Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol

      Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    • Budd-daliadau os oes gennych blant

      Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

      Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

      Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    • Budd-daliadau a gwaith

      Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

      Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    • Problemau gyda budd-daliadau

      Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    • Budd-daliadau

      Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau

      Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    • Cyllidebu

      Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    • Prynu a rhedeg car

      Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    • Credyd

      Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    • Yswiriant

      Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    • Arian bob dydd

      Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant

      Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    • Marwolaeth a phrofedigaeth

      Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    • Ysgariad a gwahanu

      Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    • Salwch ac anabledd

      Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    • Gofal tymor hir

      Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    • Arian myfyrwyr a graddedigion

      Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    • Siarad am arian

      Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    • Teulu a gofal

      Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref

      Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    • Rhentu

      Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    • Cartrefi

      Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw

      Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    • Delio â dyled

      Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    • Problemau a chwynion am arian

      Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    • Sgamiau

      Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    • Problemau ariannol

      Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn

      Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    • Esbonio pensiynau

      Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    • Problemau a newidiadau pensiwn

      Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

      Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    • Pensiwn y Wladwriaeth

      Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    • Cymryd eich pensiwn

      Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    • Treth a phensiynau

      Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

      Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo

      Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    • Buddsoddi

      Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    • Math o gynilion

      Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    • Cynilion

      Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth

      Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    • Colli eich swydd

      Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    • Hunangyflogaeth

      Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    • Gwaith

      Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
    • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    • Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    • Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    • Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    • Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    • Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    • Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    • Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    • Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    • Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    • Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    • Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    • Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    • Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    • Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    • Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    • Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    • Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    • Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    • Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    • Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    • Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    • Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    • Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    • Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    • Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    • Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    • Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    • Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    • Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    • Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    • Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    • Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

    • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    • Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    • Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    • Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

    • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    • Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    • Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    • Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Pensiynau ac ymddeoliad
  3. Esbonio pensiynau
Pensiynau ac ymddeoliad Esbonio pensiynau

Esbonio pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol

Mae cynllun cyfraniad wedi’u diffinio cyfunol (CDC) yn talu incwm rheolaidd i chi am oes pan fyddwch yn ymddeol. Mae arian pawb yn cael ei fuddsoddi gyda’i gilydd mewn un gronfa i gyflawni hyn, felly gallai eich arian pensiwn dyfu ar gyfradd uwch na chynlluniau eraill. Dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Beth yw pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol?
  • Rydych chi’n talu swm penodol bob mis
  • Byddwch yn cael incwm pensiwn rheolaidd pan fyddwch yn ymddeol
  • Mae eich arian yn cael ei fuddsoddi i gyflawni incwm pensiwn pawb
  • Bydd eich incwm pensiwn yn newid dros amser
  • Gallwch drosglwyddo eich arian i gynllun gwahanol
  • Cewch wybod yr oedran y gallwch dderbyn eich pensiwn

Beth yw pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol?

Mae cynllun cyfraniad wedi’u diffinio cyfunol (CDC) wedi’u cynllunio i roi incwm pensiwn rheolaidd i chi pan fyddwch yn ymddeol, heb fod angen gwneud penderfyniadau ariannol cymhleth.

Yn y rhan fwyaf o gynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio - (DC) eraill, bydd angen i chi benderfynu sut a phryd i gymryd eich arian pan fyddwch yn cyrraedd oedran ymddeol. Er enghraifft, trwy brynu incwm gwarantedig (a elwir yn flwydd-dal) gyda rhywfaint o’r arian a gadael y gweddill wedi’i fuddsoddi.

Ond ni fydd angen i chi wneud y penderfyniadau hyn gyda chynllun CDC. Yn lle, byddwch bob amser yn cael incwm pensiwn rheolaidd am oes. Efallai y bydd gennych hefyd yr opsiwn o gymryd cyfandaliad arian parod.

Fe’i gelwir yn gynllun ‘cyfunol’ oherwydd bod eich arian yn cael ei fuddsoddi ynghyd â chyfraniadau gan eich cyflogwr ac aelodau eraill o’r cynllun.

