A ydych wedi cael babi ac yn y coleg neu'r brifysgol? Yna gallech fod yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr ychwanegol. Gallai hyn gwmpasu popeth o gostau byw a chostau dysgu i grantiau teithio a gofal plant.
Budd-daliadau os ydych yn astudio ac yn cael babi
Mae’r budd-daliadau y gallech wneud cais amdanynt os ydych yn astudio ac yn cael babi yn dibynnu ar:
- lefel y cymhwyster rydych yn astudio ar ei gyfer
- os ydych yn astudio’n llawn amser neu’n rhan amser.
Myfyrwyr llawn amser: darganfyddwch pa fudd-daliadau y gallech fod yn gymwys ar eu cyferYn agor mewn ffenestr newydd ar Turn2us' a myfyrwyr rhan-amser: efallai y bydd gennych fwy o fynediad at fudd-daliadauYn agor mewn ffenestr newydd Dylech hefyd sicrhau eich bod yn hawlio’r holl fudd-daliadau mae gennych hawl iddynt fel mam newydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw
Pa fudd-daliadau gallaf eu hawlio pan fyddaf yn feichiog neu wedi cael babi?
Os ydych yn byw neu’n astudio yn Lloegr
Oeddech chi’n gwybod?
Nid oes rhaid i chi dalu grantiau yn ôl fel arfer. Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid i chi dalu rhan o’r grant yn ôl neu’r cyfan ohono os, er enghraifft, byddwch yn gadael yr ysgol cyn diwedd y flwyddyn academaidd neu’r tymor a delir amdano gan y grant.
Gofal i Ddysgu
Beth yw Gofal i Ddysgu?
Cynllun gan y llywodraeth yw hwn i helpu â chostau gofal plant wrth i chi astudio yn y coleg neu brifysgol..
Mae’n swm wythnosol sefydlog a delir i’ch darparwr gofal plant. Gellir ei ddefnyddio hefyd i dalu am elfennau o ofal plant, er enghraifft:
- blaendal a ffioedd cofrestru
- sesiynau rhagflas ar gyfer gofal plant
- cadw lle eich gofal plant dros y gwyliau.
Pwy sy’n ei gael?
Efallai y gallech gael taliadau Gofal i Ddysgu os:
- ydych yn rhiant dan 20 oed
- ydych yn byw yn Lloegr
- ydych yn astudio ar gwrs a ariennir yn gyhoeddus – gall eich ysgol, coleg neu ddarparwr dysgu ddweud wrthych a yw’ch cwrs yn gymwys
- mai chi yw prif ofalwr eich plentyn
- ydych yn ddinesydd Prydeinig neu’n dod o wlad Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA)
- yw’ch darparwr gofal plant wedi ei gofrestru ag Ofsted.
Faint yw Gofal i Ddysgu?
Yn y flwyddyn academaidd 2023/24, gall Gofal i Ddysgu rhoi hyd at y canlynol i chi:
- £180 fesul plentyn yr wythnos os ydych yn byw y tu allan i Lundain
- £195 fesul plentyn yr wythnos os ydych yn byw yn Llundain.
Mae’r taliadau yn mynd yn uniongyrchol i’ch darparwr gofal plant.
Sut i wneud cais
Darganfyddwch fwy am y Gwasanaeth Cymorth Bwrsariaeth i Fyfyrwyr ac am wneud cais ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK
Grant Gofal Plant
Beth yw’r Grant Gofal Plant?
Grant wythnosol i helpu gyda chostau gofal plant wrth i chi astudio.
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm, eich anghenion gofal plant a’r nifer o blant sydd gennych.
Nid oes rhaid i chi dalu Grant Gofal Plant yn ôl
Pwy sy’n ei gael?
I gael Grant Gofal Plant mae’n rhaid i chi:
- fod yn fyfyriwr amser llawn
- byw yn barhaol yn Lloegr
- bod â – neu’n gymwys am - becyn ariannu myfyriwr
- bod â darparwr gofal plant sydd wedi ei gofrestru ag Ofsted
- bod â phlentyn dan 15, neu dan 17 os oes ganddynt anghenion addysgiadol arbennig.
Ni allwch gael Grant Gofal Plant os ydych chi neu’ch partner yn:
- hawlio’r elfen gofal plant Credydau Treth Gwaith
- hawlio’r elfen gofal plant Credyd Cynhwysol
- yn cael cymorth â chostau gofal plant gan y GIG.
