Skip to content
Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian Logo HelpwrArian
English
  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol

    Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad

    Budd-daliadau os oes gennych blant

    Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant

    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr

    Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd

    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd

    Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth

    Budd-daliadau a gwaith

    Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd

    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai

    Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel

    Problemau gyda budd-daliadau

    Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau

    Budd-daliadau

    Pob canllaw Budd-daliadau

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau

    Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc

    Cyllidebu

    Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian

    Prynu a rhedeg car

    Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg

    Credyd

    Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd

    Yswiriant

    Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant

    Arian bob dydd

    Pob canllaw Arian bob dydd

    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant

    Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant

    Marwolaeth a phrofedigaeth

    Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau

    Ysgariad a gwahanu

    Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu

    Salwch ac anabledd

    Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio

    Gofal tymor hir

    Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal

    Arian myfyrwyr a graddedigion

    Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr

    Siarad am arian

    Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid

    Teulu a gofal

    Pob canllaw Teulu a gofal

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref

    Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth

    Rhentu

    Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau

    Cartrefi

    Pob canllaw Cartrefi

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw

    Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi

    Delio â dyled

    Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion

    Problemau a chwynion am arian

    Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion

    Sgamiau

    Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan

    Problemau ariannol

    Pob canllaw Problemau ariannol

    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn

    Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn

    Esbonio pensiynau

    Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion

    Problemau a newidiadau pensiwn

    Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno

    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau

    Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da

    Pensiwn y Wladwriaeth

    Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu

    Cymryd eich pensiwn

    Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau

    Treth a phensiynau

    Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio

    Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn

    Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo

    Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau

    Buddsoddi

    Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli

    Math o gynilion

    Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant

    Cynilion

    Pob canllaw Cynilion

    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth

    Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol

    Colli eich swydd

    Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo

    Hunangyflogaeth

    Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad

    Gwaith

    Pob canllaw Gwaith

    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Budd-daliadau
  • Arian bob dydd
  • Teulu a gofal
  • Cartrefi
  • Problemau ariannol
  • Pensiynau ac ymddeoliad
  • Cynilion
  • Gwaith
  • Credyd Cynhwysol Canfod sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio a sut i reoli’ch taliad
    Budd-daliadau os oes gennych blant Hawliau i’ch helpu gyda chost beichiogrwydd neu godi plant
    Budd-daliadau os ydych yn sâl, yn anabl neu’n ofalwr Deall pa gefnogaeth sydd ar gael i ymdopi ag afiechyd
    Budd-daliadau yn ddiweddarach mewn bywyd Efallai fod gennych hawl am help gyda chostau eraill ar ben eich Pensiwn y Wladwriaeth
    Budd-daliadau a gwaith Cefnogaeth ychwanegol os ydych yn gweithio, hunangyflogedig, neu wedi colli swydd
    Budd-daliadau i’ch helpu gyda chostau tai Cefnogaeth i helpu gyda thaliadau rhent neu forgais os ydych ar incwm isel
    Problemau gyda budd-daliadau Beth i’w wneud os yw rhywbeth yn mynd yn anghywir gyda’ch budd-daliadau
    Budd-daliadau Pob canllaw Budd-daliadau
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Bancio a thaliadau Sut i ddewis, defnyddio a rheoli cyfrifon banc
    Cyllidebu Sut i gyllidebu, dod o hyd i’r fargen orau a newid i arbed arian
    Prynu a rhedeg car Sut i brynu ac ariannu car, delio â phroblemau gyda chyllid ceir, a thorri costau eu rhedeg
    Credyd Hanfodion credyd, gwneud cais am gredyd, statws credyd a phroblemau gyda chredyd
    Yswiriant Yswiriant ar gyfer ceir, iechyd, teithio, a help gydag yswiriant
    Arian bob dydd Pob canllaw Arian bob dydd
    Teclynnau

    Teclyn

    Canfyddwr prisiau Petrol

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Teclyn

    Eich opsiynau am fenthyca arian

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Dod yn rhiant Cael babi, dychwelyd i’r gwaith, costau gofal plant
    Marwolaeth a phrofedigaeth Ewyllysiau, etifeddiaeth, delio ag ystadau
    Ysgariad a gwahanu Rhoi trefn ar arian a chartrefi, beth os oes gennych blant, arian ar ôl gwahanu
    Salwch ac anabledd Rheoli costau, cymorth ariannol ychwanegol, help gyda gwaith neu astudio
    Gofal tymor hir Talu a chael cyllid, ffyrdd o dalu, problemau gyda gofal
    Arian myfyrwyr a graddedigion Cardiau credyd, cyfrifon banc, dyled myfyriwr
    Siarad am arian Sgyrsiau anodd, siarad â phobl ifanc yn eu harddegau, pobl hŷn a phartneriaid
    Teulu a gofal Pob canllaw Teulu a gofal
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ysgaru

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell costau babi

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Morgeisi a phrynu cartref Morgeisi, help i brynu, ailforgeisio, prynwyr tro cyntaf, help a chefnogaeth
    Rhentu Help wrth rentu cartref a delio â phroblemau
    Cartrefi Pob canllaw Cartrefi
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell Treth Stamp

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell fforddiadwyedd morgais

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell ad-dalu morgais

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Help gyda chostau byw Cyllidebu, talu biliau, dod o hyd i gymorth ariannol ychwanegol, ymdopi â cholli swyddi
    Delio â dyled Biliau, dirwyon llys, help gyda dyledion
    Problemau a chwynion am arian Beth i'w wneud am gam-werthu, iawndal a chwynion
    Sgamiau Sylwi ar sgamiau a beth i'w wneud os cewch eich dal allan
    Problemau ariannol Pob canllaw Problemau ariannol
    Teclynnau

