Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

    Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Arian myfyrwyr a graddedigion
Teulu a gofal Arian myfyrwyr a graddedigion

Awgrymiadau am gyllidebu ar gyfer prifysgol

Mae'n bwysig gwybod sut i reoli'ch arian fel myfyriwr, fel arall ni fydd yn para trwy'r tymor a'r gwyliau. Rydym wedi llunio rhestr wirio o awgrymiadau cyllidebu hanfodol i'ch helpu i wneud y gorau o'ch cyllid yn y brifysgol neu'r coleg.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Costau byw fel myfyriwr
  • Cynllunio ariannol i fyfyrwyr
  • Os ydych yn gwario mwy nag ydych yn ei ennill
  • Sut i dorri costau fel myfyriwr
  • Benthyciadau a grantiau cynhaliaeth
  • Grantiau eraill
  • Budd-daliadau
  • Siopa'n glyfar gyda gostyngiadau myfyrwyr
  • Dod o hyd i waith rhan amser
  • Trafnidiaeth
  • Cael help gyda dyled
  • Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau sy'n targedu myfyrwyr

Costau byw fel myfyriwr

Ar gyfer llawer o fyfyrwyr, mynd i'r brifysgol yw eu profiad cyntaf o fyw oddi cartref.

Mae'r amser cyffrous hwn yn dod â llawer o gyfrifoldebau newydd, gan gynnwys yr angen i reoli eich cyllid eich hun.

Efallai mai eich benthyciad myfyriwr yw'r swm mwyaf o arian rydych chi wedi'i dderbyn erioed, ond cofiwch - mae angen iddo bara trwy'r tymor.

Arbed arian ar lety myfyrwyr

Mae'n debyg mai rhent yw eich cost byw misol fwyaf, p'un a ydych mewn neuaddau neu lety preifat. Canfu Arolwg Cenedlaethol Arian Myfyrwyr 2026 fod cost llety yn defnyddio 48% o gyllideb y myfyriwr cyffredin.

Ni fyddwch bob amser yn gallu gwneud arbedion enfawr o ran eich rhent, ond gall yr awgrymiadau da yma helpu.

Darllenwch eich cytundeb tenantiaeth cyn llofnodi

Efallai nad yw'n swnio fel y ffordd amlwg o arbed arian ond mae darllen a deall eich cytundeb tenantiaeth yn hanfodol.

Mae'r rhan fwyaf o gytundebau rhentu yn safonol ond gwiriwch y print mân am gymalau neu gyfyngiadau a allai gostio rhywfaint neu'r cyfan o'ch blaendal i chi pan fyddwch chi'n gadael. Gofynnwch i'ch landlord neu asiantaeth egluro unrhyw beth nad ydych chi'n ei ddeall.

Fel myfyriwr, mae gennych yr un hawliau ag unrhyw rentwr preifat arall.

Darganfyddwch beth sydd gennych hawl iddo a beth sy'n ddisgwyliedig gennych yn ein canllaw Esbonio hawliau a chyfrifoldebau tenantiaid. 

Rhannu gyda chyd-aelodau tŷ

Os ydych chi'n rhentu yn breifat, gallai rhannu eiddo gyda sawl person ostwng eich rhent a'ch biliau. Gallwch hefyd rannu cost pethau rydych chi i gyd yn eu defnyddio fel band eang a gwasanaethau ffrydio fel nad ydych chi i gyd yn talu'n unigol.

Talu llai am ystafell lai

Os ydych chi'n hapus gyda llai o le, gofynnwch i'ch cyd-aelodau tŷ a allwch chi gael gostyngiad yn eich rhent os ydych chi'n cymryd yr ystafell leiaf yn yr eiddo, ac maen nhw'n talu ychydig yn fwy.

Gallai talu biliau ar wahân fod yn rhatach

Mae rhent ‘Holl filiau wedi’u cwmpasu’ yn swnio'n gyfleus, ond nid dyma'r fargen orau bob amser.

Gallai eich cytundeb tenantiaeth ddod ag amod 'defnydd teg', sy'n nodi faint o ynni neu ddŵr y mae eich landlord yn meddwl y dylech ei ddefnyddio yn ystod eich tenantiaeth. Os byddwch chi'n mynd dros y swm hwnnw, gallech orfod talu tâl ychwanegol.

