Os ydych yn gweithio ac yn mabwysiadu plentyn, fel arfer bydd gennych hawl i amser i ffwrdd o’r gwaith â thâl pan fyddant yn ymuno â’ch teulu gyntaf. Gelwir hyn yn Tâl Mabwysiadu ac Absenoldeb Statudol.
Beth sydd yn y canllaw hwn
Beth yw Absenoldeb Mabwysiadu Statudol?
Oeddech chi’n gwybod?
Mae gan rai cyflogwyr gynlluniau absenoldeb mabwysiadu mwy hael na’r un statudol. Gwiriwch eich contract cyflogaeth neu lawlyfr staff am fanylion, neu gofynnwch i’ch cyflogwr.
Os ydych yn mabwysiadu neu’n cael plentyn trwy fenthyg croth, efallai y bydd gennych hawl i 52 wythnos o absenoldeb o’r gwaith os ydych yn gyflogai.
Os ydych yn mabwysiadu fel cwpwl, dim ond un person sy’n gallu cael absenoldeb mabwysiadu.
Efallai y bydd y llall yn gallu cael absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb rhiant a rennir.
Darganfyddwch fwy am absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb rhiant a rennir yn ein canllaw Absenoldeb a thâl tadolaeth
Diogelwch rhag diswyddo
Os ydych yn gyflogai ar absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu, mae gennych hawl i 18 mis o ddioglewch rhag diswyddo. Rydych wedi'ch diogelu o ddyddiad disgwyliedig eich geni neu ddyddiad mabwysiadu.
Os ydych yn cymryd chwe wythnos o absenoldeb rhiant parhaus a rennir, rydych hefyd wedi’ch diogelu am 18 mis rhag diswyddo. Darganfyddwch fwy am reoli gwahaniaethuYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan ACAS.
Beth yw Tâl Mabwysiadu Statudol?
Tâl Mabwysiadu Statudol yw’r lleiafswm cyfreithiol mae rhaid i’ch cyflogwr eich talu tra’ch bod ar absenoldeb mabwysiadu.
Mae’r tabl hwn yn dangos faint fyddwch yn ei gael ar bob cam o’ch absenoldeb mabwysiadu ym mlwyddyn dreth 2024-25:
Absenoldeb Mabwysiadu Statudol | Tâl Mabwysiadu Statudol |
---|---|
Chwe wythnos cyntaf |
90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog cyn treth |
Y 33 wythnos nesaf |
£184.03 yr wythnos neu 90% o’ch enillion wythnosol cyfartalog (p’un bynnag yw’r lleiaf) |
Y 13eg wythnos nesaf |
Di-dâl |
A ydych yn gymwys?
I gael Tâl Mabwysiadu Statudol mae rhaid i chi:
- ennill o leiaf £123 yr wythnos cyn treth ar gyfartaledd
- fod wedi gweithio i’ch cyflogwr am o leiaf 26 wythnos cyn cael eich paru â phlentyn (neu’r 15fed wythnos cyn y dyddiad geni disgwyliedig os ydych yn defnyddio benthyg croth)
- rhoi o leiaf 28 niwrnod o rybudd i’ch cyflogwr eich bod eisiau stopio gweithio a rhoi gwybod iddynt pryd fyddwch eisiau i’ch tâl mabwysiadu gychwyn (o leiaf 15 wythnos o rybudd os ydych yn defnyddio benthyg croth)
- roi prawf i’ch cyflogwr o’r mabwysiadu (er enghraifft, y dystysgrif paru).
I gyfrifo pryd dylech hawlio eich absenoldeb, defnyddiwch gynlluniwr absenoldeb mabwysiadu ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Darganfyddwch fwy am hawlio absenoldeb a thâl mabwysiadu ar wefan GOV.UK
Tâl os ydych yn mabwysiadu plentyn o dramor
Mae’r gofynion yr un peth os ydych yn mabwysiadu o dramor, heblaw am fod rhaid eich bod wedi cael eich cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr am o leiaf 26 wythnos pan fyddwch yn dechrau cael tâl mabwysiadu.
Mae rhaid i chi hefyd lofnodi ffurflen SC6 os ydych yn mabwysiadu o dramor gyda phartner. Mae hyn yn cadarnhau nad ydych yn cymryd absenoldeb na thâl tadolaeth.
Os ydych yn mabwysiadu plentyn o dramor defnyddiwch ffurflen SC6 ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Tâl os ydych mewn trefniant benthyg croth
Mae’r gofynion yr un peth os ydych yn mewn trefniant benthyg croth, heblaw am fod rhaid eich bod wedi cael eich cyflogi’n barhaus gan eich cyflogwr am o leiaf 26 wythnos erbyn y 15fed wythnos cyn mae disgwyl i’r babi gael ei eni.
Rhaid i chi hefyd:
- Os ydych yn bwriadu gwneud cais am orchymyn rhieni – darganfyddwch fwy ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- disgwyl i’r gorchymyn gael ei ganiatáu (er enghraifft oherwydd nad oes gennych unrhyw euogfarnau yn ymwneud â phlant, ac mae’r fam neu’r tad biolegol yn cytuno i’r trefniant).
Os ydych yn perthyn yn enetig i’r plentyn (y rhoddwr wy neu sberm), gallwch ddewis cael absenoldeb a thâl tadolaeth yn lle. Ni allwch gael y ddau.
Darganfyddwch fwy am dâl ac absenoldeb tadolaeth ar wefan GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Rydych yn maethu i fabwysiadu
Os ydych yn gymwys i gael tâl ac absenoldeb mabwysiadu, byddwch yn eu cael pan ddaw’r plentyn i fyw gyda chi.
Eithriadau
Nid ydych yn gymwys i gael Absenoldeb neu Dâl Mabwysiadu Statudol os ydych yn:
- trefnu mabwysiad preifat
- dod yn warcheidwad arbennig neu’n ofalwr sy’n berthynas
- mabwysiadu llys-blentyn
- mabwysiadu aelod o’r teulu.
Os nad ydych yn gymwys am Dâl Mabwysiadu Statudol
Mae rhaid i’ch cyflogwr roi ffurflen SAP1 i chi i egluro pam na allwch gael Tâl Mabwysiadu Statudol.
Efallai y gallwch gael cymorth gan eich cyngor lleol ar GOV.UK i ddarganfod am gefnogaeth ariannol allai fod ar gael i fabwysiadwyr.
Darganfyddwch eich cyngor lleol:
- yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- yng Ngogledd Iwerddon, yn nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
- Byddai’n ddoeth i roi arian o’r neilltu i’ch helpu tra byddwch i ffwrdd o’r gwaith yn gofalu am eich plentyn newydd, ac ystyried cymryd gwyliau blynyddol yn ei le.
Os credwch fod eich cyflogwr yn bod yn annheg
Beth os nad yw’ch cyflogwr yn meddwl bod angen iddynt roi tâl mabwysiadu i chi, neu eich bod yn teimlo nad ydynt yn talu’r swm iawn i chi?
- Darganfyddwch os yw’r hyn sy’n digwydd yn wahaniaethu, ewch i Gyngor Ar Bopeth.Yn agor mewn ffenestr newydd
- Efallai y byddwch yn gallu datrys y mater yn anffurfiol. Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau, gall Acas helpuYn agor mewn ffenestr newydd, neu geisiwch siarad â’ch cynrychiolwr undeb llafur neu gyflogwr os oes gennych un.
- Darganfyddwch fwy ar wefan Cyngor Ar Bopeth, os na allwch ddatrys y mater, gallwch wneud cwyn ysgrifenedigYn agor mewn ffenestr newydd