Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Arian bob dydd
  3. Cyllidebu
Arian bob dydd Cyllidebu

Sut i arbed arian ar filiau cartref

Mae biliau cartref yn parhau i fod yn uchel ar draws y DU, ond mae rhai ffyrdd o hyd i wirio nad ydych yn talu mwy nag sydd angen. Gall llawer o aelwydydd arbed cannoedd o bunnoedd bob blwyddyn drwy wneud rhai newidiadau allweddol.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Lleihau eich bil ffôn cartref a band eang
  • Sicrhewch fil ffôn symudol rhatach
  • Torri cost eich bil dŵr
  • Help gan y llywodraeth i leihau eich biliau ynni
  • A ydych yn talu gormod o Dreth Cyngor?
  • Tori costau gyrru a thrafnidiaeth gyhoeddus
  • Talwch eich biliau mewn pryd
  • Cymorth gyda chostau bwyd 

Lleihau eich bil ffôn cartref a band eang

Hyd yn oed os ydych chi'n hapus gyda'ch darparwr ac yn meddwl eich bod chi'n cael cytundeb da, cofiwch fod yna lawer o gyflenwyr ffôn a band eang a gall fod yn hawdd lleihau’r biliau hyn trwy ymchwilio newid.

Mae’n bwysig i ystyried costau eich llinell daear wrth edrych ar gostau band eang - gan fod nifer o gytundebau sy’n ymddangos yn rhad yn gwneud i chi gymryd rhent llinell ddrud. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen llinell daear arnoch i gael band eang.

Nid yw erioed wedi bod yn haws newid darparwr ffôn cartref a band eang – mae rheolau newydd yn golygu y gall pob cwsmer ddisgwyl proses symlach a chyflymach os ydynt eisiau newid. A gallech arbed cannoedd o bunnoedd ar eich biliau. Dysgwch fwy am newid yn ein canllaw Sut i leihau eich bil ffôn cartref a rhyngrwyd.

Nol i’r brig

Sicrhewch fil ffôn symudol rhatach

A yw eich contract ffôn symudol yn dod i ben? A ydych yn ceisio dod o hyd i'r ffordd rataf o gael y ffôn ddiweddaraf?

Dyma ychydig o awgrymiadau i gadw'ch biliau'n isel:

  • Defnyddiwch offer ar-lein i ddadansoddi'ch biliau ac argymell contract
  • Trafodwch gyda chyflenwyr - cofiwch mai chi sydd wrth y llyw
  • Defnyddiwch wefannau cymharu prisiau i ddod o hyd i'r cynnig gorau i chi.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol, a rhowch gynnig ar ein cynlluniwr Cyllideb hawdd ei ddefnyddio am ddim.

Nol i’r brig

Torri cost eich bil dŵr

Y bil dŵr a charthffosiaeth blynyddol cyfartalog yng Nghymru a Lloegr yw £639, yn ôl Discover Water. Ac er na allwch newid cyflenwr dŵr, mae yna ffyrdd o arbed arian ar filiau.

Er enghraifft, gallech:

  • osod mesurydd dŵr am ddim
  • cael llai o faths a newid i gawodydd
  • newid i ben cawod mwy effeithlon.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i leihau eich bil dŵr.

Nol i’r brig

Help gan y llywodraeth i leihau eich biliau ynni

Mae prisiau nwy a thrydan yn cael eu rheoli gan gap ar brisiau ynni Ofgem. Mae hyn yn cyfyngu ar yr hyn y gall eich cyflenwr ei godi arnoch am bob uned o ynni rydych chi'n ei ddefnyddio.

Mae yna lawer o dariffau ar gael nawr am lai na'r cap ar brisiau, felly mae'n werth edrych a allwch chi gael bargen well.

Os ydych chi'n byw yng Nghymru, Lloegr a’r Alban gallwch gymharu bargeinion ynni gan ddefnyddio gwefannau cymharu, fel:

  • Clwb Ynni Rhad MoneySavingExpertYn agor mewn ffenestr newydd
  • Cymharu bargeinion ynni ar Which?Yn agor mewn ffenestr newydd

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y cyflenwyr y gallwch newid iddynt yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan y Consumer Council.

Fel arfer mae'n rhatach talu trwy Ddebyd Uniongyrchol misol, yn hytrach nag arian parod neu siec.

Hyd yn oed os nad ydych chi'n newid cwmnïau ynni, efallai y byddwch chi'n arbed arian trwy symud i dariff gwahanol. Er enghraifft, os ydych chi'n berchen ar gar trydan, mae yna fargeinion a all gael prisiau is i chi os ydych chi'n pweru eich cerbyd dros nos.

