Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Cynilion
  3. Buddsoddi
Cynilion Buddsoddi

ISAs stociau a chyfranddaliadau

Y cyfanswm y gallwch ei gynilo i Gyfrifon Cynilo Unigol (ISAs) yn y flwyddyn dreth gyfredol yw £20,000. Gelwir hyn yn lwfans ISA. Weithiau cyfeirir at ISAs fel  ‘ymlapiwr treth’, oherwydd bod yr arian sydd gennych ynddynt yn cael ei gysgodi rhag Treth Incwm a Threth Enillion Cyfalaf. Mae'r erthygl hon yn edrych ar sut mae un math o ISA - ISA stociau a chyfrandaliadau  - yn gweithio a'r hyn sydd angen i chi ei wybod.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Pryd allai ISA Stociau a chyfranddaliadau fod yn addas ar eich cyfer chi?
  • Pa fuddsoddiadau a ddelir mewn cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau?
  • Sut mae cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau yn gweithio
  • Sut i brynu ISAs stociau a chyfranddaliadau
  • Treth ar ISAs stociau a chyfranddaliadau
  • Os bydd pethau’n mynd o chwith

Newidiadau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref

Rydym yn gweithio mor gyflym ag y gallwn i ddiweddaru'r dudalen hon gyda'r newidiadau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth ar 28 Hyrdref 2026.

Tra rydym yn diweddaru'r dudalen, gweler ein blog Beth mae Cyllideb yr Hydref 2026 yn ei olygu i chi.

Pryd allai ISA Stociau a chyfranddaliadau fod yn addas ar eich cyfer chi?

Mae ISA stociau a chyfranddaliadau yn fath o gyfrif buddsoddi lle gallwch roi arian mewn amrywiaeth o fuddsoddiadau. 

Gallai fod ar eich cyfer chi os:

  • rydych chi eisiau buddsoddi arian gyda'r nod o dyfu eich buddsoddiad dros amser
  • os nad ydych yn edrych i gael gafael ar unwaith ar eich arian
  • os ydych yn barod i gadw eich arian wedi ei fuddsoddi am sawl flwyddyn
  • os nad ydych wedi defnyddio cyfanswm eich lwfans ISA ar gyfer y flwyddyn dreth gyfredol
  • os ydych yn cyfforddus gall gwerth eich buddsoddiadau fynd i fyny ac i lawr ac efallai y byddwch yn cael llai yn ôl na wnaethoch roi i mewn. 

Os nad ydych chi'n deall cynnyrch ariannol, mynnwch gyngor ariannol annibynnol gan gynghorydd ariannol rheoledig cyn i chi brynu.

Ydych angen cymorth yn gwneud dewisiadau buddsoddi craff?  

Ydach chi'n ansicr am p'un ai fuddsoddi eich arian ai peidio, neu ddim yn gwybod ble i gychwyn?  

Am gymorth i wneud dewisiadau buddsoddi craff, deall risg, arallgyfeirio a ble i ddarganfod buddsoddiadau wedi eu rheoleiddio, darganfyddwch mwy ar wefan InvestSmart yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Nol i’r brig

Pa fuddsoddiadau a ddelir mewn cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau?

Mae ISA stociau a chyfranddaliadau i bob pwrpas yn 'ymlapiwr treth' y gellir ei roi o gwmpas ystod eang o wahanol gynhyrchion buddsoddi. Mae unrhyw dwf buddsoddiad neu log a enillir o fewn ISA stociau a chyfranddaliadau yn rhydd o Dreth Incwm neu Dreth Enillion Cyfalaf.

Gellir dal llawer o wahanol fathau o fuddsoddiad mewn ISA, gan gynnwys:

  • ymddiriedolaethau uned
  • ymddiriedolaethau buddsoddi
  • cronfeydd cyfnewid wedi’u masnachu
  • stociau a chyfranddaliadau unigol
  • bondiau corfforaethol a bondiau’r llywodraeth, a
  • Cwmnïau Buddsoddi Penagored (OEICs)
  • stociau a chyfranddaliadau ffracsiynol.

