Yn symud ymlaen i addysg uwch? Dylech fod yn gymwys i agor cyfrif banc myfyrwyr. Wedi i chi gwblhau’ch astudiaethau gellir uwchraddio hyn i gyfrif i raddedigion, gan gynnig gwobrwyon ac ysgogiadau newydd. Darganfyddwch y prif wahaniaethau rhwng cyfrifon, penderfynu pa gyfrif sydd orau ar gyfer eich anghenion a sut i wneud y mwyaf o’r offeryn cyllidebu hwn, fel myfyriwr ac ar ôl hynny.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Cyfrifon cyfredol
- Cyfrifon i fyfyrwyr
- Pethau am ddim â chyfrifon i fyfyrwyr
- Rheoli arian drwy eich cyfrif myfyriwr
- Agor mwy nag un cyfrif myfyriwr
- Cardiau credyd â chyfrifon myfyrwyr
- Gwneud taliadau drwy eich cyfrif myfyriwr
- Bancio’n ddiogel ac osgoi twyll
- Dewis rhwng cyfrif myfyriwr neu raddedig
- Symud ymlaen i gyfrif i raddedigion
- Dewis y cyfrif banc i raddedigion cywir i chi
Cyfrifon cyfredol
Cyfrif cyfredol yw’r math o gyfrif a ddefnyddiwch ar gyfer bancio beunyddiol.
Mae pawb fwy neu lai yn gymwys i agor cyfrif cyfredol, sydd fel arfer yn cynnwys ystod o nodweddion safonol:
- cyfleusterau gorddrafft (codir tâl o hyd at 40% i ddefnyddio hyn)
- cerdyn debyd/cerdyn arian parod
- bancio rhyngrwyd a ffôn
- cyfriflenni ar-lein neu wedi eu hargraffu
- llog ar yr arian sydd yn y cyfrif
- y gallu i sefydlu debydau uniongyrchol ac archebion sefydlog.
Cyfrifon i fyfyrwyr
Y gwahaniaeth mwyaf rhwng cyfrifon cyfredol a chyfrifon i fyfyrwyr yw’r cyfleuster gorddrafft.
Mae rhai cyfrifon i fyfyrwyr yn caniatáu gorddrafftiau o hyd at £3,000 yn gwbl ddi-log.
Mae hyn yn golygu na fydd rhaid i chi dalu llog ar unrhyw beth o dan y trothwy gorddrafft awdurdodedig tra byddwch yn fyfyriwr.
Ond cofiwch nid yw hwn yn arian am ddim. Wedi i chi raddio byddwch yn dal yn gorfod ad-dalu’r hyn a fenthycwyd gennych.
Gall y terfyn gorddrafft a osodir gan y banc wrth i chi agor cyfrif fod ‘hyd at’ swm penodol â’r angen i gael caniatâd i’w gynyddu yn ystod eich blynyddoedd fel myfyriwr.
Os ewch y tu hwnt i drothwy awdurdodedig eich gorddrafft, gallech orfod talu costau ychwanegol.
Dylech siarad â’ch banc ar unwaith os bydd hyn yn debygol o ddigwydd, oherwydd gallai effeithio ar eich statws credyd a’ch gallu i fenthyca yn y dyfodol.
Pethau am ddim â chyfrifon i fyfyrwyr
Mae cystadleuaeth rhwng banciau a chymdeithasau adeiladu yn uchel pan ddaw i gyfrifon myfyrwyr.
Oherwydd hyn, mae rhai yn cynnig ‘pethau am ddim’ ar ben gorddrafft er mwyn eich denu i agor un o’u cyfrifon.
Er enghraifft, un ysgogiad a gynigir yw cerdyn rheilffordd 16-25 pedair-blynedd rhad ac am ddim (nid yw hwn ar gael yng Ngogledd Iwerddon). Gallwch ei ddefnyddio i gael traean oddi ar bris tocynnau trên a bydd hefyd yn arbed arian i chi ar brisiau oriau allfrig TfL.
