Gall siopa o gwmpas am gynnig ffôn cartref a band eang gwell arbed cannoedd o bunnoedd i chi ar eich costau ffôn a rhyngrwyd. Darganfyddwch sut i gael y cynigion gorau, gan gynnwys newid darparwyr.
Sut i gynilo ar filiau ffôn cartref a band eang
Gall biliau ffôn cartref a band eang fod yn ddrud, felly rydym wedi casglu ynghyd ychydig o awgrymiadau i helpu i gadw'ch biliau mor isel â phosibl.
Gwiriwch eich costau
Ar ôl cael eich biliau, gwiriwch beth rydych chi'n ei dalu am fand eang, rhentu llinell a galwadau. Edrychwch yn ôl dros ychydig fisoedd. A oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddefnyddio sy'n ychwanegu costau ychwanegol? A oes bargen wedi dod i ben? Ydych chi'n aml yn talu mwy na'ch ad-daliad? A yw eich cytundeb yn addas i'ch anghenion?
Mae bob amser yn werth cysylltu â'ch darparwr i weld a oes ffyrdd o ostwng eich bil.
Gwybod beth rydych chi'n ei ddefnyddio
Efallai y byddwch yn gallu gostwng eich costau band eang drwy gyfateb i'r hyn rydych yn ei dalu gyda'r hyn sydd ei angen arnoch. Meddyliwch am eich teulu. Faint o ddyfeisiau sy'n cystadlu am gysylltiad? Os oes consol gemau, sawl ffôn clyfar, gliniadur, llechi a theledu ‘catch-up’ i gyd yn rhedeg ar yr un pryd, bydd angen pecyn arnoch a all ymdopi.
Does dim pwynt mynd am fand eang rhad os ydych chi'n mynd i gael cyflymder araf pan fyddwch chi'n defnyddio gormod. Cadwch lygad am y gair 'diderfyn' – os oes gwir angen rhyngrwyd cyflym arnoch, efallai mai band eang ffibr optig yw'r dewis gorau.
A pheidiwch â thalu mwy am ddefnydd diderfyn a chysylltiad cyflym iawn os mai dim ond gwirio negeseuon e-bost a phori ambell gwefan. Mae gan Which? mwy o wybodaeth am gael y cyflymder iawn i chiYn agor mewn ffenestr newydd
Dechreuwch fargeinio
Gall bod yn rhwystredig gweld y bargeinion gorau a gynigir i gwsmeriaid newydd, pan fyddwch chi wedi bod yn talu pris llawn ers blynyddoedd. Ond gall hyd yn oed cwsmeriaid presennol ofyn am fargeinion gwell.
Darganfyddwch beth sy'n cael ei gynnig yn rhywle arall a ffoniwch eich darparwr. Dewiswch yr opsiynau am 'feddwl am adael' ac ewch drwodd i'r tîm cadw neu ddatgysylltu. Dywedwch wrthynt eich bod yn ystyried newid i fargen rhatach gyda darparwr gwahanol. Gweld a allant gynnig bargen well os ydych yn aros – band eang gostyngedig, rhentu llinell rhatach, cyflymder cyflymach, lwfansau diderfyn, cynlluniau galwadau ychwanegol neu uwchraddio llwybrydd.
Mae gan Which? fwy o awgrymiadau ar sut i fargeinioYn agor mewn ffenestr newydd
Pryd i gael rhentu llinell a band eang gyda'i gilydd
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen ffôn cartref arnoch i gael band eang.
Ystyriwch gostau eich ffôn cartref wrth edrych ar brisiau band eang, gan fod llawer o fargeinion sy'n ymddangos yn rhad yn golygu bod yn rhaid i chi gymryd rhent llinell drud.
Cadw biliau ffôn yn isel
Wrth ddefnyddio'ch ffôn cartref, ceisiwch osgoi amseroedd ffonio drud. Gwiriwch pryd mae'ch cyflenwr yn codi'r ffi fwyaf am alwadau a cheisiwch osgoi'r amseroedd hyn.
Neu efallai y gallech ddefnyddio wifi i wneud galwadau, fel WhatsApp, yn hytrach na defnyddio'ch ffôn cartref.
Os oes gennych ffôn 5GYn agor mewn ffenestr newydd a chysylltiad gartref, gallech ddefnyddio'ch ffôn fel poethfan i osgoi bod angen cytundeb band eang.
Cyn i chi newid darparwr band eang
Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i ddod o hyd i'r fargen orau i chi.
Byddwch yn wyliadwrus o gyflymder 'hyd at'
Mae darparwyr band eang yn hysbysebu cysylltiadau cyflym, ond byddwch yn wyliadwrus o'r term 'hyd at', oherwydd gallai olygu na chewch y cyflymderau uchaf sy'n cael eu hysbysebu.
