Cyllidebu pan fyddwch yn feichiog

Mae disgwyl babi yn gyffrous, ond gall hefyd fod yn amser drud. Dilynwch y camau hyn i sicrhau eich bod wedi paratoi ar gyfer eich dyfodiad newydd.

Cam 1 – pwyso a mesur eich arian

Nid yw byth yn rhy gynnar i weithio allan eich cyllideb. Peidiwch â'i ohirio tan ar ôl i'r babi gael ei eni.

Os ydych yn gwybod yn union beth sy'n dod i mewn ac yn mynd allan bob mis, gall eich helpu i gyfrifo beth allwch ei fforddio.

Bydd gwneud rhestr o'r hyn sydd ei angen arnoch a darganfod faint mae popeth yn ei gostio yn eich helpu i baratoi ar gyfer eich dyfodiad newydd ac osgoi unrhyw gostau annisgwyl.

Cam 2 – adolygu cyllid ar y cyd

Mae rhannu cyfrifoldebau, fel babi newydd, yn golygu efallai y bydd rhaid i chi newid y ffordd rydych yn delio â phenderfyniadau ar y cyd ynghylch cyllidebu cartref. Ac os yw un ohonoch yn bwriadu cymryd amser i ffwrdd i ofalu am y babi, mae'n syniad da meddwl sut gallai incwm is effeithio ar eich dewisiadau. Mae'n bwysig:

  • siarad yn blaen am arian – peidiwch â chadw unrhyw gyfrinachau ariannol ac ni fydd unrhyw bethau annisgwyl
  • gosod rhai rheolau sylfaenol – cytuno i beidio â phrynu unrhyw beth dros derfyn penodol, dywedwch £50, heb ei drafod â’ch gilydd yn gyntaf
  • gwneud amser – mae cyllidebu cartrefi yn bwysig, felly neilltuwch amser rheolaidd i drafod a chytuno ar faterion ariannol.

Cam 3 – cwtogi’ch treuliau

Os yw'ch incwm yn debygol o newid (er enghraifft, os byddwch yn stopio gweithio), efallai y bydd angen i chi edrych ar gwtogi'ch gwariant. Man cychwyn da yw rhannu eich treuliau yn eitemau sy’n hanfodol ac eitemau nad ydynt yn hanfodol.

Yn gyntaf, edrychwch a allwch arbed ar hanfodion fel biliau cartrefi a nwyddau bwyd trwy ddefnyddio gwefannau cymharu. Nesaf, edrychwch ar bethau nad ydynt yn hanfodol, a oes pethau y gallech eu gwneud hebddynt, fel aelodaeth campfa neu danysgrifiadau teledu?

Cam 4 – lleihau’ch dyledion

Mae'n bwysig peidio ag anwybyddu dyledion neu ddim ond cadw at dalu'r isafswm bob mis.

Os cymerwch amser i ddelio â dyledion nawr, bydd yn arbed arian i chi yn y tymor hir.

Cam 5 – agor cyfrif cynilo

Gorau po gyntaf i chi ddechrau rhoi arian o'r neilltu. Tra gallwch, cronnwch eich cynilion i dalu costau hanfodol y babi a'ch gweld trwy unrhyw gyfnod o incwm is.

Efallai y byddai'n well i chi fynd am gyfrif mynediad hawdd y gallwch dipio iddo os bydd angen, yn hytrach nag un a fydd yn cloi eich arian i ffwrdd.

Ond os ydych yn meddwl y cewch eich temtio i wario'ch cynilion, gwnewch hi'n anos cael gafael ar arian parod.

Er enghraifft, ceisiwch ddewis cyfrif cynilo â banc gwahanol, felly mae'n llai hawdd symud arian i'ch cyfrif cyfredol.

Cam 6 – rhoi hwb i’ch incwm

Gwnewch gais am eich holl hawliau

Mae beth gallwch wneud cais amdano yn dibynnu ar ble rydych yn byw a'ch amgylchiadau personol.

Gallech fod â hawl i fudd-daliadau a help arall tuag at gost magu teulu, fel Credyd Cynhwysol a Budd-dal Plant.

Cymerwch ychydig funudau i wirio pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio a faint y gallech ei gael bob mis gyda’n Cyfrifiannell Budd-daliadau

Gallwch hefyd chwilio am fudd-daliadau a grantiau gan ddefnyddio'r gyfrifiannell budd-daliadau ar wefan Turn2us.

Syniadau eraill i wneud arian

Mae ffyrdd eraill o hybu'ch incwm, fel gwneud rhywfaint o waith gartref.

Gallech hefyd feddwl am godi arian trwy werthu eiddo diangen neu ailgylchu hen ffonau symudol neu liniaduron.

Cadwch olwg ar ddyddiadau pwysig

 

Mae gennych lawer o bethau i'w gwneud, a dyddiadau i'w cofio, pan rydych yn disgwyl babi.

Diolch am eich adborth.
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwefan a gwasanaethau, ac mae eich adborth yn ein helpu i ddeall sut rydym yn gwneud.
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Chwilio amdanom? Rydym nawr yn HelpwrArian

HelpwrArian yw’r ffordd newydd a chlir i gael help di-duedd am ddim ar gyfer eich holl ddewisiadau arian a phensiwn. Beth bynnag yw eich amgylchiadau neu gynlluniau, symudwch ymlaen gyda HelpwrArian.

Parhau i’r wefan
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am...
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio…
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio…
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio’r ffôn.
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau bancWedi cau

Mae galwadau o’r DU am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly gellir recordio neu fonitro galwadau at ddibenion hyfforddiant ac i’n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Defnyddiwch ein cyfeirlyfr yswiriant teithio i gael rhestr o ddarparwyr arbenigol y gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol, gan na allwn roi dyfynbrisiau i chi.

Angen mwy o help? Os ydych wedi defnyddio'r cyfeiriadur neu os oes angen help pellach arnoch i ddod o hyd i yswiriwr, gall Cymdeithas Broceriaid Yswiriant Prydain eich rhoi chi mewn cysylltiad â brocer. Ffoniwch: 0370 950 1790

Os ydych wedi methu taliadau ac yn cael trafferth gyda dyled, ffoniwch ni a phwyswch 1 i siarad ag un o'n partneriaid cyngor ar ddyledion. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener: 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc: Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Mae ein harbenigwyr yma i'ch cefnogi dros y ffôn. Oriau
  • Dydd Llun- Dydd Gwener 9.00am - 5.00pm
  • Dydd Sadwrn-Dydd Sul a Gwyliau Banc Wedi cau

Mae galwadau o'r Deyrnas Unedig am ddim. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth o safon i chi, felly efallai caiff galwadau eu cofnodi neu fonitro at ddibenion hyfforddi a'n helpu i ddatblygu ein gwasanaethau.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:9.00am – 5.00pm
  • Sadwrn, Sul a gwyliau banc:Wedi cau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio gwesgwrs
Oriau
  • Llun – Gwener:8.00am – 6.00pm
  • Sadwrn, Dydd Sul a gwyliau’r banc:Ar gau
Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad pensiwn drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio ein ffurflen we

Ein nod yw ymateb o fewn 2 diwrnod gwaith.

Siaradwch â ni yn fyw am arweiniad ariannol drwy ddefnyddio WhatsApp

Lawrlwythwch: WhatsApp

Am help i ddatrys eich dyledion neu gwestiynau credyd. Am bopeth arall cysylltwch â ni trwy Wegswrs neu dros y ffôn.