Pan fydd eich partner yn rhoi genedigaeth neu pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn neu’n cael babi drwy fam ddirprwyol, efallai y bydd gennych hawl i absenoldeb tadolaeth a thâl tadolaeth.
Beth yw Absenoldeb Tadolaeth Statudol?
Absenoldeb Tadolaeth Statudol yw'r amser y gallwch ei gymryd i ffwrdd i'w dreulio gyda'ch babi newydd-anedig.
Os ydych yn gyflogai, mae gennych hawl i unai wythnos neu bythefnos o absenoldeb tadolaeth â thâl.
Nid yw’r rhan fwyaf o weithwyr asiantaeth a chontract yn gymwys.
- Mae rhaid i chi ei gymryd fel wythnos gyfan neu wythnosau yn olynol.
- Mae eich absenoldeb tadolaeth yn ychwanegol at eich lwfans gwyliau arferol.
- Ni all absenoldeb ddechrau cyn yr enedigaeth ac mae rhaid iddo ddod i ben cyn pen 56 diwrnod ar ôl yr enedigaeth (neu'r dyddiad dyledus os yw'r babi yn gynnar).
- Mae rhai cwmnïau'n gadael i'w gweithwyr gymryd mwy o amser i ffwrdd, felly gwiriwch eich contract am fanylion.
Telir Absenoldeb Tadolaeth Statudol - gelwir hyn yn Dâl Tadolaeth Statudol.
A ydych yn gymwys?
I fod yn gymwys ar gyfer Absenoldeb Tadolaeth Statudol mae rhaid i chi fod yn:
- tad biolegol y plentyn
- mabwysiadwr y plentyn neu riant arfaethedig (os yw'n defnyddio dirprwy)
- gŵr neu bartner mam y plentyn (gan gynnwys partneriaid o'r un rhyw).
Mae rhaid i chi hefyd fod wedi bod yn gweithio i'ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos barhaus gan y naill neu'r llall:
- diwedd y 15fed wythnos cyn wythnos y dyddiad disgwyl y babi
- diwedd yr wythnos y dywedir wrthych eich bod wedi cael eich paru â'ch plentyn i'w fabwysiadu (ar gyfer mabwysiadu yn y DU).
Absenoldeb Rhiant a Rennir
Gall rhieni cymwys newydd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ddefnyddio Absenoldeb Rhiant a Rennir.
Mae Absenoldeb Rhiant a Rennir yn caniatáu i chi rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb rhiant a 37 wythnos o dâl gyda’ch partner.
Cyhyd â bod eich cyflogwr yn cytuno, gallwch gymryd yr absenoldeb mewn hyd at dri bloc gwahanol hyd yn oed, yn hytrach na’i gymryd dros un cyfnod yn unig.
Mae hyn yn caniatáu i chi newid trefniadau os bydd angen arnoch.
A ydych yn gymwys?
Mae rhaid i fam y plentyn roi rhybudd cyfrwymol i ddod â’i habsenoldeb mamolaeth i ben er mwyn i’r naill ohonoch fod yn gymwys am Absenoldeb Rhiant a Rennir.
Gallwch gychwyn eich absenoldeb tra bydd y fam yn parhau i fod ar absenoldeb mamolaeth cyn belled â bod y rhybudd cyfrwymol wedi ei roi.
Mae’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer Absenoldeb Rhiant a Rennir yr un fath â’r rhai ar gyfer Absenoldeb Tadolaeth Statudol.
Yn ogystal, yn ystod y 66 wythnos cyn yr wythnos pan ddisgwylir i’r babi gael ei eni (neu’r wythnos y cawsoch eich paru â’ch plentyn mabwysiedig) mae rhaid i’ch partner:
- fod wedi bod yn gweithio am o leiaf 26 wythnos (nid yn olynol o angenrhaid)
- wedi ennill cyfanswm o £390 o leiaf dros 13 o’r 66 wythnos (adiwch yr wythnosau a ildiodd y cyflog uchaf, nid yn olynol o angenrhaid).
Gallech fod yn gymwys hefyd am Dâl Rhiant a Rennir Statudol.
Darganfyddwch fwy am Absenoldeb a Thâl Rhieni a Rennir ar y wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd - gan gynnwys cymhwysedd a faint y gallai fod gennych hawl iddo.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ewch i nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Tâl tadolaeth
Y gyfradd Tâl Tadolaeth Statudol a Thâl Rhiant a Rennir Statudol yw’r lleiaf o:
- £184.03 yr wythnos
- 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog.
Fe’i telir i chi gan eich cyflogwr a fydd yn didynnu treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyn ei dalu i chi.
Tâl Tadolaeth Statudol
I fod yn gymwys am Absenoldeb Tadolaeth Statudol rhaid eich bod wedi gweithio i’ch cyflogwr am 26 wythnos o leiaf yn barhaus cyn:
- y 15fed wythnos cyn y dyddiad pan ddisgwylir i’ch babi gael ei eni
- diwedd yr wythnos y parodd yr asiantaeth fabwysiadu chi â phlentyn.