    Teclyn

    Teclyn lleoli cyngor ar ddyledion

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell budd-daliadau

    Teclyn

    Blaenoriaethwr biliau

    Teclyn

    Beth i’w wneud os ydych wedi cael gwrthod credyd

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Rheoli a chronni’ch pensiwn Faint i’w gynilo ar gyfer ymddeoliad a ffyrdd o roi hwb i’ch pensiwn
    Esbonio pensiynau Sut i ddechrau pensiwn, sut mae pensiynau’n gweithio a’r buddion
    Problemau a newidiadau pensiwn Sut i ddod o hyd i bensiynau coll, datrys problemau a chwyno
    Trosglwyddiadau a chydgrynhoi pensiynau Sut i drosglwyddo neu gyfuno pensiynau ac a yw’n syniad da
    Pensiwn y Wladwriaeth Faint o Bensiwn y Wladwriaeth y gallech ei gael a ffyrdd i'w gynyddu
    Cymryd eich pensiwn Sut a phryd i gymryd eich pensiwn – esboniad ar eich opsiynau
    Treth a phensiynau Sut mae rhyddhad treth, lwfansau di-dreth a threth ar incwm yn gweithio
    Gwneud y mwyaf o’ch pensiwn Deall eich opsiynau pensiwn a chyfrifo eich incwm a chostau ymddeoliad

    HOLL BENSIYNAU AC YMDDEOLIAD

    Teclynnau

    Apwyntiad

    Cael apwyntiad Pension Wise

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell pensiwn

    Teclyn

    MOT Canol Oes Arian

    Teclyn

    Cael arweiniad ymddeoliad

    POB TECLYN

    Gallwch gael apwyntiad Pension Wise

    Darganfyddwch sut y gallwch gymryd arian o bensiwn cyfraniadau wedi’i ddiffinio. Mae Pension Wise am ddim, yn ddiduedd a chaiff ei gefnogi gan y llywodra…

  • Sut i gynilo Dechrau arni, cael y gorau allan o’ch cynilion, problemau
    Buddsoddi Sut i fuddsoddi, mathau o fuddsoddi, prynu a rheoli
    Math o gynilion Help gyda chyrraedd nodau, cynilo treth-gyfeillgar, cynilo i blant
    Cynilion Pob canllaw Cynilion
    Teclynnau

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cynilo

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

  • Cyflogaeth Hanfodion, buddion, treth ac Yswiriant Gwladol
    Colli eich swydd Beth i’w wneud, dewisiadau amgen, tâl diswyddo
    Hunangyflogaeth Dechrau allan, yswiriant, treth, hunanasesiad
    Gwaith Pob canllaw Gwaith
    Teclynnau

    Teclyn

    Cynlluniwr Cyllideb

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell tâl diswyddo

    Cyfrifiannell

    Cyfrifiannell cyflog

    POB TECLYN

    Trafferthion pensiwn? Ymunwch â’n grŵp cymuned

    Mae ein grŵp Facebook preifat ‘Your pension and planning for the future – by MoneyHelper’ i gael help ac i sgwrsio am bensiynau

Home
English
  1. Hafan
  2. Teulu a gofal
  3. Arian myfyrwyr a graddedigion
Teulu a gofal Arian myfyrwyr a graddedigion

Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch

Os byddwch chi’n mynd ymlaen i ddilyn addysg bellach ac uwch yn y DU a bod angen cymorth ariannol arnoch, mae grantiau, benthyciadau a’r bwrsarïau sydd ar gael. Darganfyddwch beth sydd ar gael i chi, yn seiliedig ar ble rydych chi fel arfer yn byw.

Beth sydd yn y canllaw hwn

  • Help cyllid myfyrwyr
  • Budd-daliadau os ydych mewn addysg bellach neu addysg uwch
  • Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach yn Lloegr
  • Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch yn yr Alban
  • Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch yng Nghymru
  • Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch yng Ngogledd Iwerddon

Help cyllid myfyrwyr

Mae cyllid myfyrwyr yn cyfeirio’n gyffredinol at y benthyciadau a gefnogir gan y llywodraeth y gallwch eu cael i dalu ffioedd dysgu a chostau byw.

Os ydych chi’n chwilio am wybodaeth am y benthyciadau hyn, ewch i wefan UCAS:

  • Cyllid myfyrwyr yn LloegrYn agor mewn ffenestr newydd
  • Cyllid myfyrwyr yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd
  • Cyllid myfyrwyr yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd
  • Cyllid myfyrwyr yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd

Ond efallai y byddwch hefyd yn gymwys i gael cymorth ariannol ychwanegol tra byddwch yn astudio, fel grantiau, bwrsarïau, cronfeydd neu fenthyciadau eraill.

Mae’r cymorth y gallwch ei gael fel arfer yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw, nid ble rydych chi’n astudio. Er enghraifft, os ydych chi’n byw yn Lloegr ond yn astudio yn yr Alban, dylech wirio’r cymorth sydd ar gael yn Lloegr.

Gallwch weld pa gymorth neu gyllid ychwanegol sydd ar gael yn y wlad lle rydych chi’n byw fel arfer drwy ddefnyddio’r adrannau yn y canllaw hwn.

Os nad ydych chi’n siŵr pa system cyllid myfyrwyr sy’n berthnasol i chi, gofynnwch i’ch coleg neu’ch prifysgol am gymorth.

Mae rheolau a therfynau amser yn amrywio, felly gwiriwch beth rydych chi’n gymwys i’w gael ac ymgeisiwch cyn gynted â phosibl.

