Gwnewch yn siŵr nad ydych yn talu mwy o dreth nag sydd angen trwy wneud y mwyaf o gynilion a buddsoddiadau di-dreth i chi a'ch plant neu'ch wyrion.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
- Sut mae ISAs yn gweithio
- ISAs i Bobl Iau
- Y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
- Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
- Cynilion pensiwn
- Pensiynau plant
- Llog di-dreth ar gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
- Eich eithriadau Treth Enillion Cyfalaf (CGT)
- A oes angen cyngor treth arnoch?
- Teclynnau defnyddiol
Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Mae ISAs yn gyfrifon cynilo a buddsoddi treth-effeithlon.
Gallwch eu defnyddio i gynilo arian parod – ISAs Arian parod – neu fuddsoddi mewn stociau a chyfranddaliadau – ISAs stociau a chyfranddaliadau.
Mae ISA yn ‘clawr’ sy'n gwarchod eich buddsoddiadau neu gynilion rhag treth - gan helpu'ch arian i dyfu'n gyflymach. Mae'r llywodraeth yn pennu uchafswm y gallwch ei fuddsoddi mewn ISAs bob blwyddyn. Ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25, y terfyn hwn yw £20,000.
Nid ydych yn talu Treth Incwm ar y llog na'r difidendau o fewn ISA ac mae unrhyw elw o fuddsoddiadau yn rhydd o Dreth ar Enillion Cyfalaf.
Sut mae ISAs yn gweithio
Gallwch agor a thalu i gynifer o ISAs ag y dymunwch, ar wahân i'r ISA Gydol Oes ac Iau, hyd at y terfyn cyfraniadau ISA cyffredinol cyfredol o £20,000 ym mlwyddyn dreth 2024/25. Ar gyfer yr ISA Gydol Oes, mae'r terfyn cyfraniad blynyddol yn parhau i fod yn £4,000.
Mae'n syniad da chwilio am fargeinion gwell ar gyfer eich cynilion ISA a'ch buddsoddiadau drwy gydol y flwyddyn. Nid oes rhaid i chi drosglwyddo'r holl arian o un ISA i ddarparwr arall. Gallwch drosglwyddo rhywfaint o'ch arian yn unig, gan gadw'ch un gwreiddiol ar agor, yn union fel unrhyw gyfrif cynilo. Y terfyn cyfraniad yw'r cyfanswm ar draws eich holl ISAs yn y flwyddyn dreth, sy'n rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill.
Rheolau ISA newydd 2024
Cyn Ebrill 2024, gallwch ddim ond agor a thalu i mewn i un ISA Stociau a Chyfranddaliadau neu un ISA Arian Parod. Gallwch nawr drosglwyddo o un ISA i'r llall i fanteisio ar fargeinion gwell. Ond nid yw pob darparwr yn derbyn trosglwyddiadau i mewn, felly bydd angen i chi siopa o gwmpas a chadw llygad allan am unrhyw ffioedd cudd.
Mae rhai platfformau bellach yn cynnig cynhyrchion lluosog gan fwy nag un darparwr.
Mae'n rhaid i chi fod dros 18 oed ar gyfer pob ISA Arian Parod i oedolion (yr isafswm oedran oedd 16). Gall pobl ifanc 16 ac 17 oed barhau i agor a chynilo i ISA Iau, neu gallant barhau i gynilo i ISA Oedolion os cafodd ei agor cyn Ebrill 2024.
ISA Gydol Oes
Mae'r ISA Gydol Oes yn gyfrif cynilo di-dreth hirdymor a fydd yn caniatáu i chi gynilo hyd at £4,000 y flwyddyn a chael bonws llywodraeth o 25% (hyd at £1,000). Yn yr un modd ag ISAs eraill, ni fyddwch yn talu treth ar unrhyw log, incwm neu enillion cyfalaf o arian parod neu fuddsoddiadau a ddelir o fewn ISA Gydol Oes.
Mae wedi'i gynllunio i brynwyr tro cyntaf rhwng 18 a 40 oed ei ddefnyddio tuag at flaendal ar gyfer eu cartref cyntaf neu tuag at gynilion ymddeol yn y dyfodol ar ôl iddynt gyrraedd 60 oed.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISAs Gydol Oes – sut maent yn gweithio
ISAs Hyblyg
Mae rhai darparwyr ISA yn cynnig cyfleuster hyblyg a fydd yn caniatáu i chi dynnu'n ôl ac amnewid arian o'ch ISA, ar yr amod ei fod yn cael ei wneud o fewn yr un flwyddyn dreth.
Ni fydd pob ISA yn gadael i chi wneud hyn a dylech wirio â'ch darparwr ISA a oes gan eich ISA y swyddogaeth hon.
Ar hyn o bryd nid yw'r hyblygrwydd hwn ar gael ar gyfer ISAs Iau, ISAs Gydol Oes neu'r ISAs Cymorth i Brynu.