Darganfyddwch fwy am dariffau ynni cerbydau trydanYn agor mewn ffenestr newydd ar MoneySavingExpert.

Am fwy o gymorth ariannol a ffyrdd o wneud eich cartref yn fwy effeithlon o ran ynni, gweler ein canllaw Sut i leihau eich biliau ynni.

A allwch chi leihau eich bil ynni?

Mae cap prisiau Ofgem bellach yn £1,723 y flwyddyn.

 

Mae’r cap ar brisiau ynni yn gyfyngiad ar faint y gall gostio fesul uned o nwy neu drydan pan fyddwch ar dariff amrywiol safonol eich cyflenwr. Mae’r ffigur blynyddol yn seiliedig ar yr hyn y mae aelwyd gyfartalog yn ei ddefnyddio.

Mae cytundebau sefydlog ar gael am lai na’r cap ar brisiau i gwsmeriaid newydd a chwsmeriaid presennol. Darganfyddwch fwy am sut i leihau eich bil ynni.

Mae eich bil ynni yn cynnwys cost yr hyn rydych chi'n ei ddefnyddio, ynghyd â swm dyddiol a elwir yn ‘dâl sefydlog’. Dyma pam mae balans eich mesurydd yn gostwng, hyd yn oed os nad ydych chi'n defnyddio nwy na thrydan. 

Mae hyn ar fin newid o ran nwy. Bydd y llywodraeth yn gofyn i Ofgem ddileu taliadau sefydlog ar gyfer nwy erbyn 2027/28, a throsglwyddo'r gost i'r pris rydych chi'n ei dalu am bob uned o nwy. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y bydd eich bil yn is. Os byddwch yn defnyddio llai o nwy, mae'n debygol y byddwch yn talu llai. Os byddwch yn defnyddio mwy, gallech dalu mwy. 

Beth bynnag, bydd gennych fwy o reolaeth dros yr hyn rydych chi'n ei dalu, ac ni chodir tâl dyddiol arnoch pan nad ydych chi'n defnyddio nwy. Bydd y llywodraeth yn amlinellu cymorth ar gyfer cartrefi a allai fod ar eu colled, maes o law. 

Nid yw'r taliadau sefydlog ar gyfer trydan yn newid eto. Mae'r llywodraeth yn ystyried sut y gellid diwygio taliadau sefydlog ar gyfer trydan. Tan hynny, os nad ydych wedi ychwanegu credyd at eich mesurydd ers peth amser, gwiriwch a oes dyled ar eich mesurydd rhagdaledig. Efallai y bydd angen i chi ymweld â gwefan eich cyflenwr ynni i gael gwybod sut i wneud hynny.

Yn Lloegr, os ydych chi'n byw mewn cartref sydd ym mandiau Treth Gyngor A i D, byddwch yn derbyn £100 yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc o fis Ionawr 2027 ymlaen, i helpu gyda biliau uwch. Gallwch wirio eich band Treth GyngorYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK neu ar eich bil Treth Gyngor.

Os ydych chi'n byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, bydd eich llywodraeth yn penderfynu a ddylid cynnig cynllun tebyg.

Gostyngiad Cartref Cynnes

Mae’r Cynllun Gostyngiad Cartref CynnesYn agor mewn ffenestr newydd yn cynnig cartrefi incwm isel gostyngiad o £150 i helpu gyda biliau ynni. Mae’r cynllun ar agor am geisiadau rhwng mis Hydref a mis Mawrth pob blwyddyn, bydd angen i chi wneud cais yn uniongyrchol i’ch darparwr ynni.

Taliad Tanwydd Gaeaf

Mae hwn yn daliad di-dreth i bensiynwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon o hyd at £300 i helpu pobl dros oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd i gadw'n gynnes yn ystod y gaeaf. Mae rhai pobl yn ei alw'n lwfans tanwydd gaeaf.

Bydd pawb dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn cael y taliad, fodd bynnag, bydd angen i chi ei dalu'n ôl drwy'r system dreth os oes gennych enillion blynyddol dros £35,000.

Os ydych chi'n disgwyl y bydd eich enillion dros £35,000, gallwch optio allan o'r taliad drwy ffurflen ar-lein sydd ar gael ar GOV.UK o fis Ebrill 2026 ymlaen.  Mae opsiwn ffôn ar gael os na allwch ddefnyddio'r llwybr ar-lein hwn. Gallwch bob amser optio yn ôl yn y dyfodol.

