Pan fyddwch yn prynu eiddo, mae sawl math o yswiriant ar gael. Fodd bynnag,nid oes rhaid i chi gymryd pob yswiriant a gynigir i chi. Beth bynnag fyddwch yn penderfynu, mae’n bwysig chwilio am y cynnig gorau yn gyntaf.
Yswiriant adeiladau a chynnwys
Mae yswiriant adeiladau a chynnwys yn fathau gwahanol o yswiriant sy’n cael eu clymu ynghyd a’u gwerthu â’r morgais.
Mae yswiriant adeiladau yn sicrwydd ar gyfer yr adeilad ei hun, petai’n cael ei ddinistrio neu ei ddifrodi gan ddigwyddiadau fel tân neu dywydd gwael.
A oes angen yswiriant adeiladau arnoch?
- Os ydych yn prynu eiddo ar brydles, mae’n bur debygol mai perchennog y rhydd-ddaliad fydd yn gyfrifol am drefnu sicrwydd yswiriant adeiladau.
- Os ydych yn rhydd-ddeiliad â morgais, bydd eich benthyciwr yn mynnu bod gennych yswiriant adeiladau.
Peidiwch â derbyn yr yswiriant adeiladau a gynigir i chi gan eich brocer morgais neu fenthyciwr yn syth – chwiliwch i gael y cynnig gorau.
Byddwch angen cael yswiriant yn ei le pan fyddwch yn cyfnewid contractau i gadarnhau prynu’r eiddo.
Mae hyn am mai chi fydd y perchennog cyfreithiol ac, os bydd tân, neu broblem â strwythur yr eiddo, chi sy’n gyfrifol.
Mae yswiriant cynnwys yn eich diogelu am golled neu ddifrod i'r eitemau yn eich cartref.
Efallai y bydd hefyd yn darparu rhywfaint o yswiriant ar gyfer eitemau a ddefnyddir y tu allan i'r cartref, megis gliniaduron, camerâu a ffonau.
Darllenwch ein canllaw Beth ys yswiriant adeiladau?
A oes angen yswiriant cynnwys arnoch?
- Mae’n bwysig cael yswiriant cynnwys rhag ofn y bydd tân, llifogydd neu ladrad.
- Nid oes angen i chi dderbyn yr yswiriant cynnwys a gynigir i chi gan eich brocer morgais neu ddarparwr benthyciadau yn syth – chwiliwch i gael y cynnig gorau.
Darllenwch ein canllaw Beth yw yswiriant cynnwys?
Yswiriant bywyd
- Peidiwch â theimlo dan bwysau i brynu yswiriant bywyd gan eich darparwr benthyciadau neu frocer morgeisi – chwiliwch am y cynnig gorau
- Mae yswiriant bywyd yn bwysig os oes gennych blant, gan y byddant yn debygol o fod angen taliad wedi i chi farw i helpu ag ad-daliadau morgais
Darllenwch ein canllaw Beth yw yswiriant bywyd?
Yswiriant diogelu taliadau morgais (MPPI)
Mae MPPI yn sicrwydd ar gyfer eich taliadau morgais misol petaech yn methu â’u talu oherwydd damwain, salwch neu ddiweithdra.
Yswiriant diogelu incwm
Bydd yswiriant diogelu incwm yn talu allan os na allwch weithio oherwydd salwch neu ddamwain.
Darllenwch ein canllaw Beth yw yswiriant diogelu incwm?
Yswiriant salwch difrifol
Mae yswiriant salwch difrifol yn cynnig sicrwydd rhag ofn y canfyddir bod unrhyw salwch a nodir yn y polisi arnoch.
Os ydych yn gwneud cais llwyddiannus, bydd cyfandaliad di-dreth yn cael ei wneud i chi.