Er bydd y rhan fwyaf o bobl o'r farn ei bod yn bwysig siarad â pherthynas hŷn am ble hoffai fyw pe na allai barhau i aros gartref mwyach, ychydig iawn sy'n trafod hyn â'u hanwyliaid mewn gwirionedd. Mae'n bwysig trafod yr opsiynau.
Awgrymiadau ar beth i siarad amdano
Mae meddwl am fod angen gadael eich cartref yn un o’r pethau anhawsaf i’w wynebu, felly gall fod yn sgwrs anodd iawn i’w chael.
Gall fod yn anodd peidio bod yn emosiynol oherwydd y newidiadau mawr mewn bywyd i ddod – i chi a’ch perthynas.
Gallai’r pethau i drafod gynnwys:
- pwy fydd yn gofalu amdanynt pan fyddant yn hŷn?
- ymhle hoffent fyw os na fyddant yn gallu byw gartref mwyach?
- pwy maent eisiau i wneud penderfyniadau ar eu rhan os na allant hwy eu gwneud?
- beth yw eu gweledigaeth o sut olwg fydd ar eu gofal diwedd oes?
- a ydynt yn cael anhawster ag arian? Os felly, beth maent eisiau gwneud i ddatrys y mater?
- a ydynt yn cael anhawster â’u cof?
Y prif beth yw, gorau po gyntaf i chi drafod y mater.
Peidiwch ag aros tan y pwynt pan fydd eich perthynas angen gofal brys. Gan efallai na fydd yr unig ddewisiadau sydd ar gael bryd hynny yn beth y mae wir eisiau, a gall hyn wneud pethau’n fwy o straen i bawb.
Beth yw’r ffordd orau i gychwyn y sgwrs?
- Cadw pethau’n gyffredinol. Siaradwch am bobl eraill sydd wedi bod trwy brofiadau tebyg yn ddiweddar o ran gofal a sut maent yn delio â hyn - y da a’r drwg.
- Gallech drafod beth rydych ei eisiau pan fyddwch yn hŷn fel bod y sgwrs yn parhau i fod yn agored a chynhwysol.
- Os byddwch yn crybwyll y pwnc yn ddigon buan, gallwch siarad yn gyffredinol iawn am gartrefi gofal. Yna gallwch gael syniad o ddymuniadau’ch rhieni, er mwyn i chi allu gweithredu’n briodol pan ddaw’r amser.
Siarad â brodyr a chwiorydd am ofal hirdymor rheini
Os oes gennych frodyr neu chwiorydd, efallai y byddwch angen sgwrs ar wahân am y ffordd orau i gydweithio i sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau o ran gofalu am eich rhieni wedi eu sefydlu’n glir.
Os bydd y cyfrifoldeb i gyd yn mynd i un brawd neu chwaer, gallai fynd i deimlo’n chwerw tuag at y gweddill. A gallai’r rhai nad ydynt yn darparu gofal deimlo’n euog am beidio gallu helpu cymaint.
Gallech fod yn atal problemau perthynas yn y dyfodol trwy drafod beth sy’n bosibl ac ymarferol ei roi, fel bod pawb yn glir.
Gallai pethau a fyddai’n fanteisiol i gytuno arnynt o flaen llaw gynnwys:
- pwy fydd yn dweud wrth eich rhiant os ydych yn teimlo fod yr amser wedi dod i symud i ofal preswyl?
- pwy fydd yn cymryd cyfrifoldeb am drefnu symud i ofal?
- pwy fydd yn gyfrifol am dderbyn galwadau ffôn o’r cartref gofal?
- sut byddwch yn rhannu cyfrifoldebau ymweld?
Ystyriwch drafod gytundeb gofal teuluol, ble bydd yr aelod o’r teulu sy’n gyfrifol am ofalu am rieni oedrannus yn cael ei dalu o gronfeydd y teulu. Gallai hyn leihau chwerwder ac mae’n cynnig manteision eraill:
- galluogi eich rhieni i aros adref
- derbyn gofal o safon
- gwobrwyo’r unigolyn sy’n darparu’r gofal hwnnw yn ariannol.
Cofiwch fod cytundeb gofal teuluol yn ddogfen gyfreithiol rwymol. Felly mae rhaid i'r gofalwr a’r brodyr a chwiorydd eraill ddeall goblygiadau beth sydd dan sylw cyn sefydlu un.
Gall fod cymhlethdodau hefyd yn y dyfodol os yw eich anwyliaid yn dod yn gymwys i dderbyn taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal, gam fod rheolau gwahanol am gyflogi aelodau’r teulu yn ddibynnol ar ymhle rydych yn byw yn y DU.
Darganfyddwch fwy ar wefan Carers UK
Trafod talu am ffioedd cartref gofal
Gall gweithio allan y ffordd orau i dalu am ffioedd cartrefi gofal fod yn gymhleth, ac mae'n werth cynllunio ymlaen llaw.
Darganfyddwch fwy am gynllunio am gostau gofal yn ein canllawiau:
Canllaw i ddechreuwyr ar dalu am ofal hirdymor
Taliadau uniongyrchol - trefnu talu am ofal
Budd-daliadau i'ch helpu gyda'ch anabledd neu anghenion gofal
I ddarganfod mwy am sut i gael sgyrsiau â pherthynas hŷn, gan gynnwys awgrymiadau ymarferol a chyngor ar sut i wneud penderfyniadau pwysig, edrychwch ar wefan Independent AgeYn agor mewn ffenestr newydd
Siarad â rhywun am atwrneiaeth
Oeddech chi’n gwybod?