Peidiwch ag anghofio bod angen trosglwyddiadau ISA o hyd i symud arian o danysgrifiadau ISA blynyddoedd blaenorol
ISA Cyllid Arloesol
Mae ISA cyllid arloesol (IFISA) yn caniatáu i chi ddefnyddio'ch lwfans ISA di-dreth wrth fuddsoddi mewn benthyca rhwng cymheiriaid (P2P). Maent yn gweithio trwy fenthyca'ch arian i fenthycwyr ac yn gyfnewid rydych yn derbyn llog yn seiliedig ar hyd yr amser a risg eich buddsoddiad
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Benthyca cyfoed i gyfoed: beth sydd angen i chi ei wybod
ISA y DU (ISA 'Prydeinig')
Mae ISA y DU yn fath newydd o ISA buddsoddi, a gyhoeddwyd gan y llywodraeth ym mis Mawrth 2024. Nid yw ar gael ar hyn o bryd ond daeth ymgynghoriad ar sut i'w gyflwyno i ben ym mis Mehefin 2024. Efallai y byddai’n:
- gadael i chi fuddsoddi £5,000 ychwanegol y flwyddyn yn ddi-dreth yn asedau'r DU
- caniatáu i chi fuddsoddi – megis mewn stociau a chyfranddaliadau – yn hytrach na chynilionarian parod
- defnyddio unrhyw arian rydych chi'n ei fuddsoddi i dalu am brosiectau twf y DU.
Dod o hyd i'r cyfrif cywir
Mae gwefannau cymharu yn fan cychwyn da i unrhyw un sy'n ceisio dod o hyd i gyfrif cynilo wedi'i deilwra i'w hanghenion.
Nid yw gwefannau cymharu i gyd yn rhoi'r un canlyniadau i chi, felly gallai fod yn syniad da defnyddio mwy nag un safle cyn penderfynu.
Mae hefyd yn bwysig gwneud rhywfaint o ymchwil i'r math o gynnyrch a nodweddion sydd eu hangen arnoch cyn prynu neu newid darparwr.
Mae'r gwefannau canlynol yn lle da i ddechrau wrth chwilio am gyfrif cynilo:
Which?
MoneySavingExpert
Moneyfacts – Cyfraddau ISA gorau
Moneyfacts – Cynilion gyda mynediad hawdd garau
ISAs i Bobl Iau
Mae ISAs i Bobl Iau yn ffordd wych o gynilo treth yn effeithlon i'ch plant.
Gall teulu a ffrindiau roi hyd at £9,000 i'r cyfrif ar ran y plentyn ym mlwyddyn dreth 2024/25.
Nid oes Treth Incwm na Threth Enillion Cyfalaf i'w thalu ar y llog na'r enillion buddsoddi.
Mae ISAs iau ar gael i unrhyw blentyn dan 18 oed sy'n byw yn y DU sydd naill ai heb Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, neu sydd eisiau trosglwyddo eu cyfrif drosodd. Er enghraifft, i gael cyfradd llog well.
I gael mwy o wybodaeth ar sut i ddechrau, darllenwch ein canllaw ISAs i Bobl Iau
Y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant
Mae'r cynllun bellach ar gau ar gyfer ceisiadau newydd.
Ond os cafodd eich plentyn ei eni rhwng 1 Medi 2002 a 2 Ionawr 2011, mae'n debygol eu bod wedi cael Cronfa Ymddiriedolaeth Plant wedi ei agor ar eu cyfer.
Os nad ydych yn gwybod pwy yw’r darparwr gallwch ddod o hyd i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Mae'r rhain yn cynnig cynilion treth-effeithlon a thaliad cychwynnol untro gan y llywodraeth.
Ar hyn o bryd, gall rhieni a ffrindiau gyfrannu hyd at £9,000 bob blwyddyn (blwyddyn dreth 2024/25) i Gronfa Ymddiriedolaeth Plant tra bod y plentyn o dan 18 oed.
Bellach gall rhieni drosglwyddo cynilion o gyfrifon y Gronfa Ymddiriedolaeth Plant i ISAs Iau neu i ISA ‘oedolyn’ pan fydd y cyfrif yn aeddfedu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfrifon Cronfa Ymddiriedolaeth Plant
Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
Mae eich arian yn ddiogel â Chynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) oherwydd bod y llywodraeth yn eu cefnogi.
Mae NS&I yn cynnig ystod o gynhyrchion cynilo, rhai ohonynt yn ddi-dreth. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I)
Bondiau Premiwm
Mae Bondiau Premiwm yn gynnyrch buddsoddi a gyhoeddir gan Gynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I).
Yn wahanol i fuddsoddiadau eraill, lle rydych yn ennill llog neu incwm difidend rheolaidd, rydych yn cael eich cynnwys mewn raffl fisol lle gallwch ennill rhwng £25 a £1 miliwn yn ddi-dreth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Bondiau Premiwm
Cynilion pensiwn
Mae'r llywodraeth yn eich annog i gynilo ar gyfer eich ymddeoliad drwy roi gostyngiad treth i chi ar gyfraniadau pensiwn o fewn terfynau lwfans blynyddol CThEM.
