Cwtogwch ar gostau car a theithio

Nid yw teithio’n rhywbeth y gallwch ei osgoi a’i brynu’n ddiweddarach pan rydych wedi cynilo tipyn – mae angen ar bob un ohonom allu mynd o fan i fan. Ond os ydych yn graff ynghylch y peth, mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud er mwyn arbed arian

Cwtogi ar y gost o yrru

Gall cost rhedeg car gynyddu pan fyddwch yn ystyried dibrisiant y car.

Fodd bynnag, mae llawer o awgrymiadau a thriciau i helpu i gadw'r costau hyn i lawr. Er enghraifft, dod o hyd i'r tanwydd rhataf, defnyddio canolfannau MOT cudd, a newid eich arferion gyrru i arbed ar danwydd (gallwch arbed hyd at 30% ar danwydd trwy wneud hyn).  

Chwilio am yswiriant car rhatach

Defnyddiwch wefannau cymharu pris wrth brynu yswiriant car.

Bydd hyn yn eich helpu i gael y cynnig gorau posibl – wrth barhau i gael y lefel o sicrwydd yswiriant sydd arnoch ei angen.

Dylech gofio fod nifer fach o yswirwyr yn peidio â gadael i’w cynhyrchion ymddangos ar wefannau cymharu, felly gwiriwch eu prisiau ar wahân. 

Yswiriant Torri i Lawr

Gall yswiriant torri i lawr fod yn fuddsoddiad da iawn ac mae'n rhatach na gorfod tynnu'ch car yn breifat os byddwch yn torri i lawr ar draffordd.

Fodd bynnag, gallech arbed arian trwy gael polisi yswiriant ag yswiriant torri i lawr wedi'i gynnwys. Ond bydd angen i chi wirio'r polisi yn ofalus i ddarganfod beth sy'n cael ei gynnwys ac nad yw'n cael ei gynnwys

Darganfyddwch fwy am yswiriant torri i lawr ar wefannau Which neu MoneySavingExpert

Rhannu car

Os ydych yn teithio i’r gwaith yn y car, ystyriwch rannu eich taith a’r cost ag eraill sy’n gwneud yr un siwrnai.

Mae’n syml os gallwch ddod o hyd i gyd-weithwyr sy’n byw yn agos atoch. Gall rhai sefydliadau a busnesau hyd yn oed drefnu rhannu ceir i’w gweithwyr.

Os ydych yn rhannu’r daith i’r ysgol â rhieni eraill gerllaw, gallech edrych ar sefydlu rota anffurfiol.

Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn cadarnhau amser, dyddiad a phris eich taith rhannu car cyn i’r siwrnai ddigwydd

Os mai chi yw’r person sy’n gyrru, dylech wirio â’ch cwmni yswiriant:

  • fod gennych yswiriant i gludo teithwyr,
  • a bod eich cerbyd wedi’i yswirio am nifer y teithwyr y byddwch yn mynd gyda chi. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych gerbyd â mwy na phum sedd.

Mae hefyd wasanaethau ar-lein a fydd yn helpu i baru’ch taith ag eraill. Cofiwch serch hynny, eich diogelwch personol yw rhan bwysicaf trefniant rhannu ceir.

Clybiau car

Mae clybiau car yn gadael i chi hurio car fesul yr awr neu fesul y dydd.

Mae ganddynt geir mewn mannau parcio arbennig o gwmpas dinasoedd felly mae’n debygol bod un ger eich llaw.

Rydych yn agor y car â cherdyn aelodaeth arbennig neu ag ap ar eich ffôn, felly mae’n fwy hyblyg o lawer na gorfod ymweld â swyddfa rhentu yn ystod oriau gwaith.

Rydych yn talu ffi ymuno ac yna’n talu am ddefnyddio’r car a’r tanwydd, felly os ydych angen car weithiau’n unig, gall fod yn ddewis arall rhad i fod yn berchen ar eich car eich hun.

Tanysgrifiadau car

Mae yna hefyd gynlluniau tanysgrifio car misolYn agor mewn ffenestr newydd lle rydych chi'n talu ffi fisol am y car, ac mae hyn fel arfer yn cynnwys costau fel cynnal a chadw, atebolrwydd a chymorth ar ochr y ffordd.