Mae rhaid i chi fod yn ennill £123 yr wythnos o leiaf cyn treth a pharhau i weithio iddo hyd nes i’r babi gael ei eni (neu gael ei leoli gyda chi).
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr a'r Alban, darganfyddwch fwy am Dâl Tadolaeth Statudol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy ar nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Tâl Rhiant a Rennir Statudol
Gallwch gael Tâl Rhiant a Rennir Statudol:
- os ydych yn gyflogai neu’n weithiwr
- os ydych yn gymwys i gael Tâl Tadolaeth Statudol a’ch partner yn gymwys i gael Tâl Mamolaeth Statudol, Lwfans Mamolaeth neu Dâl Mabwysiadu Statudol.
Mae rhaid i fam y plentyn ddod â’i thâl mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth i ben er mwyn i’r naill ohonoch fod yn gymwys am Dâl Rhiant a Rennir Statudol.
Sut i wneud cais am absenoldeb a thâl tadolaeth
Absenoldeb a Thâl Tadolaeth Statudol
I wneud cais am absenoldeb a thâl tadolaeth, mae rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr eich bod yn mynd ar absenoldeb tadolaeth ac yn gofyn am dâl tadolaeth o leiaf 15 wythnos cyn dyddiad geni disgwyliedig eich babi.
Os ydych yn mabwysiadu, mae rhaid i chi ddweud wrthynt:
- 28 diwrnod cyn i chi fod eisiau’ch tâl tadolaeth ddechrau, neu
- o fewn saith diwrnod wedi i’r asiantaeth fabwysiadu ddweud wrthych fod babi wedi ei ddewis ar eich cyfer am absenoldeb tadolaeth.
Gallwch lawrlwytho ffurflen gais SC3 neu SC4 ar GOV.UK
Absenoldeb a Thâl Rhiant a Rennir
Mae rhaid i chi rhoi gwybod i’ch cyflogwr yn ysgrifenedig os dymunwch ddechrau Absenoldeb neu Dâl Rhiant a Rennir
Mae rhaid i'ch partner wneud cais i'w gyflogwr ei hun.
Mae rhaid i chi roi rhybudd ysgrifenedig i'ch cyflogwr os ydych am ddechrau Absenoldeb neu Dâl Rhannu Rhiant.
Gellir rhoi rhybudd ar yr un pryd os ydych yn gymwys ar gyfer y ddau.
Os newidiwch eich meddwl ynglŷn â’r dyddiadau neu faint o Absenoldeb neu Dâl y bwriadwch eu cymryd, mae rhaid i chi roi wyth wythnos o rybudd o leiaf cyn cychwyn unrhyw gyfnod o absenoldeb.
Diogelwch rhag diswyddiad
Os ydych yn gyflogai ar absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu, mae gennych hawl i 18 mis o ddiogelwch rhag diswyddiad. Rydych wedi'ch diogelu o ddyddiad eich geni neu ddyddiad mabwysiadu disgwyliedig.
Os ydych yn cymryd chwe wythnos o absenoldeb rhiant a rennir parhaus, rydych hefyd wedi’ch diogelu am 18 mis rhag diswyddiad. Darganfyddwch fwy ar wefan ACASYn agor mewn ffenestr newydd
Os credwch fod eich cyflogwr yn bod yn annheg
Os nad yw’ch cyflogwr yn meddwl bod angen iddynt roi tâl tadolaeth i chi, neu rydych yn teimlo nad ydynt yn talu’r swm iawn:
- darganfyddwch a yw'r hyn sy'n digwydd yn wahaniaethu - mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor ar Bopeth
- siaradwch â'ch cyflogwr - efallai y gallwch ei ddatrys yn anffurfiol. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, ceisiwch siarad â'ch undeb llafur neu gynrychiolydd cyflogwyr os oes gennych un – neu ewch i wefan Acas website i weld a allant helpu.
- os na allwch ddatrys y mater, gallwch wneud cwyn ysgrifenedig - darganfyddwch fwy ar Gyngor ar Bopeth.
Am ragor o gymorth, cysylltwch â:
Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoleb (EASS)
Maternity Action
Os nad ydych yn gymwys am dâl ac absenoldeb tadolaeth?
- Ystyriwch gymryd absenoldeb blynyddol neu absenoldeb rhiant di-dâl yn lle hynny.
- Gofynnwch i’ch cyflogwr a allwch newid i batrwm gweithio mwy hyblyg.
- Os ydych yn Hunangyflogedig, darganfyddwch fwy am gymryd amser i ffwrdd i helpu â babi newydd ar wefan DAD.infoYn agor mewn ffenestr newydd