Beth yw’r ffordd orau o reoli cyllideb eich cartref ar ôl colli eich swydd, a beth gallwch ei wneud i ymdopi â cholli enillion? Mae’n amser adolygu eich cyllideb a chymryd rheolaeth o’ch cyllid.
Cam 1 - Llunio cyllideb
Os ydych yn cael anawsterau ag arian, efallai eich bod yn osgoi edrych ar eich cyfrifon, nid oes dim dwywaith bod amcangyfrif ble rydych yn sefyll yn ariannol werth yr ymdrech.
Y cwbl yw cyllideb yw rhestr o’ch holl incwm a gwariant.
Mae’r rhan fwyaf o bobl yn amcangyfrif yn rhy isel faint y maent yn ei wario mewn gwirionedd.
Mae’n bwysig bod yn onest - bydd ffugio’r ffigyrau neu guddio’ch pen yn y tywod ond yn arwain at ergyd gas yn ddiweddarach.
Cam 2 – Ceisio cwtogi
Awgrym da
Gallai cymharu cynigion ar ffonau symudol, band eang, teledu lloeren a chardiau credyd, yn ogystal â biliau tanwydd arbed cannoedd o bunnau bob blwyddyn.
Penderfynwch pa wariant y gallwch gwtogi arno i sicrhau nad ydych yn gwario mwy na’ch incwm cartref cyfan.
Dyma’r rhan y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael yn anodd, yn enwedig os oes ganddynt blant ifainc.
Ond man cychwyn da yw rhannu’ch gwariant yn eitemau hanfodol a rhai nad ydynt yn hanfodol.
Eitemau hanfodol
Gallwch gynilo ar hanfodion fel biliau tanwydd a bwyd heb or-gynilo.
Gall troi’r gwres canolog i lawr un radd arbed cyfartaledd o £55 y flwyddyn. Ac a yw eich plant wir yn mynd i sylwi ar ffa pob hunan-frand archfarchnad?
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i arbed arian ar filiau’r cartref
Pethau nad ydynt yn Hanfodol
Pethau nad ydynt yn hanfodol yw pethau fel aelodaeth o gampfa a thanysgrifiadau cylchgronau.
Ystyriwch a ydych yn gwneud y gorau allan ohonynt. Os na, dylech eu canslo.
Gall hyd yn oed yr eitemau bach, diangen rydych yn eu prynu bob dydd gynyddu’n gyflym mewn cyfanswm fel papurau newydd, coffi i fynd allan, melysion.
Gallech eu rhoi yn ôl eu blaenoriaeth a rhoi’r gorau i’r rhai lleiaf pwysig nes byddwch o fewn eich cyllideb.
Fel dewis arall, cwtogwch eich gwariant ar bob un er mwyn i chi fedru mwynhau ychydig o bopeth heb fynd dros ben eich cyllideb.
Cam 3 – Ceisio rheoli eich dyledion
Fel arfer mae’r cyfraddau llog ar ddyledion yn uwch na’r cyfraddau llog ar gyfrifon cynilo.
Felly, os ydych yn defnyddio unrhyw gynilion i dalu dyledion, dylech fod yn well eich byd yn y pen draw.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Beth i’w wneud ynglŷn â’ch dyled os byddwch yn colli’ch swydd
Cam 4 – Rhoi hwb i’ch incwm
Mae’n ymddangos yn hawdd. A phetai o’n hawdd, byddai pawb yn ei wneud.
Er hynny, ag ychydig o ymdrech, y mae ffynonellau incwm y gallwch dynnu ohonynt.
Er enghraifft, a wyddech os oes gennych ystafell sbâr yn eich cartref, fod y £7,500 cyntaf a gewch wrth ei osod yn ddi-dreth?
Neu, os yw hynny’n teimlo fel cam rhy fawr, meddyliwch am werthu eiddo diangen, ailgylchu ffonau symudol a chyfrifiaduron glin, neu gwblhau arolygon neu wneud ymchwiliadau marchnad i ennill arian ychwanegol.
Gall unrhyw dâl dileu swydd rydych wedi ei gael fod o help yn lle eich incwm am gyfnod a’ch helpu i ymdopi.
Os oes gennych gronfa argyfwng, efallai mai dyma’r amser i dynnu ohono.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Newid gyrfa ar ôl diswyddo
Cam 5 - Edrych ar fudd-daliadau ac yswiriannau
A ydych wedi colli eich swydd, yn chwilio am swydd, neu ar incwm isel? Yna efallai y byddwch yn gymwys i fudd-daliadau, fel Credyd Cynhwysol.
Darganfyddwch fwy, gan gynnwys sut i wneud cais yn ein canllaw Egluro Credyd Cynhwysol
A ydych wedi gorfod stopio gweithio neu leihau eich oriau oherwydd salwch neu anabledd? Yna mae budd-daliadau eraill efallai y gallech wneud cais amdanynt.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Pa fudd-daliadau salwch ac anabledd y gallaf ei hawlio?
Efallai bod hefyd gennych bolisïau yswiriant y gallech hawlio wrthynt, gan gynnwys:
- diogelu taliad
- diogelu morgais
- diogleu incwm.
Gwiriwch eich polisiau yswiriant neu cysylltwch â’ch darparwr polisi i weld a allwch wneud cais.
Dylech hefyd edrych a oes gennych yswiriant salwch difrifol - fydd ond yn talu fel arfer os digwydd cyflwr sy’n peryglu bywyd.