Byddwch hefyd yn talu'r un peth bob mis, waeth faint rydych chi'n ei ddefnyddio mewn gwirionedd - sydd ddim yn fargen dda os ydych chi i gyd gartref ar gyfer y Nadolig a bod popeth wedi'i ddiffodd.

Gofynnwch i'ch landlord beth fyddai'r rhent heb filiau wedi'u cynnwys, yna gweithiwch allan pa opsiwn sy'n gweithio allan yn rhatach.  

Edrychwch ar sawl eiddo a lleoliadau wahanol cyn dewis

Peidiwch â chymryd yr eiddo cyntaf a welwch. Cymharwch ychydig o ardaloedd ac eiddo yn gyntaf, a gallech ddod o hyd i ystafell addas am lai.

Mae rhent yn aml yn rhatach ymhellach o'r campws ond gwiriwch nad yw unrhyw arbedion a wnewch yn cael eu dileu gan gostau teithio uwch.

Gwiriwch a ydych chi'n cael gostyngiad Treth Gyngor

Nid yw myfyrwyr llawn amser yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yn talu'r Dreth Gyngor, ond mae faint mae eich cartref yn ei arbed yn dibynnu ar bwy rydych chi'n byw gyda nhw.

  • Os yw'ch cartref i gyd yn fyfyrwyr amser llawn, rydych chi'n talu dim Treth Gyngor, ond mae angen i chi gofio hawlio hyn gyda thystysgrif myfyriwr. Mae neuaddau prifysgol fel arfer wedi'u heithrio'n awtomatig.
  • Os ydych chi'n rhannu gydag un nad yw'n fyfyriwr, mae eich cartref yn cael gostyngiad o 25% i un person.
  • Os ydych chi'n rhannu gyda 2 neu fwy nad ydynt yn fyfyrwyr sy'n gweithio, nhw sy'n gyfrifol am fil llawn y Dreth Gyngor, nid chi, oni bai bod un ohonynt yn 'berson sy'n cael ei ddiystyru' (rhywun nad yw'n cael ei gyfrif fel preswylydd at ddibenion y Dreth Gyngor).

Mae rheolau arbennig hefyd yn berthnasol os ydych chi'n byw gyda phriod, partner neu ddibynnydd nad yw'n Brydeinig.

Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion a'r rhestr lawn o bwy sy'n gymwys fel person sy'n cael ei ddiystyru yng nghanllaw Cyngor ar Bopeth Gwiriwch a allwch dalu llai o Dreth GyngorYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Cynllunio ariannol i fyfyrwyr

Pan fyddwch chi'n derbyn eich benthyciad cynnal a chadw neu ddyfarniadau eraill neu gyllid prawf modd ar ddechrau pob tymor, gall ymddangos fel llawer o arian.

Ond gall gwneud iddo bara ar gyfer y flwyddyn academaidd a'r gwyliau, fod yn dipyn o waith.

Mae'n syniad da gweithio allan cyllideb yn seiliedig ar yr arian sydd gennych yn dod i mewn ac allan, a'i wirio'n rheolaidd.

Sut i gyllidebu yn y brifysgol

Os mai prifysgol yw'r tro cyntaf i chi dalu eich biliau eich hun a chostau bob dydd, gall llunio cyllideb at ei gilydd deimlo fel trafferth.

Dechreuwch yn syml. Ysgrifennwch pa arian sydd gennych yn dod i mewn, a beth rydych chi'n ei wario bob mis.

Cofiwch

Os ydych yn rhannu llety, gwnewch yn siŵr fod y biliau’n cael eu rhannu’r deg a’u talu’n brydlon. Cysylltwch â’ch darparwr yn gynnar os rhagwelwch y bydd taliad hwyr oherwydd gallai’ch statws credyd neu’ch gallu i gael credyd yn y dyfodol gael ei effeithio.

Yn gyntaf, ychwanegwch gyfanswm eich incwm myfyrwyr – dyma ba bynnag arian y byddwch chi'n ei dderbyn o:

  • fenthyciadau cynnal a chadw
  • incwm o swydd
  • bwrsariaethau, ysgoloriaethau, dyfarniadau neu grantiau
  • arian gan rieni neu deulu
  • unrhyw gynilion neu fuddsoddiadau.

