Beth mae Cyllideb yr Hydref 2024 yn ei olygu i chi
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
30 Hydref 2024
Fe wnaeth y Canghellor newydd Rachel Reeves osod ei chyllideb gyntaf y prynhawn yma, gan gyhoeddi cynlluniau’r llywodraeth ar gyfer trethi a gwariant dros y blynyddoedd nesaf. Darganfyddwch beth fydd cyllideb heddiw yn ei olygu i'ch arian.
Cynnydd i’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol
O fis Ebrill 2025 bydd yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn codi i weithwyr o bob oed. Gweler y tabl isod ar gyfer y cyfraddau newydd.
Oedran | Isafswm cyfradd fesul awr 2024/25 | Isafswm cyfradd fesul awr o 1 Ebrill 2025 |
---|---|---|
21 oed a throsodd |
£11.44 |
£12.21 |
18 i 20 |
£8.60 |
£10.00 |
16 i 17 |
£6.40 |
£7.55 |
Prentis |
£6.40 |
£7.55 |
Budd-daliadau yn cynyddu
Cyhoeddodd y Canghellor rai newidiadau am sut y bydd cymhwysedd am Lwfans Gofalwr yn cael ei asesu, gan gynyddu'r swm y gallwch ei ennill cyn i chi beidio â derbyn y budd-dal mwyach. O fis Ebrill 2025 byddwch yn gallu ennill cyfwerth ag 16 awr yr wythnos ar y Cyflog Byw Cenedlaethol hyd at £195 yr wythnos, tua £10,000 y flwyddyn. Ar hyn o bryd mae hyn yn £151 yr wythnos.
Mae Lwfans Gofalwr ar gael yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban gall pobl hawlio Taliad Cymorth i Ofalwyr.
Bydd Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth hefyd yn codi 4.1% sy'n golygu y gallech gael hyd at £230.25 yr wythnos, mae hyn yn gynnydd blynyddol o hyd at £470 yn unol â'r Clo Triphlyg.
Bydd Credyd Pensiwn yn cynyddu 4.1% o fis Ebrill y flwyddyn nesaf, sy'n golygu y gallech hawlio hyd at £227.10 yr wythnos os ydych yn sengl neu £346.60 yr wythnos os ydych mewn cwpl.
Cyhoeddwyd rheolau newydd hefyd ynghylch a sut mae pobl sy'n hawlio Credyd Cynhwysol yn ad-dalu unrhyw ddyledion budd-daliadau sy'n ddyledus ganddynt i'r DWP yng Nghymru, Lloegr a'r Alban. Bydd y Gyfradd Ad-dalu Deg newydd yn rhoi cap ar unrhyw ad-daliadau ar 15% o'ch lwfans safonol UC. Gallai tua 1.2 miliwn o aelwydydd fod hyd at £420 y flwyddyn yn well eu byd o dan y rheolau newydd.
Mae'r cynllun Cymorth i Gynilo wedi'i ymestyn tan fis Ebrill 2027, a bydd nawr ar agor i bawb sy'n gweithio ac yn hawlio Credyd Cynhwysol, heb unrhyw ofyniad isafswm enillion.
Darganfyddwch fwy am y cynllun Cymorth i Gynilo yn ein canllaw.
Mae'r Gronfa Cymorth i Aelwydydd wedi'i hymestyn
Addawodd y llywodraeth i ymestyn y Gronfa Cymorth i Aelwydydd a Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai i bobl sy'n byw yng Nghymru a Lloegr tan fis Mawrth 2026. Mae hwn yn gyllid i Gynghorau lleol roi grantiau i bobl sy'n cael trafferth gyda chostau byw a chymorth ar gyfer rhent a chostau tai eraill.
Ewch i'n tudalen help costau byw i weld sut y gallwch ddod o hyd i gymorth waeth ble rydych chi’n byw yn y DU.
Cap ar pris tocyn bws wedi'i ymestyn
Mae tocynnau bws sengl yn Lloegr wedi cael eu capio ar £2 ers Ionawr 2023, ac roedd hyn i fod i ddod i ben ym mis Rhagfyr eleni. Yn y gyllideb heddiw, dywedodd Rachel Reeves, er bod y cap yn cael ei ymestyn tan fis Rhagfyr 2025, y bydd nawr yn cael ei gapio ar £3 y daith.
Bydd prisiau tocynnau'n parhau i gael eu capio ar £2 ym Manceinion Fwyaf drwy gydol 2025.
Toll Tanwydd wedi'i rewi
Cyhoeddodd y Canghellor na fydd unrhyw godiadau treth ar betrol a diesel tan o leiaf Mawrth 2026.