Mae CThEF wedi darparu cyfrifiannell ar GOV.UK i'ch helpu i weithio allan a fydd cyfanswm eich incwm dros £35,000. Gwiriwch a fydd CThEF yn cymryd eich Taliad Tanwydd Gaeaf yn ôlYn agor mewn ffenestr newydd

Os ydych yn byw yn yr Alban

Byddwch yn derbyn y Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn, taliad cyfatebol, os:

  • rydych yn hŷn nag Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, ac
  • yn ennill £35,000 neu lai.

Bydd y taliad yn awtomatig i'r rhan fwyaf o bobl, sy'n golygu nad oes rhaid i chi wneud cais. Dylech fod wedi derbyn llythyr sy'n cynnwys manylion eich taliad.

Os nad ydych wedi cael llythyr ond rydych chi'n meddwl y gallech fod yn gymwys, mae'n hawdd darganfod hyn. Defnyddiwch y gwiriwr cymhwyseddYn agor mewn ffenestr newydd ar mygov.scot i weld a ydych chi'n gymwys.

Gallwch hefyd ddefnyddio ein Cyfrifiannell budd-daliadau i wirio'n gyflym a ydych chi'n gymwys i gael unrhyw fudd-daliadau neu grantiau.

Sut mae Taliad Tanwydd y Gaeaf yn gweithio?

Mae'r swm a gewch yn dibynnu ar eich oedran a phwy sy'n byw yn eich cartref.

Os ydych wedi cael y taliad o'r blaen, dylech ei gael eto heb orfod hawlio, os ydych yn bodloni'r meini prawf.

Dylech hefyd ei gael yn awtomatig os ydych yn bodloni'r meini prawf oedran a phreswylio, ac yn cael unrhyw un o'r ystod eang o fudd-daliadau'r llywodraeth. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar incwm (ESA)
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar incwm (JSA).

Os ydych yn gymwys, byddwch yn derbyn llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn cadarnhau faint o arian y gallwch ei ddisgwyl. Os gwnaethoch gais am Gredyd Pensiwn yn ddiweddarach ac yn gymwys, byddwch yn cael eich taliad yn nes ymlaen. Os ydych yn byw gyda rhywun, dim ond un ohonoch fydd yn cael y taliad hyd yn oed os yw'r ddau ohonoch yn gymwys.

Bydd y llythyr hefyd yn esbonio sut y gallwch ddiweddaru unrhyw wybodaeth anghywir, fel eich manylion banc.

Tua thair wythnos ar ôl i chi gael y llythyr - i'r rhan fwyaf o bobl bydd hyn ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr - bydd y Taliad Tanwydd Gaeaf yn cael ei dalu i'ch cyfrif banc dewisol.

Y cyfeirnod talu ar eich datganiad banc fydd 'Tanwydd Gaeaf DWP'.

Darganfyddwch fwy am Daliad Tanwydd y Gaeafn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK .

Os oes angen i chi wneud cais, ffoniwch linell gymorth y Taliad Tanwydd Gaeaf ar 0800 731 0160 .

Y Gronfa Argyfwng a Chydnerthedd

Os ydych yn byw yn Lloegr ar incwm isel ac angen help gyda chostau hanfodion, efallai y bydd y Gronfa Argyfwng a Chydnerthedd yn gallu helpu.

Mae angen i chi wneud cais drwy'ch cyngor lleolYn agor mewn ffenestr newydd

Rhoddir cefnogaeth fesul achos a gallai gynnwys:

  • hanfodion sy'n gysylltiedig â chadw'n gynnes ac yn lân, fel cynhyrchion mislif, dillad cynnes, blancedi neu sebon
  • darparu offer, fel oergelloedd, rhewgelloedd, poptai neu gogyddion araf
  • helpu i osod mesurau effeithlonrwydd ynni neu inswleiddio
  • help gyda biliau band eang neu ffôn
  • costau cludiant hanfodol, fel atgyweirio ceir neu dalu am betrol
  • talebau bwyd i deuluoedd yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae cynlluniau ar wahân ar gael os ydych yn byw yng Nghymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon:

Os ydych yn byw yn yr Alban, darganfyddwch fwy am y Scottish Welfare FundYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth yr Alban.

Os ydych yn byw yng Nghymru, darganfyddwch fwy am y Gronfa Cymorth DewisolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am y Social Fund Budgeting LoanYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.

Nol i’r brig

A ydych yn talu gormod o Dreth Cyngor?

