Mae defnyddio taliadau uniongyrchol gan eich cyngor lleol, neu Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon (HSCNI), yn gadael i chi wneud eich dewisiadau eich hun a chael mwy o reolaeth dros y gofal a gewch.
Beth sydd yn y canllaw hwn
- Beth yw taliadau uniongyrchol?
- Faint yw taliadau uniongyrchol?
- Faint yw taliadau uniongyrchol?
- Sut mae taliadau uniongyrchol i ofalwyr yn gweithio?
- A allaf ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu aelod o'r teulu?
- A allaf ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am ffioedd cartrefi gofal?
- A allaf ddefnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi gofalwr?
- Beth yw manteision ac anfanteision taliadau uniongyrchol?
- Sut i wneud cais am daliadau uniongyrchol
- Sut i gael cymorth gyda rheoli taliadau uniongyrchol
- Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid
Beth yw taliadau uniongyrchol?
Os yw eich cyngor lleol, neu HSCNI, yn cytuno i ariannu rhan neu'r cwbl o'ch gwasanaethau gofal, byddant yn cynnig y dewis i chi:
- o ddarparu gwasanaethau i chi
- gael taliadau uniongyrchol I drefnu a thalu am wasanaethau gofal eich hun, neu
- o ‘becyn cymysg’, gyda rhai gwasanaethau’n cael eu darparu ac eraill rydych yn talu amdanynt o’ch taliadau uniongyrchol.
Os ydych yn derbyn taliadau uniongyrchol gan eich cyngor lleol, neu HSCNI, ond yn newid eich meddwl yn nes ymlaen, gallwch ofyn iddynt ddarparu'r gwasanaethau i chi yn lle. Efallai y byddwch yn gwneud hyn os ydych yn ei chael hi'n anodd rheoli'r taliadau.
Faint yw taliadau uniongyrchol?
Os yw eich cyngor lleol, neu HSCNI, yn cytuno i ariannu rhan neu'r cyfan o'ch gwasanaethau gofal, byddant yn cynnig y dewis i chi o:
- o ddarparu gwasanaethau i chi
- gael taliadau uniongyrchol I drefnu a thalu am wasanaethau gofal eich hun, neu
- o ‘becyn cymysg’, gyda rhai gwasanaethau’n cael eu darparu ac eraill rydych yn talu amdanynt o’ch taliadau uniongyrchol.
Os ydych yn derbyn taliadau uniongyrchol gan eich cyngor lleol, neu HSCNI, ond yn newid eich meddwl yn nes ymlaen, gallwch ofyn iddynt ddarparu'r gwasanaethau i chi yn lle. Efallai y byddwch yn gwneud hyn os ydych yn ei chael hi'n anodd rheoli'r taliadau.
Faint yw taliadau uniongyrchol?
Rhaid i'r taliadau uniongyrchol a gewch fod yn ddigon i gwrdd yr anghenion gofal y mae eich cyngor lleol, neu'r HSCNI, wedi'u hasesu ar eich cyfer.
Os byddwch yn dewis taliadau uniongyrchol, bydd y cyngor, neu'r HSCNI, yn anfon yr arian atoch yn uniongyrchol i fewn i’ch:
- cerdyn rhagdaledig – bydd rhai cynghorau'n eich helpu i sefydlu hyn
- banc neu gymdeithas adeiladu – mae'n debygol y bydd angen cyfrif ar wahân arnoch ar gyfer taliadau uniongyrchol.
Sut mae taliadau uniongyrchol i ofalwyr yn gweithio?
Dim ond i dalu am y gwasanaethau gofal a amlinellir yn eich cynllun gofal gallwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol. Ni allwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaethau a ddarperir eisoes gan eich cyngor lleol, neu HSCNI. Ond mae gennych y rhyddid i ddewis darparwyr neu wasanaethau eraill os ydynt yn gweddu'n well i'ch anghenion.