Cyfyngiadau ISA wedi'u rhewi
Bydd y swm y gallwch ei roi i mewn i'ch ISAs bob blwyddyn yn parhau i fod yn £20,000. Y terfyn o hyd yw £4,000 ar gyfer ISAs Gydol Oes a £9,000 ar gyfer ISAs Iau a Chronfeydd Ymddiriedolaeth Plant tan 5 Ebrill 2030.
Ni fydd yr ISA Prydeinig arfaethedig a gyhoeddwyd gan y llywodraeth flaenorol yn mynd ymlaen mwyach.
Darllenwch fwy am y gwahanol fathau o ISAs yn ein canllaw.
Bydd rhewi'r trothwy treth incwm yn aros yn ei le tan 2028
Mae'r trothwyon ar gyfer swm y Dreth Incwm yr ydych yn ei dalu wedi cael eu rhewi ers 2021, ond heddiw addawodd Rachel Reeves y bydd y rhewi yn dod i ben ym mis Ebrill 2028 pan fydd yn dechrau codi yn unol â chwyddiant eto.
Cynnydd Treth ar Enillion Cyfalaf
Mae cyfradd is Treth Enillion Cyfalaf (CGT) sy'n daladwy ar asedau yn codi o 10% i 18% a bydd y gyfradd uwch yn codi o 20% i 24% heddiw. Ni fydd y cyfraddau sy'n berthnasol i CGT sy'n daladwy wrth werthu eiddo preswyl yn cynyddu.
Darganfyddwch fwy am pryd mae angen i chi dalu Treth ar Enillion CyfalafYn agor mewn ffenestr newydd ar y safle GOV.UK.
Treth Etifeddiaeth
Mae'r trothwyon ar gyfer Treth Etifeddiant wedi'u rhewi tan Ebrill 2030.
Ar hyn o bryd, ni chynhwysir potiau pensiwn heb eu gwario a buddion marwolaeth o bensiwn pan fydd y llywodraeth yn cyfrifo faint o Dreth Etifeddiaeth sy'n ddyledus gan yr ystad. Mae newid a gyhoeddwyd heddiw yn golygu y gallai'r rhain fod yn atebol am Dreth Etifeddiant o fis Ebrill 2027 ymlaen.
I gael gwybod mwy am sut mae'n gweithio, darllenwch ein canllaw i Dreth Etifeddiant
Trosglwyddo pensiynau tramor
Yn flaenorol, os oeddech chi'n byw yn y DU neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), efallai eich bod wedi gallu trosglwyddo'ch pensiwn y DU i wlad AEE gwahanol neu Gibraltar heb dalu'r tâl treth arferol.
O heddiw ymlaen, nid yw'r gwaharddiad hwn yn berthnasol mwyach. Bydd pob trosglwyddiad pensiwn tramor i wlad nad ydych yn byw ynddi yn destun tâl treth o 25%.
Darganfyddwch fwy am Symud eich pensiwn y DU dramor
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr yn cynyddu
Er na chyhoeddwyd unrhyw godiadau treth ar gyfer gweithwyr yn y gyllideb heddiw, bydd swm yr Yswiriant Gwladol a delir gan gyflogwyr yn cynyddu ym mis Ebrill. Bydd hyn yn cynyddu 1.2% a bydd cyflogwyr nawr yn dechrau talu Yswiriant Gwladol ar gyfer gweithwyr sy'n ennill mwy na £5,000 y flwyddyn.
Treth Stamp ar gyfer ail gartrefi
Ar hyn o bryd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, mae'n rhaid i chi dalu 2% yn ychwanegol mewn Treth Tir Treth Stamp (SDLT) pan fyddwch eisoes yn berchen ar eiddo, bydd y gordal hwn yn cynyddu i 5% o yfory (31 Hydref 2024)
Nid yw hyn yn berthnasol os ydych yn gwerthu'r unig eiddo yr ydych yn berchen arno i brynu un arall, dim ond os ydych yn prynu ail gartref.
Defnyddiwch ein Cyfrifiannell Treth Stamp i weithio allan beth fydd yn rhaid i chi ei dalu.
Treth Alcohol
Er i'r Canghellor gyhoeddi y byddai'r dreth alcohol yn cael ei chodi yn unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) ym mis Ebrill 2025, mae hi wedi gwneud toriad o 1.7% ar alcohol a weinir ar ddrafft. Mae hyn yn gweithio allan i fod tua 1c i ffwrdd fesul peint.