhaus HSC, efallai y byddwch yn dal yn gymwys i gael gwasanaethau GIG, neu HSC eraill i'ch cefnogi. Gallai hyn gynnwys:
- gofal lliniarol
- seibiannau gofalwyr a gofal iechyd seibiant
- adsefydlu ac adferiad
- cymorth arbenigol gwasanaethau iechyd cymunedol ar gyfer anghenion gofal iechyd.
Efallai y bydd cyllid gan y cyngor lleol, neu'r HSC, i gwrdd â rhai o'ch anghenion gofal. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyllid awdurdodau lleol ar gyfer costau gofal – a ydych yn gymwys?
Beth i’w wneud os ydych yn anghytuno â'r asesiad
Gofynnwch i'ch bwrdd gofal integredig (ICB)Yn agor mewn ffenestr newydd Bwrdd Iechyd, neu HSC leol am adolygiad o'u penderfyniad o fewn chwe mis. Os oedd y penderfyniad yn seiliedig ar sgrinio cychwynnol, gofynnwch am asesiad llawn. Gallwch gymryd rhan yn yr adolygiad a gweld y dystiolaeth.
Os ydych wedi bod yn talu ffioedd cartref gofal ac yn credu y dylech fod wedi derbyn cyllid gan y GIG, neu HSC, gallwch apelio drwy ofyn am asesiad ôl-weithredol. Os na chaiff ei ddatrys, gofynnwch am banel adolygu annibynnol o fewn chwe mis. Fel dewis olaf, cysylltwch ag Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd SeneddolYn agor mewn ffenestr newydd i gael penderfyniad terfynol. Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Os nad ydych yn gymwys ar gyfer gofal parhaus y GIG, neu ofal parhaus HSC, a bod angen gofal arnoch mewn cartref nyrsio, efallai y byddwch yn cael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG neu ofal nyrsio a ariennir gan HSC. Am fwy o fanylion, gweler isod.
Beth yw gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
Mae gofal nyrsio a ariennir gan y GIG neu ofal nyrsio a ariennir gan y HSC yn gyllid a ddarperir gan y GIG, neu HSC, i dalu cost safonol gofal gan nyrs gofrestredig mewn cartref gofal neu gartref nyrsio. Dim ond os ydych mewn cartref gofal y mae ar gael.
Os aseswyd bod angen gofal nyrsio arnoch yng Nghymru neu Loegr, bydd y GIG yn talu cyfradd safonol. Ni fydd yn talu am gostau eraill y cartref gofal fel llety neu fwyd.
Yn yr Alban, bydd yn cael ei dalu gan eich cyngor lleol.
Yng Ngogledd Iwerddon, eich HSC lleol sy'n gyfrifol am dalu'r cyfraniad. Darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
A allaf gael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
Efallai y gallwch gael gofal nyrsio a ariennir gan y GIG, neu ofal nyrsio a ariennir gan HSC os:
- nad ydych yn gymwys i gael gofal iechyd parhaus y GIG, neu ofal iechyd parhaus HSC, ond aseswyd bod angen gofal arnoch gan nyrs gofrestredig, ac
- os ydych yn byw mewn cartref gofal sydd wedi'i gofrestru i ddarparu gofal nyrsio.
Sut ydw i’n gwneud cais am ofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu weithiwr cymdeithasol drefnu asesiad o'ch anghenion. Mae'r asesiad hwn yn penderfynu a ydych yn gymwys ar gyfer gofal iechyd parhaus y GIG, neu ofal iechyd parhaus HSC, neu ofal nyrsio mewn cartref gofal, gyda'r GIG, neu HSC, yn cwmpasu rhan o'r ffioedd nyrsio.
Mae’r taliad hwn yn mynd yn syth i’r cartref gofal i leihau eich costau cyffredinol neu os ydych chi’n cael eich ariannu gan eich cyngor lleol, neu HSC, mae’r taliad yn cael ei drosglwyddo iddyn nhw. Os byddwch yn talu eich holl ffioedd, bydd y swm a dalwch yn cael ei leihau gan gyfraniad y GIG, neu HSC.
Os mai dim ond rhai ffioedd y byddwch yn eu talu, byddwch yn elwa o hyd. Dylai'r cartref gofal ddangos yn glir sut mae cyllid y GIG, neu'r HSC, yn lleihau eich costau - gofynnwch os nad yw'n glir.
Os byddwch yn mynd i'r ysbyty, bydd y cyllid hwn yn dod i ben, ond efallai y bydd angen i chi dalu i gadw'ch ystafell o hyd. Os nad oes angen gofal nyrsio arnoch mwyach, efallai y daw'r cyllid i ben hefyd.
Faint yw gofal nyrsio a ariennir gan y GIG?
