Mae pensiwn gweithle yn ffordd o gynilo ar gyfer eich ymddeoliad a drefnwyd gan eich cyflogwr. Bellach mae'n rhaid i'r mwyafrif o gyflogwyr gofrestru eu gweithwyr yn awtomatig mewn pensiwn gweithle.
Beth yw pensiynau gweithle?
Sefydlir pensiynau gweithle gan gyflogwyr i adael i chi gynilo arian ar gyfer ymddeol. Fel rheol mae'n rhaid i'r cyflogwr eich gwneud yn rhan o'r cynllun pensiynau, ac mae'n talu i mewn i chi.
Gelwir rhai pensiynau gweithle yn bensiynau ‘galwedigaethol’, ‘cwmni’ neu ‘yn y gwaith’.
Yn gyffredinol, mae dau fath o bensiynau gweithle:
- Pensiwn buddion wedi’u diffinio
- Pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Mae yna bensiynau hefyd sy'n grŵp canol rhwng y ddau. Gelwir y rhain yn ‘hybrid’ neu ‘falans arian parod’.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cynlluniau balans arian parod
Pan ymunwch â'r cynllun, byddwch fel arfer yn cael llyfryn neu wybodaeth ar-lein gyda gwybodaeth amdano. Byddai hyn yn rhoi manylion y buddion i chi.
Os nad oes gennych y llyfryn neu'r mynediad ar-lein mwyach, cysylltwch â gweinyddwr y cynllun a gofyn am fanylion.
Pensiwn buddion wedi’u diffinio
Mae'r rhain yn talu incwm ymddeol yn seiliedig ar eich cyflog a pha mor hir rydych wedi bod yn aelod o'r cynllun.
Yn gyffredinol dim ond yn y sector cyhoeddus neu mewn cynlluniau pensiwn gweithle hŷn y maent ar gael.
Fel rheol, byddwch yn cyfrannu canran o'ch cyflog bob tro y cewch eich talu. Bydd eich cyflogwr hefyd yn cyfrannu. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn cael yr incwm rydych wedi'i addo pan fyddwch yn ymddeol.
Fel rheol, byddwch naill ai mewn cynlluniau ‘cyflog terfynol’ neu ‘gyfartaledd gyrfa’.
Darganfyddwch fwy am sut mae'r rhain yn gweithio yn ein canllaw Cynlluniau pensiwn buddion wedi'u diffinio (neu gyflog terfynol) wedi'u hesbonio
Pensiwn cyfraniadau wedi’u diffinio
Y ffordd fwyaf cyffredin o gynilo ar gyfer ymddeol yw defnyddio cynllun cyfraniadau wedi’u diffinio i gronni cronfa o arian. Byddwch yn defnyddio hwn i roi incwm i'ch hun pan fyddwch yn ymddeol.
Pan fyddwch yn gweithio i gyflogwr, hyd yn oed os yw'n fusnes bach, mae angen iddyn nhw sefydlu pensiwn gweithle a'ch cofrestru.
Bob diwrnod cyflog, rhoddir canran o'ch cyflog yn y cynllun pensiwn yn awtomatig.
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae eich cyflogwr hefyd yn ychwanegu arian i'r cynllun pensiwn hefyd.
Os yw'ch gwaith yn rhoi mynediad i chi i bensiwn y bydd eich cyflogwr yn talu iddo, mae optio allan fel gwrthod y cynnig o godiad cyflog.
Os ydych yn drethdalwr cyfradd sylfaenol ac yn cyfrannu £10 o'ch cyflog i'ch pensiwn, dim ond £8 y byddai'n ei gostio mewn gwirionedd. Mae'r llywodraeth yn ychwanegu £2 ychwanegol ar ben hynny.
Darganfyddwch fwy am dreth ar eich cyfraniadau pensiwn preifat ar wefan GOV.UK
Oni bai na allwch fforddio cyfrannu mewn gwirionedd, neu mai delio â dyled na ellir ei rheoli yw eich blaenoriaeth, mae'n gwneud synnwyr ymuno.
