Os nad ydych yn gyflogedig, ac felly nad oes gennych fynediad i bensiwn gweithle, gallwch sefydlu'ch pensiwn eich hun. Gelwir y rhain yn bensiynau personol ac maent yn ffordd dda o gynilo ar gyfer ymddeoliad. Gallwch hefyd sefydlu pensiwn personol y tu allan i unrhyw bensiynau gweithle a allai fod gennych.
Beth yw pensiwn personol?
Math o bensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio yw pensiwn personol. Chi sy’n dewis y darparwr ac yn gwneud trefniadau i dalu eich cyfraniadau.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio.
Yn yr un modd â chynlluniau pensiwn eraill, mae pensiwn personol yn cynnig ffordd dreth-effeithlon i gynilo ar gyfer ymddeoliad.
Buddsoddir yr arian a delir i mewn i gynllun pensiwn personol i gronni cronfa o arian pan fyddwch yn ymddeol.
Rydych yn cael rhyddhad treth ar y cyfraniadau. Mae hyn yn golygu bod Treth Incwm y byddech fel arfer yn ei thalu i'r llywodraeth yn mynd tuag at eich pensiwn yn lle hynny.
Mae'r arian yn y gronfa’n tyfu'n ddi-dreth i raddau helaeth, a phan ddewch i ymddeol gallwch gymryd hyd at 25% o'ch cronfa bensiwn yn ddi-dreth.
Fel arfer, gallwch hefyd gael mynediad i'ch cronfa bensiwn o 55 oed.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhyddhad treth a'ch pensiwn
Mae rhai cyflogwyr wedi sefydlu pensiynau gweithle gan ddefnyddio pensiynau personol grŵp.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth yw pensiwn personol grŵp
Pwy all gael pensiwn personol?
Mae pensiynau personol yn gweddu i ystod eang o bobl.
Maent werth eu hystyried os:
- rydych yn hunangyflogedig (gan gynnwys gweithio fel rhan o’r economi ‘gig’
- nid oes gennych unrhyw bensiwn arall ar wahân i Bensiwn y Wladwriaeth
- mae gennych incwm afreolaidd neu'n cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith - er enghraifft, i fagu plant neu ofalu am eraill.
Hyd yn oed os nad ydych mewn cyflogaeth â thâl gallwch gyfrannu i bensiwn personol a chael rhyddhad treth. Gallwch hyd yn oed gynilo i mewn i gynllun pensiwn ar gyfer eich plant neu wyrion.
Gellir hefyd defnyddio pensiynau personol ochr yn ochr â phensiwn gweithle. Ond mae unrhyw gynllun y mae eich cyflogwr yn ei gynnig yn debygol o fod yn well na chymryd pensiwn personol ar wahân, yn enwedig os ydynt yn gwneud cyfraniadau i'ch pensiwn.
Mathau o bensiwn personol
Mae tri math gwahanol o bensiwn personol, y mae gan bob un ohonynt nodweddion cyffredin a gellir defnyddio pob un ohonynt hefyd fel cynllun pensiwn gweithle.
Pensiynau personol safonol
Cynigir y rhain gan y mwyafrif o ddarparwyr pensiwn mawr. Maent yn debygol o gynnig ystod o ddewisiadau buddsoddi.
Pensiynau cyfranddeiliaid
Mae'r rhain yn caniatáu i chi wneud cyfraniadau isafswm isel. Gallwch stopio a dechrau taliadau, a throsglwyddo allan heb unrhyw gost. Mae taliadau blynyddol wedi’u capio, er nad ydynt bob amser yn is na rhai pensiynau eraill.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pensiynau cyfranddeiliaid
SIPPS (Pensiynau buddsoddi personol)
Mae rhai cynlluniau yn cynnig ystod ehangach a mwy soffistigedig o opsiynau buddsoddi na phensiynau safonol neu bensiynau cyfranddeiliaid. Mae angen rheolaeth ymarferol arnynt, a gallent ddod â ffioedd uwch yn gyfnewid am ddewis buddsoddi ehangach.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pensiynau buddsoddi personol (SIPPs)
Gall cyflogwyr gynnig pensiynau personol fel eu pensiwn gweithle. Gelwir y rhain yn ‘Bensiwn personol grŵp’, ‘Pensiwn cyfranddeiliaid grŵp’ neu ‘Pensiynau buddsoddi personol grŵp’.