Er geiriad yr enw, mae’r Cerdyn Rheilffordd 16-25 ar gael i unrhyw fyfyriwr amser llawn mewn addysg uwch (ac unrhyw un arall o fewn yr amrediad oes hwnnw nad yw’n myfyrwyr).
Er y gall pethau a gynigir am ddim fod yn fonws braf, peidiwch â gadael iddynt ddylanwadu ar eich penderfyniad.
Sicrhewch fod y cyfrif banc a ddewiswch yn cynnig yr holl nodweddion sydd eu hangen arnoch.
Rheoli arian drwy eich cyfrif myfyriwr
Bydd y rhan fwyaf o’r taliadau a gewch ac a wnewch yn mynd trwy eich cyfrif myfyriwr.
Dylech osod a glynu wrth gyllideb gall er mwyn sicrhau eich bod yn aros o dan y terfyn gorddrafft awdurdodedig a wnaethoch gytuno â’ch banc.
Agor mwy nag un cyfrif myfyriwr
Peidiwch ag anghofio
Mae cael mwy nag un cyfrif banc yn golygu y gall fod yn anoddach cadw golwg ar yr hyn sy'n dod i mewn ac allan. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw llygad barcud ar eich cyllid er mwyn osgoi mynd i ddyled.
Fel arfer ni fydd telerau ac amodau'ch cyfrif banc myfyriwr yn gadael i chi agor nifer o gyfrifon i fyfyrwyr ond nid oes dim byd yn eich rhwystro rhag defnyddio cyfrif cyfredol arall ar gyfer eich gwario o ddydd i ddydd.
Mae amryw o resymau pam y gallech benderfynu agor mwy nag un cyfrif:
- I reoli’ch cyllideb yn fwy effeithiol. Er enghraifft, talu ffioedd llety ag un cyfrif a defnyddio un arall ar gyfer gwariant beunyddiol.
- I fanteisio ar gyfleusterau defnyddiol fel gallu rhannu'ch arian yn gronfeydd gwario a chynilo.
Cardiau credyd â chyfrifon myfyrwyr
Mae gan rai banciau gardiau credyd i fyfyrwyr sydd ar gael i gydfynd â chyfrifon myfyrwyr.
Fel arfer mae gan y cardiau hyn derfynau credyd sefydlog a chymharol isel.
Tra gall cardiau credyd roi cymorth i chi wneud taliadau mawr unwaith ac am byth i helpu â’ch astudiaethau, ni ddylech eu hystyried fel rhywbeth sy’n disodli gwariant o ddydd i ddydd.
Os byddwch yn methu taliad, hyd yn oed yr isafswm, byddwch yn gorfod talu costau cosb a gallai hynny effeithio ar eich statws credyd.
Gwneud taliadau drwy eich cyfrif myfyriwr
Mae bancio ar-lein a symudol yn eich galluogi i wneud taliadau yn rhwydd.
Mae’r gwasanaeth ‘Paym’ yn caniatáu taliadau rhwng pobl sydd wedi cofrestru eu rhifau symudol. Cofiwch wirio manylion pawb rydych yn anfon arian atynt trwy drosglwyddiad banc, a gochelwch rag sgamwyr.
Cadwch olwg ar unrhyw daliadau a gwneir fel y gallwch aros o fewn eich terfyn gorddrafft awdurdodedig.
Bancio’n ddiogel ac osgoi twyll
Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu i reoli eich cyfrif yn ddiogel ac i osgoi twyll:
- cuddiwch eich PIN wrth beiriannau arian parod
- ceisiwch beidio â defnyddio cyfrifiaduron neu dabledi a rennir i gael mynediad at bancio ar-lein
- peidiwch fyth â throsglwyddo arian allan o'ch cyfrif i'w "gadw'n ddiogel" - sgam cyffredin yw hwn
- gwiriwch eich cyfriflen banc neu bancio ar-lein yn rheolaidd i sicrhau nad oes gwallau
- peidiwch fyth â chadw’ch Rhif Adnabod Personol (PIN) â’ch cardiau banc.