Newidiadau i gyllid myfyrwyr yn Lloegr – Hawl i ddysgu gydol oes (Lifelong Learning Entitlement - LLE)

O ddiwedd mis Hydref 2026, gall myfyrwyr yn Lloegr wneud cais am gyllid drwy’r Hawl i Ddysgu Gydol Oes (LLE) ar gyfer cyrsiau a modiwlau sy’n dechrau o fis Ionawr 2027 ymlaen.

Mae’r LLE yn rhoi lwfans benthyciad hyblyg i chi sy’n werth hyd at £39,160 i astudio cymwysterau llawn neu fodiwlau unigol mewn coleg neu brifysgol.

Mae angen ad-dalu’r benthyciadau, ond gallwch ddefnyddio eich lwfans LLE trwy gydol eich oes – o 18 i 60 oed.

Os ydych chi ar hyn o bryd yn astudio cwrs sy’n dechrau cyn 1 Ionawr 2027, byddwch yn parhau o dan hen reolau cyllid myfyrwyr.

Ond os ydych chi’n fyfyriwr newydd neu’n fyfyriwr sy’n dychwelyd, bydd angen i chi wneud cais am gyllid LLE i astudio:

  • y rhan fwyaf o gyrsiau israddedig
  • rhai cymwysterau lefel ôl-raddedig (fel PGCEs a chyrsiau meistr integredig)
  • rhai cyrsiau addysg bellach a ariannwyd yn flaenorol gan Fenthyciadau Dysgwyr Uwch (Advanced Learner Loans).

Bydd yn rhaid i chi wneud cais ar wahân ar gyfer pob cwrs neu fodiwl rydych chi am iddo gael ei ariannu gan eich lwfans LLE.

I gael rhagor o wybodaeth, gweler Cyllid myfyrwyr: sut i wneud cais am gyrsiau sy’n dechrau yn 2027Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Nol i’r brig

Budd-daliadau os ydych mewn addysg bellach neu addysg uwch

Mae’r budd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt os ydych mewn addysg bellach yn dibynnu os ydych yn astudio’n llawn amser neu’n rhan amser, ond mae’n werth gwirio a ydych chi’n gymwys am arian ychwanegol tra byddwch chi’n astudio.

Bydd gan eich coleg neu brifysgol wasanaeth cymorth i fyfyrwyr, cysylltwch â nhw i weld a oes unrhyw help ychwanegol ar gael. Efallai y gallwch hawlio grant neu gael cymorth i wneud cais am arian neu fudd-daliadau.

Os ydych chi’n astudioa bod gennych blant

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr ychwanegol i helpu i dalu am bethau fel costau byw, costau dysgu a theithio.

Yn wahanol i fenthyciadau myfyrwyr eraill, nid oes angen talu rhan o’r arian hwn yn ôl, gan gynnwys:

  • Grant Gofal PlantYn agor mewn ffenestr newydd
  • Lwfans Dysgu i RieniYn agor mewn ffenestr newydd

Darganfyddwch yr holl gymorth sydd ar gael i rieni ledled y DU yn ein canllaw Grantiau a budd-daliadau os ydych yn astudio a bod gennych fabi.

Os ydych chi’n astudio ac mae gennych ddibynyddion sy’n oedolion

Os yw oedolyn arall yn dibynnu arnoch chi’n ariannol, gallech gael hyd at £3,545 y flwyddyn (2026/27) drwy Grant Oedolion Dibynnol i gefnogi eich astudiaethau israddedig.

Nid oes angen i chi dalu hwn yn ôl oni bai eich bod yn newid neu’n gadael eich cwrs, ond mae’n effeithio ar unrhyw fudd-daliadau sy’n seiliedig ar incwm rydych chi’n eu derbyn.

Gwiriwch a ydych chi’n gymwys i gael Grant Oedolion DibynnolYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Os ydych chi’n astudio ac mae gennych anabledd

Os oes gennych anabledd, problem iechyd meddwl neu gorfforol, neu anhawster dysgu fel dyslecsia, gallech fod yn gymwys i gael Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA).

Fel myfyriwr israddedig neu ôl-raddedig, gallwch gael hyd at £27,783 y flwyddyn (2026/27) i dalu am gostau sy’n gysylltiedig â’ch astudiaethau, fel:

  • offer arbenigol, fel cyfrifiadur
  • cynorthwywyr nad ydynt yn feddygol, fel dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • costau argraffu.

Mae’r cymorth ychwanegol hwn yn seiliedig ar eich anghenion yn hytrach nag incwm eich cartref, ac nid oes angen ei dalu yn ôl.

Gallwch wirio cymhwysedd ac ymgeisio am Lwfans i Fyfyrwyr AnablYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK neu ddarganfod mwy yn ein canllaw Cefnogaeth i’ch helpu i astudio pan fyddwch yn sâl neu’n anabl.

Os ydych chi’n astudio heb gymorth gan rieni

Os nad oes gennych unrhyw gysylltiad â’ch rhieni ac rydych chi’n cefnogi eich hun yn ariannol, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ychwanegol.

Os ydych chi o dan 25 oed pan fydd eich cwrs yn dechrau, rydych chi fel arfer yn cael eich ystyried yn fyfyriwr ‘dibynnol’. Mae hyn yn golygu bod angen i chi ddarparu manylion am incwm eich rhieni, er mwyn cyfrifo faint o fenthyciad myfyriwr y gallwch ei gael.

Os na allwch ddarparu’r manylion hyn – er enghraifft, oherwydd nad oes gennych berthynas â’ch rhieni – fel arfer dim ond yr isafswm o gymorth y byddwch yn ei gael.

Fodd bynnag, efallai y gallwch wneud cais i astudio fel myfyriwr annibynnol yn hytrach na hynny. Yn y modd hwn, bydd eich cais am gyllid myfyrwyr yn seiliedig ar eich incwm chi eich hun, nid eu hincwm hwy, felly efallai y cewch fwy o gyllid.