Yna buddsoddir eich arian fel y gall dyfu.
Pan fyddwch chi dros 55 (57 oed o 2028), gallwch ddefnyddio’ch arian yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi.
Gallai hynny fod yn cael incwm gwarantedig, cymryd incwm ymddeol hyblyg neu gymysgedd o'r ddau.
Mae tri opsiwn y gallai cyflogwyr eu dewis wrth geisio sefydlu pensiwn cyfraniadau diffiniedig ar gyfer eu gweithwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Polisïau prynu allan unigol - cynllun pensiwn sydd ond ar gael i'r cyflogwr hwnnw a'i weithwyr. Ymddiriedolwyr - sy'n cynnwys gweithwyr cwmni - sy'n rhedeg y cynllun.
- Cynllun pensiwn ‘Master trust’ - pensiwn y gellir ei ddefnyddio gan gyflogwyr ar wahân a'u gweithwyr. Mae ymddiriedolwyr sy'n cynnwys gweithwyr o'r cwmnïau sy'n defnyddio'r pensiwn - yn rhedeg y cynllun.
- Pensiwn personol grŵp - math o bensiwn gweithle a sefydlwyd gan eich cyflogwr. Mae'n gasgliad o gynlluniau pensiwn unigol - a bydd un o'r cynlluniau hyn yn eiddo i chi.
Yn ogystal â'r prif opsiynau hyn, mae rhai eraill y gallai cwmnïau llai neu gyfarwyddwyr cwmnïau eu sefydlu.
Mae gan y rhain drefniadau mwy cymhleth sy'n cynnig mwy o nodweddion.
Un enghraifft yw cynllun pensiwn hunan weinyddu bach (SSAS).
Mae cynllun pensiwn hunan weinyddu bach yn fath o bensiwn gweithle cyfraniadau wedi'u diffinioa all roi hyblygrwydd buddsoddi ychwanegol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyfraniad wedi’i ddifinio: Cynlluniau pensiwn hunan weinyddu bach
Cyfraniadau i bensiynau gweithle
Os ydych mewn pensiwn gweithle, bydd eich cyflogwr yn penderfynu ar lefelau'r cyfraniadau i'r cynllun.
Fel arfer, byddan nhw'n cyfrannu ac yn mynnu eich bod hefyd yn cyfrannu o leiaf isafswm.
Os penderfynwch gyfrannu mwy, efallai y bydd eich cyflogwr yn penderfynu ‘paru’r’ cyfraniadau ychwanegol hyn.
Mae'r cyfraniadau fel arfer yn ganran o'ch enillion, er y gallai fod yn swm ariannol.
Bydd eich cyflogwr yn gosod rheolau pensiwn yn y gweithle i ddiffinio pa rannau o'ch enillion sydd wedi'u cynnwys ar gyfer cyfraniadau. Gelwir hyn yn ‘enillion pensiynadwy’.
Mae ymrestru awtomatig yn golygu talu isafswm cyfraniadau ar enillion dros £6,240 hyd at derfyn o £50,270 (yn y flwyddyn dreth 2024/25). Gelwir y darn hwn o’ch enillion yn ‘enillion cymwys’.
Rhaid i'ch cyflogwr gyfrannu o leiaf 3% o'ch cyflog cymhwyso. Ac mae'n rhaid i gyfanswm y cyfraniad gennych chi a'ch cyflogwr fod o leiaf 8%. Mae hynny'n golygu os yw'ch cyflogwr yn cyfrannu 3% rhaid i chi gyfrannu 5%.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Ymrestru awtomatig – cyflwyniad
Byddwch yn cael rhyddhad treth ar unrhyw gyfraniadau rydych yn eu talu, yn amodaol ar rai amodau.