Os gwnaethoch sefydlu pensiwn personol cyn 1988, efallai y bydd gennych gontract blwydd-dal ymddeol (RAC). Nid yw'r rhain ar gael bellach ond gallant gynnwys buddion gwerthfawr.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut mae contractau blwydd-dal ymddeol yn gweithio
Efallai y bydd eich pensiwn hefyd yn cynnwys polisi prynu allan. Defnyddiwyd y polisïau hyn i drosglwyddo arian pensiwn a gronnwyd mewn pensiwn gweithle i bensiwn personol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Polisïau prynu allan unigol
Sut mae pensiynau personol yn gweithio
Byddwch yn ymwybodol
Efallai y bydd eich cronfa pensiwn yn cael ei fuddsoddi yn y farchnad stoc, a all fynd i lawr yn ogystal â chodi - efallai na fyddwch yn cael yn ôl yr hyn rydych wedi'i fuddsoddi.
Rydych yn dewis darparwr pensiwn ac yn trefnu i wneud cyfraniadau. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn talu rhywbeth i mewn bob mis - ond bydd rhai darparwyr yn gadael i chi dalu cyfandaliadau rydych chi eisiau.
Mae darparwyr yn cynnig dewis o gronfeydd, sy'n buddsoddi mewn gwahanol fathau o fuddsoddiadau, gyda'r nod o dyfu'r gronfa dros y blynyddoedd cyn i chi ymddeol.
Rydych yn cael rhyddhad treth ar y cyfraniadau ac mae'ch cynilion yn tyfu'n ddi-dreth i raddau helaeth.
Bydd maint eich cronfa bensiwn pan fyddwch yn ymddeol yn dibynnu ar:
- pa mor hir rydych yn cynilo
- faint sy'n cael ei dalu i'ch cronfa bensiwn dros y blynyddoedd
- pa mor dda y mae eich buddsoddiadau wedi perfformio
- pa ffioedd a gymerwyd o'ch cronfa gan eich darparwr pensiwn.
Dewis buddsoddiadau
Mae'r mwyafrif o gynlluniau pensiwn personol yn cynnig ystod o gronfeydd buddsoddi.
Mae'n debyg y cynigir dewis o gronfeydd i chi sy’n:
- arbenigo mewn ‘asedau’ penodol, megis cyfranddaliadau, bondiau neu eiddo
- buddsoddi mewn ardal neu wlad ddaearyddol benodol - er enghraifft, cronfa sy'n buddsoddi mewn cwmnïau yn y DU yn unig neu un sy'n canolbwyntio ar gwmnïau yn Ewrop
- buddsoddi mewn cymysgedd o wahanol asedau - er enghraifft, cronfa sy'n buddsoddi mewn cyfranddaliadau byd-eang a bondiau'r llywodraeth.
Efallai y bydd y cronfeydd hefyd yn cael eu disgrifio fel rhai sy’n addas ar gyfer proffil risg penodol neu arddull buddsoddi, fel ‘gochelgar’, ‘cytbwys’, neu ‘ymosodol’.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis buddsoddi mewn mwy nag un gronfa neu mewn cronfeydd sy'n buddsoddi mewn cymysgedd o wahanol asedau. Mae hyn oherwydd bod lledaenu (‘arallgyfeirio’) eich buddsoddiadau’n ffordd dda o reoli risg.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Dewisiadau buddsoddi pensiwn
Ffioedd a chostau
Edrych o gwmpas
Mae'r costau a'r opsiynau buddsoddi a gynigir gan wahanol gwmnïau pensiwn yn amrywio, felly mae'n werth edrych o gwmpas i gael pensiwn personol sy'n diwallu'ch anghenion.
Mae costau'n cael eu tynnu o'ch cronfa i dalu cost buddsoddi a rheoli'r cronfeydd.
Ymhlith y taliadau nodweddiadol mae:
- ffi reoli flynyddol (canran o werth eich cronfa fel arfer,) a
- costau newid (os ydych am newid eich cronfeydd).
Bydd y darparwr yn rhoi rhestr i chi o'r rhain ac unrhyw gostau eraill cyn i chi dechrau cymryd eich pensiwn.
Os ydych yn defnyddio ymgynghorydd ariannol, bydd yn rhaid i chi dalu ffi am y cyngor hefyd. Ond byddant yn rhoi gwybod i chi faint fydd hyn cyn i chi ymrwymo.
Mae deall a chymharu costau yn rhan bwysig o ddewis pensiwn. Nid yw'n syml, ond os ydych yn defnyddio ymgynghorydd ariannol rheoledig gallant eich helpu gyda hyn.
