Mae llifogydd yn dod yn fwyfwy cyffredin yn y Deyrnas Unedig ac ar wahân i’r dor calon a’r drafferth, gall y gost o lanhau wedi hynny fod yn ddrud iawn. Os ydych yn byw mewn ardal o risg uchel, mae'n syniad da cael yswiriant llifogydd am bris y gallwch ei fforddio.
Beth yw yswiriant llifogydd?
Fel arfer mae yswiriant llifogydd wedi ei gynnwys yn safonol fel rhan o’ch yswiriant adeiladau, sy’n eich amddiffyn os bydd difrod i strwythur eich adeilad. Ond ni fydd hyn yn yswirio’ch cynnwys. Os ydych am i gynnwys eich cartref gael ei amddiffyn rhag difrod llifogydd hefyd, bydd angen yswiriant cynnwys arnoch.
Os ydych yn byw mewn ardal sy’n cael ei hystyried yn risg llifogydd bosibl, gallech fod angen yswiriant llifogydd rhag i’r canlynol ddigwydd:
- afon neu gamlas yn torri ei glannau
- llifogydd o’r môr o ganlyniad i stormydd ac/neu lanw uchel
- dŵr wyneb neu lifogydd dŵr daear cyflym o ganlyniad i law trwm neu beipen wedi agor.
Beth mae yswiriant llifogydd yn ei ddiogelu?
Mae yswiriant llifogydd yn eich diogelu rhag cost:
- cael gwared â’r llanast
- ffioedd proffesiynol (fel cyfreithwyr, penseiri, syrfewyr)
- trwsio neu gael dodrefn a meddiannau newydd yn lle’r rhai a ddifrodwyd
- rhywle arall i aros tra nad yw’n bosib i chi fyw yn eich cartref
- sychu, trwsio ac adfer eich eiddo a’r celfi a’r creiriau ynddo.
Pethau na fyddant wedi eu diogelu o bosib
Cael meddiannau newydd yn lle’r holl rai a ddifrodwyd
Pan fydd yn amser gwneud hawliad am feddiannau sydd wedi eu difrodi, bydd y cyfanswm a delir gan y cwmni yswiriant yn dibynnu ar y math o yswiriant cynnwys sydd gennych:
- Newydd am hen –dylai eich cwmni yswiriant dalu digon i fedru cael eitemau newydd cyfatebol yn lle’r hen rai (ar wahân i ddillad, lle mae’r taliad yn llai fel arfer oherwydd traul). Mae’r rhan fwyaf o bolisïau yn cynnig hyn.
- Diogelwch indemniad – dim ond gwerth eich meddiannau cyn y llifogydd a gewch. Felly, os oes angen cael soffa newydd am gost o £2,000, dim ond gwerth yr hen un a gewch, allai fod cyn lleied â £200.
Os bu i chi ddioddef llifogydd, gallwch ddechrau clirio’n syth – nid oes rhaid i chi ddisgwyl hyd nes y bydd eich yswiriwr wedi asesu’r difrod.
Cofiwch dynnu lluniau o’r eitemau a ddifrodwyd a chadw samplau o bethau fel carpedi a dodrefn i ddangos i’ch yswiriwr.
Lle arall i aros
Efallai y bydd angen i chi symud allan o'ch cartref tra bydd y difrod llifogydd yn cael ei atgyweirio. Ond mae’r cyfanswm o ddiogelwch y mae cwmnïau yswiriant yn ei gynnig ar gyfer lle arall i aros yn amrywio.
Mae’n bwysig i ystyried yn ofalus y lefel o ddiogelwch rydych yn ei dynnu allan.
Os bydd eich diogelwch yn rhy isel, gallech orfod symud yn ôl i’ch cartref cyn i’r atgyweiriadau gael eu gorffen neu ysgwyddo rhan o’r gost am fyw yn rhywle arall.
Pibellau wedi'u byrstio neu’n gollwng
A yw'ch cartref wedi'i ddifrodi gan ddŵr yn dod o'r tu mewn i'ch cartref, fel o bibell sy'n gollwng neu wedi'i byrstio? Yna bydd eich yswiriwr yn debygol o ddosbarthu hyn fel ‘dŵr yn dianc’ ac nid llifogydd. Bydd y mwyafrif o bolisïau yn ymdrin â hyn, ond mae'n dda gwneud yn siwr.