Yn ôl MoneySavingExpert, mae canoedd o filoedd o gartrefi yn y band Treth Cyngor anghywir. Felly, mae’n werth sicrhau nad ydych yn gordalu.

Ni ddylai gymryd mwy na deg munud i ddarganfod. Ac efallai gallwch arbed cannoedd o bunnoedd a chael ad-daliad.

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol, efallai byddwch yn gymwys i gael Gostyngiad Treth Cyngor.

Hefyd gwiriwch a ydych yn gymwys am ostyngiad o hyd at 50% o’ch bil Treth Cyngor, os ydych:

  • yn byw ar eich pen eich hun
  • ond yn byw gyda phlant o dan 18 oed, neu 
  • mae gennych amgylchiadau arbennig eraill.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw llawn i Dreth Cyngor.

Nol i’r brig

Tori costau gyrru a thrafnidiaeth gyhoeddus

P'un a ydych yn gyrru neu'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, mae'n debyg bod costau teithio yn cyfrif am lawer o'ch gwariant misol.

Fodd bynnag, mae digon o ffyrdd o dorri costau teithio. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • dod o hyd i yswiriant car rhatach
  • prynu tanwydd rhatach
  • archebu tocynnau trên ymlaen llaw.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Costau prynu a rhedeg car.

Canfyddwr prisiau petrol

Dewch o hyd i'r prisiau petrol a diesel gorau yn eich ardal chi o ddata llywodraeth fyw. 

Nol i’r brig

Talwch eich biliau mewn pryd

Gall ffioedd talu hwyr ddileu arbedion, felly mae'n bwysig sicrhau eich bod yn talu'ch biliau mewn pryd.

Dyma rai awgrymiadau i helpu i aros ar ben eich biliau:

  • talu am filiau rheolaidd yn fisol trwy Debyd Uniongyrchol
  • siarad â'r bobl y mae arnoch arian iddynt os ydych yn cael trafferth.

Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau incwm a chefnogaeth ychwanegol yn ein hadran Help gyda chostau byw.

Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
  • Canllaw i fancio digidol
  • Rheoli eich arian

Cymorth gyda chostau bwyd 

Biliau bwyd yw'r gost fwyaf i lawer o bobl ar ôl talu eu rhent neu forgais.

Mae yna lawer o wefannau a all eich helpu i leihau biliau siopa bwyd. Dyma rai o'r rhai mwyaf poblogaidd:

  • Love food hate waste – arbed arian gydag arferion daYn agor mewn ffenestr newydd

  • Money Saving Expert – awgrymiadau wrth siopa yn yr archfarchnadYn agor mewn ffenestr newydd

  • Too Good To Go – arbed gwastraffu bwyd daYn agor mewn ffenestr newydd

Os na allwch fforddio prynu bwyd, edrychwch ar ein blog am ble i gael bwyd am ddim.

Dewch o hyd i ffyrdd o fynd i'r afael â chostau byw cynyddol, yn ogystal â'r gefnogaeth ychwanegol y gallwch ei hawlio yn ein canllaw Byw ar incwm gwasgedig
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Cyllidebu

Arbed arian ar filiau

  • Sut i arbed arian ar filiau cartref
  • Sut i leihau eich biliau ynni
  • Sut i arbed arian ar filiau dŵr
  • Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol
  • Suti leihau eich bil ffôn cartref a’r rhyngrwyd
  • Sut i dalu am welliannau i’r cartref
  • Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel
  • Help os ydych yn cynhesu eich cartref gan ddefnyddio olew gwresogi neunwy petrolewm hylifedig
  • Cael y gorau o wefannau cymharu
  • Treth Cyngor: beth ydyw, beth yw’r gost a sut i arbed arian
  • Tariffau cymdeithasol i helpu gyda biliau
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Arbed arian ar filiau

  • Sut i arbed arian ar filiau cartref
  • Sut i leihau eich biliau ynni
  • Sut i arbed arian ar filiau dŵr
  • Sut i arbed arian ar eich ffôn symudol
  • Suti leihau eich bil ffôn cartref a’r rhyngrwyd
  • Sut i dalu am welliannau i’r cartref
  • Beth i’w wneud os yw’ch bil ynni’n uchel
  • Help os ydych yn cynhesu eich cartref gan ddefnyddio olew gwresogi neunwy petrolewm hylifedig
  • Cael y gorau o wefannau cymharu
  • Treth Cyngor: beth ydyw, beth yw’r gost a sut i arbed arian
  • Tariffau cymdeithasol i helpu gyda biliau
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012