Faint yw’r Grant Gofal Plant?
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar
- incwm eich cartref
- cost eich gofal plant
- y nifer o blant sydd gennych fel dibynyddion.
Gallwch gael grant i dalu am hyd at 85% o’ch costau gofal plant.
Yn y flwyddyn academaidd 2023/24 y mwyaf gallwch ei gael yw:
- hyd at £188.90 yr wythnos ar gyfer un plentyn
- hyd at £323.85 yr wythnos ar gyfer dau neu fwy o blant.
Yn y flwyddyn academaidd 2024/25, y mwyaf gallwch ei gael yw:
- hyd at £193.62 yr wythnos ar gyfer un plentyn
- hyd at £331.95 yr wythnos ar gyfer dau neu fwy o blant.
Sut i wneud cais
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK am y Grant Gofal Plant ac am wneud cais ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd
Lwfans Dysgu Rhieni
Oeddech chi’n gwybod?
Nid oes rhaid i chi fod yn talu am ofal plant i fod yn gymwys am y Lwfans Dysgu Rhieni.
Beth yw Lwfans Dysgu Rhieni?
Taliadau i roi cymorth i dalu am gostau dysgu os ydych yn astudio a bod gennych blentyn.
Nid oes rhaid i chi dalu Lwfans Dysgu Rhiant yn ôl a gall eich partner ceisio am un hefyd os ydynt mewn addysg llawn amser hefyd.
Pwy sy’n ei gael?
Gallech gael Lwfans Dysgu Rhieni os ydych yn:
- fyfyriwr o Loegr â phlant dibynnol
- yn astudio cwrs ôl-raddedig amser llawn neu gwrs Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon.
Faint yw Lwfans Dysgu Rhieni?
Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref.
Yn y flwyddyn academaidd 2023/24 gallech gael rhwng £50 a £1,915. Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2024/25 mae hyn yn cynyddu i hyd at £1,963.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am y Lwfans Dysgu Rhieni pan fyddwch yn gwneud cais am gyllid myfyrwyr.
Darganfyddwch fwy ar GOV.UK:
Cyllid myfyrwyrYn agor mewn ffenestr newydd
Lwfans Dysgu i RieniYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw neu’n astudio yn yr Alban
Grant Rhiant Unigol
Beth yw Grant Rhiant Unigol?
Taliad a wneir i rieni sengl sy’n byw yn yr Alban gydag o leiaf un plentyn dibynnol.
Nid oes rhaid i chi dalu Grant Rhiant Unigol yn ôl.
Pwy sy’n ei gael?
Gallech gael Grant Rhiant Unigol os ydych yn magu un plentyn o leiaf ar eich pen eich hun a’ch bod yn:
- sengl
- weddw
- wedi ysgaru
- wedi gwahanu.
Faint yw Grant Rhiant Unigol?
Ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24, gallwch gael hyd at £1,305. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm.
Sut i wneud cais
Gwnewch gais yn uniongyrchol i'ch coleg am gymorth ariannol o'r Grant Rhieni Unigol.
Grant Gofal Plant Rhiant Unigol
Beth yw Grant Gofal Plant Rhiant Unigol?
Gall eich coleg neu brifysgol wneud taliadau o Grant Gofal Plant Rhiant Unigol.
Mae i helpu i dalu costau gofal plant cofrestredig am y diwrnodau rydych yn mynychu'r coleg neu'r brifysgol.
Nid oes rhaid i chi dalu'r arian yn ôl.
Pwy sy’n ei gael?
Gwneir taliadau Grant Gofal Plant Rhiant Unigol fesul achos. Gwneir y penderfyniad gan bob coleg neu brifysgol.
Ni fydd pob myfyriwr cymwys yn cael help gan fod y gronfa'n gyfyngedig – ond fel rheol rhoddir blaenoriaeth i rieni sengl.
Gallwch wneud cais am daliad Grant Gofal Plant Rhiant unigol os ydych yn:
- fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig amser llawn
- sicrhau bod y benthyciad myfyriwr uchaf ar gael
- yn gymwys i gael eich ffioedd dysgu gan Asiantaeth Dyfarnu Myfyrwyr yr Alban (SAAS).
Mae’n rhaid i chi fod yn talu am ofal plant cofrestredig, sy'n cynnwys:
- gofal dydd
- cyn-ysgolion
- clybiau ar ôl ysgol
- gwarchodwyr plant cofrestredig.