Rhanbarth | Cyfraddau o ofal nyrsio a ariennir gan y GIG, neu HSC |
---|---|
Lloegr |
£235.88 yr wythnos (cyfradd safonol) £324.50 yr wythnos (cyfradd uwch) (2024/25). Mae’r gyfradd uwch dim ond yn berthnasol os oeddech eisoes yn ei dderbyn yn 2007, cyn cafodd y gyfradd safonol sengl ei chyflwyno. |
Cymru |
£201.74 yr wythnos (2024/25) |
Yr Alban |
£248.70 yr wythnos am ofal personol, a/neu £111.90 yr wythnos am ofal nyrsio Hyd at gyfanswm o £360.60 yr wythnos (2024/25) |
Gogledd Iwerddon |
£100 yr wythnos (2024/25) |
Os ydych yn byw yn yr Alban, lawrlwythwch y canllaw ‘Cyllidebu cartref gofal’ ar Age UK ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
A fydd gofal nyrsio a ariennir gan y GIG yn effeithio ar fy mudd-dal
Yng Nghymru a Lloegr
- Os ydych yn cael budd-daliadau anabledd fel Lwfans Gweini, Lwfans Byw i'r Anabl (DLA), neu Daliad Annibyniaeth Bersonol (PIP), rhaid i chi rhoi gwybod i’r Ganolfan Budd-daliadau Anabledd os ydych yn cael Gofal Iechyd Parhaus y GIG.
- Os ydych yn derbyn Gofal Iechyd Parhaus y GIG mewn cartref nyrsio, mae Lwfans Gweini, a dwy ran Lwfans Byw i'r Anabl a PIP yn dod i ben ar ôl 28 diwrnod o'r dyddiad y bydd cyllid y GIG yn dechrau, neu'n gynt os oeddech yn yr ysbyty yn ddiweddar.
- Os ydych yn derbyn Gofal Iechyd Parhaus y GIG mewn cartref preswyl, bydd y Lwfans Gweini a'r rhannau gofal o Lwfans Byw i'r Anabl a PIP yn dod i ben 28 diwrnod ar ôl i gyllid y GIG ddechrau, ond rydych yn parhau i gael rhannau symudedd Lwfans Byw i'r Anabl neu PIP.
- Os ydych yn byw gartref ac yn derbyn Gofal Iechyd Parhaus y GIG, gallwch barhau i gael y budd-daliadau anabledd hyn. Sicrhewch eich bod yn derbyn y swm cywir. Gall y rheolau fod yn gymhleth, felly gofynnwch am gyngor ar sut mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn effeithio ar eich budd-daliadau.
Pensiwn y Wladwriaeth a Chredyd Pensiwn:
- Nid yw Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei effeithio gan Ofal Iechyd Parhaus y GIG.
- Os ydych yn derbyn Credyd Pensiwn, byddwch yn colli'r ychwanegiad anabledd difrifol os daw eich Lwfans Gweini, elfen ofal Lwfans Byw i'r Anabl, neu daliadau elfen byw dyddiol PIP i ben.
Yn yr Alban
Os ydych yn cael lwfans Gofal Personol, ni fydd gennych hawl i:
- Lwfans Gweini
- elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl, neu
- PIP ar ôl y pedair wythnos gyntaf.
Yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych yn cael budd-daliadau ac mae eich sefyllfa’n newid, mae angen i chi roi gwybod i’ch swyddfa swyddi a budd-daliadau lleolYn agor mewn ffenestr newydd Darganfyddwch sut y gallai eich budd-daliadau gael eu heffeithio os byddwch yn cael gofal nyrsio a ariennir gan yr HSC ar nidirectYn agor mewn ffenestr newyddOpens in a new window
A allaf dderbyn gofal nyrsio a ariennir gan y GIG os mai dim ond dros dro y byddaf yn aros?
Dylid dal talu gofal nyrsio a ariennir gan y GIG, neu ofal nyrsio a ariennir gan y HSC, os yw eich arhosiad yn y cartref gofal yn un dros dro.
Os ydych yn aros am chwe wythnos neu’n llai, ni fydd yn rhaid i chi gael eich asesu’n ffurfiol.
Yn lle hynny, bydd eich angen am ofal nyrsio yn seiliedig ar wybodaeth y mae'r cartref gofal neu'ch meddyg teulu yn ei darparu.
Gall gofal nyrsio a ariennir gan y GIG, neu ofal nyrsio a ariennir gan HSC, fod yn gyfraniad defnyddiol tuag at gostau os oes angen cyfnodau rheolaidd o ofal seibiant arnoch.
Am fwy o wybodaeth am ofal nyrsio a ariannir gan y GIG, gweler Age UKYn agor mewn ffenestr newydd
Opens in a new window