A fydd mesurydd dŵr yn arbed arian i chi?
Wedi’i ddiweddaru diwethaf:
24 Mehefin 2024
Mae mesurydd dŵr yn golygu mai dim ond am y dŵr rydych chi'n ei ddefnyddio byddwch chi'n talu. Felly gallai hynny olygu arbedion sylweddol i'ch cartref os nad ydych yn defnyddio llawer o ddŵr. Ond gallai hefyd olygu biliau mwy os yw eich defnydd ar yr ochr uchel – a byddwch eisiau osgoi hyn, wrth gwrs.
Os nad oes gennych fesurydd dŵr, byddwch yn talu pris sefydlog am eich dŵr. Nid oes ots faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio, ni fydd eich bil yn newid. Yn lle hynny, mae’r bil yn seiliedig ar “werth ardrethol” eich cartref – sef, pa mor ffansi ydyw.
Mae rhai pobl yn talu llai gyda mesurydd, ac eraill ddim. Mae'r cyfan yn dibynnu ar eich sefyllfa eich hun.
Yn byw ar eich pen eich hun, fel cwpl neu deulu bach, mewn cartref gwerthfawr? Bingo! Mae'n bosibl y byddwch yn arbed arian gyda mesurydd.
Llwyth o blant mewn lle bach? Peiriant golchi llestri / peiriant golchi / cawod / chwistrellwr gardd ymlaen drwy'r amser? Byddwch yn wyliadwrus. Gallai mesurydd fod yn ddrytach.
Mewn rhai ardaloedd, mae cwmnïau dŵr yn cyflwyno mesuryddion dŵr cyffredinol, felly bydd pawb yn cael mesurydd.
Dyma ein canllaw cam-wrth-gam cyflym i’ch helpu i weithio allan beth sydd orau i chi a’ch cartref.
Sut i newid i fesurydd dŵr
Bydd angen i chi wybod pwy sy'n darparu eich dŵr, sydd i'w weld ar eich bil dŵr.
Gwiriwch a allai mesurydd fod yn rhatach
Yn gyntaf, gwiriwch os all mesurydd fod yn rhatach.
Dewch o hyd i’ch bil, yna cysylltwch â'ch cyflenwr neu rhowch rai ffigurau i mewn i'r Gyfrifiannell Mesurydd DŵrYn agor mewn ffenestr newydd a ddarparwyd yn ddefnyddiol gan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr.
Fel rheol gyffredinol, os oes llai o bobl yn byw yn eich cartref nag ystafelloedd gwely, dylech arbed arian gyda mesurydd dŵr..
Gosodwch fesurydd am ddim
Newyddion da os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr - gallwch gael mesurydd wedi’i osod am ddim.
Cysylltwch â'ch cwmni dŵr i weld os fyddech chi'n arbed arian, yna llenwch ffurflen gais gyflym dros y ffôn, trwy’r post neu ar-lein.
Mae'n ddrwg gennym yr Alban - tra bydd Scottish Water yn darparu mesurydd safonol, bydd angen i chi dalu'r gost gosod - gallai hyn fod dros £300 ynghyd â chostau arolwg.
Disgwyliwch arolwg
Bydd y cwmni dŵr yn troi lan i weld a yw'n bosibl gosod mesurydd. Os felly, dylai ei ffitio o fewn tri mis.
Bydd eich cwmni dŵr yn dewis ble i osod y mesurydd, boed y tu mewn neu'r tu allan i'ch cartref. Eisiau yn rhywle arall? Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y fraint.
Wedi cael gwrthod mesurydd? Gofynnwch am daliadau wedi’i asesu
Hyd yn oed os ydych yn gofyn am fesurydd dŵr efallai na chewch un. Efallai bydd eich cwmni dŵr yn dweud ei fod yn rhy anodd neu’n rhy ddrud, er enghraifft os oes gennych chi gyflenwad dŵr a rennir neu os nad yw eich pibellau yn addas.
Os byddwch yn gwneud cais ac yn cael eich gwrthod, gofynnwch a fyddech yn talu llai gyda “Thâl wedi’i Asesu”.
Mae taliadau a asesir yn seiliedig ar y biliau cyfartalog a delir gan bobl â mesuryddion, felly gwiriwch os fyddai'n rhatach. Cofiwch, dim ond os gwnaethoch gais am fesurydd a chael eich gwrthod y gallwch ofyn am dâl wedi'i asesu.
Rhentu eich cartref? Gofynnwch beth bynnag
Os yw eich enw ar y biliau dŵr, gallwch ofyn am fesurydd dŵr hyd yn oed os ydych yn rhentu eich cartref ac nid ydych yn berchen arno.
Yn swyddogol, dim ond os oes gennych gontract byr y mae angen i chi ofyn caniatâd eich landlord (yn swyddogol: cytundeb tenantiaeth cyfnod penodol o lai na chwe mis). Ond mae’n debyg ei bod yn syniad da gofyn am ganiatâd beth bynnag, waeth pa mor hir yw’ch tenantiaeth.
Arbed dŵr, arbed arian gyda mesurydd
Oes gennych chi fesurydd nawr? Gwych! Darllenwch ein canllaw Sut i leihau eich bil dŵr
Daw'r post gwadd hwn gan Faith Archer ac nid yw o reidrwydd yn adlewyrchu barn HelpwrArian. Gallwch ddarganfod mwy am Faith a beth mae hi'n ei wneud ar ei blog, Much More With LessYn agor mewn ffenestr newydd