Ydych chi'n cynilo i brynu eich cartref cyntaf? Llongyfarchiadau.
Dyma sut mae cael morgais yn gweithio mewn gwirionedd.
Yn gyntaf, cyfrifwch faint allwch chi fforddio. Yn ffodus, mae gan HelpwrArian gyfrifiannell ar gyfer hynny. Chwiliwch am 'Cyfrifiannell Fforddiadwyedd Morgais'.
Nesaf, gallwch ddechrau edrych ar y gwahanol fathau o forgeisi.
Mae digonedd o opsiynau i’w dewis, felly mae’n ddefnyddiol darllen ychydig er mwyn deall beth allai weithio orau i chi.
Unwaith y bydd gennych y blaendal yn barod, mae’n amser edrych ar gael morgais mewn egwyddor.
Mae'r ddogfen hon yn dweud wrthych faint mae'r banc yn fodlon ei fenthyg i chi.
Gallwch wneud hyn gan ddefnyddio brocer morgais neu wneud cais yn uniongyrchol i fenthycwyr unigol. Yna mae i fyny i chi.
Yna, mae’n amser dechrau siopa am dŷ!
Pan fyddwch wedi dewis eiddo i’w brynu ac mae’ch cynnig wedi’i dderbyn, mae angen i chi droi’r morgais mewn egwyddor yn gais am forgais.
Bydd eich benthyciwr yn gofyn am dystiolaeth o’ch blaendal, yn ogystal â dogfennau fel cyfriflenni banc a slipiau cyflog, cyn iddynt gymeradwyo'ch cynnig morgais
Os ydych chi'n hunangyflogedig, byddant hefyd eisiau cyfrifon gan eich busnes.
Ewch i MoneyHelper.org.uk/cais-am-forgais am ragor o wybodaeth, a dolenni i'n teclynnau a'n cyfrifianellau.