Gall hawlio Budd-dal Plant roi hwb mawr i gyllideb eich teulu. Os ydych newydd gael babi, sicrhewch eich bod yn hawlio cyn i’r babi gyrraedd tri mis oed. Hyd yn oed os nad ydych yn meddwl y bydd gennych hawl i unrhyw beth, mae’n bwysig i hawlio o hyd fel nad ydych yn colli cyfle i gael budd-daliadau eraill.
Pwy sy’n cael hawlio Budd-dal Plant?
Gallwch hawlio Budd-dal Plant am bob plentyn rydych yn gyfrifol amdanynt, p’un ai’ch bod yn gweithio neu â chynilion neu beidio. Nid yw’n ofynnol i chi fod yn rhiant i’r plentyn i hawlio.
Gallwch hawlio am bob plentyn:
- dan 16 oed
- dan 20 oed - os ydynt mewn hyfforddiant neu addysg amser llawn a gymeradwyir.
Darganfyddwch fwy am beth yw hyfforddiant neu addysg amser llawn a gymeradwyirYn agor mewn ffenestr newydd ar yn GOV.UK.
Bydd eich Budd-dal Plan t yn dod i ben os bydd eich plentyn yn dechrau gwaith cyflogedig am 24 awr neu ragor yr wythnos, ac ni fydd mewn addysg neu hyfforddiant a gymeradwyir mwyach.
Mae hyn yn berthnasol hefyd os bydd eich plentyn yn cychwyn prentisiaeth neu’n dechrau cael budd-daliadau ei hunan.
Nid oes treth i’w thalu ar y taliadau os nad yw yr un o’r rhieni neu’r gofalwr yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn.
Darganfyddwch fwy am hawlio Budd-dal PlantYn agor mewn ffenestr newydd ar yn GOV.UK (Opens in a new window) neu ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant 0300 200 3100
Os ydych yn byw yn yr Alban ac yn cael budd-daliadau penodol, efallai y gallwch gael taliad wythnosol i helpu tuag at y gost o gefnogi eich teulu. Darganfyddwch fwy a sut i wneud cais ar mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Faint yw Budd-dal Plant?
Yn y flwyddyn dreth 2025/26 gallwch hawlio:
- £26.05 yr wythnos am eich plentyn cyntaf
- £17.25 yr wythnos am unrhyw blant eraill.
Dyna dros £1,355 y flwyddyn os oes gennych chi un plentyn a £897 arall ar gyfer pob plentyn ychwanegol.
Budd-dal Plant os ydych yn ennill mwy na £60,000
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill mwy na £60,000 y flwyddyn cyn treth, gallwch dal hawlio Budd-dal Plant.
Ond bydd angen i chi ad-dalu rhai (neu i gyd) o’ch Budd-dal Plant ar ffurf Treth Incwm ychwanegol.
Bydd angen i chi ad-dalu 1% o Fudd-dal Plant eich teulu am bob £200 ychwanegol o’ch incwm sydd dros £60,000.
Os ydych chi neu’ch partner yn ennill dros £80,000, bydd yn rhaid i chi dalu’r cyfan o’ch Budd-dal Plant yn ôl trwy Dreth Incwm ychwanegol.
Gallai eich cyflog fod dros £60,000, ond yr hyn y mae CThEF yn talu sylw iddo yw eich ‘incwm net wedi’i addasuYn agor mewn ffenestr newydd’ Dyma'r tâl rydych yn cael eich trethu arno ac nid yw'n cynnwys pethau rydych yn talu amdanynt trwy aberth cyflog.
Gallwch leihau eich tâl adref drwy gynyddu eich cyfraniadau pensiwn yn y gweithle. Gallwch hefyd wneud hyn drwy dalu i bensiwn personol.
Os gallwch fforddio gwneud hyn, gallai gyfyngu ar faint o Fudd-dal Plant y bydd angen i chi ei dalu'n ôl. Efallai yr hoffech siarad â chynghorydd ariannol am hyn i gael mwy o wybodaeth.
