Beth yw cynllun pensiwn?

Yn syml, math o gynllun cynilo yw cynllun pensiwn i'ch helpu i arbed arian ar gyfer bywyd diweddarach. Ac mae manteision treth o gymharu â mathau eraill o gynilion.

Cynllun cynilo hirdymor

Mae'n gwneud synnwyr rhoi rhywfaint o arian i ffwrdd ar gyfer pan rydych yn hŷn – a dyna beth mae cynlluniau pensiwn yn eich helpu i'w wneud.

Diffiniad cynllun pensiwn yw ei fod yn fath o gynllun cynilo hirdymor. Ac mae'n ffordd dreth-effeithlon i arbed arian yn ystod eich bywyd gwaith.

Rydych yn arbed rhywfaint o'ch incwm yn rheolaidd yn ystod eich bywyd gwaith. Mae hyn yn rhoi incwm i chi yn nes ymlaen mewn bywyd, pan fyddwch am weithio llai neu ymddeol. Dyna ystyr pensiwn – diogelwch pan fyddwch yn hŷn.

Mae sawl math o gynlluniau pensiwn. Efallai y bydd rhai yn cael eu rhedeg gan eich cyflogwr, eraill y gallwch eu sefydlu eich hun.

Nid yw cynilo i mewn i un cynllun yn golygu na allwch gynilo i gynllun arall, na defnyddio cynlluniau cynilo treth-effeithlon eraill – er enghraifft, ISAs.

Pan ddaw'r amser i chi ddechrau mwynhau'ch pensiwn – bydd gennych sawl opsiwn. Gallai'r rhain gynnwys gallu cymryd cyfandaliad di-dreth, a'r sicrwydd ychwanegol o allu derbyn incwm rheolaidd.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng cynllun pensiwn a Phensiwn y Wladwriaeth?

Mae faint o Bensiwn y Wladwriaeth a gewch yn seiliedig ar eich hanes cyfraniadau Yswiriant Gwladol. 

Gallwch hawlio'ch Pensiwn y Wladwriaeth dim ond ar ôl i chi gyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth.  

Mae cynllun pensiwn wedi'i gynllunio i roi incwm i chi, ochr yn ochr â Phensiwn y Wladwriaeth.

Mae Pensiwn newydd y Wladwriaeth yn darparu hyd at £1203.85 yr wythnos (2023-24) – os ydych eisiau mwy o incwm na hyn, mae'n gwneud synnwyr cynilo i mewn i gynllun pensiwn. 

Sut rwyf yn gwybod faint o bensiwn y byddaf yn ei gael?

Mae hyn yn dibynnu a oes gennych fuddion wedi’u diffinio neu bensiwn cyfraniad wedi’u diffinio.

Os oes gennych gynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio, cewch incwm penodol. Cyfrifir hyn yn seiliedig ar eich cyflog pensiynadwy terfynol (neu'ch cyflog cyfartalog dros eich cyflogaeth) a blynyddoedd o wasanaeth pensiynadwy.

Os oes gennych gynllun pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio, rydych yn cronni'ch cronfa arian eich hun. Gall gwerth y gronfa hwn fynd i fyny neu i lawr. Ond dros y tymor hir, mae cynilion pensiwn fel arfer yn tyfu a gallwch elwa o amrywiol fanteision treth.

Pan fyddwch yn ymddeol, bydd swm yr incwm a gewch yn dibynnu ar faint eich cronfa a faint mae'n ei gostio i brynu pensiwn bryd hynny.

A yw'n rhy hwyr i ddechrau cynilo i mewn i bensiwn?

Waeth beth yw eich oedran, mae bob amser yn syniad da cynilo i mewn i bensiwn, yn enwedig os yw'ch cyflogwr hefyd yn barod i gyfrannu.

Mae hefyd yn ffordd dreth-effeithlon o arbed arian, ac efallai y gallwch gymryd peth neu'r cyfan rydych yn ei arbed fel cyfandaliad di-dreth. 

Beth os byddaf yn marw cyn i mi gymryd fy muddion pensiwn?

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich cynllun pensiwn yn darparu buddion ar eich marwolaeth.

Os ydych mewn cynllun pensiwn buddion wedi’u diffinio, efallai y telir incwm i'ch dibynyddion.

Os ydych mewn cynllun cyfraniadau wedi’u diffino, gallai fod yn bosibl y telir cyfandaliad i'ch dibynyddion. Y cyfandaliad fel arfer yw gwerth eich cronfa.

Mae'n bwysig gwirio gyda'ch darparwr pensiwn pa fudd-daliadau marwolaeth y gellir eu talu.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.