Gallwch hefyd ddefnyddio taliadau uniongyrchol i brynu offer i'ch helpu i fyw'n fwy annibynnol. Gofynnwch i'ch cyngor lleol, neu HSCNI, am y cyflenwyr a ffefrir, fel y gallwch siopa o gwmpas am y fargen orau.
Bydd eich cyngor lleol, neu HSCNI, yn gwirio sut rydych yn defnyddio'r taliadau, felly cadwch dderbynebau i ddangos sut rydych yn gwario'r arian.
Byddant yn dweud wrthych pa wybodaeth i'w darparu, fel taflenni amser neu anfonebau a phryd i'w darparu.
Mae'n ddefnyddiol cael cyfrif banc ar wahân ar gyfer taliadau uniongyrchol i olrhain gwariant, oherwydd efallai y bydd angen i chi ddangos y datganiad banc i'ch cyngor lleol, neu HSCNI. Os na allwch roi cyfrif am bopeth rydych yn ei wario neu ddefnyddio'r arian ar gyfer pethau nad ydynt yn eich cynllun gofal, efallai y bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu.
A allaf ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu aelod o'r teulu?
Fel arfer, ni allwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am ofal anffurfiol gan briod, partner neu berthynas agos sy'n byw gyda chi, oni bai eu bod wedi'u cofrestru fel gofalwr. Ond mewn rhai achosion, efallai y bydd eich cyngor lleol, neu'r HSCNI, yn cytuno os oes angen.
Yn Lloegr, efallai y byddwch yn gallu eu talu i reoli eich taliadau uniongyrchol.
A allaf ddefnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am ffioedd cartrefi gofal?
Fel arfer, ni ellir defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer llety preswyl parhaol. Ond efallai y byddwch yn gallu eu defnyddio am gyfnodau byr os yw eich cyngor lleol, neu'r HSCNI, yn cytuno mai dyna sydd ei angen arnoch chi.
Mae'r rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol yn amrywio yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw. Cysylltwch â'ch cyngor lleol, neu HSCNI, i gael gwybod pa reolau sy'n berthnasol i chi.
A allaf ddefnyddio taliadau uniongyrchol i gyflogi gofalwr?
Gallwch ddefnyddio eich taliadau uniongyrchol i gyflogi gofalwr, ond byddwch yn ymwybodol y byddwch yn ysgwyddo cyfrifoldebau penodol fel cyflogwr. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi feddwl am Yswiriant Gwladol, Treth Incwm, Isafswm Cyflog Cenedlaethol, salwch a thâl gwyliau, pensiwn ac yswiriant atebolrwydd.
Darganfyddwch fwy yn ein canllaw Cyflogi rhywun i helpu gyda'ch gofal.
Beth yw manteision ac anfanteision taliadau uniongyrchol?
Gallai taliadau uniongyrchol fod yn addas i chi os:
-
rydych am gymryd rheolaeth o wasanaethau gofal a chymorth eich hun
-
rydych chi eisiau cynhyrchion a gwasanaethau penodol sy'n addas ar gyfer eich anghenion
-
rydych yn hyderus wrth reoli arian a gwaith papur, neu bod gennych rywun i'ch helpu gwneud hyn. Gallwch hefyd ddewis rhywun i ddelio â'ch taliadau os oes angen.
-
nid oes ots gennych gadw a chyflwyno eich holl dderbynebau ac anfonebau i'ch cyngor lleol, neu HSCNI, pan fo angen.
Efallai na fydd taliadau uniongyrchol yn addas i chi os:
-
eich bod yn anghyfforddus wrth ymgymryd â mwy o dasgau fel goruchwylio staff, trin gwaith papur a rheoli cyllid, er bod help ar gael
-
rydych yn treulio llawer o amser yn yr Ysbyty, yn aml, a gall hyn olygu bod rheoli taliadau uniongyrchol yn anodd
-
bod yn well gennych adael i'ch cyngor lleol, neu HSCNI, ofalu am drefnu eich gwasanaethau gofal i chi.