Gofynnwch i ddarparwyr potensial beth fyddai eich 'cyflymder gwarant sylfaenol wedi'i bersonoli'. Ar ôl cofrestru, os bydd eich cyflymder yn gostwng o dan yr isafswm hwn am dri diwrnod yn olynol, gallwch ofyn i'ch darparwr wirio am nam a'i drwsio. Os na fydd hyn wedi'i ddatrys o fewn 30 diwrnod, dylech allu dod â'r cytundeb i ben heb gosb.
I wirio pa mor gyflym yw'ch cysylltiad presennol, rhowch gynnig ar brawf cyflymder band eang am ddim Yn agor mewn ffenestr newydd Which?
Edrychwch ar yr hyn rydych chi'n ei gael o'i gymharu â'r hyn rydych chi'n talu amdano. Os oes gwahaniaeth mawr, bargeiniwch am bris gwell gan eich darparwr presennol. Os ydych chi'n ystyried newid, gofynnwch i'r darparwr newydd am amcangyfrif realistig o'r cyflymder y byddwch chi'n ei gael mewn gwirionedd.
Meddyliwch am y tymor hir
Gall gwefannau cymharu gynnig dewis dryslyd o opsiynau: cyflymder, defnydd, math o fand eang, hyd cytundeb, cynigion rhagarweiniol, nwyddau am ddim a hyd yn oed talebau siopa.
Canolbwyntiwch ar y cyflymder a'r defnydd rydych chi ei eisiau. Edrychwch y tu hwnt i gynigion tymor byr rhad - yn hytrach, cymharwch gost y flwyddyn gyntaf.
Edrychwch ar beth mae'ch darparwr presennol yn ei gynnig i gwsmeriaid newydd, a beth allwch chi ei gael yn rhywle arall.
Darganfyddwch os gallwch adael am ddim
Peidiwch â newid i rywle arall heb wirio a fyddwch yn wynebu bil mawr. Gall cytundebau redeg am 12, 18 neu hyd yn oed 24 mis. Os byddwch yn gadael yn gynharach, efallai y codir ffioedd canslo arnoch. Gallai'r ffioedd hyn ddileu unrhyw gynilion rhag newid, felly efallai y byddai'n well aros nes bydd eich cytundeb yn dod i ben.
Cytundeb ar ganol? Mae'n werth ffonio'ch darparwr a gofyn a allech ostwng costau gyda phecyn gwahanol.
Mewn rhai amgylchiadau, gallwch adael eich cytundeb yn gynnar heb dalu unrhyw beth. Mae'r rhain yn cynnwys cynydd mewn prisiau a gwasanaeth gwael (cyflymder araf).
Mae gan Which? fwy am ganslo cytundeb o dan y Rheoliadau Cytundeb DefnyddwyrYn agor mewn ffenestr newydd
Newid eich ffôn cartref a'ch band eang – y pethau sylfaenol
A yw eich darparwr rhyngrwyd wedi cynyddu prisiau? Ydych chi'n cael gwasanaeth gwael? Ydych chi wedi gweld cynnig gwell yn rhywle arall? Ni fu erioed yn haws newid eich darparwr ffôn cartref a band eang. A gallech arbed cannoedd o bunnoedd i chi'ch hun ar eich biliau. Dyma rai awgrymiadau:
- Defnyddiwch fwy nag un wefan gymharu. Nid ydynt i gyd yn dangos yr un cynigion a darparwyr, felly po fwyaf y byddwch yn gwirio, y mwyaf tebygol yr ydych o ddod o hyd i fargen rhatach. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ar Sut i ddod o hyd i’r cynigion gorau ar wefannau cymharu prisiau.
- Edrychwch ar y costau misol a blynyddol. Gwybod beth rydych chi'n ei brynu, er mwyn osgoi unrhyw bethau annisgwyl pan fydd eich bil yn cyrraedd.
- Gwyliwch allan am gynhyrchion hyrwyddedig. Mae llawer o safleoedd cymharu yn cymryd comisiwn pan fyddwch chi'n newid drosodd. Mae hynny'n golygu y gallent geisio eich gwneud i chi ddewis un cynnyrch dros un arall, hyd yn oed os nad dyna'r fargen orau.
- Darganfyddwch pa ddarparwr sydd orau. Ofcom sydd â'r sgoriau bodlonrwydd cwsmeriaid diweddaraf ar gyfer y darparwyr mawrYn agor mewn ffenestr newydd
Y ddwy ffordd o newid bandeang
Mae dwy ffordd o newid band eang - 'arweiniad y darparwr newydd' a 'stopio ac ail-gyflenwi'.
Mae'r un a ddewiswch yn dibynnu ar ba ddarparwr rydych chi'n newid iddo ac oddi wrtho;
- Os ydych yn symud rhwng darparwyr band eang sy'n defnyddio rhwydwaith Openreach BT (fel BT, EE, Sky a TalkTalk), byddwch yn defnyddio'r system 'arweiniad y darparwr newydd'.
