Presgripsiynau a thriniaeth ddeintyddol am ddim gan y GIG yn ystod beichiogrwydd

Ydych chi’n feichiog neu newydd gael babi? Os felly, gallwch leihau eich costau drwy gael presgripsiynau a gofal deintyddol y GIG yn rhad ac am ddim gyda Thystysgrif Eithriad Mamolaeth. 

Beth mae gennyf hawl iddo?

Mae gofal deintyddol y GIG am ddim yn y Deyrnas Unedig tra byddwch yn feichiog, ac am flwyddyn gyfan wedi i’ch babi gael ei eni.

Fodd bynnag, ar gyfer presgripsiynau mae’n dibynnu lle rydych yn byw

  • Yn Lloegr, mae presgripsiynau yn rhad ac am ddim tra byddwch yn feichiog ac am flwyddyn wedi’r enedigaeth, os oes gennych chi Dystysgrif Eithriad Mamolaeth ddilys (MatEx). Gallai hyn arbed £9.65 (2023-2024) i chi ar bob presgripsiwn
  • Mae presgripsiynau am ddim i bawb yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Sut allaf hawlio’r gwasanaethau rhad ac am ddim hyn

Y cyfan sydd ei angen arnoch yw Tystysgrif Eithrio Mamolaeth, wedi’i llofnodi gan eich doctor neu fydwraig.

Mae’r dystysgrif hon yn eich caniatáu i gael presgripsiynau a gofal deintyddol am ddim gan y GIG.

Gallwch gael y ffurflen gais Eithriad Mamolaeth (FW8), gan eich doctor neu fydwraig.

Byddant yn ei llofnodi a’i hanfon i mewn ar eich rhan. Byddwch yn cael eich tystysgrif yn y post.

Dangoswch eich tystysgrif yn y fferyllfa wrth gael presgripsiwn yn Lloegr.

A dweud wrth dderbynnydd y deintydd eich bod yn gymwys am driniaeth yn rhad ac am ddim ar y GIG am eich bod yn feichiog pan fyddwch yn gwneud apwyntiad deintyddol.

Os nad yw’ch tystysgrif yn cyrraedd mewn pryd

Gallwch hawlio ad-daliad os oedd rhaid ichi dalu cyn i’ch tystysgrif gyrraedd.

Gofynnwch i’ch fferyllydd am dderbynneb a ffurflen hawlio (FP57).

Gyda’ch deintydd, rydych angen ffurflen FP64.

Trefnu’ch apwyntiad deintyddol

Oeddech chi’n gwybod?

Mae pob plentyn yn derbyn presgripsiynau am ddim tan eu bod yn 16 oed (neu’n 18 oed os mewn addysg llawn amser) a gofal deintyddol am ddim tan eu bod yn 18 oed.

Mae amryw ohonom yn osgoi gwneud apwyntiad gyda’r deintydd. Ond mae’n gwneud synnwyr i weld y deintydd tra bydd am ddim.

Rydych yn fwy tebygol o gael dannedd a gymiau sensitif tra’ch bod yn feichiog, felly gallai mynd at y deintydd helpu i leddfu unrhyw boen.

Yn Lloegr

Bydd trefnu apwyntiad nawr yn arbed y £25.80 y byddai’n rhaid i chi ei dalu am wiriad fel rheol. Neu hyd at £306.80 am driniaethau drutach fel pont neu goron.

Yng Nghymru

Bydd trefnu apwyntiad nawr yn arbed y £14.70 y byddai’n rhaid i chi ei dalu am wiriad fel rheol.  Neu hyd at £203 am driniaethau drutach fel pont neu goron.

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon

Rhaid i unrhyw un nad yw’n gymwys i gael triniaeth ddeintyddol am ddim neu help gyda chostau dalu 80% o gost eu triniaeth ddeintyddol.  Mae hyn wedi ei gapio ar £384.

Gwnewch yn siwr eich bod yn cael popeth y mae gennych hawl iddo

Mae budd-daliadau ac arbedion eraill ar gael ar gyfer merchaid beichiog a theuluoedd.

Mae ein Llinell amser arian babi yn rhoi rhestr bersonol lawn i chi o’r holl ddyddiadau sy’n gysylltiedig â’ch beichiogrwydd a’ch babi newydd.

Mae’n hawdd ei lenwi ac mae’n eich helpu i weithio allan a ydych chi’n cael yr holl gymorth ariannol sydd ar gael i chi.

Mae’n cynnwys popeth o drefnu eich absenoldeb mamolaeth a’ch tâl i hawlio Budd-dal Plant. A gallai arbed llawer o arian i chi.

Mwy o wybodaeth

  • Yng Nghymru a Lloegr, darganfyddwch fwy am ofal deintyddol am ddim a phresgripsiynau am ddim ar wefan NHS Choices
  • Yn yr Alban, darganfyddwch fwy am ofal deintyddol am ddim ar wefan mygov.scot
  • Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am ofal deintyddol am ddim ar wefan nidirect
Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.