Os yw'r difrod oherwydd pibell wedi’i byrstio neu’n gollwng, efallai y bydd eich yswiriwr eisiau sicrhau eich bod wedi cymryd y mesurau ataliol perthnasol. Er enghraifft, ‘lagio’ pibellau sy’n agored i rewi.
A oes angen yswiriant llifogydd arnoch?
Mae’r gost uchel o lanhau a thrwsio yn dilyn llifogydd yn golygu mae’n bwysig cael yswiriant ar gyfer eich tŷ a’i gynnwys.
- Os ydych yn rhentu’ch tŷ, cyfrifoldeb eich landlord – nid chi – yw cael yswiriant adeiladau.
- Fel arfer bydd eich cwmni morgais yn mynnu i chi gymryd yswiriant adeiladau, a fydd yn cynnwys yswiriant rhag llifogydd yn aml.
- Er nad yw’n ofynnol cael yswiriant cynnwys, byddai’r gost o gael eitemau newydd yn lle popeth yn eich cartref mor uchel fel ei bod hi bob amser yn syniad da i gymryd yswiriant cynnwys.
Am Flood Re
Os ydych yn cael trafferth dod o hyd i yswiriant fforddiadwy, gallai cynllun Flood Re eich helpu.
Mae Flood Re yn fenter ar y cyd rhwng y llywodraeth a’r diwydiant yswiriant. Ei nod yw helpu darparwyr yswiriant gynnig polisïau mwy fforddiadwy i deuluoedd sydd ag eiddo cymwys a effeithir gan lifogydd.
Nid yw rhai eiddo yn gymwys ar gyfer Flood Re, gan gynnwys adeiladau allanol ar ffermydd, rhai eiddo prynu-i-osod preswyl a chartrefi a adeiladwyd ers 1 Ionawr 2009.
Darganfyddwch fwy am y cynllun, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd llawn, ar wefan Flood Re
Gwiriwch i weld a ydych wedi eich yswirio rhag llifogydd
Mae’n werth cymryd amser i wirio bob manylyn yn eich polisïau yswiriant adeiladau a chynnwys sy’n gysylltiedig â llifogydd i sicrhau fod gennych ddigon o yswiriant i’ch diogelu os digwydd llifogydd.
Mae’n bwysig i gysylltu â’ch cwmni yswiriant i’w cwestiynu ynglŷn ag unrhyw beth nad ydych yn sicr ohono.
Mae deddfau newydd yn golygu mai cyfrifoldeb y cwmnïau yswiriant yw gofyn y cwestiynau cywir am yr hyn maent am ei wybod.
Ond os oes hanes o ddifrod gan lifogydd yn gysylltiedig â’ch eiddo, mae’n bwysig i chi hysbysu’ch cwmni yswiriant – hyd yn oed os na fyddant yn gofyn hynny.
Y peth olaf rydych ei angen yw broblem os bydd fyth angen i chi wneud hawliad, yn enwedig o ran rhywbeth sydd mor drallodus â difrod llifogydd.
Cael cymorth arbenigol
Defnyddio brocer arbenigol
Gall brocer yswiriant roi cymorth i chi negodi ag yswirwyr a threfnu diogelwch, os nad yw’ch eiddo’n gymwys i’w gynnwys dan y cynllun Flood Re.
Gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain (BIBA) roi cymorth i chi ganfod brocer yswiriant sy’n arbenigo mewn risg llifogydd.
Nid yw broceriaid yn codi ffi arnoch ar gyfer eu gwasanaethau fel arfer – yn hytrach maent yn cael comisiwn gan y cwmni yswiriant.
I ddarganfod brocer yswiriant arbenigol, gwelwch wefan BIBA
Siaradwch â’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol
Elusen genedlaethol yw’r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol sy’n rhoi cyngor annibynnol ar sut i fynd ati i gael yswiriant risg llifogydd.
Maent hefyd yn cyhoeddi rhestr o yswirwyr sydd yn ystyriol tuag at effaith llifogydd.
Darganfyddwch fwy ar wefan Fforwm Llifogydd Cenedlaethol neu eu ffonio ar 0345 988 1188
Adnabod eich risg
Gorau po fwyaf y gallwch ddarganfod am risg llifogydd i’ch eiddo.
Gwiriwch y risg ar fap llifogydd
Darganfyddwch a yw lleoliad eich cartref dan risg o lifogydd afon neu arfordirol.
