Os ydych yn rhentu’ch cartref gyda’ch cyn bartner, ac nid ydych yn briod nac mewn partneriaeth sifil, efallai y bydd gan un neu’r ddau ohonoch yr hawl i barhau i fyw yn eich cartref – yn y tymor byr o leiaf – os penderfynwch wahanu. Bydd yn dibynnu fel arfer ar enw pwy sydd ar y denantiaeth a pha fath o denantiaeth sydd gennych chi. Mae’n bwysig darganfod pa ddewisiadau sydd gennych chi.
Deall sut yr ydych yn rhentu eich cartref
Efallai eich bod yn rhentu’ch cartref yn eich enw chi yn unig, yn enw’ch partner neu enwau’r ddau ohonoch.
Bydd eich hawl fel mater o drefn i aros yno yn dibynnu fel arfer ar enw pwy sydd ar y denantiaeth.
- Os yw’r cytundeb tenantiaeth yn eich enw chi, mae gennych hawl i aros yn eich cartref. Rydych yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu ac y cydymffurfir ag amodau cytundeb y denantiaeth.
- Os ydych yn denant ar y cyd gyda’ch cyn bartner, mae gan y ddau ohonoch yr hawl i barhau i fyw yn yr eiddo. Ond, gall y naill neu’r llall ohonoch roi rhybudd i’r landlord i ddirwyn y denantiaeth i ben (oni bai ei bod yn un tymor sefydlog). Mae’r union reolau yn dibynnu ar y math o gytundeb tenantiaeth ar y cyd sydd gennych. Efallai y byddwch yn gallu trafod gyda’ch landlord fel bod un ohonoch yn cael tenantiaeth newydd.
- Os yw’r cytundeb tenantiaeth yn enw eich cyn bartner, gallai ef neu hi ofyn i chi adael ac efallai na fyddai gennych lawer o amser i ddod o hyd i lety arall. Os ydych mewn sefyllfa o’r fath, dylech siarad ag elusen gynghori neu gymryd cyngor cyfreithiol.
Os na allwch fforddio cael cyngor cyfreithiol, gweler ein canllaw Cymorth cyfreithiol a chymorth arall os na allwch fforddio ffioedd ysgariad neu wahanu
Diogelu eich hawliau i aros yn y cartref
Os yw’ch cyn bartner yn dymuno i chi adael a bod y cytundeb rhent yn eu henw hwy, efallai y byddwch yn gallu sicrhau’r hawl i aros yno.
Bydd sut y gwnewch hynny’n dibynnu ar ble yn y DU rydych yn byw.
Cymru neu Loegr
Bydd yn rhaid i chi ymgeisio am ‘orchymyn meddiannaeth’ os dymunwch aros yno. Gorchymyn meddiannaeth yw gorchymyn llys sy’n sefydlu pwy sydd â’r hawl i aros, dychwelyd neu ei eithrio o’r cartref teuluol.
Fe’i ystyrir fel y cam olaf y dylid ei gymryd oherwydd gallai eithrio rhywun o eiddo sydd â hawl cyfreithiol i fyw yno.
Gellir ond llunio gorchymyn ar gyfer eiddo y mae’r ddau ohonoch yn byw ynddo, neu y bwriadoch i fyw ynddo fel cartref y teulu.
Mae gorchmynion meddiannaeth fel arfer yn para am gyfnod penodol o amser (rhyw chwe mis fel arfer) – er, gellir eu hadnewyddu.
Serch hynny, nid yw’r llysoedd yn cyhoeddi’r rhain fel mater o drefn, felly efallai na fyddwch yn llwyddiannus.
Bydd y llys yn edrych ar amgylchiadau’ch achos. Byddant hefyd yn ystyried y tebygolrwydd o niwed sylweddol i chi, eich cyn bartner ac unrhyw blant os llunir unrhyw orchymyn. Bydd hyn yn cael ei wrthbwyso yn erbyn y tebygolrwydd o niwed sylweddol os na lunir y gorchymyn.
Gallwch ymgeisio hefyd am ‘orchymyn peidio ag ymyrryd’ law yn llaw â gorchymyn meddiannaeth os dymunwch wneud yn siŵr na ddaw eich cyn bartner yn agos at eich cartref. Er enghraifft, os ydynt wedi bod yn fygythiol neu â hanes o drais domestig yn eich erbyn.
Cost
Gall y costau cyfreithiol o gael gorchymyn meddiannaeth fod rhwng £1,000 a £5,000, mwy na hynny o bosib. Y rheswm am hyn yw bod y ceisiadau mwyaf llwyddiannus yn cynnwys dau wrandawiad llys.