- Os ydych chi'n newid i ddarparwr cebl neu oddi wrtho, fel Virgin Media, bydd angen i chi ddilyn y broses 'stopio ac ail-gyflenwi'.
Dyma beth mae'r termau technegol hyn yn ei olygu:
Arweiniad y darparwr newydd
Dyma pryd rydych chi'n dweud wrth eich darparwr band eang newydd eich bod chi'n gadael eich hen gyflenwr. Gallwch wneud cais i gael eich band eang newydd drwy wefan gymharu, ar wefan y cwmni neu dros y ffôn.
Dywedwch wrthynt pwy yw eich hen gyflenwr. Bydd eich un newydd yn gwneud y gwaith ac yn rhoi gwybod i chi pan fydd eich rhyngrwyd yn cael ei symud drosodd.
Mae'r rhan fwyaf o'r cytundebau yn para rhwng 12 a 24 mis. Pan fyddant wedi'u gorffen, mae'r rhan fwyaf o ddarparwyr yn gadael i chi ganslo am ddim, gyda 30 diwrnod o rybudd.
Bydd y darparwr rydych yn ei adael yn dweud wrthych a fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd canslo cynnar. A byddant yn rhoi syniad i chi o beth fydd y tâl.
Os penderfynwch nad ydych am newid, gallwch ganslo trwy gysylltu â'r darparwr newydd.
Stopio ac ail-gyflenwi
Mae hyn yn golygu bod angen i chi ganslo gyda'ch hen ddarparwr, yn ogystal â siarad â'ch cwmni band eang newydd i gysylltu eto.
Byddwch yn ymwybodol efallai y codir tâl am ganslo'ch cytundeb. Ni fyddwch yn cael gwybod yn awtomatig am ffioedd gadael yn gynnar, felly bydd angen i chi wirio'r rheini gyda'ch darparwr presennol.
Peidiwch â phoeni os nad ydych yn siŵr pa un sydd orau i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â'r darparwr yr ydych am newid iddo, byddant yn gallu dweud wrthych pa broses y mae angen i chi ei dilyn.
Camau i newid
Dyma'r camau y bydd angen i chi eu cymryd i newid eich band eang gan ddefnyddio'r naill system neu'r llall.
Cam 1. Gwiriwch eich contract
Cysylltwch â'ch cyflenwr band eang i wirio a ydych y tu allan i'ch isafswm cyfnod contract – neu efallai y byddwch yn atebol am ffioedd gadael yn gynnar.
Efallai y byddant yn awyddus i'ch cadw ac felly efallai y byddwch yn gallu bargeinio am gynnig rhatach. Gallwch wirio ar yr un pryd sut mae eu proses ganslo yn gweithio.
Cam 2. Dewch o hyd i’ch cyflenwr band eang newydd
Gallwch wneud hyn drwy roi eich cod post ar wefan cymharu prisiau.
Mae teclyn cymharu MoneySavingExpert (MSE)Yn agor mewn ffenestr newydd yn lle da i ddechrau, a gallwch hefyd edrych ar y rhestr o wefannau cynharu a gymeradwywyd gan OfcomYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych eisoes yn talu am sianeli teledu premiwm neu os hoffech eu cael, mae gan y teclyn MSE yr opsiwn i chi dicio blwch i'w hychwanegu at eich dyfynbris fel bwndel.
Cymharwch y gwahanol becynnau a dewis yr un sydd orau i chi. Cofiwch beidio ag edrych ar y pris yn unig. Cydweddwch y cynnig â'ch anghenion, a gwiriwch a yw rhent llinell wedi'i gynnwys.
Cam 3. Dechreuwch y broses newid
Dechreuwch drwy gysylltu â'ch darparwr newydd. Dylai fod yn gallu dweud wrthych pa broses y byddwch yn ei dilyn ac a fydd angen i chi gysylltu â'ch hen ddarparwr i ganslo.
Newid eich meddwl
Os byddwch yn newid eich meddwl, waeth sut mae angen i chi newid, mae gennych 14 diwrnod i ganslo'r newid cyn i'ch cytundeb newydd ddechrau.
Beth i’w wneud os ydych chi’n cael trafferth talu’ch bil ffôn cartref neu fand eang
Os oes angen help arnoch, cysylltwch â'ch darparwr cyn gynted â phosibl ac esboniwch eich sefyllfa. Efallai y byddant yn gallu eich helpu. Mae rhai darparwyr hefyd yn cynnig cynlluniau cost isel i'ch helpu i wneud galwadau symudol a mynd ar-lein os ydych yn cael rhai budd-daliadau, yn cael ei gydnabod fel tariffau cymdeithasol.