Mae benthyca cyfoed i gyfoed (P2P) yn ffordd i bobl fenthyca arian i unigolion neu fusnesau. Rydych chi - fel rhoddwr y benthyciad - yn derbyn llog ac yn cael eich arian yn ôl pan fydd y benthyciad wedi ei ad-dalu. Ond gall benthyca P2P gyflwyno mwy o risg na chyfrif cynilo.
Beth yw benthyciadau cyfoed i gyfoed?
Mae gwefannau P2P yn debyg i farchnadoedd.
Maent yn uno pobl neu fusnesau sydd eisiau benthyca arian i’r rhai sydd eisiau benthyciad.
Mae’n ffordd i fenthycwyr gael cyllid heb fynd ar ofyn y banciau i'r ffynonellau cyllid traddodiadol, fel banciau a chymdeithasau adeiladu.
Darganfyddwch fwy am fenthyca cyfoed i gyfoed, gan gynnwys costau a phrosesau, yn ein canllaw Benthyca trwy blatfform cyfoed i gyfoed
Mae'r cyfraddau llog ar fenthyca P2P fel arfer yn uwch na'r rhai sydd ar gael o gyfrifon cynilo traddodiadol. A siarad yn gyffredinol, po uchaf yw'r gyfradd llog y bydd rhywun yn ei thalu, po uchaf yw'r risg na fyddant yn gallu ad-dalu'r benthyciad.
Ar rai gwefannau, bydd unrhyw arian y byddwch yn ei fenthyg yn cael ei rannu’n awtomatig rhwng nifer o fenthycwyr, ond ag eraill gallwch ddewis i bwy yr hoffech roi benthyg arian iddynt.
Cychwyn arni â benthyciadau cyfoed i gyfoed
Os ydych eisiau rhoi benthyg arian, dylech gymharu darparwyr benthyciadau P2P yn gyntaf i ganfod yr un rydych hapusaf yn ei ddefnyddio.
Mae tri phrif gam:
- Agor cyfrif â darparwr benthyciadau P2P a thalu arian i mewn trwy gerdyn debyd neu drosglwyddiad uniongyrchol.
- Gosod y gyfradd llog yr hoffech dderbyn neu gytuno ar gyfradd sydd ar gael.
- Benthyg swm o arian am gyfnod penodedig o amser – er enghraifft, tair neu bum mlynedd. Efallai bydd rhaid i chi dalu ffi i wneud benthyciad (h.y. 1% o’r benthyciad).
Mae gan rai darparwyr benthyciadau nodwedd ‘bidio awtomatig’.
Mae hyn yn golygu y gallwch osod terfyn ar faint rydych eisiau ei fenthyg i bob busnes a’r gyfradd llog isaf rydych yn fodlon ei derbyn.
Deall y risgiau
Mae sawl risg o fenthyca P2P.
Mae’n ddefnyddiol deall y risgiau hyn a sut i’w lleihau.
Y risg o ddiffygdalu
Efallai na fydd y person rydych yn benthyca arian iddo yn gallu ei ad-dalu (gelwir hyn yn ‘diffygdalu’).
Po fwyaf yw’r gyfradd diffygdalu ar y wefan P2P, po uchaf yw’r nifer o bobl neu fusnesau nad ydynt yn gallu ad-dalu eu benthyciadau.
Yn wahanol i gynilion banc a chymdeithas adeiladu, nid yw arian y byddwch yn ei roi ar fenthyg trwy wefan P2P wedi ei ddiogelu gan Gynllun Iawndal y Gwasanaethau Ariannol.
Ond mae gan nifer o wefannau P2P gronfeydd at raid neu ddarpariaeth, sydd wedi eu cynllunio i dalu os yw benthyciwr yn diffygdalu ar fenthyciad.
Mae’r cronfeydd darpariaeth hyn yn amrywio’n helaeth o un safle i’r llall, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod beth sydd wedi ei ddiogelu os ydych yn ystyried benthyg arian.
Y risg o ad-dalu’n gynnar neu’n hwyr
Os yw’r benthyciad yn cael ei dalu’n gynnar neu’n hwyr, efallai y byddwch yn gwneud llai o elw nag y byddech yn ei ddisgwyl.
Os telir benthyciad yn gynnar, gallwch roi’r arian ar fenthyciad eto.
Ond mae perygl y na fyddwch yn gallu cynnig benthyciad ar yr un gyfradd.
Y risg y bydd y safle P2P yn mynd i’r wal
Gallech golli arian os yw’r cwmni P2P ei hun yn mynd allan o fusnes (mae nifer ohonynt wedi).
Fodd bynnag, os ydynt wedi eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (fel mae rhaid i bob darparwr benthyciadau P2P sy’n gweithredu yn y Deyrnas Unedig fod), mae rhaid iddynt gadw arian i’w fenthyg mewn cyfrifon neilltuol ar wahân i’w harian eu hunain.
Benthyciadau P2P a threth
Mae arian a enillir drwy fenthyciadau cyfoed i gyfoed yn cael ei gydnabod fel incwm fel arfer, ac felly mae’n drethadwy.
Oherwydd y lwfans cynilion personol, ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn talu treth o gwbl.
Mae’r lwfans cynilion personol yn caniatáu i drethdalwyr cyfradd sylfaenol ennill hyd at £1,000 o log yn ddi-dreth. £500 yn unig o lwfans sydd gan drethdalwyr cyfradd uwch.
Telir unrhyw log a enillir uwchben y lwfans ar eich cyfradd ffiniol uchaf o dreth.
Darganfyddwch fwy am y Lwfans Cynilo Personol yn ein canllaw Treth ar gynilion a buddsoddiadau – sut mae’n gweithio
Mae ISA Cyllid Arloesol (IFISA) newydd yn caniatáu i fenthyciadau P2P gael eu cadw mewn cyfrif cynilion unigol (ISA). Mae hyn yn golygu y gallwch gael llog o fenthyciadau P2P yn ddi-dreth ac osgoi cael eich trethu ar unrhyw dreth cyfalaf (yn berthnasol fel arfer â buddsoddiadau mawr iawn yn unig).
Mae IFISA yn caniatáu i roi benthyg hyd at derfyn cyffredinol o £20,000 fesul blwyddyn dreth (ar gyfer 2024/25). Rhennir y lwfans cyfraniad blynyddol o £20,000 rhwng yr holl wahanol fathau o ISAs: IFISAs, ISAs arian parod, ISAs gydol oes – sydd ag uchafswm lwfans blynyddol o £4,00 ar hyn o bryd – ac ISAs stociau a chyfranddaliadau.
Nid oes angen i chi ddatgan unrhyw log, incwm nac enillion cyfalaf ISA i Gyllid a Thollau EM, nac ychwaith unrhyw enillion mewn IFISA.
Sefydliadau a allai helpu
Cyn i chi fenthyg trwy ddarparwr benthyciadau P2P, dylech wirio ei fod wedi ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Gallwch wneud hyn trwy chwilio amdano ar Gofrestr yr FCA