Mae'n bwysig cael cyngor cyfreithiol arbenigol. Nid oes ffi gan y llys am ymgeisio am orchymyn meddiannaeth. Gall cymorth cyfreithiol fod ar gael o hyd ar gyfer gorchmynion meddiannaeth mewn achosion o gam-drin domestig, yn amodol ar brawf modd.
Gogledd Iwerddon
Bydd yn rhaid i chi ymgeisio i’r llys os dymunwch aros yno.
Byddai’r llys ond yn caniatáu i chi aros yn yr eiddo os gallech ddangos fod gan eich cyn bartner rywle arall i aros yn y tymor byr.
Rydych yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus os byddwch yn rhentu gan y Weithrediaeth Dai neu gymdeithas dai.
Cost
Mae'n debygol o gostio tua £500. Mae cymorth cyfreithiol ar gael, ond mae'n destun meini prawf.
Darganfyddwch a ydych chi'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar wefan nidirect
Yr Alban
Os yw’ch cyn bartner yn dymuno i chi adael a bod y cytundeb rhent yn eu henw hwy, efallai y bydd yn rhaid i chi ymgeisio i Lys y Siryf i gael ‘hawliau meddiannaeth’.
Bydd y rhain fel arfer yn para cyfnod penodol o amser (hyd at chwe mis) - er gallwch eu hadnewyddu hyd at chwe mis ar y tro.
Gallwch fynd i’r llys os dymunwch wneud yn siŵr na ddaw eich cyn bartner yn agos at eich cartref - er enghraifft, maent wedi bod yn fygythiol neu â hanes o drais domestig yn eich erbyn.
Unwaith y bydd gennych hawliau meddiannaeth, gallwch chi (a’ch plant) barhau i fyw yn y cartref cyn belled nad yw’r hawliau hyn yn dod i ben.
Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw’ch plant wedi tyfu. Ni ddylai’ch cyn bartner ddwyn y denantiaeth i ben heb eich caniatâd.
Cost
Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth cyfreithiol i dalu costau hyn, ond mae prawf modd ar ei gyfer.
Darganfyddwch a ydych chi'n gymwys i gael cymorth cyfreithiol ar wefan mygov.scotYn agor mewn ffenestr newydd
Pan fydd gennych yr hawl i drosglwyddo’r denantiaeth
Efallai y bydd eich landlord yn caniatáu i chi drosglwyddo’r denantiaeth o’ch enw chi i enw’ch partner, os yw’n bodoli yn eich enw chi ar hyn o bryd.
Bydd yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhannu cartref y teulu wrth ysgaru neu ddiddymu os ydych yn rhentu
Sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu
Os yw eich enw chi ar y cytundeb rhentu, chi sy’n gyfrifol am dalu’r rhent.
Ac os yw’n denantiaeth ar y cyd gyda’ch partner, mae’r ddau ohonoch yn gyfrifol am sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu.
Felly os bydd eich cyn bartner yn methu neu yn gwrthod talu’r rhent, gall y landlord ofyn i chi am y swm cyfan.
Beth bynnag yw eich sefyllfa, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi blaenoriaeth i’ch taliadau rhent. Os na allwch dalu eich rhent, gall eich landlord geisio cymryd camau i’ch troi allan.
Am wybod os ydych yn gymwys am fudd-daliadau? I gael gwybod, darllenwch ein canllaw Pa fudd-daliadau y gallaf eu hawlio os ydw i’n ysgaru neu’n gwahanu?
Os credwch y byddwch yn cael anhawster i dalu’ch rhent, cysylltwch â’ch landlord a rhowch wybod i'ch landlord cyn gynted ag y gallwch.
Os ydych yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, darganfyddwch fwy am ragor am Fudd-dal Tai ar GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon, gallwch gael gwybodaeth am Fudd-dal Tai ar Weithrediaeth DaiYn agor mewn ffenestr newydd
Datrys problemau gyda’ch landlord
Mae’n syniad da siarad â’ch landlord cyn gynted ag y gallwch i ddangos bod gennych gynllun yn ei le i dalu’r rhent, gan gynnwys unrhyw ôl-ddyledion.
Os bydd eich landlord yn gwrthod trafod, neu os oes arnoch rent iddo, cysylltwch ag elusen sy’n cynghori:
- yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru
- yng Ngogledd Iwerddon, cysylltwch â’r Gwasanaeth Hawliau Tai i wirio eich hawliau.
- yn yr Alban, cysylltwch â Cyngor ar Bopeth yr Alban neu Shelter