Gallai talu am gyngor arbed llawer o arian i chi yn yr hirdymor.
A yw pensiwn personol yn iawn i chi?
Mae unrhyw un o dan 75 oed yn y DU yn gymwys i ddechrau pensiwn personol. Ac nid oes unrhyw derfynau oedran ar gyfer trosglwyddo cronfeydd pensiwn eraill i bensiwn personol.
Ydych chi'n hunangyflogedig, ddim yn gweithio neu heb fynediad at bensiwn gweithle? Yna gallai cael pensiwn personol fod yn ffordd dda o gynilo ar gyfer ymddeoliad.
Oes gennych bensiwn gweithle yn barod ac eisiau cynilo mwy? Yna efallai y bydd yn gwneud synnwyr rhoi mwy yn eich cynllun gweithle lle gallai'r taliadau fod yn is ac efallai y bydd eich cyflogwr yn cyfateb â'ch cyfraniadau ychwanegol.
Faint ddylech ei gynilo i mewn i bensiwn?
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn cynilo i mewn i bensiwn bob mis. Byddai’n hyd yn oed yn well os gallwch gynyddu eich cyfraniadau yn unol â, neu fwy na, cyfradd chwyddiant bob blwyddyn. Po fwyaf y byddwch yn talu ynddo nawr po fwyaf fydd eich cronfa bensiwn pan fyddwch yn ymddeol, gan roi mwy i chi fyw arno.
Byddwch hefyd yn cael mwy o ychwanegiadau rhyddhad treth gan y llywodraeth.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhyddhad treth a'ch pensiwn
Cymryd arian o'ch pensiwn
O 55 oed (yn codi i 57 o 2028), mae gennych y dewis o gael mynediad i'ch cronfa bensiwn trwy un o'r opsiynau isod, neu gyfuniad ohonynt. Yn dibynnu ar eich oedran a'ch amgylchiadau personol, gallai rhai neu'r opsiynau hyn i gyd fod yn addas i chi.
Rhestrir eich prif opsiynau yma:
- Cadw eich cynilion pensiwn lle maen nhw – a’u cymryd yn nes ymlaen. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymddeol yn ddiweddarach neu oedi cyn cymryd eich cronfa bensiwn.
- Defnyddio eich cronfa bensiwn i brynu incwm gwarantedig gydol oes neu am dymor penodol - a elwir hefyd yn flwydd-dal. Mae'r incwm yn drethadwy, ond gallwch ddewis cymryd hyd at 25% (weithiau mwy gyda rhai cynlluniau) o'ch cronfa fel cyfandaliad di-dreth unwaith ac am byth ar y dechrau.
- Defnyddio eich cronfa bensiwn i ddarparu incwm ymddeoliad hyblyg - a elwir hefyd yn tynnu pensiwn i lawr. Gallwch gymryd y swm y caniateir i chi ei gymryd fel cyfandaliad di-dreth (hyd at 25% o'r gronfa fel arfer), yna defnyddio'r gweddill i ddarparu incwm trethadwy rheolaidd.
- Cymryd nifer o gyfandaliadau - fel arfer bydd y 25% cyntaf o bob tynnu arian allan o'ch cronfa yn ddi-dreth. Bydd y gweddill yn cael ei drethu.
- Cymryd eich cronfa bensiwn ar un tro - fel arfer bydd y 25% cyntaf yn ddi-dreth ac mae'r gweddill yn drethadwy. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cymryd eich cronfa bensiwn ar un tro.
- Cymysgu eich opsiynau - dewiswch unrhyw gyfuniad o'r uchod, gan ddefnyddio gwahanol rannau o'ch cronfa neu gronfeydd ar wahân.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Yr opsiynau ar gyfer defnyddio’ch cronfa bensiwn
Dewis darparwr pensiwn
I ddarganfod mwy am yr hyn i edrych amdano, gweler ein tudalen ar ddewis darparwr pensiwn.
Os penderfynwch fod pensiwn personol yn gywir i chi, gallwch naill ai:
- Mynd yn uniongyrchol at y cwmnïau sy'n eu gwerthu, cymharu eu cynhyrchion a phenderfynu pa un i'w ddewis. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol, os gwnewch y penderfyniad yn anghywir a bod y cynnyrch a ddewiswch yn anaddas, rydych yn llai tebygol o allu gwneud cwyn.
- Defnyddio ymgynghorydd ariannol rheoledig a fydd yn cymharu cynhyrchion ar y farchnad ac yn gwneud argymhelliad yn bersonol i chi.