Faint yw’r Grant Gofal Plant Rhiant Unigol?
Os ydych yn gymwys, gallwch wneud cais am daliad o hyd at £1,305.
Bydd eich coleg neu brifysgol yn penderfynu faint ddylai'r taliad fod.
Sut i wneud cais?
Gwnewch gais i'ch coleg am gymorth ariannol gan y Gronfa Gofal Plant.
Darganfyddwch fwy am y Grant Gofal Plant Rhiant Unigol ar Asiantaeth Dyfarniadau Myfyrwyr yr Alban (SAAS)Yn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yn byw neu’n astudio yng Nghymru
Cronfa Ariannol wrth Gefn
Beth yw’r Gronfa Ariannol wrth Gefn?
Taliadau gan eich coleg neu brifysgol i roi cymorth gyda chostau gofal plant os ydych ar incwm isel.
Defnyddir y gronfa hefyd i roi cymorth i fyfyrwyr heb blant a allai fod angen cymorth ariannol i fynd ar gwrs.
Pwy sy’n ei gael?
Efallai y gallwch gael cymorth gan Gronfa Ariannol wrth Gefn os yw incwm eich aelwyd o dan derfynau penodol.
Faint yw’r Gronfa Ariannol wrth Gefn?
Bydd eich coleg neu brifysgol yn penderfynu ar swm y taliad a gewch.
Sut i wneud cais?
Gallwch lawrlwytho ffurflen gaisYn agor mewn ffenestr newydd Bydd angen i chi ofyn eich coleg i’w arwyddo.
Os ydych yn byw neu’n astudio yng Ngogledd Iwerddon
Gofal i Ddysgu
Beth yw Gofal i Ddysgu
Taliadau i roi cymorth i dalu am gostau gofal plant os ydych yn astudio.
Pwy sy’n ei gael?
Gallech gael cymorth gan y cynllun Gofal i Ddysgu os:
- mai chi yw prif ofalwr y plentyn
- ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
- ydych rhwng 16 a 20 oed ar ddechrau’ch cwrs
- ydych yn astudio cwrs amser llawn neu ran-amser a restrir ar Gronfa Ddata Genedlaethol o Gymwysterau Achrededig (NDAQ) - bydd eich coleg yn medru cadarnhau a yw eich cwrs yn gymwys.
Sut i wneud cais
Gofynnwch i’ch coleg am help drwy’r cynllun Gofal i Ddysgu.
Grant Gofal Plant
Beth yw’r Grant Gofal Plant?
Taliadau wythnosol i roi cymorth i dalu am hyd at 85% o’ch costau gofal plant.
Pwy sy’n ei gael?
Gallwch wneud cais os:
- ydych yn fyfyriwr amser llawn
- oes gennych blant dan 15 mewn gofal plant cymeradwy neu gofrestredig (neu dan 17 os oes ganddynt anghenion addysgiadol arbennig).
Faint ydyw?
Yn dibynnu ar incwm eich ar cartred, ar gyfer y flwyddyn academaidd 2023/24, gallwch wneud cais am hyd at 85% o’ch costau gofal plant, hyd at uchafswm o:
- £148.75 yr wythnos ar gyfer un plentyn
- £255 yr wythnos ar gyfer mwy nag un plentyn.
Ni fyddwch yn gymwys i gael y Grant Gofal Plant os ydych chi (neu’ch partner) yn hawlio elfen gofal plant y Credyd Treth Gwaith.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am daliadau Grant Gofal Plant ar eich prif gais cyllid myfyrwyr.
Cwblhewch y ffurflen CCG1 ar y cais. Neu lawrlwythwch ffurflen o Cyllid Myfyrwyr Gogledd IwerddonYn agor mewn ffenestr newydd
Lwfans Dysgu Rhieni
Beth ydyw?
Taliadau i helpu â chostau’n gysylltiedig â chyrsiau os oes gennych blant.
Pwy sy’n ei gael?
Gallwch wneud cais am gymorth os ydych yn fyfyriwr â phlant.
Faint ydyw?
Os ydych yn gymwys, gallech gael hyd at £1,538 y flwyddyn am y flwyddyn academaidd 2023/24. Bydd y swm a gewch yn dibynnu ar eich incwm cartref.
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Lwfans Dysgu Rhieni ar eich prif gais cyllid myfyrwyr. Cwblhewch y rhan am ragor o gymorth i fyfyrwyr â phlant.