Wedi cael eich gwrthod am forgais?
Pediwich â phanicio! Mae gennym ganllaw ar Pam fod ceisiadau am forgais yn cael eu gwrthod a beth i’w wneud nesaf
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
21 Rhagfyr 2022
Os ydych yn meddwl am brynu eich cartref cyntaf, yn symud tŷ neu eisiau ail-forgeisi, efallai byddwch yn poeni am beth sy’n digwydd os oes gennych statws credyd gwael. Darganfyddwch beth yw eich opsiynau a’r camau gallwch gymryd i wella’ch sgôr credyd.
Pan mae pobl yn dweud bod ganddynt gredyd gwael maent fel arfer yn meddwl bod sgôr credyd isel ganddynt, neu farcwyr yn eu hadroddiad credyd a fydd yn ei wneud yn anoddach neu’n fwy drud iddynt gael benthyciad, cerdyn credyd neu forgais. Gall y ffactorau a all ychwanegu at statws credyd gwael fod yn daliadau hwyr neu goll, Dyfarniad Llys Sirol (CCJs) neu lawer o geisiadau am gredyd dros gyfnod byr. Gall eich sgôr credyd hefyd fod yn isel os nad ydych wedi cymryd credyd o’r blaen.
Pan mae banciau a benthycwyr morgais yn penderfynu cynnig morgais neu beidio, maent yn ystyried nifer o wahanol ffactorau. Gallwch gael eich gwrthod os nad yw’ch statws credyd yn ddigon da. Os oes taliadau hwyr neu goll diweddar ar eich adroddiad credyd, mae’n faner goch i fenthycwyr. Fodd bynnag, bydd effaith marcwyr taliadau hwyr neu goll yn lleihau po hynaf ydyn nhw , a byddant yn cael eu dileu o’ch adroddiad ar ôl 6 blynedd. Efallai bydd rhai benthycwyr yn fodlon derbyn rhywun gyda thaliadau coll o sawl blwyddyn yn ôl, felly efallai byddwch yn meddwl ei fod yn werth aros ychydig yn hirach i brynu.
Dylech wirio’ch adroddiad credyd i sicrhau nad oes unrhyw wallau cyn i chi ddechrau meddwl am geisio am forgais. Edrychwch ar eich adroddiad llawn, nid y sgôr yn unig, a gwnewch gais am gywiriad os ydych yn gweld rhywbeth ar eich adroddiad sy’n anghywir. Bydd nifer o asiantaethau gwirio credyd hefyd yn cynnig awgrymiadau i’ch helpu i wella sgôr credyd gwael.
Mae’n wir bydd cael sgôr credyd gwell fel arfer yn ei wneud yn haws i gael morgais, ond yr ateb i’r cwestiwn yma yw bod gan bob benthyciwr rhestr o anghenion ei hun am y morgeisi maent yn ei gynnig. Maent yn ystyried nifer o ffactorau, gan gynnwys eich oedran, eich incwm, yr eiddo a’r blaendal sydd ar gael gennych. Byddent hefyd yn edrych ar fforddiadwyedd ac os ydych mewn sefyllfa dda i gadw lan gyda thaliadau. Nid oes isafswm sgôr credyd dylech anelu am.
Os ydych yn poeni am eich credyd yn effeithio ar eich gallu i gael morgais, gall ddefnyddio brocer morgais a all gael mynediad at y farchnad lawn yn help mawr. Mae gan fenthycwyr meini prawf benthyg gwahanol am eu morgeisi, a gall brocer nodi’r rhai sy’n fwy tebygol o’ch derbyn.
Gallwch niweidio’ch sgôr credyd os ydy benthycwyr yn gwneud chwiliadau caled ar eich adroddiad credyd, felly mae’n well i osgoi gwneud sawl cais a dim ond gwneud cais i fenthycwyr lle mae gennych gyfle da o gael cytundeb morgais mewn egwyddor. Mae’n ddoeth i ddewis brocer credyd sydd ond yn codi tâl ar ôl cwblhau eich cais am forgais yn llwyddiannus.