Gwasanaethu

Gall cael gwasanaeth rheolaidd i'ch car helpu i nodi a thrwsio problemau cyn iddynt ddigwydd.

Efallai y bydd gwasanaeth yn costio tua £125 i chi, ond efallai y gallwch ddod o hyd i ratach os ydych yn siopa o gwmpas. Fodd bynnag, bydd hyd yn oed gwasanaeth drutach yn rhatach na chost trwsio problem ddifrifol ar eich car.

Cynnal a chadw car syml

Gall cynnal a chadw ceir fod yn un o'r costau rhedeg drutaf. Ond mae rhai pethau syml y gallwch eu gwneud i arbed arian.

Mae gwirio eich lefelau olew a hylif yn rheolaidd a rhoi hwb iddynt yn ôl yr angen yn helpu i gadw'ch car mewn cyflwr da ac osgoi biliau mawr gan fecanig.

Gwiriwch bwysedd eich teiar hefyd - mae teiars heb eu chwyddo yn golygu y byddwch yn defnyddio mwy o danwydd.

Gall materion bach eraill, fel tolciau yn y ffenestr flaen neu ddifrod i waith corff, droi’n broblemau mwy yn y dyfodol. Felly mae'n aml yn rhatach delio â hwy pan fyddwch yn eu gweld gyntaf.

Cludiant cyhoeddus

Mae’n debyg bod cludiant cyhoeddus yn rhatach na gyrru. Serch hynny, mae dulliau’n bodoli o arbed symiau sylweddol o arian – yn bennaf trwy gynllunio o flaen llaw. 

Arbed arian ar docynnau trên

  • Prynwch cerdyn rheilffordd. Byddwch yn arbed traean o’r pris ar lawer o deithiau, felly gallech arbed £20 ar docyn a fyddai wedi costio £60. Yn aml, byddwch yn canfod bod cost cerdyn rheilffordd yn talu amdano’i hun dros un neu ddwy o deithiau hir. Gwnewch gais am un ar wefan Railcard Yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan Translink
  • Prynwch docyn tymor os ydych yn teithio’n rheolaidd.
  • Gwiriwch bob amser am docynnau ymlaen llaw. Gallai rhai tocynnau rhad o flaen llaw ddal i fod ar gael y diwrnod cyn i chi deithio.
  • Prynwch docynnau ymlaen llaw. Gallwch, fel rheol, brynu tocyn hyd at dri mis cyn bod angen i chi deithio, ac mae’n rhatach yn aml.
  • Cadwch lygad ar agor am gynigion arbennig, disgowntiau a deliau. Chwiliwch am cynigion teithio rhad ar wefan MoneySavingExpert
  • Rhannwch eich tocyn. Ar gyfer teithiau hwy, weithiau mae’n rhatach i brynu nifer o docynnau ar gyfer rhannau gwahanol o’r daith. Ond cofiwch, mae rhaid i chi fynd drwy bob un o’r gorsafoedd ar eich tocynnau.
  • Meddyliwch am fynd ar fws yn lle. Fel rheol mae'n cymryd mwy o amser, ond os oes gennych amser, mae mynd ar fws yn aml yn rhatach na gwneud yr un siwrnai ar y trên.

Mynd ar y beic

Mae teithio ar feic bron â bod yn rhad ac am ddim – ac ar ben hynny, mae’n eich cadw’n heini!

Os nad oes gennych feic, ac rydych yn ystyried prynu un er mwyn teithio i’r gwaith, yna mae’n bosibl y gallech elwa o feic di-dreth trwy’r cynllun Cycle to Work.

Gall gwisgo helmed a defnyddio goleuadau, hyd yn oed yn ystod y dydd, roi peth amddiffyniad i chi pan fyddwch yn seiclo.

Ond, os ydych yn cael damwain, meddyliwch am sut y cewch gymorth cyfreithiol.

Bydd aelodaeth â British Cycling yn rhoi cymorth cyfreithiol i chi os bydd rhywbeth yn digwydd, a British Triathlon ac aelodaethau eraill yn yr un modd. Gallech ystyried yswiriant seiclo hefyd.

Mae’n werth gwirio a yw eich yswiriant cartref yn eich cwmpasu chi a’ch beic, hefyd.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.