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael cyllid ar gyfer myfyrwyr annibynnolYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan UCAS.

Nol i’r brig

Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach yn Lloegr

Efallai y byddwch yn gallu cael help gyda mwy na chostau eich cwrs yn unig, fel costau byw o ddydd i ddydd a gofal plant. Mae gwahanol fathau o gymorth ariannol ar gael, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae hyn yn cynnwys help gyda ffioedd cwrs, costau byw, gofal plant, costau sy’n gysylltiedig ag anabledd neu gymorth ariannol brys.

Mae’r gwahanol fathau o gymorth yn cynnwys:

  • benthyciadau myfyrwyr i helpu i dalu ffioedd dysgu neu gostau byw
  • bwrsariaethau a grantiau, nad oes rhaid eu had-dalu fel arfer
  • cymorth gofal plant os ydych chi’n astudio a gyda phlant
  • cronfeydd caledi os ydych chi’n profi anawsterau ariannol yn ystod eich cwrs
  • cymorth anabledd i helpu gyda chostau ychwanegol astudio os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor.

Benthyciadau i Ddysgwyr Uwch

Mae Benthyciad Dysgwr Uwch yn helpu dysgwyr sy’n oedolion ac yn gymwys i dalu’r ffioedd dysgu ar gyfer rhai cyrsiau addysg bellach yn Lloegr. Mae wedi’i gynllunio i’w gwneud hi’n haws i bobl ennill cymwysterau newydd neu ddatblygu eu sgiliau heb dalu ffioedd cwrs ymlaen llaw.

Pwy all gael Benthyciad Dysgwr Uwch?

Rydych chi’n gymwys i gael Benthyciad Dysgwr Uwch i helpu i dalu ffioedd cwrs os ydych chi’n:

  • 19 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod cyntaf eich cwrs
  • astudio cymhwyster Lefel 3, 4, 5 neu 6, fel Safon Uwch
  • astudio mewn coleg neu ddarparwr hyfforddiant cymeradwy yn Lloegr.

Os ydych chi’n astudio cwrs Lefel 3, efallai y gallwch gael grant o’r Gronfa Sgiliau Oedolion (ASF)Yn agor mewn ffenestr newydd yn lle. Nid oes angen i chi ad-dalu grant ASF, felly gofynnwch i’ch coleg neu ddarparwr hyfforddiant am grantiau cyn gwneud cais am fenthyciad.

Faint allaf ei gael?

Yr isafswm ar gyfer Benthyciad Dysgwr Uwch yw £300. Gallwch fenthyg cost lawn eich cwrs neu dalu rhan ohono eich hun.

Gallwch:

  • gael hyd at 4 benthyciad i gyd (hyd at 8 benthyciad os ydych chi’n astudio Safon Uwch)
  • cael mwy nag un benthyciad ar yr un pryd.

Os ydych chi’n astudio cwrs Mynediad at Addysg Uwch, dim ond un benthyciad y gallwch ei gymryd.

Os bydd eich cwrs yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2027, bydd y Hawl Dysgu Gydol Oes (LLE) yn disodli Benthyciadau Dysgwr Uwch ar gyfer cyrsiau Lefel 4, 5 a 6. Gallwch barhau i wneud cais am gyllid, ond bydd angen i chi wneud cais drwy’r LLE yn lle.

Os nad ydych chi’n siŵr pa fath o gyllid myfyrwyr sydd ei angen arnoch, gofynnwch i’ch coleg neu ddarparwr hyfforddiant cyn gwneud cais.

Darganfyddwch fwy am wneud cais am yr Hawl Dysgu Gydol OesYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Sut y byddaf yn ad-dalu’r benthyciad?

Os wnaethoch chi ddechrau eich cwrs ar neu ar ôl 1 Awst 2023, byddwch ar Gynllun Ad-dalu 5.

Mae hyn yn golygu ni fydd angen i chi ei ad-dalu o gwbl hyd nes i chi ddechrau ennill dros £25,000 y flwyddyn. Mae ad-daliadau wedi’u gosod ar 9% o’ch incwm sy’n uwch na’r isafswm o £25,000 y flwyddyn (£2,083 y mis neu £480 yr wythnos).

Yn ystod eich cwrs a hyd at y mis Ebrill ar ôl i chi adael, codir llog arnoch yn unol â’r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI). Ar hyn o bryd mae hwn yn 4.1%. Ar ôl hynny, mae’r llog yn gysylltiedig â’ch enillion. Bydd taliadau’n dod i ben os byddwch chi’n ennill islaw’r trothwy ad-dalu am y cyfnod tâl hwnnw.

Os byddwch chi’n gadael neu’n newid cwrs ar ôl pythefnos neu fwy, bydd yn rhaid i chi ad-dalu unrhyw arian a dalwyd i’ch coleg neu’ch darparwr hyfforddiant.

Mae unrhyw falans sy’n weddill yn cael ei ddileu yn awtomatig 40 mlynedd ar ôl dyddiad gorffen eich cymhwyster a drefnwyd.

Os byddwch chi’n defnyddio eich benthyciad i gwblhau cwrs Mynediad at Addysg Uwch, caiff y balans ei ddileu unwaith y byddwch yn mynd ymlaen i gwblhau cymhwyster addysg uwch. Fodd bynnag, ni chaiff unrhyw ad-daliadau rydych wedi’u gwneud eu had-dalu.

Darganfyddwch fwy am gymhwysedd a sut i wneud cais am Advanced Learner LoansYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Cefnogaeth Dysgwyr

Pwy sy’n gymwys i gael Cefnogaeth Dysgwyr?