Meddyliwch faint y gallwch fforddio ei gyfrannu at y cynllun, felly rydych ar y trywydd iawn am yr ymddeoliad rydych ei eisiau.
Os ydych yn ymuno â phensiwn gweithle newydd, ond mae gennych un eisoes gan gyflogwr blaenorol
Pan wnaethoch adael eich cyflogwr blaenorol, dylai eich hen ddarparwr pensiwn fod wedi ysgrifennu atoch i egluro'ch opsiynau o dan y cynllun.
Os nad ydynt a bod gennych eu manylion, cysylltwch â nhw i ofyn iddynt egluro beth yw eich opsiynau.
Os oeddech mewn cynllun buddion wedi’u diffinio, fel arfer mae'n well gadael y pensiwn lle mae a bydd yr Ymddiriedolwyr yn gofalu amdano ar eich rhan.
Pan fyddwch yn ymddeol, bydd wedyn yn talu incwm i chi am weddill eich oes.
Os oeddech mewn cynllun cyfraniadau wedi'u diffinio, yn aml bydd gennych ddau opsiwn:
- Gadael y pensiwn lle mae. Bydd yn parhau i gael ei fuddsoddi a gobeithio tyfu dros amser. Gallwch benderfynu sut i'w ddefnyddio yn nes ymlaen. Efallai y byddwch hyd yn oed yn gallu parhau i gyfrannu ato os ydych eisiau.
- Gallwch symud yr arian i'ch darparwr pensiwn newydd, gelwir hwn yn trosglwyddo'ch pensiwn gweithle. Gall hyn ei gwneud hi'n haws cadw golwg ar eich pensiynau a'u rheoli. Efallai y bydd hyd yn oed yn arbed costau i chi hefyd, gan nad ydych yn talu pob darparwr ar wahân.
Gall fod manteision ac anfanteision o ddod â'ch pensiynau at ei gilydd.
Darganfyddwch fwy am ddod â'ch pensiynau at ei gilydd yn ein canllaw Trosglwyddiadau pensiwn y DU
Lle y buddsoddir eich pensiwn gweithle
Cynlluniau cyfraniadau wedi’u diffinio
Pan ymunwch, fel rheol cynigir opsiwn i chi ddewis eich buddsoddiadau eich hun.
Os na ddewiswch eich hun, buddsoddir eich arian mewn cronfa a ddewisir gan y cynllun pensiwn. Efallai y cyfeirir ati fel cronfa ‘ddiofyn’, a bydd yn cael ei chynllunio i weddu i ystod eang o bobl.
Os ydych wedi buddsoddi yn y gronfa ddiofyn, efallai y gwelwch fod eich arian yn cael ei roi mewn cronfa ffordd o fyw.
Cronfa yw hon sy'n gweithio trwy symud eich arian i fuddsoddiadau risg is wrth i chi agosáu at ymddeol.
Os ydych am ddewis eich buddsoddiadau eich hun, bydd y cynllun fel arfer yn cynnig ystod o gronfeydd. Mae hyn er mwyn i chi allu teilwra'ch buddsoddiadau i weddu i’ch anghenion a'ch dewisiadau.
Cynlluniau buddion wedi’u diffinio
Os ydych yn aelod o gynllun buddion wedi’u dififnio yn y gweithle, nid ydych yn gyfrifol am y penderfyniadau buddsoddi.
Mae eich cynllun yn addo'ch incwm ymddeol. Felly eich cyflogwr sy'n gwneud y penderfyniadau buddsoddi ac yn dewis y risgiau sydd eu hangen i gyrraedd y targed hwnnw.
Os ydych wedi colli trywydd eich manylion pensiwn
Os ydych wedi colli trywydd eich manylion pensiwn, gall y Gwasanaeth Olrhain Pensiwn eich helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth gyswllt. Mae hwn yn wasanaeth rhad ac am ddim, gyda chefnogaeth y llywodraeth.