Y syniad yw y gall y cynllun dyfu un gronfa bensiwn ‘gyfun’ ar gyfradd uwch na rheoli eich arian yn unigol, fel y mae’r rhan fwyaf o gynlluniau DC eraill yn ei wneud. Mae hyn oherwydd bod y risg wedi’i wasgaru ar draws pob aelod o’r cynllun.

Rydym yn esbonio sut mae’r cyfan yn gweithio isod.

Nol i’r brig

Rydych chi’n talu swm penodol bob mis

Os yw’ch cyflogwr yn cynnig cynllun CDC, bydd y ddau ohonoch fel arfer yn talu canran sefydlog o’ch cyflog pensiynadwy i’r cynllun pensiwn bob mis.

Mae isafswm y mae angen i’r ddau ohonoch ei dalu i mewn, ond gallwch chi a’ch cyflogwr ddewis cyfrannu mwy. Bydd rhai cyflogwyr yn cyfateb eich cyfraniadau pensiwn ychwanegol hyd at derfyn penodol, felly gall hyn fod yn ffordd hawdd o gynyddu eich cynilion ymddeoliad.

Efallai y gallwch drosglwyddo arian pensiwn arall i mewn

Os oes gennych arian mewn cynlluniau pensiwn eraill, efallai y bydd eich cynllun CDC yn caniatáu i chi ei drosglwyddo i mewn. Gofynnwch i’ch darparwr pensiwn a yw hyn yn opsiwn.

Os yw eich pensiwn arall yn werth dros £30,000, efallai y bydd angen i chi gael cyngor ariannol rheoledig cyn y caniateir trosglwyddiad. Mae hyn er mwyn sicrhau y byddwch yn well eich byd drwy ei symud.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw A ddylwn i drosglwyddo neu gyfuno fy mhensiynau?

Nol i’r brig

Byddwch yn cael incwm pensiwn rheolaidd pan fyddwch yn ymddeol

Bydd cynllun CDC yn eich darparu ag incwm pensiwn rheolaidd yn eich ymddeoliad.

Mae faint y byddwch yn ei gael yn dibynnu ar y cyfrifiad y mae eich cynllun pensiwn yn ei ddefnyddio. Fel arfer, bydd hyn yn ffracsiwn neu ganran o’ch tâl pensiynadwy ar gyfer pob blwyddyn y byddwch yn aelod o’r cynllun. Er enghraifft, 1/80 neu 1.25%.

Ond nid yw hwn yn swm gwarantedig. Gall eich incwm pensiwn godi neu ostwng yn dibynnu ar lawer o ffactorau, gan gynnwys pa mor dda y mae buddsoddiadau'r cynllun wedi perfformio'r flwyddyn honno.

Gallwch fel arfer ddewis i gymryd swm cyfandaliad di-dreth

Fel y mwyafrif o gynlluniau pensiwn eraill, gallwch, fel arfer, ddewis i gymryd hyd at 25% o’ch pensiwn CDC fel cyfandaliad di-dreth o 55 oed (57 oed o fis Ebrill 2028).

Gan ddibynnu ar reolau eich cynllun CDC, byddwch, fel arfer, yn cael y dewis i naill ai:

  1. Cronni cyfanswm ar wahân o’ch incwm pensiwn i gymryd fel cyfandaliad. Mae hyn fel arfer yn ganran neu’n ffracsiwn o’ch tâl y gellir talu pensiwn arno am bob blwyddyn rydych yn aelod o’r cynllun. Gall dyfu ar sail pa mor dda mae arian pawb wedi’i fuddsoddi, ond efallai y bydd ar gyfradd wahanol i’ch incwm pensiwn.

  2. Aberthu rhywfaint o incwm eich pensiwn yn y dyfodol ac yn hytrach i gymryd cyfandaliad. Ond byddwch yn ymwybodol, y mwyaf o arian y byddwch yn ei gymryd fel cyfandaliad, y lleiaf fydd gennych fel incwm rheolaidd.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Lwfansau cyfandaliad pensiwn di-dreth.

