Mae gwahanol fathau o bensiwn yn y DU, gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth, cyfraniadau wedi’u diffinio, buddion wedi'u diffinio, hybrid a chynlluniau balans arian parod. Rydyn ni'n esbonio sut maen nhw'n gweithio a sut i ddarganfod pa fathau sydd gennych.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Pensiwn y Wladwriaeth
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad gan y llywodraeth sy'n cael ei dalu bob 4 wythnos. Gallwch ei hawlio o’ch oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd
Mae faint rydych chi'n ei gael yn dibynnu ar eich cofnod Yswiriant Gwladol a nifer y blynyddoedd cymwys rydych chi wedi'u cronni – fel arfer trwy weithio neu dderbyn budd-daliadau penodol.
Fel arfer rydych angen o leiaf:
- 35 mlynedd cymwys i gael swm llawn Pensiwn y Wladwriaeth
- 10 mlynedd gymwys i gael unrhyw beth.
Gallwch wirio eich rhagolwg Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK i weld faint rydych chi ar y trywydd i'w gael ac a oes ffyrdd i'w hybu.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Pensiwn y Wladwriaeth: sut mae'n gweithio.
Pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio
Mae pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio (DC) yn caniatáu i chi adeiladu cronfa o arian a all ddarparu incwm mewn ymddeoliad.
Weithiau fe'i gelwir yn gynllun prynu arian a dyma'r math mwyaf cyffredin o bensiwn yn y DU.
Gall pensiynau cyfraniadau wedi'u diffinio fod yn:
- gynlluniau pensiwn gweithle a sefydlwyd gan eich cyflogwr
- cynlluniau pensiwn personol a sefydlwyd gennych chi.
Mae eich arian yn cael ei fuddsoddi felly dylai dyfu dros amser, ond gall gwerth eich pensiwn gynyddu neu ostwng nes i chi gymryd yr arian.
Mae hyn yn golygu bod y swm y byddwch chi'n ei gael yn dibynnu ar:
- faint sy'n cael ei dalu fewn, gan gynnwys unrhyw gyfraniadau gan eich cyflogwr
- pa mor dda mae'r buddsoddiadau yn perfformio
- y ffioedd y bydd eich darparwr yn cymryd i ffwrdd
- sut a phryd rydych chi'n dewis cymryd incwm – megis cymryd incwm gwarantedig neu hyblyg.
Darganfyddwch fwy yn ein canllawiau:
Pensiynau buddion wedi'u diffinio (cyflog terfynol neu gyfartaledd gyrfa)
Mae pensiwn buddion wedi'u diffinio (DB) yn talu incwm ymddeoliad rheolaidd a gwarantedig am weddill eich oes.
Efallai y bydd gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio os:
- sefydlodd eich cyflogwr eich pensiwn cyn y flwyddyn 2000, neu
- rydych ar unrhyw adeg wedi gweithio yn y sector cyhoeddus – fel addysg, y GIG a'r Lluoedd Arfog.
Rydych chi'n ennill swm o bensiwn blynyddol am bob blwyddyn rydych chi'n gweithio ac yn aelod o'r cynllun, a elwir yn gyfradd groniadau. Mae hyn naill ai'n seiliedig ar ffracsiwn:
- o’r cyflog rydych chi'n ei dderbyn bob blwyddyn – ar gyfer cynlluniau cyfartaledd gyrfa
- o’ch cyflog olaf cyn i chi adael y cynllun, neu gyfartaledd o'r blynyddoedd olaf – ar gyfer cynlluniau cyflog terfynol.
Mae llawer o gynlluniau cyflog terfynol ar gau i newydd-ddyfodiaid ac wedi cael eu disodli gan gynlluniau cyfartaledd gyrfa.
Enghraifft: Os yw'ch cynllun yn cynnig cyfradd gronni o 1/60fed, rhennir eich cyflog â 60 i gyfrifo'r pensiwn blynyddol y byddwch chi'n ei gael.
Gyda chyflog o £30,000 y flwyddyn, byddech yn ennill pensiwn blynyddol gwerth £500. Pe baech chi'n aelod am 10 mlynedd a bod eich cyflog yn aros yr un fath drwy'r amser, byddai'ch pensiwn yn talu £5,000 y flwyddyn i chi.
Mae'r taliadau fel arfer yn fisol ac yn cynyddu yn unol â chwyddiant bob blwyddyn.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Pensiynau hybrid
Mae pensiwn hybrid yn gyfuniad o fuddion wedi'u diffinio a chyfraniadau wedi'u diffinio.