I fod yn gymwys, rhaid i chi fod yn astudio ar gwrs a ariennir gan yr Education and Skills Funding Agency a bod:

  • yn 19 oed neu’n hŷn (yn 20 oed neu’n hŷn i gael cyllid ar gyfer costau gofal plant)
  • yn astudio ar gyfer cymhwyster Lefel 3 neu is
  • mewn caledi ariannol – gallai eich darparwr dysgu ofyn am brawf eich bod ar incwm isel.

Gallwch wirio gyda’ch coleg i weld a allwch gael Cefnogaeth Dysgwyr ar gyfer eich cwrs. Efallai y bydd gan eich coleg gofynion ychwanegol fel cynnal cyfraddau presenoldeb. Gallwch wirio hyn drwy chwilio ar wefan eich coleg neu roi galwad i rywun yno.

Nid ydych yn gymwys am Gefnogaeth Dysgwyr os ydych eisoes yn cael cyllid myfyrwyr fel benthyciad myfyriwr, neu os ydych ar gwrs Dysgu Cymunedol. Os oes gennych Fenthyciad Dysgwr Uwch, efallai y gallwch gael cymorth gan eich darparwr trwy’r Gronfa Fwrsariaeth Benthyciadau Dysgwyr Uwch.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo, gall hyn eich helpu i dalu am bethau fel offer a gofal plant.

Dysgwch fwy am sut i wneud cais am y Gronfa Bwrsariaeth Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Faint allaf i ei gael?

Bydd y swm a gewch yn amrywio yn ddibynnol ar eich cwrs. Bydd darparwr eich cwrs yn medru dweud wrthych faint allech chi ei gael. Gallai helpu, e.e., tuag at dalu am deithio, ffioedd cyrsiau, gofal plant ac arholiadau.

Bydd angen i chi fod yn 20 oed i gael help gyda chostau gofal plant – os ydych yn 19 oed neu’n iau gallwch gael help gyda chostau gofal plant drwy grant Gofal i Ddysgu, gweler isod. Rydych yn ymgeisio am Gymorth Dysgwyr drwy ddarparwr eich cwrs.

Yna, gellir:

  • talu’r arian yn uniongyrchol i chi, ac ni fydd angen i chi ad-dalu’r arian, neu o bosibl
  • ei fenthyca i chi, sy’n golygu y bydd rhaid i chi ei ad-dalu.

Darganfyddwch fwy am gael cefnogaeth dysgwyrYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Cynllun Gofal i Ddysgu – Help gyda chostau gofal plant

Mae Gofal i Ddysgu’n rhoi help ariannol i chi gyda gofal plant wrth i chi astudio.

Pwy sy’n gymwys am Ofal i Ddysgu?

I fod yn gymwys bydd angen i chi:

  • fod yn iau nag 20 oed pan fydd eich cwrs yn dechrau
  • fod yn preswylio a dilyn cwrs yn Lloegr
  • ddefnyddio darparwr gofal plant a gofrestrwyd gydag Ofsted, a all fod yn ofalwr plant, grŵp meithrin, meithrinfa ddydd neu glwb ar ôl ysgol.

Mae’r holl fanylion cymhwyseddYn agor mewn ffenestr newydd ar gael ar GOV.UK.

Faint allaf i ei gael?

Yn 2026/27, byddwch yn cael uchafswm o £180 y plentyn yr wythnos os ydych chi’n byw y tu allan i Lundain, a £195 os ydych yn byw yn Llundain.

Am fwy o wybodaeth a manylion ynglŷn â beth arall sydd ar gael os oes gennych fabi, darllenwch ein canllaw Grantiau a budd-daliadau os ydych yn astudio a bod gennych fabi.

Cynllun Cymorth Preswyl a Chronfa Bwrsari Preswyl

Mae opsiynau ariannu ar gael i’w defnyddio mewn amgylchiadau arbennig i’ch helpu i dalu am gostau llety yn ystod y tymor, os:

  • mae eich cwrs yn bell i ffwrdd o’ch cartref, ac
  • na allwch astudio’r un cwrs neu un tebyg ar Lefel 2 neu Lefel 3 yn lleol.

Efallai bydd y gronfa Fwrsariaeth Preswyl yn eich helpu i astudio mewn sefydliad arbenigol, fel un sy’n arbenigo mewn rheoli anifeiliaid. Mewn achosion eraill, gallai’r Cynllun Cymorth Preswyl helpu os nad oes cwrs ar gael yn lleol i chi.

I fod yn gymwys rhaid i chi naill ai fod rhwng 16 ac 18 oed ar 31 Awst 2026 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27 a bodloni’r meini prawf preswylio. Gallai eich coleg wirio hwn i chi.

Os ydych yn 19 oed gallech dal fod yn gymwys, ond bydd angen i chi:

  • fod yn parhau â chwrs a ddechreuwyd gennych pan oeddech chi’n 16 i 18 oed, neu
  • fod gennych Gynllun Addysg, Iechyd a Gofal (EHCP).

Pwy sy’n gymwys am y Gronfa Bwrsari Preswyl?

I fod yn gymwys ar gyfer y Gronfa Bwrsari Preswyl, bydd angen i chi hefyd:

  • fod mewn sefydliad arbenigol sy’n rhy bell i chi deithio iddo bob dydd
  • fod yn astudio’n llawn amser.

Faint allaf i ei gael o’r Gronfa Bwrsari Preswyl?

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Darganfyddwch fwy am y Gronfa Bwrsari PreswylYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Pwy sy’n gymwys am y Cynllun Cymorth Preswyl?