Unwaith y byddwch chi'n gwybod cyfanswm eich incwm, cyfrifwch eich treuliau – dyma beth rydych chi'n ei wario ar:

  • fwyd a diod
  • biliau, fel nwy, trydan, dŵr, ffôn a Wi-Fi
  • tanysgrifiadau ac aelodaethau, fel cerddoriaeth, adloniant a champfa
  • costau llety, megis rhent ac yswiriant ar gyfer pethau gwerthfawr
  • trwydded deledu os ydych chi'n gwylio teledu byw neu BBC iPlayer (gyda chytundeb tenantiaeth ar y cyd, dim ond un sydd ei angen rhyngoch chi)
  • costau teithio – yn cynnwys cludiant i'r brifysgol ac oddi yno a theithio adref, a thanwydd, costau cynnal a chadw ac yswiriant cerbydau os ydych chi'n gyrru
  • costau cwrs untro, fel gwerslyfrau, offer, teithiau maes.

Os nad ydych chi'n gwybod yr union ffigyrau, gwnewch ddyfaliad gwybodusneu ychwanegwch yr hyn rydych chi'n ei wario mewn blwyddyn a'i rannu â 12.

Gwnewch yn siŵr bod eich incwm naill ai'n fwy na neu'n hafal i'ch treuliau allanol, yn wythnosol neu'n fisol.

Defnyddio cynlluniwr cyllideb myfyrwyr

Cymerwch ychydig funudau i gwblhau ein Cynlluniwr cyllideb i gael dadansoddiad clir o ble mae eich arian yn mynd bob mis - a sylwi ar lefydd lle gallech dorri yn ôl os ydych chi'n gorwario.

Cynlluniwr cyllideb

I’ch helpu i reoli’ch arian, rhowch gynnig ar ein Cynlluniwr cyllideb rhad ac am ddim sy’n hawdd ei ddefnyddio

Paratoi ar gyfer costau annisgwyl

Rhowch ychydig o arian o'r neilltu ar gyfer argyfyngau os gallwch. Cadwch yr arian mewn cyfrif ar wahân na fyddwch chi'n cyrchu oni bai bod gwir angen i chi.

Gallai hyd yn oed cronfa o £100 eich atal rhag mynd i’ch gorddrafft pan fyddwch chi'n cael eich taro â chost annisgwyl.

Darganfyddwch fwy am Ddod i'r arfer o gynilo

Diogelu eich eiddo

Mae'n hawdd hepgor yswiriant i arbed arian. Ond a allech chi fforddio ailosod eich ffôn neu liniadur pe bai rhywbeth yn digwydd iddyn nhw?

Fel myfyriwr, gallwch fod yn darged ar gyfer troseddu, yn enwedig o gwmpas wythnos y glas.

Gwiriwch a ydych eisoes wedi'ch cwmpasu o dan yswiriant cartref neu gynnwys eich rhieni tra byddwch yn y brifysgol. Efallai y byddant yn gallu eich ychwanegu at eu polisi am ffi.

Os na, ystyriwch brynu yswiriant cynnwys eich hun i ddiogelu y pethau y byddech chi'n ei chael hi'n anodd eu disodli pe baent yn cael eu colli, eu difrodi neu eu dwyn.

Nol i’r brig

Os ydych yn gwario mwy nag ydych yn ei ennill

Mae hon yn broblem gyffredin sy'n wynebu miloedd o fyfyrwyr.

Ystyriwch y canlynol:

  • Cynyddu eich incwm - yn dibynnu ar eich amserlen astudio, gallai cymryd gwaith rhan-amser wneud gwahaniaeth mawr i'ch cyllideb.
  • Siarad ag ymgynghorydd - dylai eich prifysgol neu goleg gael ymgynghorydd arian myfyrwyr neu wasanaethau cymorth a all eich helpu i reoli eich arian.
  • Lleihau eich treuliau - edrychwch ar beth rydych chi'n gwario arian arno. A oes unrhyw lefydd y gallech chi dorri i lawr arnynt? Gallai cyfnewid cynhyrchion brand am frandiau archfarchnadoedd neu rannu costau prydau bwyd arbed arian i chi
  • Ystyriwch fenthyg – wedi rhoi cynnig ar bopeth arall? Ystyriwch opsiynau benthyg fel gorddrafft awdurdodedig, di-log neu gerdyn credyd a allai ddod gyda'ch cyfrif myfyriwr. Dylech ond benthyg yr hyn sydd ei angen arnoch a'r hyn y gallwch ei ad-dalu.