Yn aml, caiff cyfrifon ISA Stociau a Chyfranddaliadau eu gwerthu a’u marchnata fel cynhyrchion penodedig.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Mathau o fuddsoddiadau
Nol i’r brig

Sut mae cyfrifon ISA Stociau a chyfranddaliadau yn gweithio

Gallwch dalu cyfanswm o £20,000 i mewn i ISA Stociau a Chyfranddaliadau bob blwyddyn dreth.

  • Gallwch rannu'ch lwfans ISA ar draws y pedwar math gwahanol o ISA: arian parod, stociau a chyfranddaliadau, cyllid arloesol (FISA) neu gydol oes (LISA). Yr uchafswm y gallwch ei roi mewn ISA oes yw £4,000 bob blwyddyn dreth ac mae angen i chi fod yn 18 i 39 i agor un.
  • Bydd eich lwfans ISA blynyddol yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn dreth (5 Ebrill) a chaiff unrhyw lwfans na fyddwch wedi’i ddefnyddio ei golli. Ni ellir ei gario drosodd i’r flwyddyn ganlynol.
  • Gallwch wneud buddsoddiad cyfandaliad ac/neu wneud cyfraniadau rheolaidd neu ad hoc drwy gydol y flwyddyn dreth.
  • Mae unrhyw gynnydd yng ngwerth y buddsoddiadau yn eich ISA stociau a chyfranddaliadau’n rhydd rhag Treth Enillion Cyfalaf.
  • Mae incwm o'ch stociau a'ch cyfranddaliadau ISA yn rhydd o Dreth Incwm y DU.
  • Mae’n werth siopa o gwmpas er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn dod o hyd i ISA sy’n gweddu i chi. Cymharwch unrhyw ffioedd am yr ymlapiwr ISA a’r ystod o fuddsoddiadau y gallwch eu rhoi ynddo.
Eich lwfans ISA yw’r swm y gallwch ei dalu i mewn, nid cyfanswm gwerth eich buddsoddiadau – felly os byddwch yn rhoi eich lwfans llawn mewn ISA stociau a chyfranddaliadau a bod ei werth yn gostwng, ni allwch ychwanegu ato yn ystod yr un flwyddyn dreth
 
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw ISA's a ffyrdd treth effeithlon eraill i gynilo neu fuddsoddi

Beth yw’r terfyn os oes gennych ISA Arian Parod hefyd?

Gallwch gynilo hyd at £20,000 mewn ISAs hyd at ddiwedd blwyddyn dreth 2026/27. Gall hyn fod mewn arian parod, stociau a chyfranddaliadau neu gyfuniad o’r ddau.

ISAs Hyblyg

Mae ISAs hyblyg yn caniatáu ichi dynnu arian allan ac i ddisodli arian yn ystod y flwyddyn dreth.

Er enghraifft, os ydych chi'n buddsoddi £20,000 ar ddechrau'r flwyddyn dreth ac yn cymryd allan £5,000 yn ddiweddarach, byddech chi'n gallu rhoi'r £5,000 hwnnw yn ôl cyn diwedd y flwyddyn heb dorri'r terfynau.

Os nad yw ISA yn hyblyg, ni allwch wneud unrhyw gyfraniadau pellach ar ôl i chi ddefnyddio'ch lwfans am y flwyddyn – felly ni ellir disodli be bynnag sy wedi ei dynnu'n ôl bob amser. Nid yw pob darparwr yn cynnig hyblygrwydd, felly os yw hyn yn rhywbeth sydd ei angen arnoch, gwiriwch yn ofalus gyda'r darparwr cyn agor yr ISA.

Os rydych yn meddwl am fuddsoddi, gwelwch ein canllaw Meddwl am Fuddsoddi.

Rheolau ISA newydd ar drosglwyddo ISA Priod a fu Farw

Os bydd eich gŵr, gwraig neu bartner sifil yn marw, gallwch etifeddu eu lwfans ISA. Byddwch yn cael lwfans ISA ychwanegol sy’n cyfateb i werth cynilion ISA yr un fu farw ar adeg y farwolaeth.

Trosglwyddo ISAs 

Os ydych chi am newid eich ISA i ddarparwr gwahanol a chadw'r holl arian yn ddi-dreth, bydd angen i chi ei drosglwyddo. Ni allwch ei gau, tynnu'r arian allan a'i ail-fuddsoddi yn rhywle arall. 