I fod yn gymwys i gael arian o’r Cynllun Cymorth Preswyl rhaid i chi hefyd sicrhau:

  • nad ydych yn cael budd-dal tai
  • eich bod mewn cartref sydd ag incwm sy’n llai na £30,993
  • eich bod yn astudio ar gyfer eich cymhwyster Lefel 2 neu 3 cyntaf – Safon Uwch, diploma neu gymhwyster galwedigaethol cenedlaethol
  • eich bod ar gwrs llawn amser yn Lloegr a ariennir gan y llywodraeth nad yw ar gael i chi’n lleol, a bod y daith un ai’n fwy na 15 milltir neu 2 awr yno ac yn ôl o’ch cartref.

Faint allaf i ei gael?

Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar incwm eich cartref a ble rydych chi’n astudio.

Darganfyddwch fwy am y Gronfa Bwrsari Preswyl neu’r Cynllun Cymorth Preswyl Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Dyfarniadau Dawns a Drama (DaDA)

Pwy sy’n gymwys ar gyfer cyllid DaDA? 

I wneud cais, rhaid i chi ddangos ‘dawn a’r potensial i lwyddo yn y diwydiant’ a bod:

  • rhwng 16 ac 23 oed (ar gyfer dawns) neu rhwng 18 ac 23 oed (ar gyfer actio) ar ddechrau’r flwyddyn academaidd
  • yn astudio cwrs Diploma Trinity College London, ac
  • yn mynychu ysgol ddawns a drama sy’n cynnig cyllid DaDA i fyfyrwyr newydd.

Dyma’r cyrsiau cymwys:

  • Diploma Lefel 6 mewn Actio Proffesiynol (3 blynedd)
  • Diploma Lefel 5 mewn Actio Proffesiynol (1 flwyddyn)
  • Diploma Lefel 5 mewn Dawns Broffesiynol (Bale Clasurol neu Ddawns Gyfoes) (2 flynedd)
  • Diploma Lefel 6 mewn Dawns Broffesiynol (3 blynedd)
  • Diploma Lefel 6 mewn Theatr Gerddorol Broffesiynol (3 blynedd).

Gwnewch gais yn uniongyrchol i’r ysgol rydych eisiau mynychi a dywedwch wrthynt eich bod chi eisiau gwneud cais am gyllid DaDa.

Faint allaf i ei gael?

Bydd y swm a gewch yn amrywio gan ddibynnu ar incwm eich cartref.

Darganfyddwch sut i wneud cais a rhestr o’r ysgolion sy’n cynnig cyllid dyfarniad Dawns a DramaYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK.

Cronfa Fwrsari 16 i 19

Dyma arian nad oes raid i chi ei ad-dalu a gellir ei ddefnyddio ar gyfer pethau fel llyfrau a theithio.

Pwy sy’n gymwys am Gronfa Fwrsari 16 i 19?

I fod yn gymwys ar gyfer y bwrsari hwn rhaid i chi:

  • wedi bod yn 16 oed ac yn ifancach na 19 oed ar 31 Awst 2026 ar gyfer y flwyddyn academaidd 2026/27
  • fod mewn ysgol neu goleg a ariennir yn gyhoeddus yn Lloegr, nid mewn prifysgol
  • fod ar gwrs hyfforddi neu ar brofiad gwaith di-dâl
  • fod yn astudio’n llawn amser.

Os ydych yn hŷn na 19 oed bydd angen i chi fod yn parhau â chwrs a ddechreuwyd gennych pan oeddech chi’n 16-18 oed, neu fod gennych gynllun addysg, iechyd a gofal (EHCP).

Faint allaf i ei gael?

Rhoddir yr arian naill ai fel bwrsariaeth i’r rheini mewn grwpiau bregus diffiniedig neu fel bwrsariaeth ddewisol. Telir bwrsariaeth fregus ar uchafswm o £ 1,200 i fyfyrwyr:

  • wedi gadael gofal awdurdod lleol yn ddiweddar
  • yn cefnogi eu hunain yn ariannol ac yn derbyn buddion penodol.

Dewch o hyd i fanylion cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Bwrsari 16 i 19Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK, neu gwiriwch wefan eich darparwr am y bwrsari dewisol.

Poeni am gyllidebu yn y coleg neu’r brifysgol?

Lawrlwythwch ein taflen am ddim 10 awgrym ar gyfer rheoli arian fel myfyriwrYn agor mewn ffenestr newydd (PDF, 350KB)

Nol i’r brig

Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch yn yr Alban

Yn ogystal â chyllid ar gyfer eich ffioedd dysgu a chostau byw drwy eich coleg neu Student Awards Agency Scotland (SAAS), mae cymorth ariannol ychwanegol ar gael os ydych chi’n:

  • fyfyriwr sydd â phrofiad o ofalYn agor mewn ffenestr newydd
  • fyfyriwr ag anabledd neu anghenion cymorth ychwanegolYn agor mewn ffenestr newydd
  • rhiant sydd angen cymorth gyda gofal plantYn agor mewn ffenestr newydd
  • fyfyriwr sydd â dibynnydd sy’n oedolynYn agor mewn ffenestr newydd
  • wynebu caledi ariannol (cyllid dewisol, a elwir hefyd yn gronfeydd caledi neu argyfwngYn agor mewn ffenestr newydd).

Mae’r hyn sydd ar gael yn dibynnu ar a ydych chi’n astudio Addysg Bellach (AB) neu Addysg Uwch (AU).

Cymorth ariannol wrth astudio cyrsiau AB yn yr Alban

Os ydych chi’n astudio cwrs sy’n is na lefel HNC neu HND (Lefel SCQF 6 ac is), darperir cymorth fel arfer drwy eich coleg.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch gael:

  • bwrsari ar gyfer costau byw
  • cymorth gyda chostau astudio
  • costau teithio
  • cymorth gyda gofal plant
  • cyllid caledi
  • cymorth ychwanegol os oes gennych anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol.