Os oes angen i chi fenthyg arian i'ch helpu i'ch cefnogi wrth i chi astudio, cofiwch y bydd angen ad-dalu hyn. Darllenwch ein canllaw Sut i ddelio â dyledion ar ôl graddio.

Back to top

Sut i dorri costau fel myfyriwr

Os ydych chi'n gweld eich bod chi'n gwario mwy nag rydych chi'n ei ennill, defnyddiwch yr awgrymiadau hyn i helpu i leihau eich treuliau tra yn y brifysgol, a darllenwch ein canllaw llawn Sut i arbed arian ar filiau cartref.

Cynllunio eich siopa bwyd wythnosol

Defnyddiwch yr awgrymiadau hyn i aros o fewn y gyllideb tra yn gwneud eich siopa wythnosol:

  • gwnewch restr siopa cyn cychwyn a chadw ato
  • coginio prydau lluosog - dysgwch un neu ddau o brydau hawdd i'w coginio mewn prydau lluosog a'u storio yn y rhewgell
  • gwnewch brydau 'teuluol' gyda'ch cyd-aelodau tŷ – coginio a bwyta pryd gyda'ch gilydd i rannu cost cynhwysion
  • ceisiwch brynu brand yr archfarchnad neu fwyd cost llai i gadw costau i lawr.

Gallwch hefyd ddefnyddio gwefannau gwastraff bwyd poblogaidd ar gyfer syniadau am ryseitiau gan ddefnyddio'r hyn sydd yn eich oergell, a dod o hyd i siopau a bwytai lleol sy'n cynnig bwyd cost gostyngol:

  • Love food hate wasteYn agor mewn ffenestr newydd
  • Too Good To GoYn agor mewn ffenestr newydd

Prynu gwerslyfrau a chyfarpar cwrs ail-law

Gall llyfrau ac offer prifysgol fod yn llawer ddrytach na'r hyn rydych chi wedi arfer ei brynu yn y gorffennol.

Pan fyddwch chi'n cael eich rhestr ddarllen, ceisiwch gael cymaint ag y gallwch o lyfrgell y brifysgol neu brynu ail-law lle bo hynny'n bosibl.

Mae rhai llyfrgelloedd prifysgol ac undebau myfyrwyr yn cynnal cyfnewid llyfrau a digwyddiadau cyfnewid llyfrau dros dro, felly edrychwch ar fyrddau bwletin a chyfryngau cymdeithasol am fanylion.

Cael ad-daliad ar eich trwydded deledu

Mae angen trwydded deledu arnoch os ydych chi'n gwylio teledu byw neu BBC iPlayer ar unrhyw ddyfais, gan gynnwys teledu, cyfrifiadur, tabled, ffôn neu gonsol gemau.

Y newyddion da yw y gallwch hawlio ad-daliad misol ar ffi eich trwydded deledu am unrhyw fisoedd nad ydych chi'n ei ddefnyddio.

Felly, os ydych chi'n mynd adref am yr haf, gallwch hawlio ad-daliad am y misoedd nad ydych chi'n gwylio'r teledu yn eich llety myfyrwyr, cyn belled â bod o leiaf un mis ar ôl ar eich trwydded na fyddwch chi'n ei ddefnyddio.

Ewch i ad-daliad trwydded deledu: sut i hawlio eich un chiYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Save the Student i gael gwybod mwy. 

Poeni am gyllidebu yn y coleg neu’r brifysgol?

Lawrlwythwch ein taflen am ddim 10 awgrym ar gyfer rheoli arian fel myfyriwrYn agor mewn ffenestr newydd (PDF, 350KB)

Nol i’r brig

Benthyciadau a grantiau cynhaliaeth

Mae benthyciadau cynhaliaeth i dalu eich costau byw, felly mae cyllidebu yn hanfodol.

Rydych chi'n cael eich talu mewn tri rhandaliad, un taliad ar ddechrau pob tymor, oni bai eich bod yn yr Alban, lle mae'r benthyciadau hyn yn cael eu talu'n fisol.

Mae'r hyn sydd gennych hawl iddo yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw a ble mae eich prifysgol neu goleg. Mae hefyd yn rhannol yn destun prawf modd, felly mae faint rydych chi'n ei gael hefyd yn dibynnu ar incwm y cartref.