Os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr, gwiriwch y map llifogydd ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yn Yr Alban, gwiriwch y map llifogydd ar wefan y Scottish Environmental Protection AgencyYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gwiriwch y map llifogydd ar wefan y Department for InfrastructureYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn yswirio eiddo yn Yr Alban, mae’n werth gwybod nad yw Llywodraeth Yr Alban yn caniatáu i gwmnïau yswiriant ddefnyddio’r wybodaeth hon wrth osod premiymau yswiriant.
Cael llythyr ‘cais yn ymwneud ag yswiriant’
Os ydych yn byw yn Lloegr, gallwch gysylltu â’ch swyddfa Asiantaeth yr Amgylchedd leol i ofyn am wybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r lefel o risg yn yr ardal ble rydych yn byw.
Darganfyddwch fanylion am eich Asiantaeth yr Amgylchedd leol ar wefan GOV.UK
Gallwch ofyn i Asiantaeth yr Amgylchedd am yr hyn a elwir yn llythyr cais yn ymwneud ag yswiriant.
Mae’r rhain yn rhad ac am ddim ac yn cynnwys manylion megis:
- unrhyw welliannau sydd ar y gweill i leihau risg llifogydd
- unrhyw ddyddiadau blaenorol pan gafwyd llifogydd
- yr Asesiad Risg Llifogydd Cenedlaethol mwyaf cyfredol sydd wedi ei gwblhau.
Darganfyddwch fwy am lythyrau cais yn ymwneud ag yswiriant ar wefan GOV.UK
Talu am ‘asesiad risg llifogydd’
Bydd hyn yn rhoi cymorth i gyflwyno eich proffil risg i gwmnïau yswiriant yn y modd mwyaf cadarnhaol ac yn amlygu’r pethau y gallwch eu gwneud i leihau’r risg.
I gynyddu’r tebygolrwydd y gall cwmnïau yswiriant wneud defnydd o’r wybodaeth hon, sicrhewch y bydd yr arolwg mor gynhwysfawr â phosibl, ac yn cynnwys ffeithiau a ffigyrau ynglŷn â’r lefel o risg llifogydd i’r eiddo.
Cwtogwch y risg
Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud a all leihau eich risg llifogydd:
- tanysgrifio i rybuddion llifogydd
- ymuno â grŵp gweithredu llifogydd
- gosod offer, fel byrddau llifogydd a gorchuddion brics awyru, sy’n gallu cadw dŵr llifogydd allan o’ch cartref
- symud boeleri a phwyntiau trydanol, yn ogystal â phethau gwerthfawr a dogfennau pwysig, i bwynt uwchlaw lefel y llifogydd tebygol
- lobïo am welliannau mewn amddiffynfeydd llifogydd yn lleol drwy weithio gyda’ch awdurdod lleol a bod yn rhan o ymgynghoriadau cyhoeddus
Sut i ganslo yswiriant llifogydd
Gallwch ofyn i'ch yswiriwr ganslo eich polisi ar unrhyw adeg, ond mae rhai pethau i fod yn ymwybodol ohonynt:
- os oes gennych forgais, fel arfer mae eich benthyciwr yn mynnu bod gennych yswiriant adeiladau mewn lle
- ni fyddwch yn ennill bonws dim gwneud ceisiadau am flwyddyn gyfredol os byddwch yn canslo hanner ffordd drwy’r flwyddyn
- fel arfer, bydd yn rhaid i chi dalu ffi canslo, oni bai ei fod yn amser adnewyddu.
Os ydych wedi talu ymlaen llaw ac nad ydych wedi gwneud cais, byddwch yn derbyn ad-daliad am y misoedd sy'n weddill – minws unrhyw ffioedd canslo.
Gofynnwch i'ch yswiriwr am help os ydych chi'n cael trafferth talu
Os ydych yn ystyried canslo oherwydd cost neu fforddiadwyedd, mae'n bwysig peidio â chanslo yswiriant rydych ei angen - neu i fethu taliad. Yn hytrach, cysylltwch â'ch yswiriwr a dywedwch wrthynt eich bod chi'n cael trafferth.
Mae'n rhaid i yswirwyr gefnogi cwsmeriaid sydd mewn trafferthion ariannol, felly byddant yn esbonio'ch opsiynau a'r ffyrdd y gallant helpu. Er enghraifft, gallent sefydlu cynllun ad-dalu amgen neu addasu eich yswiriant i gyd-fynd â'ch anghenion a gostwng y gost.