Yn ôl y GIG, mae mwy na 944,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig â dementia. Mae gan un o bob 11 o bobl dros 65 oed ddementia yn y DU.
Wrth i ni weld caredigion yn heneiddio, gallwn ddechrau poeni am sut byddant yn gwneud penderfyniadau ariannol da yn y dyfodol, yn enwedig os byddant yn colli galluedd meddyliol.
Un o’r sgyrsiau pwysicaf y gallwn gael i helpu ein perthnasau hŷn yw trafod â hwy sut hoffent i benderfyniadau gael eu gwneud am eu heiddo ac arian pe na fyddent yn gallu gwneud hyn eu hunain mwyach.
Yr amser gorau i wneud hyn yw pan fyddant yn teimlo’n ffit, yn iach ac yn gallu dweud beth yr hoffent ddigwydd.
Help o ddydd i ddydd
Mae llawer o ffyrdd y gallwch helpu rhywun i gadw ar flaen ei filiau a'i benderfyniadau arian o ddydd i ddydd. Er enghraifft, trwy gynnig agor post, helpu â'u gwaith papur neu fynd â hwy i apwyntiadau banc neu gymdeithas adeiladu.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Help i reoli arian bob dydd
Atwrneiaeth
Os oes rhaid iddynt dreulio amser hir yn yr ysbyty, gallai ei gwneud yn anodd gwneud penderfyniadau ariannol. Efallai siarad am sefydlu atwrneiaeth gyffredin.
Trefniant dros dro yw hwn sy'n eich galluogi chi neu berson a enwir i edrych ar ôl eu harian tra nad ydynt gallu ei reoli.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Rhoi trefn ar eich materion ariannol
Fodd bynnag, i wir sicrhau y byddai eich anwylyn wedi ei ddiogelu pe byddai’n colli galluedd meddyliol, gallech geisio trafod sefydlu atwrneiaeth arhosol.
Mae hyn yn rhoi awdurdod cyfreithiol i rywun a enwir i wneud penderfyniadau ariannol pwysig ar ran rhywun os nad yw’n gallu gwneud hyn ei hun. Fel arfer mae’n ddechrau pan fydd yn colli galluedd meddyliol - ond gall fod pryd bynnag y bydd yn dewis iddo gychwyn.
Mae aros nes bydd rhywun wedi colli galluedd meddyliol cyn sefydlu atwrneiaeth arhosol yn gwneud pethau’n llawer mwy cymhleth. Gall hefyd oedi penderfyniadau brys, fel talu am ffioedd cartref gofal.
Byddai angen i chi gael prawf meddygol nad oes gan y person alluedd meddyliol mwyach, ac yna gofyn i’r llys benodi rhywun i oruchwylio pethau. Mae’n ddrud ac efallai y bydd eich anwylyn yn cael ei hun â rhywun yn gwneud penderfyniadau am ei fywyd na fyddai fyth wedi ei ddewis.
Gall sgyrsiau am sefydlu atwrneiaeth gael eu hysgogi gan:
- weld taflen, plot ar raglen deledu neu erthygl papur newydd ar y pwnc
- rhywbeth perthnasol yn digwydd yn eich bywyd, sy’n golygu y gallwch ofyn cwestiynau arweiniol, fel ‘Mae mam fy ffrind yn ystyried symud i gartref gofal. A yw hynny'n rhywbeth y byddech am ei wneud pan fyddwch yn heneiddio?
- eich anwylyn yn cael diagnosis meddygol a allai olygu y bydd eu alluedd meddyliol yn dirywio
- gwneud ewyllys - efallai y bydd nawr yn amser da i’w annog i ystyried atwrneiaeth arhosol.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn parchu barn eich anwylyn ac yn esbonio nad ydych yn ceisio cael rheolaeth ar ei faterion ariannol. Fodd bynnag, mae’n werth esbonio:
- efallai y byddai’n well ganddynt i rywun maent yn eu caru (chi) i wneud penderfyniadau ar eu rhan, yn hytrach na dieithryn
- nid yw ei sefydlu yn golygu bod rhaid i chi ildio rheolaeth - fel arfer, bydd atwrneiaeth yn dod i rym dim ond unwaith y bydd wedi’i chofrestru
- gallwch ganslo eich atwrneiaeth ar unrhyw adeg - ond rhaid bod gennych y galluedd meddyliol i wneud y penderfyniad hwnnw
- mae’n cymryd tua 8 i 10 wythnos i gofrestru atwrneiaeth arhosol, felly nid yw’n syniad da i aros nes bydd rhywun yn dangos arwyddion i golli galluedd meddyliol.
Os ydych yn ystyried sefydlu atwrneiaeth arhosol, darganfyddwch fwy yn ein canllaw Sut i wneud a chofrestru atwrneiaeth
Sut i siarad am arian
Os ydych yn poeni am sut y gallai'r person rydych am siarad â hwy ymateb, ac eisiau help ar sut i ddelio â sgwrs am arian, yn cynnwys materion gofal, lawrlwythwch ein canllaw Siarad â phobl hŷn am arian (Opens in a new window) (PDF/A, 263KB).