I'r rhan fwyaf o fyfyrwyr, mae hyn yn golygu bod enillion y rhiant neu'r rhieni rydych chi'n byw gyda nhw yn cael eu hystyried, ar y rhagdybiaeth y byddant yn gallu cyfrannu at eich addysg. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod myfyrwyr o gartrefi tlotach fel arfer yn cael y gefnogaeth ariannol fwyaf.

Yn dibynnu ar ba genedl rydych chi ynddi a'r asiantaeth cyllid myfyrwyr sy'n berthnasol i chi, efallai y bydd grantiau ac opsiynau cyllido eraill ar gael.

Fel arfer, nid oes rhaid i chi ad-dalu grantiau neu fwrsarïau, ond dim ond os ydych chi'n bodloni meini prawf penodol y byddwch chi'n gymwys i'w cael. Gall amodau fod yn berthnasol, ac efallai y bydd angen ad-dalu rhywfaint o gyllid os bydd eich amgylchiadau'n newid, er enghraifft os byddwch yn gadael eich cwrs.

I gael rhagor o wybodaeth am fenthyciadau cynhaliaeth, grantiau, bwrsariaethau a dyfarniadau, ewch i:

  • Cyllid Myfyrwyr CymruYn agor mewn ffenestr newydd
  • Student Finance EnglandYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
  • Student Awards Agency for ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd
  • Student Finance Northern IrelandYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Grantiau eraill

Os ydych chi'n cael trafferth cadw i fyny â biliau neu dalu cost rhent, mae yna ffyrdd eraill o gael grantiau i helpu.

Siaradwch â'ch prifysgol am ba gefnogaeth y gallant ei gynnig. Mae gan lawer o sefydliadau gronfa caledi a allai eich helpu i fforddio aros mewn addysg.

Darganfyddwch am grantiau, bwrsariaethau a chronfeydd ysgoloriaethauYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Save the Student.

Nol i’r brig

Budd-daliadau

Ni all y rhan fwyaf o fyfyrwyr llawn amser hawlio budd-daliadau sy’n destun prawf modd, fel Credyd Cynhwysol. Ond os oes gennych anabledd neu rydych chi'n ofalwr i blentyn ifanc, efallai y byddwch chi'n gallu hawlio budd-daliadau penodol.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl fanteision sydd ar gael i fyfyrwyr ar wefan turn2us:

  • Myfyrwyr llawn amser a budd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd
  • Myfyrwyr rhan-amser a budd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd
Nol i’r brig

Siopa'n glyfar gyda gostyngiadau myfyrwyr

Mae yna lawer o ostyngiadau gwych ar gael i fyfyrwyr efo arian i ffwrdd mewn siopau, mewn bwytai, ar gyfer trafnidiaeth, a llawer mwy. Ond peidiwch â defnyddio hyn fel rheswm i wario arian ar bethau nad oes eu hangen arnoch mewn gwirionedd.

Defnyddiwch eich mewngofnod prifysgol i gael gostyngiadau ar-lein ac mewn siopau trwy'r apiau hyn:

  • Totum cardYn agor mewn ffenestr newydd
  •  UnidaysYn agor mewn ffenestr newydd

  • Student BeansYn agor mewn ffenestr newydd

Nol i’r brig

Dod o hyd i waith rhan amser

Ar ôl i chi weithio allan eich cyllideb, byddwch yn gweld a yw cymryd gwaith rhan-amser yn syniad da.

Gallai hyn fod yn ystod y gwyliau neu'r tymor.

Mae swyddi sy'n gyfeillgar i fyfyrwyr yn aml yn dod â chontractau sero oriau, a all ei gwneud hi'n anodd cyllidebu pan nad ydych chi'n gwybod yn union faint y byddwch chi'n ei ennill bob mis.

Darllenwch ein canllaw i ddysgu Sut i gyllidebu ar gyfer incwm afreolaidd.

Ond peidiwch ag esgeuluso'ch astudiaethau - mae ymchwil yn dangos y gall mwy nag 20 awr o waith yr wythnos gael effaith negyddol ar berfformiad academaidd.

Felly, os ydych chi'n anelu at swydd yn ystod y tymor, ceisiwch ddod o hyd i gydbwysedd da rhwng gwaith ac astudio.

Nol i’r brig

Trafnidiaeth

P'un a yw'n eich trafeilio i'r dosbarth neu'n mynd yn ôl adref ar gyfer y gwyliau, bydd angen i chi gynnwys costau teithio yn eich cyllideb.