Nol i’r brig

Mae eich arian yn cael ei fuddsoddi i gyflawni incwm pensiwn pawb

Mae’r rhan fwyaf o ddarparwyr pensiwn yn rheoli eich arian ar wahân i aelodau eraill. Mae hyn yn aml yn golygu y bydd eich arian yn cael ei symud i fuddsoddiadau â llai o risg gydag adenillion is o bosibl po agosaf y byddwch yn cyrraedd eich ymddeoliad.

Mewn cynllun CDC, mae arian pawb yn cael ei fuddsoddi gyda’i gilydd gan reolwyr buddsoddi proffesiynol. Y syniad yw y gallant ganolbwyntio ar sicrhau bod gan y gronfa gyfan ddigon o arian i dalu eu hincwm pensiwn i bawb. Gallai hyn olygu bod y gronfa gyfan yn tyfu ar gyfradd uwch.

Eich cynllun sy’n penderfynu sut y caiff eich arian ei fuddsoddi

Bydd eich cynllun CDC yn cael ei redeg gan ymddiriedolwyr. Maent yn gyfrifol am bopeth, gan gynnwys:

  • penderfynu sut mae arian pawb yn cael ei fuddsoddi
  • cyfrifo’r taliadau gweinyddol i redeg y cynllun pensiwn
  • talu aelodau sydd wedi ymddeol, a
  • cyflogi arbenigwyr i’w helpu i redeg y cynllun – fel rheolwyr buddsoddi ac actiwarïaid – i wirio bod digon o arian yn y cynllun i dalu pawb.

Mae hyn yn golygu na allwch ddewis sut y caiff eich arian ei fuddsoddi, megis eisiau buddsoddiadau moesegol yn unig. Os ydych chi eisiau’r opsiwn hwn, bydd angen i chi ofyn i’ch cyflogwr a fyddant yn talu i mewn i gynllun cyfraniadau wedi’u diffinio gwahanol yn lle.

Nol i’r brig

Bydd eich incwm pensiwn yn newid dros amser

Unwaith y flwyddyn, mae’n rhaid i ymddiriedolwyr cynllun CDC gael prisiad o asedau’r cynllun sydd ar gael. Mae hyn er mwyn gwirio bod digon o arian i dalu eu hincwm pensiwn i bawb.

Os oes mwy o arian nag sydd ei angen, dylai eich incwm pensiwn gynyddu. Os oes llai, gallai eich incwm pensiwn ostwng neu gynyddu ar gyfradd is nag arfer.

Mae’r newidiadau hyn yn berthnasol i bob aelod o’r cynllun ar yr un gyfradd, gan gynnwys os ydych eisoes yn cymryd eich pensiwn. Bydd datganiad buddion blynyddol yn esbonio sut mae eich incwm pensiwn wedi newid.

Nol i’r brig

Gallwch drosglwyddo eich arian i gynllun gwahanol

Cyn i chi ddechrau cymryd eich pensiwn, gallwch ddewis symud eich arian i gynllun gwahanol. Bydd angen i chi ofyn i’ch darparwr am gyfriflen yn dweud wrthych faint yw gwerth eich pensiwn cyn y gallwch ei symud.

Meddyliwch yn ofalus cyn trosglwyddo neu gyfuno eich pensiynau. Unwaith y byddwch yn dweud wrth eich darparwr am fwrw ymlaen â’r trosglwyddiad, ni allwch newid eich meddwl fel arfer.