Yn dibynnu ar y math o gynllun pensiwn sydd gennych, mae rhyddhad treth naill ai'n lleihau'ch bil treth neu'n cynyddu'r swm a delir i'ch cynllun.
Pan fydd rhyddhad treth yn cynyddu'r swm a delir i mewn, cewch y rhyddhad hyd yn oed os nad ydych yn drethdalwr.
Ar ben hyn, mae eich cronfa bensiwn yn tyfu yn ddi-dreth.
Pan fyddwch yn ymddeol, fel arfer gallwch gymryd hyd at 25% o'ch cronfa bensiwn fel cyfandaliad di-dreth o dan y rheolau cyfredol.
Yna trethir eich incwm pensiwn rheolaidd ynghyd â gweddill eich incwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhyddhad treth a'ch pensiwn
Pensiynau plant
Gallwch hefyd gynilo treth yn effeithlon ar gyfer ymddeoliad eich plentyn â phensiynau plant yn y dyfodol.
Gallwch arbed hyd at £2,880 bob blwyddyn dreth â'r llywodraeth yn ychwanegu at hyd at £720 (sydd yn rhyddhad treth o 20% ar gros (cyfanswm) eich cyfraniad). Mae hyn yn golygu bod eich cyfraniad yn dod yn £3,600 y flwyddyn yn awtomatig, fesul plentyn.
Pan fydd eich plentyn yn 18 oed daw'n berchennog y pensiwn. Gallant barhau i gyfrannu neu adael y cynilion a fuddsoddwyd. Nid ydynt yn gallu cael mynediad at y pot pensiwn o dan ddeddfwriaeth bresennol cyn 55 mlwydd oed (57 oed o 2028), felly nid yw pensiynau’n addas fel cyfryngau cynilo tymor byr.
Pan fyddant yn ymddeol, gall y plentyn fel arfer gymryd hyd at 25% o'i gronfa bensiwn fel cyfandaliad di-dreth o dan y rheolau cyfredol.
Yna trethir eu hincwm pensiwn rheolaidd ynghyd â gweddill eich incwm.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynilo ar gyfer eich plant
Llog di-dreth ar gyfrifon banc a chymdeithas adeiladu
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cael lwfans cynilion personol. Mae hyn yn golygu nad yw’r rhai nad ydynt yn talu treth a threthdalwyr cyfradd sylfaenol yn talu treth ar y £1,000 cyntaf o log cynilion. (neu'r £500 cyntaf os ydych yn drethdalwr cyfradd uwch).
Gweld Sut mae treth ar gynilion a buddsoddiadau yn gweithio am fwy o wybodaeth
Eich eithriadau Treth Enillion Cyfalaf (CGT)
Os ydych yn gwerthu eiddo neu fuddsoddiad sydd wedi cynyddu llawer mewn gwerth, efallai y bydd rhaid i chi dalu treth ar yr elw.
Gelwir hyn yn Dreth Enillion Cyfalaf.
Mae dwy gyfradd wahanol o CGT - un ar gyfer eiddo ac un ar gyfer asedau eraill. Mae faint o CGT rydych yn ei dalu yn dibynnu a ydych wedi gwneud elw, eich band treth cyfredol a'ch lwfans CGT. Y lwfans treth enillion cyfalaf ar hyn o bryd yw £3,000 ar gyfer y flwyddyn dreth 2024/25.
Braced Treth | Cyfradd CGT ar eiddo | Cyfradd CGT ar fuddsoddiadau |
---|---|---|
Trethdalwr Cyfradd Sylfaenol |
18% |
10% |
Trethdalwr cyfradd uwch neu ychwanegol |
24% |
20% |
Os gwnewch golled pan fyddwch yn gwerthu, efallai y gallwch ddidynnu hyn o enillion eraill fel bod cyfanswm eich enillion yn is.
Nid oes rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf ar:
- buddsoddiadau a ddelir mewn ISA
- bondiau llywodraeth y DU (a elwir hefyd yn ‘gilts’), neu’r mwyafrif o fondiau corfforaethol
- eiddo personol gwerth £3,000 neu lai pan fyddwch yn eu gwerthu, neu
- unrhyw elw a wnewch pan fyddwch yn gwerthu eich prif gartref (yn y rhan fwyaf o achosion) sy’n ddarostyngedig i reolau Rhyddhad Preswylfa Breifat CThEM.
Oherwydd bod gennych Lwfans Treth Enillion Cyfalaf ar wahân (Swm Eithriedig Blynyddol) ar gyfer pob blwyddyn dreth, os gallwch amseru gwerthiant eich buddsoddiadau yn ofalus gallech leihau eich bil cyffredinol.
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am Dreth Enillion CyfalafYn agor mewn ffenestr newydd
A oes angen cyngor treth arnoch?
Efallai y bydd ymgynghorydd ariannol yn gallu'ch helpu i drefnu pethau fel eich bod yn talu llai o dreth ar eich cynilion a'ch buddsoddiadau.