Os ydych yn rhentu eich tŷ gyda’ch gŵr, gwraig neu bartner sifil, bydd rhaid i chi benderfynu a fydd un ohonoch yn parhau i fyw yno neu a allwch ddwyn y denantiaeth i ben. Edrychwch beth yw eich dewisiadau os byddwch yn gwahanu.
Deall sut rydych yn rhentu eich cartref
Mae gennych yr hawl i aros yn yr eiddo tra byddwch yn dal yn briod neu’n bartneriaid sifil.
Ond mae gennych gyfrifoldebau hefyd, sy’n dibynnu ar enw pwy sydd ar y denantiaeth.
Os yw’r cytundeb tenantiaeth yn eich enw chi
Mae gennych hawl i aros yn eich cartref. Rydych yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu.
Os ydych yn denant ar y cyd gyda’ch cyn-bartner
Mae gennych chi a’ch gŵr, gwraig, neu bartner sifil eich dau yr hawl i barhau i fyw yn yr eiddo.
Ond, gall y naill neu’r llall ohonoch roi rhybudd i’r landlord i ddod â’r denantiaeth i ben (oni bai ei bod yn un tymor sefydlog).
Mae’r union reolau yn dibynnu ar y math o gytundeb tenantiaeth ar y cyd sydd gennych.
A yw un ohonoch eisiau parhau i fyw yno ar ôl i'r denantiaeth ddod i ben neu i'r briodas neu'r bartneriaeth sifil ddod i ben? Efallai y byddwch yn gallu trafod gyda’ch landlord.
Os yw’r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cyn-bartner
Nhw sy’n gyfrifol am dalu’r rhent. Ond, mae gennych hawliau i barhau i fyw yn yr eiddo tra bydd y denantiaeth yn parhau a thra byddwch yn dal yn briod neu mewn partneriaeth sifil.
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gelwir y rhain yn ‘hawliau cartref’.
Yn yr Alban, mae gennych hawliau tebyg i’r rhain fel yr hyn a elwir yn ‘gymar heb deitl’ neu ‘bartner sifil heb deitl’.
Os bydd eich cyn-bartner yn symud allan, efallai y byddwch yn gallu cymryd cyfrifoldeb am dalu’r rhent. Yng Nghymru a Lloegr mae hyn yn rhywbeth y mae gennych hawl i’w wneud. Ond yn yr Alban a Gogledd Iwerddon mae’n dibynnu ar y cytundeb tenantiaeth.
Efallai gall eich cyn-bartner drosglwyddo neu lofnodi bod y denantiaeth yn dod i chi.
Sicrhau eich hawliau i aros yn y cartref
Efallai bydd eich hawliau i aros yn eich cartref yn parhau dim ond tra byddwch yn briod neu mewn partneriaeth sifil, gan ddibynnu enw pwy sydd ar y cytundeb tenantiaeth.
Bydd eich hawliau yn amrywio ychydig gan ddibynnu lle rydych yn byw yn y Deyrnas Unedig.
Cymru a Lloegr
Os yw'r cytundeb tenantiaeth yn enw'ch cyn-bartner, a'u bod yn symud allan, efallai y gallwch barhau i dalu'r rhent (er mwyn osgoi ôl-ddyledion a'r bygythiad o droi allan). Ond byddai'n dibynnu ar y math o gytundeb tenantiaeth sydd gennych, ac a yw'ch landlord yn landlord sector preifat neu gymdeithasol.
Ar ôl i’ch priodas neu bartneriaeth sifil ddod i ben, mae eich hawl i aros yn yr eiddo yn dod i ben hefyd.
Gogledd Iwerddon
Os yw’r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cyn-bartner, nhw sy’n gyfrifol am barhau i dalu’r rhent.
Beth os ydynt wedi symud allan ac nad ydynt yn talu rhent bellach - tra'ch bod yn dal i fod yn briod neu mewn partneriaeth sifil? Yna efallai y bydd gennych hawl i fyw yn yr eiddo a thalu rhent.
Siaradwch â'ch landlord am gael eich enw ar y cytundeb tenantiaeth gan y bydd yn rhoi mwy o ddiogelwch i chi.
