A ydych yn cael trafferth adnabod pa nodweddion i’w hamlygu mewn polisi yswiriant cynnwys cartref? Gwiriwch y rhestrau nodweddion ‘rhaid eu cael’, ‘dylid eu cael’ a ‘gellir eu cael’ i roi cymorth i chi brynu’r polisi cywir.
Nodweddion mae ‘rhaid eu cael’
Nodweddion ‘rhaid eu cael’ | Bydd polisi da’n rhoi |
---|---|
Cyfanswm pethau gwerthfawr Bydd eitemau o werth sylweddol (megis gemwaith, oriorau aur neu arian, gwaith celf, camerâu, setiau teledu, cyfrifiaduron ayyb) yn cael eu hyswirio rhag colled neu ddifrod, os oes angen gwneud cais arnoch |
£12,000 neu fwy |
Pethau gwerthfawr– terfyn eitem sengl Terfyn ar werth unrhyw eitem werthfawr (megis darn o emwaith neu beintiad er enghraifft). |
£1,500 neu fwy |
Arian yn y cartref Bydd hyn yn rhoi yswiriant ar gyfer unrhyw arian parod yr ydych yn ei gadw yn eich cartref, rhag lladrad neu ddifrod. |
Nid yw cardiau credyd wedi eu cynnwys – mae yswiriant ar gyfer y rhain ar wahân. |
Cynnwys rhewgell Os yw eich oergell neu rewgell yn torri a’r bwyd yn cael ei ddifetha, mae hyn yn eich yswirio ar gyfer y gost o’i ail-lenwi. |
£300 neu fwy |
Cynnwys yn yr awyr agored Yn diogelu rhag colled neu ddifrod i gynnwys a adewir y tu allan ond o fewn ffin eich cartref. Argymhellwn i chi gymryd yswiriant ar wahân ar gyfer eitemau fel dodrefn gardd neu gelfi. |
£500 neu fwy |
Lladrad o adeiladu allanol Yn cynnwys pethau a gedwir mewn garej neu adeilad allanol. |
£2,000 neu fwy |
Atebolrwydd personol Yn rhoi yswiriant am unrhyw symiau y gallech orfod eu talu’n gyfreithiol pe gwnaethpwyd cais yn eich erbyn am niwed damweiniol i rywun neu golled neu ddifrod i’w heiddo. |
£2 miliwn |
Atebolrwydd tenant (os ydych yn denant) Os ydych yn denant mae hyn yn eich yswirio rhag unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol am golled neu ddifrod i gelfi sefydlog y landlord. |
£10,000 neu fwy |
‘Nodweddion y ‘dylid eu cael’
Nodweddion y ‘dylid eu cael’ | Bydd polisi da yn rhoi |
---|---|
Difrod damweiniol Yn eich yswirio yn erbyn cost damweiniau a all ddifrodi cynnwys eich cartref. |
Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys yn safonol |
Difrod dŵr Os yw dŵr wedi gollwng yn ddamweiniol yna bydd hyn yn yswirio cost y dŵr ar fesurydd a gollwyd gennych o ganlyniad. |
£1,000 neu fwy |
Swm wedi'i yswirio â mynegai (yswiriant wedi'i yswirio â swm) Mae cost disodli eich cynnwys ar sail ‘newydd i hen’ yn codi bob blwyddyn â chwyddiant. Mae diogelu eich swm wedi'i yswirio yn golygu na fyddwch yn cael eich gadael o dan yswiriant. |
Cysylltu mynegai neu swm sefydlog uchel wedi'i yswirio o £ 50,000 neu fwy Ond os nad yw swm yr yswiriant a ddewiswch yn ddigon i amnewid eich cynnwys ar sail ‘newydd i hen’, efallai na fydd eich cwmni yswiriant yn talu swm llawn unrhyw gais a wnewch. |
Cynnydd achlysuron arbennig Yn ystod achlysuron arbennig fel y Nadolig neu briodas, rydych yn debygol o gael mwy o bethau na’r arfer yn eich cartref. Pan mae yswiriant achlysur arbennig mewn lle, bydd yr yswiriwr yn codi swm yswirir y cynnwys yn awtomatig. |
Diogelwch ar gyfer y Nadolig neu ddigwyddiadau crefyddol eraill o leiaf, â throthwyon arferol o £3,000 neu 10% o swm y cynnwys a yswirir |
Meddiannau personol Yn rhoi yswiriant ar gyfer eitemau personol tra maent y tu allan i’r cartref. |
Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys yn safonol |
Costau cyfreithiol Os bydd problemau cyfreithiol personol yn codi o bethau fel eiddo neu ddadleuon cyflogaeth, ceisiadau niwed corfforol ayyb, mae hyn yn yswirio eich costau cyfreithiol. |
Y dewis o’i ychwanegu at eich polisi neu ei gynnwys yn safonol |
Yswiriant atgyweirio Mae’r cwmni yswiriant yn rhoi yswiriant ar gyfer unrhyw waith atgyweirio i’ch cynnwys. |
Yswiriant ar bob gwaith |
Llinell gymorth argyfwng Yn darparu llinell gymorth 24 awr y gallwch ffonio mewn argyfwng. |
Llinell gymorth argyfwng 24 awr |
‘Nodweddion y ‘gellid eu cael’
Nodweddion y ‘gellid eu cael' | Bydd polisi da’n rhoi |
---|---|
Planhigion yn yr ardd Yn yswirio rhag colled neu ddifrod a achosir gan y peryglon a restrir (megis tân, gweithredoedd maleisus neu ladrad) i blanhigion, llwyni a lawntiau. |
Sengl – £500 neu fwy |
Colled neu ladrad allweddi Petaech yn colli’ch allweddi neu eu bod yn cael eu dwyn yna bydd hyn yn yswirio’r gost o newid y cloeon. |
Yswiriant safonol |
Offer busnes Yn rhoi yswiriant ar gyfer eich offer swyddfa a ddefnyddir mewn perthynas â’ch swydd, er enghraifft cyfrifiaduron, argraffwyr a dodrefn. Os ydych yn gweithio o adref, mae’n ddoeth dweud hynny wrth eich yswiriwr, er mwyn iddynt sicrhau bod y lefel briodol o ddiogelwch gennych. |
£3,000 neu fwy |
Pethau i gadw llygad arnynt
Pethau i gadw llygad arnynt | Bydd polisi da yn rhoi |
---|---|
Tâl dros ben cynnwys Cyfanswm o arian sydd rhaid i chi dalu tuag at unrhyw gais. |
Tâl dros ben safonol yn llai na £100 |
Tâl dros ben difrod damweiniol Os oes gennych yswiriant difrod damweiniol mae hyn yn dâl dros ben ychwanegol y mae rhaid i chi ei dalu tuag at y mathau hyn o geisiadau. |
Dim tâl dros ben |