Mae yna lawer o gardiau teithio myfyrwyr a bargeinion i leihau costau, felly gwiriwch beth mae cwmnïau trafnidiaeth yn ei gynnig lle rydych chi'n astudio ac archebwch ymlaen llaw am arbedion ychwanegol.

Mae'r gostyngiadau'n cynnwys:

  • mae’r 16-17 Saver RailcardYn agor mewn ffenestr newydd yn arbed 50% ar brisiau trên – prynwch ef y diwrnod cyn i chi droi'n 18 oed i gael teithio gostyngol nes i chi droi'n 19 oed.
  • mae’r 16-25 RailcardYn agor mewn ffenestr newydd yn arbed traean ar lawer o brisiau trên
  • mae’r 26-30 RailcardYn agor mewn ffenestr newydd yn arbed traean ar brisiau trên
  • mae’r young Persons CoachcardYn agor mewn ffenestr newydd yn arbed traean oddi ar deithio bws
  • mae’r Cerdyn Llun Oyster Myfyrwyr 18+Yn agor mewn ffenestr newydd  yn arbed 30% ar gardiau teithio Llundain a thocynnau tymor Bws a Thramiau
  • mae’r Cerdyn yLinkYn agor mewn ffenestr newydd (Gogledd Iwerddon) yn arbed am 50% ar deithio ar fws a threilffordd.

Ar gyfer arbedion tymor hir, ystyriwch brynu beic. Cofiwch gael clo da ar ei gyfer hefyd.

Nol i’r brig

Cael help gyda dyled

Peidiwch ag oedi cyn cael cyngor am ddim gan ddefnyddio ein Lleolwr cyngor ar ddyledion os ydych chi'n teimlo bod eich ad-daliadau yn dod yn broblem.

Mae dyled yn realiti i lawer o fyfyrwyr a gall achosi straen a phryder.

Bydd gan y rhan fwyaf o brifysgolion a cholegau ymgynghorydd arian myfyrwyr neu wasanaethau cymorth ar gael i'ch helpu i ddatblygu technegau cyllidebu a rhoi gwybod i chi am unrhyw opsiynau cymorth ariannol sydd ar gael i chi fel myfyriwr, fel cronfeydd caledi

Ydych chi’n cael trafferthion gyda thaliadau?

Defnyddiwch ein Teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion diduedd ac am ddim ar-lein, dros y ffon neu yn agos at le rydych yn byw.

Nol i’r brig

Byddwch yn wyliadwrus o sgamiau sy'n targedu myfyrwyr

Mae symud i ffwrdd o gartref am y tro cyntaf yn gyffrous. Ond gall hefyd eich gwneud chi'n darged hawdd i sgamwyr.

Peidiwch â bod yn ful arian

A oes rhywun wedi gofyn i chi ddal eu harian yn eich cyfrif banc, ac yna ei anfon ymlaen at rywun arall?

Efallai ei fod yn ymddangos fel ffafr syml, ond peidiwch â gwneud hynny. Gelwir hyn yn ful arian, ac mae'n anghyfreithlon.

Os ydych chi'n ymwneud â'r math hwn o wyngalchu arian, gall eich cyfrifon banc gael eu cau, gan ei gwneud hi'n anodd agor un newydd. Ac yn y sefyllfa waethaf, gallech wynebu hyd at 14 mlynedd yn y carchar pe baech chi'n cymryd rhan yn ymwybodol.

Darllenwch fwy yn ein blog Mulod arian – beth ydynt a phwy all fod yn ddioddefwr?

Osgowch gynlluniau crypto neu fuddsoddi

Meddyliwch yn ofalus iawn cyn rhoi eich arian mewn buddsoddiadau i roi hwb i'ch incwm.

Mae sgamiau buddsoddi wedi'u cynllunio i'ch perswadio i drosglwyddo arian, a gallant edrych yn argyhoeddiadol iawn. Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw un sy'n addo ffordd i chi wneud arian hawdd, yn enwedig ar gyfryngau cymdeithasol, trwy hyrwyddo cryptoarian neu fuddsoddi mewn stociau neu gronfeydd penodol.

Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i adnabod sgam buddsoddi.

Back to top
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Arian myfyrwyr a graddedigion

Arian myfyrwyr

  • Cyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
  • Awgrymiadau am gyllidebu ar gyfer prifysgol
  • Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Arian myfyrwyr

  • Cyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
  • Awgrymiadau am gyllidebu ar gyfer prifysgol
  • Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012