Gwiriwch wefan Student Information ScotlandYn agor mewn ffenestr newydd a siaradwch â thîm cyllid eich coleg.

Cymorth ariannol wrth astudio cyrsiau AU yn yr Alban

Os ydych chi’n astudio ar lefel Addysg Uwch (Lefel SCQF 7 ac uwch), gan gynnwys HNC a HND, gallwch wneud cais am gyllid drwy SAAS.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch gael:

  • cymorth gyda ffioedd dysgu
  • benthyciadau myfyrwyr
  • bwrsarïau
  • grantiau
  • Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA), os oes gennych anabledd neu anghenion dysgu ychwanegol.

Dewch o hyd i’r rhestr lawn o’r holl gymorth AU sydd ar gael yn yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan SAAS.

Nol i’r brig

Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch yng Nghymru

Mae yna lawer o wahanol fenthyciadau a grantiau y gallwch eu cyrchu i’ch helpu i ariannu eich astudiaethau os ydych chi’n byw yng Nghymru.  

Darganfyddwch a ydych chi’n gymwys a sut i wneud caisYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru:  

  • Grant Gofal Plant
  • Lwfans Dysgu Rhieni
  • Grant Oedolion Dibynnol
  • Lwfans Myfyrwyr Anabl
  • Grant Teithio
  • Cymorth Arbennig
  • Bwrsariaethau myfyrwyr gofal iechyd, meddygaeth, deintyddiaeth a gwaith cymdeithasol.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)

Pwy sy’n gymwys am EMA yng Nghymru?

I fod yn gymwys am EMA, mae’n rhaid i chi:

  • wedi bod yn 16, 17 neu 18 oed ar 31 Awst 2026
  • fod yn astudio cwrs cymwys hyd at lefel 3, fel TGAU neu Safon Uwch
  • fynychu ysgol neu goleg sy’n cymryd rhan, a
  • bod yn ddinesydd y DU neu Iwerddon (neu fod â statws preswylydd sefydlog), wedi byw yn y DU am y 3 flynedd diwethaf a byddwch chi’n byw yng Nghymru pan fydd eich cwrs yn dechrau.

Faint allaf ei gael?

Mae EMA yn talu hyd at £80 pob pythefnos (2026/27).

Mae faint byddwch chi’n ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref. Byddwch yn gymwys os yw incwm eich cartref yn:

  • llai na £24, 570 ar gyfer cartrefi ag un plentyn mewn addysg llawn amser
  • o dan £27,273 ar gyfer cartrefi â mwy nag un plentyn mewn addysg llawn amser.

Darganfyddwch fwy o fanylion ar sut i wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) yng NghymruYn agor mewn ffenestr newydd ar Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Grant Dysgu Llywodraeth Cymru ar gyfer Addysg Bellach ac Uwch (WGLG FE)

Pwy sy’n gymwys am WGLG FE?

Mae’r grant hwn ar gyfer myfyrwyr o deuluoedd ar incymau isel. I fod yn gymwys rhaid i chi:

  • fod yn 19 oed neu’n hŷn
  • fod yn astudio ar gwrs cymwys mewn coleg sy’n cymryd rhan
  • fod yn astudio ar gwrs sy’n para 275 o oriau o leiaf
  • fod yn cael cymhwyster hyd at Lefel 3 - sy’n cynnwys TGAU, Safon Uwch ac AS, BTEC, GNVQs, NVQs neu Sgiliau Sylfaenol.

Faint allaf ei gael?

Mae’r grant, nad oes angen ei ad-dalu, hyd at £1,919 i fyfyrwyr llawn amser a hyd at £959 i fyfyrwyr rhan-amser yn 2026/27. Mae’r union swm yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Incwm blynyddol y cartref Grant i fyfyriwr llawn amser Grant i fyfyriwr rhan-amser

Hyd at £6,120

£1,919

£959

£6,121-£12,235

£959

£576

£12,236-£18,370

£576

£384

£18,371 ac uwch

£0

£0

Darganfyddwch fwy o wybodaeth am sut i wneud cais am Grant Dysgu Llywodraeth CymruYn agor mewn ffenestr newydd ar Gyllid Myfyrwyr Cymru.

Cronfeydd Arian Wrth Gefn (FCFs – a elwir weithiau’n Gronfeydd Cymorth Myfyrwyr neu Gronfeydd Caledi Myfyrwyr)

Os ydych chi’n wynebu trafferthion neu galedi, efallai gallai eich coleg rhoi grant neu fenthyciad i’ch helpu i gael mynediad at neu barhau mewn addysg bellach neu uwch.

Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu FCFs i golegau yng Nghymru ar ffurf grantiau neu fenthyciadau, a gellir eu defnyddio ar gyfer pethau fel gofal plant, costau cludiant neu offer cwrs.

Pwy sy’n gymwys am Gronfeydd Caledi?

Mae cymhwysedd yn amrywio o un coleg i’r llall, ond yn aml mae’r arian ar gyfer myfyrwyr sydd â plant neu’n rieni sengl, gadawyr gofal neu’r rhai sydd ar incwm isel mewn ardaloedd tlotach. Siaradwch â rhywun yn eich coleg am fwy o wybodaeth.

Nol i’r brig

Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach ac uwch yng Ngogledd Iwerddon

Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA)

Pwy sy’n gymwys am EMA yng Ngogledd Iwerddon?