Yr Alban
Os yw’r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cyn-bartner, mae gennych yr hawl i fyw yn y cartref fel petaech yn denant gyda’ch plant (hyd yn oed os ydynt yn oedolion).
Ni all eich cyn-bartner ddwyn y denantiaeth i ben heb eich cytundeb ysgrifenedig.
Sicrhau eich hawliau yn y llys
Beth os na allwch chi a’ch cynbartner gytuno pwy ddylai barhau i fyw yn y cartref teuluol? Os yw’r denantiaeth yn eu henw hwy, efallai y byddwch yn gallu mynd i’r llys i sicrhau’r hawl i aros yn yr eiddo.
Os bydd y llys yn cytuno, bydd hyn yn rhoi’r hawl i chi aros yn yr eiddo am gyfnod penodol o amser, neu gall eich helpu i orfodi hawliau sydd gennych yn barod i aros yno.
Yng Nghymru a Lloegr
Mae cymorth cyfreithiol ar gael os byddwch yn gwneud cais i’r llys oherwydd trais domestig - er bod prawf modd ar ei gyfer.
Yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban
Mae cymorth cyfreithiol ar gael o hyd heb yr angen i ddangos bod trais domestig wedi digwydd - er bod prawf modd ar ei gyfer.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cam-drin ariannol: adnabod yr arwyddion a gadael yn ddiogel
Pan fydd gennych yr hawl i gymryd y denantiaeth drosodd
Efallai y bydd gennych yr hawl i gymryd y denantiaeth drosodd gan eich cyn-bartner.
- Yng Nghymru a Lloegr, bydd yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych a beth sydd yn y cytundeb.
- Yng Ngogledd Iwerddon, mae gennych fwy o hawliau i wneud hyn os byddwch yn rhentu gan yr Housing Executive neu gymdeithas dai nag os byddwch yn rhentu’n breifat.
- Yn yr Alban, os na fydd eich landlord yn cytuno i chi gymryd y denantiaeth gan eich cyn-bartner, gallwch wneud cais i’r llys am yr hyn a elwir yn ‘orchymyn trosglwyddo tenantiaeth’.
Ond, mae bob amser yn werth siarad â’ch landlord yn gyntaf oherwydd efallai y bydd yn barod i chi gymryd y denantiaeth yn eich enw chi yn unig.
Sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu
Os yw eich enw chi ar y cytundeb tenantiaeth, chi sy’n gyfrifol am dalu’r rhent.
Os yw’n denantiaeth ar y cyd gyda’ch cyn-bartner, rydych chi’ch dau yn gyfrifol am sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu.
Felly os byddant yn methu neu yn gwrthod talu rhent, gall y landlord ofyn i chi am y swm cyfan.
Beth bynnag yw eich sefyllfa, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi blaenoriaeth i’ch taliadau rhent. Os na allwch dalu eich rhent, gall eich landlord geisio cymryd camau i’ch troi allan.
Efallai eich bod yn gymwys i Gredyd Cynhwysol sydd yn gallu helpu gyda chostau tai. Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Credyd Cynhwysol a thalu eich rhent.
Os ydych mewn tai â chymorth, tai gwarchod neu dros dro neu rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, efallai eich bod yn gymwys i Fudd-dal Tai.
- Os ydych yg Nghymru, Lloegr, neu’r Alban, darganfyddwch fwy am Fudd-dal Tai ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch fwy am Fudd-dal Tai ar Housing ExecutiveYn agor mewn ffenestr newydd
Datrys problemau gyda’ch landlord
Mae'n syniad da siarad â'ch landlord cyn gynted ag y gallwch i ddangos bod gennych gynllun i dalu'r rhent, gan gynnwys unrhyw ôl-ddyledion.
Os bydd eich landlord yn gwrthod trafod, neu os oes arnoch rent iddynt, cysylltwch ag elusen sy’n cynghori.
- Yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth neu ShelterYn agor mewn ffenestr newydd
- Yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Gwasanaeth Hawliau Tai
- Yn yr Alban, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth yr AlbanYn agor mewn ffenestr newydd neu Shelter