O 6 Ebrill 2027, os ydych o dan 65 oed, ni fydd yn bosibl trosglwyddo o stociau a chyfranddaliadau neu IFISA i ISAs arian parod. 

Dyma sut mae'n gweithio: 

  • Mae'n rhaid i bob darparwr ISA ganiatáu trosglwyddiadau allan, ond nid oes rhaid iddynt ganiatáu trosglwyddiadau i mewn. 
  • Gallwch drosglwyddo arian o ISA arian parod i ISA stociau a chyfranddaliadau, ac i'r gwrthwyneb. 
  • Gallwch ddewis faint rydych chi'n ei drosglwyddo – nid oes rhaid i chi drosglwyddo'r cyfan. 
  • Ni ellir trosglwyddo cyfranddaliadau ffracsiynol fel hyn. Yr unig ffordd i newid darparwyr yw gwerthu a defnyddio'r arian i fuddsoddi ar blatfform arall. Bydd unrhyw enillion yn rhydd o dreth enillion cyfalaf - CGT - gan y bydd yn dod o ISA. 

Buddsoddi mewn cyfranddaliadau ffracsiynol

  • Mae'n bosibl buddsoddi mewn cwmnïau penodol drwy brynu cyfranddaliadau cyfan.
  • Gyda rhai cyfranddaliadau sengl gan gwmnïau yn costio cannoedd o bunnoedd neu hyd yn oed filoedd o bunnoedd, mae gan gwsmeriaid sydd eisiau buddsoddi yn y cwmnïau hyn ond sy'n gwario symiau llai yr opsiwn o brynu rhan o gyfran sengl. Gelwir hyn yn 'gyfran ffracsiynol'.
  • Ni allwch brynu cyfranddaliadau ffracsiynol ar y farchnad agored. Yn lle hynny, mae angen i chi fuddsoddi drwy blatfform buddsoddi. Ni fydd pob darparwr yn cynnig hyn - felly os yw'n rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi, mae'n werth gwirio yn gyntaf.
  • Mae rheolau gan CThEF a ddaeth i rym ar 4 Tachwedd 2024 yn golygu y bydd unrhyw gyfranddaliadau ffracsiynol rydych chi eisoes wedi'u prynu neu'n eu prynu yn y dyfodol o dan y lapiwr ISA yn ddi-dreth.

Cyfrifiannell cynilio

Defnyddiwch ein Cyfrifiannell cynilo i’ch helpu cyfrifo faint y gallwch ei gynilo.

Mynediad at eich arian

  • Gallwch werthu’r asedau a ddelir yn eich ISA ar unrhyw adeg ac nid oes isafswm cyfnod y bydd angen i chi ei ddal.

Taliadau ar stociau a chyfranddaliadau ISA

  • Mae'n bwysig gwirio'r taliadau gan y gall y rhain amrywio llawer a gallant effeithio ar faint o arian a gewch yn ôl.
  • Trwy sicrhau'r manylion, gallwch hefyd osgoi codi gormod arnoch chi.

Pa mor ddiogel yw’ch cynilion?

Yn dibynnu ar y math o gwmni sy'n darparu eich ISA stociau a chyfranddaliadau, mae gwahanol derfynau ar faint o'ch cynilion sy'n cael eu diogelu. Felly, mae'n bwysig gwirio pa iawndal sydd ar gael wrth gymharu gwahanol ddarparwyr, yn enwedig os oes gennych fwy na £85,000 yn eich ISA.

Os yw darparwr eich ISA yn ‘derbyniwr blaendal awdurdodedig' - fel banc neu gymdeithas adeiladu - yna mae'r £120,000 cyntaf fesul person, fesul cwmni wedi'i ddiogelu.

Lle mae eich ISA stociau a chyfranddaliadau gan gwmni buddsoddi - fel platfform buddsoddi, rheolwr cyfoeth neu Ymgynghorydd Ariannol Annibynnol (IFA) - y terfyn yw £85,000 y person, fesul cwmni cymwys.

