Sut bydd cyfraddau llog yn effeithio ar fy morgais?

Cyhoeddwyd ar:

Wedi’i ddiweddaru diwethaf:

Mae costau byw cynyddol yn pryderu’r rhan fwyaf ohonom, a nid yw’n wahanol i berchnogion tai, gyda chyfraddau llog ar eu lefel uchaf ers dros ddegawd. Cynyddodd Banc Lloegr y gyfradd sylfaenol er mwyn mynd i'r afael â chwyddiant cynyddol, sy'n golygu y byddwch yn debygol o weld cynnydd yn eich taliadau morgais misol os nad oes gennych gyfradd sefydlog neu'n dod i ddiwedd un.

Beth yw cyfradd llog morgais?

Y gyfradd sylfaenol bresennol a osodwyd gan Fanc LloegrYn agor mewn ffenestr newydd yw 5.25%, cynnydd o’r gyfradd o 5% ym mis Mehefin 2023.

Cytunir ar gyfraddau morgais gyda’ch benthyciwr ac maent fel arfer yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr. Ar hyn o bryd, mae’r morgeisi newydd rhataf yn cynnig cyfraddau sefydlog o tua 5%, dros gyfnod o ddeng mlynedd.

Sut bydd y cynydd yn y gyfradd llog yn effeithio arnaf?

Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd â morgais yn cael eu heffeithio gan y cynnydd mewn cyfraddau llog mewn rhyw ffordd. Bydd faint yn fwy y bydd angen i chi ei dalu yn dibynnu ar y math o forgais sydd gennych, ymhlith ystod o ffactorau eraill.

Morgeisi Cyfradd Amrywiol Safonol (SVR)

Gosodir Cyfradd Amrywiol Safonol gan y benthycwr morgais ac fel arfer mae'n dilyn symudiadau cyfradd sylfaen Banc Lloegr.

Er efallai na fydd cyfraddau'n cynyddu cymaint â morgeisi cyfradd tracio, bydd benthycwyr yn debygol o drosglwyddo'r cynnydd yn y gyfradd llog i'w cwsmeriaid. Mae hyn yn golygu y gallai eich taliadau gynyddu cyn gynted â'ch taliad nesaf.

Dylai eich benthycwr morgais anfon llythyr atoch yn esbonio'r gyfradd newydd a'r hyn y gallwch ddisgwyl ei dalu. Os oes gennych forgais SVR ac nad ydych wedi clywed gan eich benthycwr, cysylltwch â nhw cyn gynted â phosibl.

Fel arfer nid oes cosbau am adael morgais SVR, felly gallai fod yn rhatach i newid i fargen wahanol.

Morgeisi cyfradd tracio

Mae morgeisi cyfraddau tracio yn symud mewn cysylltiad â chyfradd arall - fel arfer cyfradd sylfaenol Banc Lloegr, ynghyd ag ychydig o ganrannau.

Ers i'r gyfradd sylfaenol gynyddu 0.25%, bydd eich cost fisol yn cynyddu'r un swm.

Mae cyfraddau tracio fel arfer yn para rhwng dwy i bum mlynedd cyn dychwelyd i SVR, felly gallech geisio newid i gyfradd sefydlog os ydych ar ddiwedd eich tymor. Fodd bynnag, mae rhai cyfraddau tracio yn para am fywyd eich morgais.

Morgeisi cyfradd sefydlog

Nid yw morgais cyfradd sefydlog yn newid pan fydd cyfraddau llog yn newid, sy'n gallu helpu pan fydd yr economi mewn cynnwrf. Os ydych ar forgais cyfradd sefydlog, ni ddylai eich taliadau newid am y tro.

Fodd bynnag, os ydych chi'n dod at ddiwedd eich tymor cyfradd sefydlog, gallwch siarad ag ymgynghorydd morgais am ail-forgeisio cyn i'r cyfraddau gynyddu eto. Mae'n werth ei wneud cyn gynted â phosibl.

Os nad ydych yn ailforgeisio, bydd eich cyfradd yn newid yn awtomatig i SVR, a fydd yn cynyddu (neu'n gostwng) gyda chyfraddau llog.

Morgeisi cyfradd gostyngol

Mae cyfraddau gostyngol yn cael eu gosod ychydig yn is na SVR, ond dim ond am amser penodol. Mae cyfraddau gostyngol yn cynyddu pan fydd cyfraddau SVR a chyfradd Banc Lloegr yn cynyddu, felly byddwch yn talu mwy bob mis.

Mae cyfraddau morgeisi cynyddol yn gallu bod yn straen mawr, yn enwedig tra bod prisiau ynni a chostau byw hefyd yn cynyddu. Os ydych yn poeni, dan straen neu'n ei chael hi'n anodd ymdopi, mae ein canllaw Problemau Arian a lles meddyliol yn dangos i chi ble i gael help.

Pam bod cyfraddau morgeisi yn cynyddu?

Banc Lloegr sy'n gosod y gyfradd llog meincnod. Mae hefyd yn cael ei henwi’r 'gyfradd sylfaenol' neu'r 'Gyfradd Banc'. Er roedd y gyfradd sylfaenol yn isel ers dros ddegawd, ansicrwydd economaidd a achosodd i Fanc Lloegr ei chynyddu. Mae cynyddu cyfraddau llog yn un ffordd o geisio rheoli chwyddiant.

Mae newidiadau yn y gyfradd llog yn effeithio nid yn unig ar forgeisi, ond hefyd cardiau credyd, benthyciadau a faint y gallwch ei ennill ar gynilion. Mae'n annhebygol y byddwch yn gweld effaith yn syth ar y cynhyrchion eraill hyn, fodd bynnag.

Mae cyfraddau llog wedi bod yn isel ers 2009 mewn ymateb i'r argyfwng ariannol. Gwnaethant aros yn isel, gan gyrraedd eu pwynt isaf, 0.1% rhwng mis Mawrth 2020 a mis Rhagfyr 2021Yn agor mewn ffenestr newydd fel rhan o ymdrech i helpu'r economi yn ystod y pandemig coronafeirws.

Beth fydd cyfraddau llog erbyn diwedd 2023 a 2024?

Mae’r gyfradd sylfaenol wedi cynyddu bum gwaith yn 2023Yn agor mewn ffenestr newydd ac mae arbenigwyr yn rhybuddio y bydd cyfraddau llog yn parhau’n uchel am o leiaf y ddwy flynedd nesaf. Ond mae'n amhosib gwybod yn bendant beth sy'n mynd i ddigwydd.

Os ydych chi'n cael trafferth talu eich morgais

Os yw'r cyfraddau llog uwch wedi gwneud eich taliadau morgais yn anfforddiadwy, mae'n bwysig gofyn am help cyn gynted â phosibl.

Darganfyddwch beth allwch chi ei wneud gyda'n canllaw ar Ôl-ddyledion morgais neu broblemau gyda thalu'ch morgais.

Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.