Sut i dalu ffioedd cyfreithiol pan fyddwch yn gwahanu os oeddech yn cyd-fyw

Os byddwch yn gwahanu ac nad ydych yn briod neu mewn partneriaeth sifil, nid oes rhaid i chi fynd trwy broses gyfreithiol ffurfiol. Ond os penderfynwch fynd â'ch partner i'r llys - er enghraifft, am gyfran o'r cartref neu oherwydd na allwch gytuno sut i rannu asedau neu feddiannau ar y cyd - bydd rhaid i chi dalu ffioedd cyfreithiol a ffioedd eraill. Os na allwch eu talu o'ch cynilion neu'ch incwm, mae opsiynau eraill.

Talu ffioedd eich cyfreithiwr

Cyn i chi feddwl am hawlio yn erbyn eich cyn partner, mae'n bwysig trefnu sut y byddech yn talu am unrhyw gyngor cyfreithiol. Os na allwch ei fforddio o'ch cynilion neu'ch incwm, mae'n bwysig meddwl yn ofalus ai achos llys yw'r opsiwn gorau. Mewn rhai achosion, gallai cost gweithredu costio mwy nag unrhyw fudd ariannol a gewch o ganlyniad.

Os nad oes gennych gynilion neu incwm, mae sawl ffordd y gallwch fenthyg arian. Ond meddyliwch yn ofalus cyn i chi fenthyca, a cheisiwch beidio â chymryd benthyciad cost uchel. Gallai hyn fod yn anodd ei ad-dalu, yn enwedig gan fod llawer o bobl yn wynebu costau ychwanegol pan fyddant yn gwahanu gyntaf.

Benthyca gan deulu neu ffrindiau

Efallai y byddwch yn gallu benthyg gan ffrindiau neu deulu a gall hyn fod yn rhatach a llawer haws na benthyca gan fanc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr benthyciadau arall. Dylech hefyd fod yn siŵr y gallwch dalu’r arian yn ôl. Os na allwch, gallai niweidio’r cyfeillgarwch neu berthynas deuluol.

Cerdyn credyd â llog 0%

Mae cerdyn credyd sy’n codi llog o 0% ar bryniannau yn golygu nad ydych yn talu llog ar eich gwariant am amser cyfyngedig – fel arfer rhwn tri a 12 mis.

Po hwyaf fydd y cynnig llog 0% ar gael, po hwyaf y bydd gennych i dalu’r arian rydych wedi ei wario ar eich cerdyn heb orfod talu llog.

Fel arfer dim ond os oes gennych statws credyd da iawn y byddwch yn gymwys ar gyfer y cardiau hyn.

Dylech fenthyg beth sydd angen arnoch yn unig a cheisio talu’r hyn rydych wedi ei fenthyca yn ôl cyn gynted â phosibl.

Benthyciad personol

Efallai y byddwch yn gallu cael benthyciad personol gan fanc, cymdeithas adeiladu neu ddarparwr benthyciadau.

Bydd faint fyddwch yn gallu ei fenthyg a’r gyfradd llog yn ddibynnol ar eich amgylchiadau a’r darparwr benthyciadau yr ydych yn gwneud cais iddo.

Bydd y gyfradd llog a’r ad-daliadau misol yn sefydlog a bydd y benthyciad yn rhedeg am gyfnod sefydlog. Ond gallwch fel arfer wneud taliadau ychwanegol i dalu eich benthyciad yn gyflymach heb orfod talu ffioedd ad-dalu cynnar.

Undebau Credyd

Efallai y byddwch yn gallu benthyg arian gan undeb credyd, darparwr cynilion a benthyciadau cymunedol sy’n eiddo i ac yn cael ei redeg gan ei aelodau.

Mae’r llog y gallant godi wedi ei gyfyngu dan y gyfraith, felly bydd yn llawer rhatach na benthyciadau byrdymor eraill - fel benthyciwr stepen drws neu ddiwrnod cyflog.

Dewisiadau ariannu pellach

Mae’n werth gwirio eich polisi yswiriant cartref – gan y gallai gynnwys yswiriant i dalu am gostau cyfreithiol.

Os ydych yn aelod o undeb llafur, efallai y bydd yn darparu cefnogaeth ar gyfer ffioedd cyfreithiol.

Os oes gennych blant a’ch bod yn mynd i’r llys drostynt, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais i’r llys i gael eich cyn partner i gyfrannu i’ch ffioedd.

Eich cam nesaf

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.