Trefnu cyfrifon banc ar y cyd, yswiriant, biliau a chynilion arall â’ch cyn bartner

Os ydych chi a’ch partner yn gwahanu, mae’n debygol y bydd gennych rywfaint o gyllid ar y cyd i gael trefn arnynt. Efallai bod hefyd gennych bolisïau yswiriant a chardiau credyd yn enwau’r ddau ohonoch y bydd angen i chi eu canslo neu drosglwyddo. Darganfyddwch beth sydd angen i chi ei wybod a gwneud.

Pam y gallai fod angen i chi weithredu’n gyflym

Mae’n well siarad â’ch gilydd am sut hoffech gael trefn ar eich arian ar y cyd.

Ond mae’n bwysig eich bod yn gweithredu’n fuan os ydych yn meddwl y gallai’ch cyn bartner fynd i ddyled ar gyfrifon ar y cyd. Mae hynny oherwydd os oes gennych unrhyw fenthyciadau neu orddrafftiau ar y cyd, gellir gofyn i’r naill neu’r llall ohonoch ad-dalu’r swm llawn.

Dylech hefyd feddwl am effaith unrhyw ddyled ar y cyd ar eich sgôr credyd – mae sgôr credyd da yn golygu y byddwch yn fwy tebygol o gael cynigion rhatach wrth wneud cais i fenthyg arian.

Bydd gwirio eich sgôr yn dangos yr holl ffyrdd rydych wedi’ch ‘cysylltu’n ariannol’ i’ch cyn-bartner. Bydd hyn yn helpu i sicrhau nad ydych yn anghofio unrhyw beth wrth wahanu eich arian.

Byddwch wedi’ch cysylltu’n ariannol pan wnaethoch agor cyfrif gyda’ch gilydd. Byddwch wedi cael eich ‘cyd-sgorio’ a’ch sgoriau credyd wedi’u cysylltu.

Trefnu’ch cyfrifon banc ar y cyd

Ceisiwch gytuno â’ch cyn bartner ar beth hoffech wneud â’ch cyfrif(on) banc ar y cyd.

Os na allwch gytuno, mae cyfryngu (defnyddio rhywun diduedd)Yn agor mewn ffenestr newydd yn aml yn ffordd dda o ddatrys y materion ymarferol hyn.

Darganfyddwch fwy am gyfryngu ar wefan Cyngor ar BopethYn agor mewn ffenestr newydd

Mae’n werth i chi neu’ch cyn bartner gysylltu â’ch banc neu gymdeithas adeiladu cyn gynted ag y byddwch yn gwybod eich bod yn gwahanu.

Dyma rai pethau i’w hystyried:

  • Newid sut mae’r cyfrif wedi ei sefydlu – fel bod rhaid i chi eich dau gytuno i gymryd unrhyw arian allan neu gynyddu terfynau gorddrafft.
  • Sicrhau bod eich cyflogau neu fudd-daliadau yn mynd i mewn i gyfrif yn eich enw chi yn unig yn y dyfodol.
  • Gofyn i’r banc atal bancio ffôn ac ar-lein ar unrhyw gyfrif ar y cyd.
  • Cyfrifo sut fyddwch yn talu biliau sy’n cael eu talu o’ch cyfrif ar y cyd ar hyn o bryd.
  • Cau’r cyfrif, os nad oes gennych lawer o arian ynddo neu os na fyddwch yn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae’n rhaid i chi’ch dau gytuno – fel arfer yn ysgrifenedig – i gau cyfrif ar y cyd. Ni fyddwch yn gallu gwneud hyn nes bydd unrhyw orddrafft wedi ei dalu.

Os ydych yn poeni y bydd eich cyn-bartner yn tynnu arian allan, dylech rewi’r cyfrif. Gall un ohonoch ofyn i’r banc rewi cyfrif, ond fel rheol mae’n rhaid i’r ddau ohonoch lofnodi llythyr i ddweud eich bod chi ei eisiau ‘heb ei rewi’.

Mae'n bwysig ystyried unrhyw broblemau y gallech eu hwynebu os oes gennych ddebydau uniongyrchol neu orchmynion sefydlog sy'n dod allan o'r cyfrif, neu os gwnewch daliadau rheolaidd ohono - er enghraifft, eich morgais neu rent, biliau neu siopa bwyd.

