Ydych chi ar fin cychwyn ar y daith ysgariad neu ddiddymiad, neu hanner ffordd trwy'r broses? Yna gall ein gwasanaeth apwyntiadau pwrpasol eich helpu gyda beth mae hyn yn ei olygu i chi a'ch pensiwn.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth fydd yr apwyntiad yn ei gynnwys?
Gall ysgariad a diddymiad fod yn gymhleth ac yn straen. Gall cael arweiniad diduedd gennym ei gwneud yn haws i reoli eich opsiynau pensiwn.
Yn ystod eich apwyntiad, byddwch yn siarad ag un o’n harbenigwyr pensiwn a fydd yn:
- esbonio'r opsiynau pensiwn sydd ar gael yn ystod ysgariad/diddymiad
- eich helpu i ddeall beth i'w ystyried a'r cwestiynau i'w gofyn
- eich arwain ar eich camau nesaf, gan gynnwys ble i ddod o hyd i gymorth ychwanegol a sut i gael cyngor ariannol rheoledig os oes angen.
Sut ydw i'n trefnu apwyntiad?
Trefnwch eich apwyntiad drwy lenwi ein ffurflen ymholiadau pensiynau.
Ein nod yw cysylltu â chi o fewn pum diwrnod gwaith. Os na chewch e-bost cadarnhau, mae'n werth gwirio'ch ffolder sbam neu sothach.