Byddwch yn gymwys am EMA os ydych chi’n cymryd cwrs cymwys ac mae incwm eich cartref yn

  • is na £20,500, ar gyfer cartrefi ag un plentyn mewn addysg llawn amser, neu
  • dan £22,500 ar gyfer cartrefi gyda mwy nag un plentyn mewn addysg llawn.

Faint allaf ei gael?

Mae EMA yn talu hyd at £60 bob pythefnos i fyfyrwyr rhwng 16-19 oed.

Darganfyddwch fwy o fanylion a sut i wneud cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg (EMA) yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.

Cymorth Addysg Bellach

Pwy sy’n gymwys am Gymorth Addysg Bellach?

Mae gan yr Awdurdod Addysg gyllideb gyfyngedig i ariannu myfyrwyr ar gyrsiau cymeradwy hyd at Lefel 3. Efallai byddwch chi’n gymwys os ydych yn 19 oed neu drosodd ac mae angen i chi dalu ffioedd ond mae angen help arnoch i’w talu.

Mae’n grant, felly nid oes angen i chi ei had-dalu.

Faint allaf ei gael?

Yn 2026/27, efallai gallwch gael grant o hyd at:

  • £2,092 os ydych chi’n byw i ffwrdd o gartref, neu
  • £1,674 os ydych chi’n byw yng nghartref eich rhieni.

Mae faint byddwch chi’n ei gael yn dibynnu ar incwm eich cartref.

Byddwch chi’n cael eich grant mewn 3 rhandaliad, un ar ddechrau pob tymor. Efallai caiff eich presenoldeb ei fonitro a gallai hyn effeithio ar eich grant.

Darganfyddwch fwy am Gymorth Addysg Bellach yng Ngogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd ar Education Authority.

Cynllun Gofal i Ddysgu (NI)

Grant yw Gofal i Ddysgu i gael help gyda chostau gofal plant. Nid oes angen ei had-dalu.

Pwy sy’n gymwys am Ofal i Ddysgu (NI)?

Mae’n rhaid i chi fod:

  • 16 i 19 oed ar ddechrau eich cwrs
  • yn astudio mewn coleg addysg bellach
  • prif ofalwr eich plentyn neu blant.

Darllenwch fwy am Gofal i Ddysgu yng Ngogledd IwrddonYn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.

Cronfeydd caledi

Ar gyfer pwy mae’r arian?

Mae gan bob coleg yng Ngogledd Iwerddon gronfa Caledi. Mae’r gronfa ar gyfer myfyrwyr sydd â phroblemau ariannol. Mae’r meini prawf cymhwysedd penodol yn amrywio o un coleg i’r llall.

Mae rhestr o golegau addysg pellachYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan nidirect.

Nol i’r brig
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Rhannu erthygl
E-bost Facebook X
Rhannu hwn gyda
WhatsApp LinkedIn
Copio’r ddolen yma
Anfon e-bost
Copio’r ddolen yma
Arian myfyrwyr a graddedigion

Arian myfyrwyr

  • Cyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
  • Awgrymiadau am gyllidebu ar gyfer prifysgol
  • Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan

Arian myfyrwyr

  • Cyfrifon banc i fyfyrwyr a graddedigion
  • Awgrymiadau am gyllidebu ar gyfer prifysgol
  • Cymorth ariannol ar gyfer addysg bellach
Logo Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Llywodraeth EF
Trustpilot
Plain Numbers Working Together logo
  • Amdanom ni
  • Cael help a chyngor
  • Cysylltu â ni
  • Partneriaethau
  • Offer a chyfrifianellau
  • Rhoi adborth
  • Cynllun Iaith Gymraeg
  • Blog

Dilynwch ni:

© 2026 Money and Pensions Service, Borough Hall, Cauldwell Street, Bedford, MK42 9AB. Cedwir pob hawl.

  • Telerau ac amodau
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Datganiad hygyrchedd
  • Map safle
  • Sut rydym yn defnyddio cwcis
  • Dewisiadau cwcis Dewisiadau cwcis
Opsiynau cyswllt Cau

Cysylltwch â ni

Dechrau gwesgwrs

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm

Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Siaradwch â ni dros y ffôn

Dydd Llun - dydd Gwener: 9am i 5pm
Dydd Sadwrn, dydd Sul, gwyliau banc: ar gau

Mae galwadau yn y DU am ddim ac efallai y cânt eu recordio er mwyn gwella ein gwasanaeth.

Anfonwch e-bost gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein

Ymateb mewn 3 diwrnod gwaith

Os bydd gwell gennych ysgrifennu atom, llenwch ein ffurflen ar-lein.

Atebwch ychydig o gwestiynau ac yna bydd gennych le i ysgrifennu gymaint o fanylion a hoffech.

Sgwrsiwch gyda ni’n fyw gan ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch yr ap: WhatsApp

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau, ac yna’n eich cysylltu ag arbenigwr.

Byddwn yn ymateb rhwng dydd Llun – dydd Gwener, 9am i 5pm (heblaw am wyliau banc). 

Opsiynau hygyrchedd

  • Relay UK

    Relay UK logo

    Defnyddiwch y gwasanaeth cyfrinachol i deipio negeseuon atom gan ddefnyddio ffôn testun neu ap.

    Ewch i Relay UK
  • BSL

    British Sign Language logo

    Gwell gennych ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain? Defnyddiwch y gwasanaeth am ddim hon i gyrchu dehonglydd BSL – dewiswch bwnc o’r rhestr ‘department’.

    Cysylltu â InterpretersLive!Yn agor mewn ffenestr newydd

  • Cyfieithydd

    Interpreter logo

    Os nad Saesneg neu Gymraeg yw eich iaith gyntaf, gallwn ddod o hyd i gyfieithydd i helpu.

    Ffoniwch 0800 756 1012