Rhannu cynilion

Gobeithio y byddwch yn gallu cytuno ar sut i rannu unrhyw gynilion ar y cyd sydd gennych.

Mae sut mae’r gyfraith yn trin eich hawl i arian mewn cyfrif ar y cyd yn ddibynnol ar ble rydych yn byw yn y Deyrnas Unedig.

Cymru a Lloegr

Os ydych yn gwahanu o’ch partner, mae arian mewn cyfrif ar y cyd yn perthyn i’r sawl a’i talodd i mewn.

Ond gallai partner nad yw wedi gwneud cyfraniad i gyfrif ar y cyd hawlio cyfran ohono.

Fodd bynnag, gall fod yn anodd iddynt brofi bod ganddynt hawl i’r arian mewn cyfrif ar y cyd os nad ydynt wedi talu arian i mewn iddo.

Byddai angen iddynt ddangos mai bwriad clir y cyfrif ar y cyd oedd cael cronfa a rennir y gallai pob person ei defnyddio.

Os ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, mae arian mewn cyfrif ar y cyd yn perthyn i’r ddau ohonoch yn gyfartal.

Gogledd Iwerddon

Os ydych yn gwahanu o’ch partner, yn ysgaru neu’n diddymu eich partneriaeth sifil, mae arian mewn cyfrif ar y cyd yn perthyn i bob un ohonoch yn gyfartal. Mae hyn oni bai fod llys yn penderfynu fel arall.

Yr Alban

Os ydych yn gwahanu ar ôl byw gyda’ch gilydd, fe dybir bod arian sydd gennych mewn cyfrifon ar y cyd ar gyfer biliau’r cartref neu debyg yn perthyn i chi’ch dau mewn cyfrannau cyfartal.

Gallai sut rydych yn rhannu’ch cynilion ddibynnu ar y math o gyfrif sydd gennych.

Ail gardiau ar gyfrifon cardiau credyd a chardiau siop

Os oes gennych gyfrif cerdyn credyd neu siop ac mae gan eich cyn bartner gerdyn ar y cyfrif i’w defnyddio eu hunain, rydych yn gyfrifol yn gyfreithiol am dalu am ei wariant/gwariant yn ogystal â’ch gwariant chi.

Gallwch naill ai:

  • gofyn i’ch cyn-bartner i roi’r cerdyn yn ôl i chi, neu
  • gysylltu â chwmni’r cerdyn i weld beth mae’n rhaid i chi ei wneud i chi flocio’r cerdyn neu i dynnu’ch cyn-bartner o’ch cyfrif.

Hyd yn oed os credwch fod cyfrif yn eich enw chi yn unig, gwiriwch â’r benthyciwr i sicrhau nad yw’ch partner wedi ei rhestru fel deilydd cerdyn awdurdodedig.

Trefnu yswiriant ar y cyd

A oes gennych bolisi yswiriant cartref yn enwau’r ddau ohonoch, ac mae’ch cyn-bartner yn symud allan? Efallai y bydd angen i chi ofyn iddynt lofnodi ffurflen neu lythyr yn dweud ei fod yn fodlon i’w enw ddod oddi ar y polisi.

Efallai’ch bod yn yrrwr a enwir ar yswiriant car eich cyn bartner – neu gallant fod ar eich polisi chi. Os yw’r polisi yn eich enw chi, cysylltwch â’ch yswiriwr a gofynnwch iddynt dynnu enw’ch cyn bartner (os na fyddent yn gyrru eich car yn y dyfodol.)

Cytuno ar sut i rannu’r biliau

Os ydych chi, neu'ch cyn-bartner, yn symud allan, nodwch ddarlleniadau’r mesuryddion ar gyfer nwy a thrydan – fel na chodir tâl ar y person sy’n symud allan am ynni nad ydynt wedi ei ddefnyddio.

Dylai dod yn gyfrifol am gyfrif oedd yn enwau’r ddau ohonoch fod yn syml.

Fel arfer, gallwch wneud hyn ar-lein neu dros y ffôn. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol y byddwch chi a’ch cyn-bartner yn gyfrifol am dalu unrhyw arian sy’n ddyledus hyd at y pwynt hwnnw.

Os ydych eisiau dod yn gyfrifol am fil yn enw’ch cyn bartner, bydd angen cau’r hen gyfrif ac agor un newydd.

Mae hefyd yn werth darllen ein canllawiau:

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.