Mae yna hefyd risg y gallech chi fod ar eich colled trwy drosglwyddo eich pensiwn, felly gwnewch yn siŵr bob amser eich bod yn deall sut y gallai eich buddion pensiwn newid. Os ydych yn ansicr, ystyriwch dalu am gyngor ariannol.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllawiau:

  • Trosglwyddo eich pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
  • Sut i drosglwyddo o bensiwn buddion wedi'u diffinio

Os byddwch yn dewis gadael y cynllun

Os byddwch yn gadael cynllun CDC o fewn 30 diwrnod o ymuno, fel arfer gallwch ofyn am ad-daliad o’r holl arian rydych wedi’i dalu i mewn.

Os byddwch yn gadael eich cynllun CDC ar ôl hyn, fel arfer mae’n rhaid i’r arian sydd wedi’i fuddsoddi aros yn y cynllun pensiwn nes i chi gyrraedd eich oedran ymddeol, oni bai eich bod yn penderfynu ei drosglwyddo i gynllun arall.

Gweler ein canllaw Beth fydd yn digwydd i'm pensiwn os byddaf yn gadael swyddneu'n optio allan? am fwy o help.

Nol i’r brig

Cewch wybod yr oedran y gallwch dderbyn eich pensiwn

Bydd eich cynllun CDC yn dweud wrthych yr oedran y bydd angen i chi fod i dderbyn eich pensiwn. Gelwir hyn yn eich oedran ymddeol arferol. Yn aml mae’r un fath â’ch oedran Pensiwn y WladwriaethYn agor mewn ffenestr newydd

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cymryd eich pensiwn cyn neu ar ôl y dyddiad ymddeol arferol, yn dibynnu ar reolau eich cynllun.

Efallai y bydd eich pensiwn yn talu eich teulu ar ôl i chi farw

Efallai y bydd eich cynllun CDC yn parhau i dalu ar ôl i chi farw. Gelwir hyn yn fudd-dal marwolaeth ac yn aml mae’n ganran o’ch incwm pensiwn neu gyfandaliad arian parod.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw manylion eich buddiolwyr yn gyfredol fel bod darparwr eich pensiwn yn gwybod pwy i’w dalu.

Gallwch wirio rheolau eich cynllun i weld pa fudd-daliadau marwolaeth y maent yn eu cynnig. Gofynnwch i’ch darparwr egluro unrhyw beth nad ydych yn siŵr amdano.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein canllaw Beth sy’n digwydd i fy mhensiwn pan fyddaf yn marw?

Angen mwy o wybodaeth am bensiynau?

Bydd un o’n harbenigwyr pensiwn yn hapus i ateb eich cwestiynau. Gallwch:

  • defnyddiwch ein gwesgwrs neu WhatsApp
  • ffonio ar 0800 756 1012 neu +44 (0)20 7932 5780 os ydych tu allan i’r DU
  • Defnyddiwch ein ffurflen ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd

Rydyn ni ar agor rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener. Rydyn ni ar gau ar wyliau banc.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Esbonio pensiynau

Deall cynllun pensiwn eich cyflogwr

  • Sut mae ymrestru awtomatig pensiwn yn gweithio
  • Pensiynau gweithle: sut mae cynllun pensiwn eich cyflogwr yn gweithio
  • Esboniad o gynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio
  • Cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio: cyflog terfynol a chyfartaledd gyrfa wedi'u hesbonio
  • Esbonio pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol
  • Polisïau allbryniad pensiwn: mae yswiriwr yn talu eich pensiwn yn lle hynny

Deall cynllun pensiwn eich cyflogwr

  • Sut mae ymrestru awtomatig pensiwn yn gweithio
  • Pensiynau gweithle: sut mae cynllun pensiwn eich cyflogwr yn gweithio
  • Esboniad o gynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi'u diffinio
  • Cynlluniau pensiwn buddion wedi’u diffinio: cyflog terfynol a chyfartaledd gyrfa wedi'u hesbonio
  • Esbonio pensiynau cyfraniadau wedi’u diffinio cyfunol
  • Polisïau allbryniad pensiwn: mae yswiriwr yn talu eich pensiwn yn lle hynny
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012