Mae hyn yn golygu bod eich pensiwn fel arfer yn cynnig:
- incwm rheolaidd gwarantedig – yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych chi wedi bod yn aelod
- cronfa o arian i gymryd incwm ymddeoliad ohono - yn seiliedig ar faint sy'n cael ei dalu i mewn a pha mor dda mae'r buddsoddiadau yn perfformio.
Bydd rhai cynlluniau hybrid yn talu'r uchaf o'r ddau opsiwn i chi.
Efallai y bydd gennych gynllun hybrid os yw'ch cyflogwr:
- wedi disodli eu pensiwn buddion wedi'u diffinio gyda chynllun cyfraniadau wedi'u diffinio ac mae gennych fuddion pensiwn yn y ddau
- yn cynnig pensiwn buddion wedi'u diffinio hyd at derfyn cyflog penodol – os yw'ch cyflog yn uwch na'r terfyn, mae eich cyfraniadau ychwanegol yn mynd i gynllun cyfraniadau wedi'u diffinio.
Gall eich darparwr esbonio sut mae eich cynllun yn gweithio.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau:
Pensiynau balans arian parod
Mae cynllun balans arian parod yn fath o bensiwn gweithle. Mae'r swm y byddwch chi'n ei gael yn dibynnu ar a yw'ch cyflogwr yn addo i:
- dalu cyfandaliad gwarantedig i chi ar eich ymddeoliad, neu
- tyfu eich cyfandaliad ar gyfradd warantedig bob blwyddyn.
Gall eich darparwr esbonio pa fuddion gwarantedig y mae eich cynllun yn ei gynnig.
Mae eich cyflogwr hefyd yn cymryd cyfrifoldeb am y risg buddsoddi, sy'n golygu y byddwch chi'n gwybod faint o arian fydd yn eich cronfa bensiwn pan fyddwch chi'n penderfynu cael mynediad ato.
Fel arfer, mae gennych yr un opsiynau ar gyfer cymryd incwm â chynllun cyfraniadau wedi'u diffinio.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth allaf ei wneud gyda fy nghronfa pensiwn?
Pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol
Mae cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol (CDC) yn gweithio'n wahanol i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio safonol, gan:
- fod eich arian yn cael ei fuddsoddi ynghyd ag aelodau eraill, felly mae'r risg yn cael ei rannu a gallai'r cronfa gyffredinol dyfu ar gyfradd uwch na chynlluniau eraill
- fyddwch bob amser yn cael incwm pensiwn rheolaidd am oes – ni allwch ddewis opsiwn gwahanol.
Ond, fel cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio safonol, mae'r swm y byddwch chi'n ei gael yn dibynnu ar:
- faint sy'n cael ei dalu fewn, gan gynnwys cyfraniadau gan eich cyflogwr
- pa mor dda mae'r buddsoddiadau yn perfformio.
Mae hyn yn golygu y gall eich incwm pensiwn rheolaidd gynyddu a gostwng – cyn ac ar ôl i chi ddechrau ei gymryd.
Ar hyn o bryd mae gan y Post Brenhinol yr unig gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol awdurdodedig yn y DU.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Esbonio pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol.
Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol
Cyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (AVCs) yw lle rydych chi'n talu mwy na'r isafswm sy'n ofynnol, i roi hwb i'ch cynilion ymddeoliad.
Os oes gennych bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, fel arfer gallwch gynyddu eich cyfraniadau drwy gysylltu â'ch cyflogwr neu'ch darparwr.
Os oes gennych gynllun buddion wedi'u diffinio, efallai y bydd gennych yr opsiwn i:
- brynu incwm pensiwn gwarantedig ychwanegol, a elwir yn aml yn Bensiwn Ychwanegol neu Atodol
- talu AVCs i mewn i bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio ar wahân, i gronni cronfa o arian.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllaw Rhowch hwb i'ch pensiwn gyda chyfraniadau gwirfoddol ychwanegol (AVCs).
Pa fath o bensiwn sydd gennyf?
Gallwch:
- ddefnyddio ein teclyn i ddarganfod eich math o bensiwn
- ofyn i'ch darparwr pensiwn esbonio pa fath sydd gennych ac a oes ganddo unrhyw nodweddion arbennig, fel balans arian parod.
Mae'r rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn yn y DU yn rai cyfraniadau wedi’u diffinio, ond efallai y bydd gennych bensiwn buddion wedi'u diffinio os:
- rydych ar unrhyw adeg wedi gweithio yn y sector cyhoeddus, fel addysg, y GIG neu'r Lluoedd Arfog, neu
- sefydlwyd eich cynllun gan eich cyflogwr cyn y flwyddyn 2000.
Ar hyn o bryd mae gan y Post Brenhinol yr unig gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol awdurdodedig yn y DU.