Hyd yn oed os oes angen i chi ad-dalu popeth, gall fod yn werth parhau i hawlio Budd-dal Plant gan y bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cael Credydau Yswiriant Gwladol sy'n cyfrif tuag at eich pensiwn gwladol.
Mae hyn yn arbennig o bwysig os nad yw un ohonoch yn gweithio neu'n ennill islaw'r terfyn enillion is ar gyfer Cyfraniadau Yswiriant Gwladol.
Ar gyfer blwyddyn dreth 2025/26 y terfyn enillion is yw:
- £125 yr wythnos
- £542 y mis
- £6,500 y flwyddyn.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Budd-dal Plant os ydych yn ennill mwy na £50,000
Sut i hawlio Budd-dal Plant
Awgrym da
Mae’n werth hawlio Budd-dal Plant yn syth. Mae hyn oherwydd gellir ond ôl-ddyddio’ch taliadau am dri mis o’r dyddiad y derbynnir eich cais.
Gallwch nawr wneud cais neu newid eich cais am Fudd-dal Plant ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar wefan GOV.UK neu drwy ap CThEF.
Gallwch lenwi ffurflen gais (CH2) a’i hanfon i’r Swyddfa Budd-dal Plant os nad ydych am wneud cais ar-lein.
Lawrlwythwch y ffurflenYn agor mewn ffenestr newydd o yn GOV.UK.
Os cafodd eich plentyn ei eni yng Ngogledd Iwerddon neu y tu allan i’r DU, byddwch hefyd angen anfon tystysgrif geni gwreiddiol eich plentyn. Byddwch yn ei gael yn ôl.
Os cafodd eich plentyn ei eni yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, nid oes angen i chi anfon tystysgrif geni eich plentyn. Ond gwnewch yn siŵr ei fod gennych wrth law gan y byddwch angen gwybodaeth sydd arno ar gyfer y ffurflen gais Budd-dal Plant.
Os yw’ch plentyn wedi’u mabwysiadu, anfonwch eu tystysgrif mabwysiadu wreiddiol gyda’r ffurflen.
Gallwch archebu tystysgrif mabwysiadu newydd oYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK os ydych wedi colli’r gwreiddiol
Os ydych chi angen ychwanegu plentyn newydd i’ch cais, gallwch ddiweddaru eich cais Budd-dal Plant ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd neu lenwi’r ffurflen CH2. Neu gallwch ychwanegu’r manylion drwy ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant, 0300 200 3100.
Pam ei bod hi’n bwysig hawlio Budd-dal Plant
Oeddech chi’n gwybod?
Bydd hawlio Budd-dal Plant yn rhoi cymorth i chi ddiogelu’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Ydych chi gartref o’ch gwaith yn gofalu am eich plentyn a ddim yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol? Bydd hawlio Budd-dal Plant yn sicrhau y cewch chi gredydau tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Os na fyddwch yn hawlio gallech golli cyfle i gael:
- budd-daliadau eraill, fel Lwfans Gwarcheidwad (budd-dal y gallwch ei hawlio os ydych yn magu plentyn y mae ei rieni wedi marw)
- eich plentyn yn derbyn rhif Yswiriant Gwladol fel mater o drefn cyn eu ben-blwydd yn 16 oed.
Hyd yn oed os nad ydych yn meddwl y bydd gennych hawl i unrhyw beth - gan eich bod chi neu’ch partner yn ennill mwy na’r terfyn di-dreth o £60,000 – mae’n dal werth hawlio. Mae hyn er mwyn i chi beidio â cholli allan ar gredydau Yswiriant Gwladol.
Os bydd y naill ohonoch neu’r llall yn ennill dros £80,000, gallwch ddewis peidio â derbyn y taliadau. Byddwch yn osgoi’r taliad treth ond parhau i gael yr hawliadau. Darganfyddwch fwy am daliadau treth incwm uchelYn agor mewn ffenestr newydd ar yn GOV.UK.