Gogelwch rhag sgamiau sy’n targedi fyfyrwyr
Mae sôn wedi bod am bobl ifanc cael eu targedu gan dwyllwyr dros gyfryngau cymdeithasol.
- Cadwch olwg ar gynigion ‘arian am ddim’ sy’n ymddangos yn rhy dda i fod yn wir. Gallwch fod yn delio ag arian a ddefnyddiwyd am gyffuriau, masnachu pobl neu derfysgaeth.
- Peidiwch â rhannu eich manylion banc â dieithriaid, a pheidiwch â gadael i rywun arall cael mynediad i’ch cyfrifon.
- Rhowch wybod i Action Fraud am unrhyw negeseuon amheus a chysylltu â’ch banc os credwch eich bod wedi dioddef o dwyll yn barod.
Dewis rhwng cyfrif myfyriwr neu raddedig
Mae gwefannau cymharu yn lle da i ddechrau ar gyfer unrhyw un sy’n ceisio dod o hyd i cyfrifon cyfredol.
Cofiwch ni fydd pob un gwefan gymharu yn rhoi’r un canlyniadau i chi. Felly gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio mwy nag un gwefan cyn gwneud penderfyniad.
Hefyd, mae’n bwysig gwneud tipyn o waith ymchwil i mewn i’r math o gynnyrch neu nodweddion a ddymunwch cyn prynu neu newid darparwr.
Darganfyddwch fwy am wefannau cymharu yn ein canllaw Sut i ddod o hyd i'r cynigion gorau ar gyfer nwy a thrydan a chynhyrchion ariannol ar wefannau cymharu prisiau
Symud ymlaen i gyfrif i raddedigion
Yn gyffredinol, unwaith y byddwch yn gorffen yn y prifysgol neu goleg, bydd eich banc yn troi eich cyfrif myfyrwyr i gyfrif graddedigion.
Y prif reswm yw i leihau swm y gorddrafft, a dyfodd efallai yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr.
Ar ôl graddio, gofynnwch y cwestiynau canlynol i’ch banc:
- pa gynigion sydd gennych ar gyfrifon i raddedigion?
- a fydd fy nherfyn gorddrafft yn cael ei gwtogi? Os felly, pa bryd?
- pa bryd fydd llog yn cael ei godi ar fy ngorddrafft?
- a fyddaf yn cael fy uwchraddio i gyfrif i raddedigion fel mater o drefn?
Mae’r cyfrifon hyn yn dal i ddarparu gorddrafftiau hael iawn, ond mae’r cyfanswm o fenthyca di-log yn tueddu i leihau bob blwyddyn tra bydd y cyfrif yn weithredol.
Defnyddiwch hyn fel cyfle i reoli a rhoi trefn ar eich cyllideb wedi i chi raddio.
Dewis y cyfrif banc i raddedigion cywir i chi
Os agorwyd cyfrif myfyriwr ar ddechrau’ch cwrs, mae’n debygol y cafodd ei newid yn gyfrif i raddedigion â’r un gangen, wedi i chi raddio.
Ystyriwch y canlynol wrth chwilio am y cyfrif banc gorau ar gyfer eich anghenion:
- peidiwch fyth â mynd dros eich terfyn gorddrafft
- peidiwch â bod yn ffyddlon i’ch banc presennol – cymharwch beth sydd ar gael!
- ewch am yr un sy’n cynnig y cyfnod hwyaf o 0% o log ar orddrafft y gallwch ddod o hyd iddo
- canolbwyntiwch ar y manteision sy’n gysylltiedig ag agor cyfrif â banc penodol
- gwiriwch eich statws credyd cyn i chi wneud cais am gyfrif i raddedigion
- cyllidebwch i glirio’ch gorddrafft cyn gynted ag y gallwch (os oes gennych un).