Mae rhai brandiau bancio yn rhan o'r un grŵp a gallent rannu trwydded fancio. Er enghraifft, mae Halifax a Bank of Scotland yn frandiau gwahanol ond yn rhan o un grŵp bancio, ac yn rhannu un 'drwydded fancio'.

Os oes gennych fwy na'r terfyn o fewn yr un banc neu sefydliad trwydded adneuo, ystyriwch symud y gormodedd i wneud yn siŵr bod eich arian yn cael ei ddiogelu. Gallwch wirio a yw'ch banciau yn rhannu trwydded a darganfod faint o'ch arian sydd wedi'i ddiogelu gyda Gwiriwr Diogelu Banc a Chynilion yr FSCSYn agor mewn ffenestr newydd

Ond ni fyddwch yn cael unrhyw iawndal os bydd eich buddsoddiadau yn gostwng mewn gwerth.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Digollediad os yw’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu yn mynd yn fethdalwr
Nol i’r brig

Sut i brynu ISAs stociau a chyfranddaliadau

Gallwch brynu ISA:

  • yn uniongyrchol gan ddarparwr ISA
  • yn uniongyrchol drwy reolwr cronfa
  • yn uniongyrchol gan froceriaid disgownt, lwyfan cronfa ar-lein cronfeydd neu fanc
  • gan ymgynghorydd ariannol annibynnol neu gynllunydd ariannol
  • drwy gyfrif cyfranddaliadau neu frocer stoc ar-lein.

Gwiriwch unrhyw daliadau gan y gallai'r rhain amrywio ar gyfer yr un cynnyrch yn dibynnu ar ble rydych chi'n ei brynu.

Os nad ydych yn siŵr pa fath o fuddsoddiadau fyddai’n addas ar gyfer eich nodau a’ch anghenion personol, siaradwch ag ymgynghorydd ariannol rheoledig.

Darllenwch ein canllaw Ydych chi angen ymynghorydd ariannol?
Nol i’r brig

Treth ar ISAs stociau a chyfranddaliadau

Mae buddsoddiadau sy’n talu llog (e.e. bondiau llywodraeth a chorfforaethol), neu incwm o rent (fel rhai cronfeydd eiddo) yn darparu incwm 100% didreth os cânt eu talu o fewn ISA.

Mae unrhyw ddifidendau a dderbynnir gan eich ISA yn rhydd o Dreth Incwm.

Pa bynnag incwm a gewch o'ch ISA, nid oes angen ei ddatgan i CThEM ac ni fydd yn cael effaith ar eich lwfansau Treth Incwm.

Yn ogystal, ni chodir Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw elw y byddwch yn ei wneud wrth werthu buddsoddiadau yn eich ISA stociau a chyfranddaliadau.

Ni ellir defnyddio unrhyw golledion a wnaed ar eich buddsoddiadau yn eich ISA stociau a chyfranddaliadau i wrthbwyso enillion cyfalaf ar eich buddsoddiadau eraill.

Gweler Sut mae treth ar gynilion a buddsoddiadau yn gweithio am fwy o wybodaeth.

Nol i’r brig

Os bydd pethau’n mynd o chwith

Os na fyddwch yn fodlon â’r gwasanaeth a gewch neu os byddwch am wneud cwyn, dechreuwch drwy gysylltu â’ch darparwr neu ymgynghorydd.

Caiff y rhan fwyaf o reolwyr cronfeydd a rheolwyr ISA eu rheoleiddio gan yr  Awdurdod Ymddygiad Ariannol  Mae hyn yn golygu, os na chaiff eich cwyn ei datrys yn foddhaol, gallwch fynd â hi i'r Gwasnaeth Ombwdsmon Ariannol

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i gwyno i'ch banc, benthyciwr neu ddarparwr cerdyn
Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Buddsoddi

Mathau o fuddsoddiadau

  • Benthyca cyfoed i gyfoed: beth sydd angen i chi ei wybod
  • ISAs stociau a chyfranddaliadau
  • Beth yw bondiau buddsoddi?
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Mathau o fuddsoddiadau

  • Benthyca cyfoed i gyfoed: beth sydd angen i chi ei wybod
  • ISAs stociau a chyfranddaliadau
  • Beth yw bondiau buddsoddi?
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012