Os oes angen i chi fenthyg arian ar gyfer hanfodion ac rydych yn cael budd-daliadau penodol, gallwch wneud cais am Fenthyciad Trefnu neu Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw di-log gan y llywodraeth. Gan nad oes angen i chi dalu llog, maent llawer yn rhatach na fenthyg arian ar gardiau credyd, gorddrafft neu fenthyciad stepen drws. Darganfyddwch fwy, gan gynnwys sut i wneud cais.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw a beth yw Benthyciad Trefnu?
- Am beth allwch chi ddefnyddio Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw a Benthyciad Trefnu?
- Pwy all wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw?
- Pwy all wneud cais am Fenthyciad Trefnu?
- Sut i ad-dalu Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciad Trefnu
- Oes cymorth arall ar gael?
- Siaradwch ag ymgynghorydd dyled am ddim os ydych chi’n cael trafferth
Beth yw Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw a beth yw Benthyciad Trefnu?
Mae Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw a Benthyciad Trefnu yn cynnig benthyciadau di-log rhwng £100 a £812 gan y llywodraeth i’ch helpu gyda chostau hanfodol penodol.
Os ydych wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol am o leiaf chwe mis gallwch hawlio Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yn unig.
Dim ond os ydych wedi bod yn cael un o’r budd-daliadau canlynol am o leiaf chwe mis y gallwch gael Benthyciad Trefnu:
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
- Credyd Pensiwn – os symudoch o Gredyd Cynhwysol i Gredyd Pensiwn, bydd unrhyw amser y gwnaethoch ei dreulio yn hawlio Credyd Cynhwysol yn cyfrif tuag at y 6 mis.
Gelwir y budd-daliadau hyn (ac eithrio Credyd Pensiwn) yn ‘fudd-daliadau etifeddol’. Mae budd-daliadau etifeddol yn cael eu disodli ar hyn o bryd gan Gredyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Symud i Gredyd o fudd-daliadau eraill.
Am beth allwch chi ddefnyddio Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw a Benthyciad Trefnu?
Mae Taliadau Cyllidebu Ymlaen Llaw a Benthyciadau Trefnu yn eich helpu i dalu am dreuliau hanfodol a/neu annisgwyl, fel:
- dodrefn a chyfarpar y cartref
- dillad ac esgidiau
- blaendal rhent a chostau symud
- costau teithio
- cyfarpar ac offer i’ch helpu i gael neu gadw swydd
- gwella, cynnal neu ddiogelu eich cartref
- cael babi
- cynllunio angladd.
Y benthyciad lleiaf y gallwch ei gymryd yw £100, gyda’r uchafswm yn seiliedig ar eich amgylchiadau:
- £348 os ydych yn sengl
- £464 os ydych yn rhan o gwpl
- £812 os ydych chi neu’ch partner yn hawlio. Sut i hawlio Budd-dal Plant.
Efallai y cewch lai na’r uchafswm os oes gennych gynilion dros £1,000 neu rydych yn ad-dalu Benthyciad Trefnu sydd gennych eisoes.
Yng Ngogledd Iwerddon mae Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw yr un fath â’r hyn a nodir uchod ond gelwir Benthyciad Trefnu yn Social Fund Budgeting LoanYn agor mewn ffenestr newydd ac mae’n ffordd ddi-log o fenthyg o £100 hyd at £1,500.
Pwy all wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw?
Gallwch wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw os:
- rydych wedi bod yn cael Credyd Cynhwysol am o leiaf chwe mis – oni bai bod angen yr arian arnoch i’ch helpu i gael neu gadw swydd
- rydych wedi ennill llai na £2,600 (£3,600 os ydych yn gwpl) yn y chwe mis diwethaf
- nad ydych eisoes yn ad-dalu Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw arall.
Sut i wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw
I wneud cais am y benthyciad, gallwch:
- ddefnyddio eich cyfrif ar-lein
- gofyn i’ch anogwr gwaith yn eich Canolfan Byd Gwaith leol.
- cysylltu â llinell gymorth Credyd Cynhwysol.
Mae gan Gyngor ar Bopeth ragor o wybodaeth am Daliadau Cyllidebu Ymlaen LlawYn agor mewn ffenestr newydd
Pwy all wneud cais am Fenthyciad Trefnu?
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth – neu’n rhan o gwpl a’r ddau ohonoch dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth – ac wedi bod yn cael Credyd Pensiwn am o leiaf chwe mis, gallwch wneud cais am Fenthyciad Trefnu.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth – neu’n rhan o gwpl lle mae un ohonoch o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth – a’r llall yn hawlio Credyd Cynhwysol, mae’n debygol y byddai angen i chi wneud cais am Daliad Cyllidebu Ymlaen Llaw. Os nad ydych yn siŵr beth y gallwch wneud cais amdano, siaradwch â’ch anogwr gwaith a all roi cyngor i chi.
Sut i wneud cais am Fenthyciad Trefnu
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, gallwch wneud cais ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK. Gallwch hefyd lawrlwytho, llenwi ac argraffu Ffurflen SF500Yn agor mewn ffenestr newydd ar GOV.UK neu gasglu un o’ch Canolfan Byd Gwaith leol.
Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, gallwch wneud cais ar-leinYn agor mewn ffenestr newydd ar NIDirect. Gallwch hefyd lawrlwytho, llenwi ac argraffu Ffurflen SF500Yn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect neu ewch i’ch swyddfa Swyddi a Budd-daliadau leol.