Sut i wneud cais am daliadau uniongyrchol
Er mwyn derbyn taliadau uniongyrchol, yn gyntaf, bydd angen i chi ofyn i'ch cyngor lleol, neu HSNI, asesu eich anghenion gofal.
Ar ôl yr asesiad, byddwch yn cerbyn cynllun gofal. Mae hwn yn gytundeb ysgrifenedig sy'n nodi'r anghenion sydd gennych, bydd eich cyngor lleol, neu'r HSCNI, yn eu bodloni.
Byddant hefyd yn cynnal asesiad ariannol i weld os ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol. Mae faint a gewch yn dibynnu ar eich amgylchiadau ariannol, ac efallai bydd angen i chi ychwanegu atynt gyda'ch arian eich hun.
Os ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, bydd eich cyngor lleol, neu'r HSCNI, yn trafod taliadau uniongyrchol fel opsiwn gyda chi pan fyddant yn asesu eich anghenion gofal.
Os ydych eisoes yn derbyn gwasanaethau gofal, gofynnwch i'ch cyngor lleol, neu HSCNI, am daliadau uniongyrchol yn:
- Lloegr, Cymru neu’r Alban gwnewch gais am daliadau uniongyrchol yn GOV.UKYn agor mewn ffenestr newydd
- Gogledd Iwerddon, yn nidirectYn agor mewn ffenestr newydd
Sut i gael cymorth gyda rheoli taliadau uniongyrchol
Gall eich cyngor lleol, neu HSCNI, eich helpu i reoli eich taliadau uniongyrchol.
Hefyd, gall llawer o sefydliadau gwirfoddol lleol a mentrau cymdeithasol ddarparu cymorth personol wrth reoli eich taliadau uniongyrchol a chreu eich cynllun gofal. Mae'r sefydliadau hyn yn annibynnol oddi wrth eich cyngor lleol neu HSCNI.
Mae Disability Rights UK yn cynnig cyngor ar daliadau uniongyrchol a chyflogi gofalwr. Gweler y UK Disability RightsYn agor mewn ffenestr newydd neu ffoniwch eu Llinell Gymorth Cyllidebau Personol ar 0330 995 0404.
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwch lawrlwytho llyfryn gwybodaeth yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd ar daliadau uniongyrcholYn agor mewn ffenestr newydd
Beth i'w wneud os bydd eich amgylchiadau'n newid
Os bydd eich sefyllfa'n newid, cysylltwch â'ch cyngor lleol neu HSCNI cyn gynted â phosibl fel y gallant ailasesu faint o arian gewch eich talu. Efallai y byddwch yn gymwys i gael mwy o arian.
Os yw'ch cyflwr yn gwella dros dro, neu os byddwch yn mynd i'r ysbyty, ac nad oes angen i chi wario'r swm llawn, efallai y bydd angen iddynt leihau eich taliadau.
Beth i'w wneud os nad ydych am barhau â thaliadau uniongyrchol
Os nad ydych am reoli taliadau uniongyrchol eich hun mwyach, rhaid i'ch cyngor lleol neu'ch HSCNI drefnu gwasanaethau yn lle hynny. Yn yr un modd, os ydyn nhw'n meddwl na allwch chi ymdopi â thaliadau uniongyrchol, efallai y byddan nhw'n cynnig gwasanaethau yn uniongyrchol, os nad oes neb gerllaw i'w helpu i'w rheoli ar eich rhan.
Beth i'w wneud os na allwch reoli eich taliadau uniongyrchol
Os na allwch reoli eich taliadau uniongyrchol eich hun neu enwebu rhywun arall, gall person arall ofyn am ddod yn berson awdurdodedig. Gall hyn fod yn ffrind neu'n aelod o'r teulu. Yna byddant yn rheoli eich taliadau uniongyrchol ar eich rhan.