Beth i’w wneud os na allwch fforddio bwyd

Cyhoeddwyd ar:

Mae costau byw yn cynyddu, a bwyd yw un o’n costau mwyaf hanfodol. Os na allwch fforddio nwyddau groser dyma rhai ffyrdd i gael cynhwysion am ddim a hyd yn oed prydau bwyd am ddim.

Sut alla i gael bwyd heb arian?

Os oes angen i chi ddefnyddio banc bwyd gallwch gael atgyfeiriad o ffynonellau swyddogol fel ysgol eich plentyn, meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu eich Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd lleol.

Gallwch ddarganfod ble mae’ch banc bwyd agosaf ar wefan Trussell TrustYn agor mewn ffenestr newydd

Gall eich cyngor lleol hefyd eich rhoi mewn cysylltiad ag elusennau a sefydliadauYn agor mewn ffenestr newydd a all roi atgyfeiriad i chi at fanc bwyd. Efallai y gall y cyngor gynnig talebau i’ch helpu i dalu costau heb ymweld â banc bwyd, felly mae’n werth gofyn beth sydd ar gael.

Os na allwch gael atgyfeiriad, efallai gallwch ymweld â banc bwyd o hyd. Gwiriwch y map ar Independent Food Aid NetworkYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i fanylion cyswllt elusennau lleol a banciau bwyd sy’n agos atoch.

Beth fyddaf yn ei gael gan fanc bwyd?

Bydd banciau bwyd yn cynnig parsel bwyd i chi y bydd angen i chi ei gasglu o’r cyfeiriad a roddwyd i chi pan gawsoch eich atgyfeirio. Os nad ydych yn gallu mynd i fanc bwyd oherwydd eich bod yn byw yn wledig, efallai y byddant yn cynnig ei ddanfon atoch.

Fel arfer mae angen atgyfeiriad i ddefnyddio banc bwyd, a bydd rhai banciau bwyd ond yn eich galluogi i eich atgyfeirio unwaith, felly nid oes modd dibynnu arno fel datrysiad hirdymor.

Os na allwch dalu costau o ddydd-i-ddydd, fel bwyd, dylech wirio eich bod yn hawlio’r help ariannol y mae gennych hawl iddo.

Sut i gaelbwyd am ddim o’r archfarchnad

Os ydych yn feichiog neu’n gofalu am o leiaf un plentyn o dan 4 oed, efallai gallwch ymuno â’r cynllun Cychwyn IachYn agor mewn ffenestr newydd Mae hwn yn gerdyn sydd wedi’i lwytho gyda chredyd i’w ddefnyddio mewn archfarchnadoedd am fformiwla, llaeth neu fwydydd iachus fel ffrwythau a llysiau. Maent yn ychwanegu credyd i’r cerdyn bob pedwar wythnos os byddwch yn gymwys.

Yn yr Alban, mae cynllun tebyg o’r enw Best Start FoodsYn agor mewn ffenestr newydd ar gyfer plant o dan 3 oed. 

Mae’r llywodraeth wedi rhoi cyllid i gynghorau lleol i ddarparu bwyd ar gyfer plant sy’n cael prydau bwyd ysgol am ddim yn ystod y gwyliau haf, Pasg a Nadolig. Os nad yw’ch cyngor wedi cysylltu â chi am hwn, defnyddiwch y lleolwr cyngorYn agor mewn ffenestr newydd i ddod o hyd i’w manylion cyswllt i ofyn am fwy o wybodaeth.

Llefydd eraill sy’n cynnig bwyd a phrydau bwyd rhad neu am ddim

Er nad yw pob un o’r llefydd yma yn darparu bwyd am ddim, maent lawer mwy fforddiadwy nag archfarchnad nodweddiadol a gall eich helpu i fwydo teulu heb fawr ddim o arian.

Mae Foodcycle yn cynnig prydau bwyd poeth i bobl sydd eu hangen yn wythnosol. Y cyfan mae’n rhaid i chi ei wneud yw troi i fyny, nid oes angen archebu na chael eich atgyfeirio. Gallwch ddod o hyd i fanylion o ble a phryd y gallwch gael pryd bwyd am ddim yn eich ardal leol ar FoodcycleYn agor mewn ffenestr newydd

Mae oergelloedd cymunedol yn llefydd gallwch fynd i gasglu gweddillion bwyd sydd wedi’i roi gan fusnesau lleol. Mae cannoedd o oergelloedd cymunedol ar draws y wlad, gallwch ddarganfod ble mae’r un agosaf atoch a phryd y mae ar agor ar HubbubYn agor mewn ffenestr newydd

Er nad yw 100% am ddim, ar ôl talu ffi aelodaeth o £5 y flwyddyn gallwch ymweld â Community Grocer hyd at dair gwaith yr wythnos am fwyd am ddim. Nid oes angen i chi gael eich atgyfeirio i ymuno. Maent hefyd yn cynnig gwasanaethau eraill fel gwersi coginio iach a sgiliau bywyd. Gallwch ddarganfod mwy a dod o hyd i’r un agosaf ar Community GroceryYn agor mewn ffenestr newydd

Mae pantris yn debyg i’r cynllun Community Grocer, ond am gwpl o bunnoedd yr wythnos gallwch lenwi’ch basged gyda bwyd gwerth cryn dipyn yn fwy. Nid oes angen i chi gael eich atgyfeirio i ymuno, gallwch wneud cais trwy ymweld â Your Local PantryYn agor mewn ffenestr newydd neu fynd i’ch pantri lleol mewn person. 

Mae gan Feeding Britain rhestr o glybiau bwyd fforddiadwyYn agor mewn ffenestr newydd a chynlluniau cymuned eraill os na allwch fforddio prynu bwyd. Gallwch ddod o hyd i fap ar ei wefan. 

Apiau sy’ncynnig bwyd am ddim

Mae Olio yn ap am ddim lle gall pobl a busnesau rhoi bwyd diangen i ffwrdd. Ar ôl lawrlwytho’r apYn agor mewn ffenestr newydd a dewis eich ardal leol gallwch weld beth sy’n cael ei gynnig yn agos atoch. Bydd angen casglu unrhyw fwyd am ddim rydych yn ei hawlio, ond nid oes angen atgyfeiriad, a does dim cwestiynau i’w hateb. Fel arfer mae’n gweithio ar sail y cyntaf i’r felin, felly efallai y byddwch am droi hysbysiadau ymlaen am yr ap.

Efallai ceir hefyd grwpiau Facebook ‘Gweithredoedd caredigrwydd ar hap’ neu ‘Prynu dim’ yn eich ardal leol lle gall pobl rhoi bwyd dros ben ac unrhyw eitemau cartref eraill i ffwrdd am ddim. 

Beth yw’r prydbwyd rhataf i’w wneud?

Os oes gennych gyllideb gyfyngedig iawn i brynu bwyd, mae’n syniad da i ganolbwyntio ar fwydydd sy’n llenwi bol fel pasta a reis, yn ogystal â bwydydd tun na fydd yn pydru’n gyflym. Cymerwch olwg o’n canllaw i fwyta'n iach ar gyllideb

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.