Sut i ad-dalu Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw neu Fenthyciad Trefnu
Caiff eich ad-daliadau eu cyfrifo pan fyddwch yn cymryd y benthyciad. Fel arfer bydd y swm hwn yn cael ei dynnu o’ch taliadau budd-dal rheolaidd nes iddo gael ei ad-dalu.
Yn dibynnu ar faint rydych chi’n ei fenthyg, fel arfer mae’n rhaid i chi ei had-dalu o fewn dwy flynedd.
Os byddwch yn rhoi’r gorau i gael budd-daliadau tra y byddwch yn gwneud ad-daliadau, bydd angen i chi gytuno ar ffordd arall o ad-dalu’r arian.
Beth sy’n digwydd os ydych yn cael trafferth fforddio’r ad-daliadau?
Os na allwch fforddio’r ad-daliadau mwyach, gallwch ofyn i’ch anogwr gwaith am gynllun ad-dalu arall. Mae’n bwysig nad ydych chi’n mynd i ddyled wrth geisio ad-dalu’r benthyciad.
Gall ein Blaenoriaethwr biliau eich helpu i roi eich biliau a’ch taliadau yn y drefn gywir. Gall eich helpu i roi eich biliau a thaliadau yn y drefn gywir.
Os ydych chi’n cael trafferth talu – boed yn eich rhent, eich bil ffôn symudol neu ad-daliadau benthyciad – bydd yn dweud wrthych mewn dau gam hawdd beth i’w wneud cyn i chi fethu taliad.
Oes cymorth arall ar gael?
Mae ble i gael cymorth a chefnogaeth mewn argyfwng yn dibynnu ar ble rydych yn byw:
- Yn Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor lleol i ddod o hyd i’ch cynllun cymorth lles lleol Yn agor mewn ffenestr newydd
- Yn Yr Alban, darganfyddwch am y Scottish Welfare Fund Yn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Yr Alban.
- Yng Nghymru, darganfyddwch am y Gronfa Cymorth Dewisol Yn agor mewn ffenestr newydd ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Yng Ngogledd Iwerddon, darganfyddwch am Discretionary Support Yn agor mewn ffenestr newydd ar nidirect.
Cymorth ariannol os ydych yn cael babi
Os ydych yn feichiog gyda’ch plentyn cyntaf, neu mae gennych blant yn barod ac rydych nawr yn disgwyl gefeilliaid (neu enedigaethau lluosog), efallai y gallwch hawlio grant Mamolaeth Cychwyn Cadarn o £500.
Yn yr Alban gelwir hwn yn Best Start Grant ac mae’n werth hyd at £767.50 yn 2025/26 yn dibynnu ar oedran a nifer eich plant. Nid oes rhaid i chi ad-dalu hwn.
Darganfyddwch fwy am y grantiau hyn a chymorth arall gall fod ar gael yn ein canllaw Pa fudd-daliadau gallaf eu hawlio pan fyddaf yn feichiog neu wedi cael babi?
Cymorth ariannol gyda chostau angladd
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol ac mae’n rhaid i chi dalu am gostau angladd perthynas neu ffrind agos, efallai y gallwch wneud cais am Daliad Costau AngladdYn agor mewn ffenestr newyddOpens in a new window
Os ydych angen cymorth ariannol cyn eich taliad budd-dal cyntaf
Os ydych yn aros am eich taliad cyntaf ac na allwch fforddio byw, gallwch ofyn am daliad ychwanegol yn gynnar. Gelwir hyn yn daliad ymlaen llaw budd-dal byrdymor.
Yna caiff eich budd-daliadau rheolaidd ei leihau gan ychydig bob tro nes ei fod wedi’i ad-dalu. Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw ar y budd-daliadau canlynol:
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Gofalwr
- Credyd Pensiwn
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd
- Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd.
Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol drwy eich cyfrif ar-lein os caiff ei gymeradwyo, caiff yr arian ei dalu i’ch cyfrif banc o fewn pum diwrnod fel arfer.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help i reoli eich arian tra byddwch yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf.
Ar gyfer taliadau ymlaen llaw ar gyfer y budd-daliadau eraill, fel arfer bydd angen i chi ffonio i wneud cais. Gweler GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu’r Alban, a nidirectYn agor mewn ffenestr newydd os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon am y rhif i’w ffonio ac oriau agor.
Os ydych yn wynebu costau byw uwch, darganfyddwch am ffynonellau ychwanegol o incwm a chymorth yn ein hadran Help gyda chostau byw
Siaradwch ag ymgynghorydd dyled am ddim os ydych chi’n cael trafferth
Mae’n bwysig cael cyngor am ddim ar ddyledion os ydych wedi methu taliad, yn poeni y byddwch yn ei fethu neu’n wynebu unrhyw faterion brys, gan gynnwys:
- beilïaid yn cysylltu â chi
- derbyn gwŷs llys
- diffodd eich nwy neu drydan
- adfeddiannu eich cartref, car neu nwyddau.
Defnyddiwch ein teclyn Lleolwr cyngor ar ddyledion i ddod o hyd i gyngor ar ddyledion cyfrinachol am ddim ar-lein, dros y ffôn neu’n agos at ble rydych yn byw.
Bydd ymgynghorydd dyled yn:
- trin popeth fyddwch yn ei ddweud yn gyfrinachol
- peidio byth â’ch barnu na gwneud i chi deimlo’n ddrwg am eich sefyllfa
- awgrymu ffyrdd o ddelio â dyledion efallai nad ydych yn gwybod amdanynt
- gwirio eich bod wedi gwneud cais am yr holl fudd-daliadau a hawliadau sydd ar gael i chi.