Os ydych yn gwneud cais am forgais gyda rhywun arall, gall eich credyd gwael effeithio arnyn nhw, neu gall eu credyd gwael effeithio arnoch chi. Gall unrhyw gyfrifon, benthyciadau neu gardiau credyd ar y cyd a rhennir gyda pherson sydd â chredyd gwael hefyd effeithio ar eich sgôr credyd felly mae’n werth gwirio adran ‘cysylltiadau’ eich adroddiad credyd.
Gall gael morgais ar y cyd pan mae credyd gwael gan un ohonoch feddwl y byddwch yn cael cynnig morgais â chyfradd llog uwch na’r hysbysiad, cael eich gofyn am flaendal uwch neu hyd yn oed yn cael eich gwrthod.
Bydd benthycwyr eisiau ystyried eich sefyllfa ariannol fel cwpl, yn enwedig os ydych yn briod, felly cyn belled nad oes gennych chi neu’ch partner unrhyw drafferthion credyd diweddar, dylai fod gennych gyfle da i ddod o hyd i fenthyciwr sy’n fodlon rhoi morgais i chi. Dyma le gall geisio am gyngor proffesiynol gan frocer credyd profiadol bod yn ddefnyddiol.
Pan rydych yn prynu tŷ neu fflat rhanberchenogaeth, mae’ch taliad misol yn cael eu rhannu rhwng eich morgais â’r rhent rydych yn talu i’r asiantaeth tai sy’n berchen ar ran arall eich eiddo. Gan eich bod yn gwneud cais am forgais llai sydd dim ond 25-75% o’r pris gwerthu, efallai byddwch yn ffeindio bod benthycwyr yn fwy bodlon eich derbyn. Nid yw hwn yn wir bob tro, a gall eich ymrwymiadau credyd presennol feddwl bod eiddo rhanberchenogaeth dal yn anfforddiadwy.
Os ydych yn cael eich derbyn, pan mae’ch credyd yn gwella, gallwch ail-forgeisi am gyfran uwch neu werth llawn yr eiddo. Gelwir hyn yn ‘gynyddu cyfran eich perchentyaeth’.
Pan rydych yn cynilo am eich blaendal am forgais neu’n paratoi i ail-forgeisi, mae camau gallwch gymryd i gynyddu’ch sgôr credyd. Pan rydych yn gwneud newidiadau cadarnhaol, gall gymryd chwe mis iddynt ymddangos ar eich adroddiad credyd, felly’r gorau po gyntaf y byddwch yn gweithredu.
Os ydych yn talu rhent, nid yw hwn fel arfer yn ymddangos ar eich adroddiad credyd. Fodd bynnag, os ydych yn talu ar amser pob mis, gallwch ofyn eich landlord i dracio’ch taliadau a’u hychwanegu at yr Experian Rental ExchangeYn agor mewn ffenestr newydd a all gwella eich sgôr Experian. Os ydych yn methu taliadau neu’n hwyr yn talu, gall gael effaith negyddol ar eich sgôr credyd.
Mae’n bwysig codio nid eich sgôr neu adroddiad credyd yw’r unig ffactorau bydd eich benthyciwr yn edrych ar pan maent yn gwirio os ydych yn gymwys am forgais. Defnyddiwch ein cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais i weld pa faint morgais gallwch gael.
Ni fydd benthycwyr yn edrych ar eich cyflog yn unig, byddent hefyd yn talu sylw i’ch alldaliadau misol. Fel arfer byddent yn gofyn am dri neu bedwar mis o ddatganiadau banc fel y gallent wirio y byddwch yn fforddio’ch taliadau morgais.
Cyn i chi ddechrau ceisio am forgeisi, mae’n syniad da i glirio’ch dyledion, torri’n ôl ar wario a cheisio osgoi agor sianeli credyd newydd neu ddefnyddio’ch gorddrafft fel y gall eich benthyciwr morgais gweld eich bod yn gyfrifol gydag arian. Yn yr hirdymor, gall hwn hefyd eich helpu i adeiladu eich sgôr credyd.